Skip to main content

NewyddionUncategorized @cy

Pam rwy’n rhedeg: Stori #TeamCardiff Nicola

4 Mehefin 2018

Mae rhedwyr #TeamCardiff eisoes yn paratoi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd / Prifysgol Caerdydd. Fe wnaethom ofyn i Nicola Benallick, aelod o staff Prifysgol Caerdydd – ac un o aelodau #TeamCardiff am y trydydd tro – ddweud ychydig yn rhagor wrthym pam mae’n rhedeg a sut mae’n paratoi.

Rydw i’n weinyddwr ariannol ar gyfer Is-adran Canser a Geneteg, ac rydw i wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn codi arian ar gyfer fy ngweithle, am fy mod yn gweithio yno ac yn cefnogi’r gwaith rhagorol y maen nhw’n ei wneud. Mae’n gymhelliad personol eleni, oherwydd heriau parhaus fy ngŵr o ran iselder a gorbryder. Rydw i’n rhedeg dros ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fy nod yw rhedeg yr hanner marathon eleni mewn 2:15:00 (neu lai) felly mae’r hyfforddi wedi dwysáu i gynnwys traws-hyfforddi. Rydw i’n codi am 5 y bore i redeg 5km bob dydd Llun a dydd Iau, yn gwneud pellteroedd hir ar foreau Sul cyn bod fy nheulu’n deffro, ac mae nosweithiau Mawrth ar gyfer hyfforddi ysbeidiol a rhedeg mynyddoedd. Rydw i’n seiclo i’r gwaith bob dydd, yn gwneud Bwt Camp bob bore Sadwrn gydag Iechyd a Ffitrwydd Calon Lan, ac yn llwyddo i greu amser i godi pwysau haearn (kettlebells) gyda’r nos pan mae pawb wedi mynd i’r gwely, diolch i YouTube. Fy ngŵr hynod o gefnogol yw’r unig reswm pam yr ydw i’n gallu hyfforddi fel hyn; mae fel bra chwaraeon arbennig o dda!

Mae gennyf gefnogwyr gwych sydd wedi rhoi yn hael gan eu bod yn gwybod faint mae’r achos hwn yn ei olygu i mi, ond roeddwn am fynd gam ymhellach y tro hwn. Byddaf yn gwerthu cacennau, wrth gwrs, ac yn gofyn am gyfraniadau, ond ro’n i hefyd am wneud rhywbeth ychydig yn wahanol, ac amlygu mewn rhyw ffordd sut mae iselder yn effeithio ar lawer ohonom, felly rwy’n “gwerthu” fy nghilomedrau. Am rodd ariannol, gall unrhyw un gael cilomedr yn benodol ar eu cyfer nhw eu hunain neu ffrind agos, a byddaf yn rhoi’r enw hwnnw (neu ffugenw) ar fy nghrys-t ac yn rhedeg y cilomedr hwnnw ar eu cyfer.

Mae rhedeg wedi helpu fy lles meddyliol, ond rydw i’n gwybod pa mor anodd yw hi i adael y tŷ weithiau. Felly, roeddwn i eisiau dangos yn glir fy mod yn rhedeg dros eraill yn ogystal â fi fy hun. Wrth gwrs, i fy ngŵr gwych mae’r cilomedr cyntaf.

Rydw i wedi cael ymateb hynod gefnogol gan fy nghydweithwyr, ond mae wedi tynnu sylw at y diffyg yn fy nghynllun athrylithgar: nid yw pawb eisiau cyfaddef bod ganddynt gyflwr iechyd meddwl. Mae stigma o hyd, sy’n gadael i ddioddefwyr deimlo’n unig er bod yr ystadegau’n dangos stori wahanol iawn. Bydd 1 o bob 4 ohonom yn profi her iechyd meddwl yn ystod ein bywydau. Gyda lwc, bydd yr arian a godaf yn mynd tuag at yr ymchwil sydd ei hangen er mwyn canfod triniaethau gwell a deall cyflwr anweledig sy’n effeithio nid yn unig ar y rheini sy’n barod i’w drafod, ond hefyd y niferoedd mawr o bobl sy’n dioddef yn dawel.

Ewch ati i gefnogi ymdrechion Nicola i godi arian – ac ymchwil ynghylch niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl sy’n gallu newid bywydau – drwy gyfrannu neu brynu cilomedr ar ei thudalen JustGiving.