Skip to main content

NewyddionUncategorized @cy

Beth oedd y gig gorau i chi ei weld yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd?

22 Mehefin 2018

Pan ddewch i’r brifysgol, dyw eich addysg ddim yn dechrau ac yn gorffen wrth ddrws y theatr ddarlithio. I lawer ohonom ni, roedd dod i Gaerdydd yn ddechrau ar chwyldro cerddorol – a thrac sain ein cyfnod yn y brifysgol wedi’i liwio gan ba bynnag fandiau oedd yn digwydd bod yn pasio drwy Undeb y Myfyrwyr ar y pryd.

Fel prifddinas Cymru, gwlad sydd wedi’i thrwytho mewn cân, nid yw’n syndod y cafodd Caerdydd ei henwi fel ‘dinas cerddoriaeth’ cyntaf y Deyrnas Unedig yn 2017. Os yw ehangder ac amrywiaeth atgofion cerddorol ein cyn-fyfyrwyr yn dweud unrhyw beth wrthym ni, mae’n adrodd hanes yr angerdd dros roc, pop a ‘soul’ sy’n bodoli o hyd yn ein dinas heddiw.

Enwau mawr o bob cyfnod

Cawsom ein syfrdanu gan y rhestr hirfaith o gerddorion eiconig sydd wedi ymweld â’r ddinas dros y blynyddoedd, yn aml ar anterth eu gyrfaoedd.

Mae Stephen yn cofio gweld Led Zeppelin ym 1972, flwyddyn ar ôl rhyddhau Led Zeppelin IV. Soniodd Richard am ddathlu ei arholiadau ar ddiwedd ei ail flwyddyn yng nghwmni David Bowie ar Barc yr Arfau yn ystod taith Glass Spider ym 1987 – sioe a oedd yn cynnwys y “set teithio mwyaf erioed”.

Ac nid sêr roc yn unig; soniodd Peter am weld Duke Ellington, Count Basie ac Ella Fitzgerald tua 1960 – a George Melly o Aberhonddu yn perfformio yn y ddawns diwedd tymor.

Gan gadw at y thema lleol, mae David yn cofio gweld Tom Jones mewn cyngerdd yn y Theatr Newydd ym 1963/4, gan ychwanegu wrth gwrs nad oedd y gair ‘”gig” yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar y pryd.

Amrywiaeth cerddorol ac archwilio

Mae darganfod tirweddau sonig newydd yn rhan hanfodol o’r profiad o fod yn fyfyriwr, fel y mae gwrando ar gerddoriaeth uchel na fyddai efallai wedi bod yn boblogaidd yn y cartref teuluol.

Rhannodd llawer o bobl brofiadau o fandiau ac artistiaid sydd, er nad mor enwog â Bowie neu Jones (ffaith ddiddorol: cyfenw go iawn Bowie oedd Jones hefyd), wedi ein gwneud ni’n dra eiddigeddus.

Dywedodd Bonnie ei bod wedi gweld y rapiwr NAS yn Undeb y Myfyrwyr, gwelodd Graham Ian Dury a Blockheads ac roedd gan Shelley ddisgrifiad byw o’r sîn ar ôl carnifal, pan oedd Kirsty McColl a Chumbawumba ymysg y rhai a oedd yn chwarae y tu allan i Neuadd y Ddinas.

Gigs fel straeon

Roedd rhai straeon teimladwy: Soniodd Luke am y tocyn a oedd ganddo i weld Amy Winehouse, dim ond i’w thaith gael ei ganslo’r noson cyn hynny. Rhannodd Karen ac Abigail atgofion am weld y Manic Street Preachers ym 1993, gyda’r arlwy yn cynnwys Richie Edwards gynt.

Ar y llaw arall, roedd rhai straeon yn gwneud inni chwerthin. Roedd cryn drafod rhwng Peter a Jonathan ar b’un ai Slade neu Def Leppard oedd â’r sioe fwyaf swnllyd yn Undeb y Myfyrwyr (ai ni yw’r unig rai sy’n defnyddio plygiau clustiau?), tra bod Peter gwahanol yn bresennol yn set tair cân enwog y Kinks – lle’r oedd y band yna wedi bod mewn sgarmes ymhlith ei gilydd.

Hyn oll, a dydyn ni prin wedi crafu’r wyneb. Mae’n tystio i sîn gerddoriaeth Caerdydd bod gan gynifer o bobl brofiadau cofiadwy, a ble yn well i’w rhannu ac ailgysylltu â hen ffrindiau nag ar ein tudalennau Facebook a LinkedIn?