Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Eich Dathlu Chi

28 Mehefin 2018

“Mewn bywyd, gallwn fod yn hunanol mewn llawer o ffyrdd,” – dyna mae’r entrepreneur Lyndon Wood yn ei ysgrifennu. “Rydym ni’n ceisio peidio â bod yn hunanol drwy roi.”

Trawodd neges Lyndon nodyn priodol ar Ddiwrnod Caerdydd, uchafbwynt ar galendr y Brifysgol, lle gwahoddir rhoddwyr, codwyr arian a gwirfoddolwyr Caerdydd i dderbyn diolch o galon a chlywed am effaith eu cyfraniadau.

Ni allai Lyndon fod yn bresennol, ond anfonodd neges i ysbrydoli’r rhai oedd wedi ymgynnull:

“Mae gan Brifysgol Caerdydd asedau gwych a galluoedd rhagorol, sydd ymhlith y goreuon yn y byd. Mae wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd cael bod yn rhan o daith a ddechreuodd ymhell o’n blaenau, ac sy’n parhau â chenhadaeth a gweledigaeth i’w hedmygu.”

Efallai mai cefnogaeth Lyndon Wood ei hun yw’r esiampl orau o ystod eang gwaith Caerdydd. Lyndon yw sylfaenydd tîm yswiriant Moorhouse Group, ac mae nid yn unig yn cefnogi ymchwil ôl-ddoethurol â rhoddion dyngarol ond hefyd yn cynnig interniaethau i fyfyrwyr presennol Caerdydd.

Eich effaith

Y cyntaf i siarad am y gwaith hwnnw oedd Matthew Vince (MA 2014, Religious and Theological Studies 2015-), a dderbyniodd Ysgoloriaeth Jameel – a hwyluswyd gan Mr Jameel, un o gefnogwyr amlwg Canolfan Caerdydd ar gyfer Astudiaethau Islam yn y Deyrnas Unedig.

Mae gwaith ymchwil Matthew yn edrych ar sut mae Mwslimiaid Prydain yn integreiddio’u ffydd â gweithleoedd a diwylliannau seciwlar. Mae datgelu’r heriau pob dydd a geir ym mywydau Mwslimiaid ym Mhrydain yn waith caled, ac yn gostus – “fyddai ddim yn bosibl heb ysgoloriaeth Jameel,” meddai Matthew.

Yn dangos y galluoedd nodedig hyn roedd Dr Nichola Brydges, Cymrawd Ymchwil Niwrowyddoniaeth Hodge yn Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth a Iechyd Meddwl Caerdydd (NMHRI).
Mae ei gwaith eisoes wedi llwyddo i ganfod sail genetig a ffactorau amgylcheddol sy’n cyfrannu at salwch meddwl. “Dim ond y dechrau yw hyn”, addawodd Dr Brydges – sydd â’i golygon ar “ddiagnosis, triniaethau a strategaethau ataliaeth”.

Mwy na gwaith ymchwil

Efallai mai moment fwyaf pwerus y dydd oedd pan ddywedodd Naomi Owen (Journalism, Media and Culture 2015-) wrth y mynychwyr sut mae derbyn gwobr James Thomas (a grëwyd gan rieni’r diweddar academydd o’r Ysgol) wedi cefnogi a galluogi ei hastudiaethau.

Siaradodd Naomi am ei chefndir difreintiedig ac amgylchedd lle nad oedd addysg uwch wedi bod yn ystyriaeth hyd yn oed, fel yr oedd un hanesyn yn dangos yn rymus: “Roedd un funud, y Nadolig diwetha, pan gerddodd mam trwy’r drws gyda pharseli o’r banc bwyd, a finnau’n meddwl: “Beth sydd ar fy mhen i, yn meddwl galla i gael gradd prifysgol?’.”

Ond newidiodd pethau pan dderbyniodd y Wobr – a chydag anogaeth ei thiwtoriaid nid yw’n cywilyddio ynghylch ei chefndir bellach. “Trwy fod yn awdur dosbarth gweithiol sydd â phrofiadau i’w rhannu, mae ymyrraeth ddiwylliannol gadarnhaol eisoes ar y gweill,” meddai.

Ar ôl “arswydo na fyddai fy mywyd byth yn newid”, mae Naomi bellach yn bwriadu ymgymryd â gradd Meistr mewn Cyfryngau Digidol o fewn yr Ysgol – a dywedodd na fyddai “byth yn anghofio caredigrwydd” mam Dr Thomas, Barbara.

Diolch

Crynhodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, TJ Rawlinson, yn ddeheuig y gwahaniaeth y gall rhoddion o amser ac arian ei wneud i fyfyrwyr, gwaith ymchwil a’r Brifysgol yn ei chyfanrwydd.

“Dim ond o’ch herwydd chi, sydd yn yr ystafell hon, y mae modd adrodd y storïau a glywsoch heddiw. Mae hwn yn grŵp arbennig iawn o bobl.”
Roedd cyfraniad rhoddwyr, codwyr arian a gwirfoddolwyr yn amlwg iawn, a neges gyffredinol y dydd oedd diolch – o dderbynwyr gwobrau oedd yn cael cwrdd â’u cymwynaswyr wyneb yn wyneb, i’r Is-Ganghellor a fu’n diolch yn bersonol i’r rhai oedd yn bresennol.

Os ydych wedi cael eich ysbrydoli gan unrhyw un o’r hanesion hyn o Ddiwrnod Caerdydd, gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau codi arian. Fel arall, drwy wneud cyfraniad, dod yn wirfoddolwr cyn-fyfyrwyr, neu fentro ar Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd dros #TeamCardiff, gallwch chi ymuno â ni ar gyfer digwyddiad 2019!