Skip to main content

NewyddionUncategorized @cy

Nature and Nurture: neuroscience and mental health research on display

22 Mai 2018

Roedd Prifysgol Caerdydd wrth ei bodd yr wythnos ddiwethaf i gael ymweld â’r Gymdeithas Frenhinol yn Llundain a chyflwyno ‘Nature and Nurture? Mining the human genome for mental health discoveries’, arddangosiad o ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl sy’n flaenllaw drwy’r byd, i gynulleidfa eang o gyn-fyfyrwyr, gwesteion a’r cyhoedd.

 Yr her 

Cyflwynodd yr Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan y maes ymchwil fel un lle’r oedd “Caerdydd yn iawn i ddweud ein bod yn ‘taflu ein pwysau y tu ôl i hyn’,” safbwynt a ategwyd gan yr Athro Syr Mike Owen, Cyfarwyddwr Emeritws Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Caerdydd (NMHRI).

Dywedodd fod iechyd meddwl yn cyfrif am bump o’r deg cyflwr a restrir ar y Baich Clefyd Byd-eang, gan effeithio ar y cylch bywyd cyflawn: anhwylderau niwroddatblygol (ar oedran cynnar), seicosis ac anhwylderau affeithiol mawr (oedolion) ac anhwylderau niwroddirywiol (henoed).

Yn waeth fyth, “ychydig o ddatblygiad a welwyd o ran triniaethau mewn seiciatreg dros y pedair degawd ddiwethaf”.

Cloddio’r genom 

“Bellach,” dywedodd Syr Mike, “rydym ni’n gwneud cynnydd gwirioneddol.” Wrth graidd hyn mae gwaith blaenllaw Caerdydd ar ddeall geneteg a hefyd genomeg, sef y deunydd a geir mewn organeb fyw. Drwy fabwysiadu dull cyfannol, roedd y Brifysgol eisoes wedi nodi ffactorau risg ar gyfer sgitsoffrenia, anhwylder deubegynnol, ADHD a chlefyd Alzheimer.

Daeth yr Athro Jeremy Hall (Cyfarwyddwr NMHRI) i’r blaen i bwysleisio bod yr ymennydd wedi’i gynllunio i ddod dan effaith ffactorau amgylcheddol. “Mewn rhai ffyrdd,” dywedodd “byddai’n syndod pe na bai eich ugeiniau a’ch tridegau’n effeithio ar eich iechyd meddwl.”

Y wir broblem gyda’r ymennydd oedd ei fod yn anhygyrch, dywedodd. Ni allwn nodi’n union eto pa ffactorau genetig a genomig sydd wrth wraidd ein hiechyd meddwl, ac adlewyrchir hynny yn llwyddiant cymysg ein meddyginiaethau.

Strategaeth Caerdydd 

Caiff cyfrinachau cudd yr ymennydd eu datgelu’n rhannol o leiaf drwy bŵer y sganiwr MRI 3T Connectom (“sy’n cyfateb i long danfor niwclear”) yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd. “Y cyfleuster gorau o’i fath yn Ewrop mae’n debyg,” meddai’r Athro Hall.

Mae’r Ganolfan, a agorwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn 2016, yn datrys un o anawsterau diagnostig traddodiadol iechyd meddwl: tra bo ymweliad â’r meddyg teulu’n gallu rhoi diagnosis o beswch fel symptom o niwmonia gan arwain at ragnodi triniaeth yn unol â hynny, bernir mai achos iselder yw: iselder.

Wrth allu cael mynediad i’r ymennydd na welwyd ei debyg o’r blaen, gall Caerdydd wneud cynnydd wrth wneud diagnosis o achosion sylfaenol y symptom a chyfrannu at driniaethau wedi’u targedu. “Rydym ni’n gwneud cynnydd ar faterion oedd yn ymddangos yn annealladwy yn fy oes i,” dywedodd, wrth gyfeirio at ddatblygiadau yn nhriniaeth syndrom Rett.

Dyfodol iechyd meddwl 

Ymunodd Cyfarwyddwr Ymchwil MQ Dr Sophie Dix (PhD 2001) â’r academyddion o Gaerdydd am sesiwn holi ac ateb, a soniodd am ei balchder yn graddio o sefydliad â’r fath fri cynyddol byd-eang – a’r ffaith fod Caerdydd yn ymrwymo cymaint i faes ymchwil sydd yn hanesyddol wedi bod yn brin o adnoddau. “Rhaid i rywun wneud hyn,” dywedodd.

Pan ofynnwyd iddi am ei dymuniad o ran cyfeiriad ymchwil y dyfodol, cyfeiriodd Dr Dix yn ôl at sleid Syr Mike yn dangos bod problemau iechyd meddwl wrth graidd y Baich Clefydau Byd-eang, a soniodd am ei hawydd i’w weld yn cael ei drin felly gan bob rhanddeiliad yn y diwydiant ymchwil meddygol.

“Fy un dymuniad fyddai sicrhau cydraddoldeb,” dywedodd. “Cydraddoldeb gyda phob cyflwr arall ar bob lefel: cyllido, ymchwil a thriniaethau.”

Fel y byddai pawb a ymunodd â ni yn Llundain yn tystio, mae’n ddymuniad y mae Caerdydd yn gweithio’n galed i’w wireddu.