Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrMusicUncategorized @cy

Ruth Morris (BMus 2009, MA 2010)

11 Gorffennaf 2018
Ruth Morris
Ruth Morris

Astudiodd Ruth Morris (BMus 2009, MA 2010) raglenni israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Cerddoriaeth. Mae hi bellach yn un o Arweinwyr Côr Gofal Canser Tenovus.

Mae gennyf gymaint o atgofion gwych o’m hamser pan oeddwn yn fyfyriwr – o aros i fyny drwy’r nos yn lolfa’r ôl-raddedigion am fod aseiniadau i’w cyflwyno’r bore wedyn, i berfformio caneuon o High School Musical ar gyfer Plant Mewn Angen. Yn bendant, fy hoff atgof yw perfformio gyda Chôr Siambr y Brifysgol yng Nghadeirlan Llandaf. Roeddem yn canu Jepthe Carissimi ac wrth i’r gerddoriaeth gyrraedd ei hanterth, llifodd y pelydrau harddaf o olau’r haul i mewn drwy ffenestr y Gadeirlan. Roedd yn brofiad mor anhygoel, fe ddechreuais grio!

Ers graddio, rwyf wedi cael gyrfa wych ac wedi bod mor ffodus i gael cynnig llawer o gyfleoedd cyffrous.

Rwy’n mwynhau fy chweched blynedd gyda’r elusen gofal canser o Gymru, Tenovus, lle’r wyf yn animateur corawl amser llawn. Rwy’n cynnal dau gôr yr wythnos (ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Abertawe) ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser mewn rhyw ffordd. Gallai hynny fod fel claf, gofalwr, rhywun sydd mewn profedigaeth, neu hyd yn oed yn aelod o’r teulu neu’n ffrind sydd am gefnogi rhywun.

Mae’r syniad y tu ôl i’r corau’n un syml – cynnig amgylchedd hwyliog, boddhaus a chefnogol ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf. Does yr un diwrnod rheolaidd yn fy swydd – mae pob diwrnod yn wahanol a dyna beth rwy’n ei garu am yr hyn a wnaf!

Rwyf wedi gallu mireinio fy sgiliau fel animateur corawl drwy gyfrwng fy swydd amser llawn. Y tu allan i’r swydd hon, rwyf hefyd yn helpu i gynnal ysgol lwyfan leol a chôr plant.

Bûm yn brif reolwr y côr gyda Rock Choir LTD, ac rydw i wedi cael y cyfle i berfformio ar deledu a radio cenedlaethol. Rydw i wedi cael perfformio mewn ambell le anhygoel, ac rwyf wedi perfformio gerbron aelodau o’r teulu brenhinol, hyd yn oed. Er mai cerddoriaeth yw fy ngyrfa, mae’n hobi i mi, hefyd.

Bu fy addysg ym Mhrifysgol Caerdydd yn fan cychwyn hyfryd ar gyfer yr hyn rydw i’n ei wneud nawr, er nad oeddwn yn gwybod i ba gyfeiriad fyddai fy addysg yn fy nhywys ar y pryd. Mae’r ffrindiau a’r cysylltiadau a wnes yn y Brifysgol yn parhau i fod ymysg fy ffrindiau gorau nawr, a bu’r cyfleoedd a gefais drwy’r perthnasau hynny’n amhrisiadwy.


Arts, Humanities & Social SciencesMusicOur Alumni

Ruth Morris (BMus 2009, MA 2010)

11 Gorffennaf 2018
Ruth Morris
Ruth Morris

Ruth Morris (BMus 2009, MA 2010) studied both undergraduate and postgraduate programmes at the School of Music. She now works for Tenovus Cancer Care as one of their choir leaders. (rhagor…)