Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrMusicUncategorized @cy

Tony Woodcock (BA 1974)

11 Gorffennaf 2018
Tony Woodcock
Tony Woodcock

Tony Woodcock (BA 1974) yw sylfaenydd a llywydd Scolopax Arts, cwmni ymgynghori blaenllaw ar gyfer addysg uwch a chelfyddydau perfformio. Ef yw cyn-Lywydd New England Conservatory yn Boston, UDA. Ag yntau’n hen law ar godi arian, trafod a diwygio sefydliadau, mae egni arbennig a syniadau ffres yn sylfaen i’w arweinyddiaeth. Mae wedi gadael syniadau grymus ar ei ôl sy’n parhau i gael eu defnyddio ar draws Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig.

Roedd Prifysgol Caerdydd yn ddewis naturiol i mi. Mae Cymru yn lle mor anhygoel ac fe ddaeth yn rhan bwysig iawn o fy mywyd cynnar. Roeddwn i wrth fy modd â’r lle ac mae’n rhywle dwi’n dychwelyd ato bob blwyddyn.

Mae Cymru wedi cynnig y cyfleoedd mwyaf gogoneddus i mi bob tro a byddaf yn fythol ddiolchgar.

Fy uchafbwynt wrth astudio yn yr Ysgol Cerddoriaeth oedd gweithio gydag athro rhagorol, Richard Elfyn, oedd yn diwtor arna i. Roedd yn gerddor anhygoel o reddfol a allai droi at y piano ac atgynhyrchu unrhyw waith a glywai unwaith yn unig. Roedd ei wybodaeth a’i anogaeth yn eithriadol.

Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Caerdydd, dechreuais yrfa ym maes rheoli’r celfyddydau gyda swyddi yng Nghyngor Celfyddydau Cymru a South East Arts, cyn dychwelyd i Gaerdydd ym 1984 fel Rheolwr Cyffredinol Neuadd Dewi Sant a oedd newydd ei agor.

Arweiniodd hyn at swyddi fel cyfarwyddwr i nifer o gerddorfeydd yn y DU gan gynnwys Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Cherddorfa Symffoni Bournemouth, cyn symud i’r UDA ar ddiwedd y 1990au, ac arwain Cerddorfa Symffoni Oregon a Cherddorfa Minnesota wedi hynny.

Un o nifer o uchafbwyntiau fy ngyrfa oedd comisiynu Syr Paul McCartney i ysgrifennu Oratorio Lerpwl i ddathlu penblwydd 150 o flynyddoedd Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl.

Yn 2007, fe’m penodwyd yn Llywydd yn New England Conservatory yn Boston, UDA. Yn ystod fy amser yno, fe wnes i ailosod y rhaglen gerddorfaol yn llwyr a phenodi’r arweinydd Hugh Wolff yn Gyfarwyddwr. Fe wnes i hefyd greu rhaglen Sgiliau Cerddorol Entrepreneuraidd, sy’n darparu sgiliau cerddorol newydd ychwanegol i helpu cerddorion i reoli eu gyrfaoedd, a sefydlu rhaglen El Sistema Fellows sy’n gweithio’n agos gyda Jose Antonio Abreu yn Venezuela.

Yn 2015, fe sefydlais gwmni Scolopax Arts, cwmni ymgynghori arloesol sy’n arbenigo mewn gwaith prosiect creadigol ym maes celfyddydau perfformio ac addysg. Yn y rôl hon, yr wyf yn ymgymryd â gwaith cynllunio strategol, cyfarwyddyd artistig, codi arian, datblygu strategaeth, addysgu, a mentora. Rwyf wedi gweithio gyda rhai sefydliadau gwych gan gynnwys y Royal Northern College of Music; Gŵyl Incontri in Terra di Siena, Tuscany; Shepherd School of Music ym Mhrifysgol Rice, Ysgol Celfyddydau Prifysgol North Carolina a Yale. Rydw i’n Athro Gwadd yn Ysgol Cerddoriaeth Reina Sofia yn Madrid a Choleg Cerddoriaeth Berklee yn Valencia.

Ym mis Gorffennaf 2014, pleser o’r mwyaf oedd dychwelyd i Brifysgol Caerdydd i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd. Roedd 40 mlynedd ers i mi raddio a chefais fy nghroesawu gyda chymaint o gynhesrwydd a haelioni. Roedd y diwrnod cyfan yn llawn emosiwn a llawenydd. Mae Caerdydd yn wych ac yn parhau i feddu ar y fath fywiogrwydd ac egni.

Pe bawn i’n rhoi cyngor i fyfyrwyr y dyfodol, byddwn yn dweud wrthynt i edrych ar bob cyfeiriad yn gyntaf a pheidio rhoi’r gorau yn hawdd, mae’n ddiwydiant anodd. Meddyliwch am beth sy’n rhoi mantais i chi. Mae teithio ac astudio mewn amgylchedd a diwylliant gwahanol yn gyfle gwych i ddatblygu yn ddeallusol ac fel bod dynol. Ac, yn olaf, meddyliwch a myfyriwch. Dydyn ni ddim yn dueddol o wneud digon o’r naill na’r llall ac rydym yn ymwybodol o’r problemau mae hyn yn ei greu. Dylech wastad yn ystyried eich cynllun a threfnu sut i’w roi ar waith. Yn ei hanfod, mae’n rhan o wneud bywyd yn fwriadol