Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

11 podlediad poblogaidd gan gynfyfyrwyr Caerdydd

29 Mai 2020

Mae ein cynfyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn griw creadigol sydd wedi canfod ffordd i gyrraedd llawer drwy bŵer y podlediad. P’un a ydych awydd chwerthin, gwers werthfawr neu gyngor defnyddiol, rydym wedi casglu ychydig o’r nifer o bodlediadau poblogaidd gan ein cynfyfyrwyr medrus a dawnus i’ch helpu i ladd amser.

1 – Hank!

Mae’r podlediad bwyd Caerdydd hwn yn cael ei gyflwyno gan Matt Appleby a Jane Cook (BA 2008) a gychwynnodd flog bwyd a chynaliadwyedd flynyddoedd lawer yn ôl. Cychwynnodd Jane ei thaith mewn bwyd a choginio yn ystod ei hamser fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl graddio symudodd i Lundain a dechreuodd ymwneud mwy â’r sîn fwyd.

Mae’r podlediad hwn yn berffaith ar gyfer pobl sy’n caru bwyd a’r rheiny sy’n bwriadu prynu a gwneud prydau mewn ffordd eco-gyfeillgar. Yn Rhaglen 4 maent yn dathlu ugain mlynedd o un o sefydliadau Caerdydd, Marchnad Glan-yr-afon, ac yn siarad gyda’r sylfaenydd sydd hefyd yn gynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Steve Garrett (MSc 2009).

2 – In the Moment

Mae Sarah Orme (MA 2009) yn fyfyriwr graddedig newyddiaduraeth ac yn gyflwynydd i’r podlediad arobryn In the Moment. Mae hwn yn bodlediad ymwybyddiaeth ofalgar sy’n anelu i helpu gwrandawyr i ddod o hyd i ychydig o heddwch a thawelwch yn eu bywydau prysur. Mae Sarah yn cyfweld awduron, academyddion a hyfforddwyr lles i roi cyngor ar sut i gysgu’n well, bwyta’n iach a byw bywyd llawn.

3 – Straeon Graddedigion Seicoleg

Yma cawn raddedigion seicoleg Prifysgol Caerdydd yn trafod eu hastudiaethau, eu profiadau mewn gwahanol feysydd seicoleg, a beth mae eu gyrfaoedd yn cynnwys. Gallwch gymryd golwg ar sut beth yw gweithio fel ymchwilydd neu seicolegydd fforensig, ynghyd â darganfod yr heriau a’r gwobrau o weithio o fewn y trydydd sector, yr heddlu a busnesau mawr.

Grandwech yma: https://player.fm/series/psychology-graduate-stories-cardiff-uni

4 – Inside the Petri Dish

Mae Alice Gray (BSc 2013) yn gweithio mewn cyfathrebu ac yn arbenigo mewn cyfathrebu gwyddonol ac ymchwil. Mae’n defnyddio’r sgiliau hyn a’i harbenigedd i gyd-gyflwyno Inside the Petri Dish, podlediad sy’n edrych ar bynciau dadleuol o fewn gwyddoniaeth. Mae Alice yn cyfweld gwyddonwyr ac arbenigwyr i archwilio pwnc gwahanol pob rhaglen, gan gadw’r cynnwys yn ffres, deallus a diddorol.

5 – Podlediad Archaeoleg Caerdydd

Mae’r podlediad hwn yn cynnwys siaradwyr o brifysgolion eraill, trafodaethau grŵp gydag academyddion a myfyrwyr, a darlithoedd wedi’u recordio. Mae’r rhaglenni yn dyddio i chwe blynedd yn ôl, ond mae’r pynciau yn berthnasol o hyd ac yr un mor ddiddorol, gan gynnwys amaethyddiaeth Roegaidd, pobl fodern cynnar, cynnydd a chwymp y wladwriaeth Eifftaidd a mwy. Er pa mor aml caiff ei recordio mewn ystafell llawn pobl, mae ansawdd y sain yn glir a’r siaradwyr yn ddiddorol.

Listen here: https://player.fm/series/audio-and-video-cardiff-archaeology-podcasts

6 – That HR Podcast

Mae That HR Podcast, a lansiwyd gan Emily Burt (MA 2016), yn canolbwyntio ar adnoddau dynol a rheoli busnes, gan edrych ar bopeth o adrodd ar y bwlch rhwng cyflogau dynion a merched a phrentisiaethau i gynhyrchiant a rheoli argyfwng. Mae’r gwesteion yn cynnwys amrywiaeth o Brif Weithredwyr, rheolwyr ymchwil, arbenigwyr a golygyddion. Gallwch hefyd glywed llais y cynfyfyriwr, Lauren Brown (MA 2018) sy’n cyd-gyflwyno llawer o’r rhaglenni.

7 – Elis James and John Robins

Elis James (MA 2005) yw un hanner o’r deuawd hamddenol a doniol yma. Mae’r cynnwys yn ysgafn ac amrywiol gan greu gwledd i’r glust sy’n llawn tynnu coes, pysgod a sglodion a chyngor cnofilod. Nid yw hwn yn un i gymryd o ddifri yn ormodol, ond mae’n sicr yn un dymunol i ladd amser. Nid yw’r cyfyngiadau symud wedi eu rhwystro rhag eu mwydro dibwys, ond yn hytrach, mae wedi eu sbarduno ymhellach.

8 – The Socially Distant Sports Bar

Dyma bodlediad arall sy’n cael ei gyd-gyflwyno gan gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Elis James a Steffan Garrero (PgDip 2000). Y ‘Socially Distant Sports Bar’ yw’r ateb i’r cwestiwn: “Lle awn i siarad am chwaraeon gan fod y tafarndai wedi cau?” Mae Elis yn ‘cyfarfod’ Mike Bubbins a Steff Garrero i siarad am bopeth sy’n ymwneud â chwaraeon ac i awgrymu rhaglenni dogfen, llyfrau a phodlediadau i gadw cefnogwyr chwaraeon yn eu iawn bwyll yn ystod y cyfyngiadau symud.

9 – Brain Yapping – The Podcast

Mae Dr Dean Burnett (PhD 2011) yn niwrowyddonydd a oedd yn arfer gweithio fel tiwtor seiciatreg a darlithydd yng Nghanolfan Addysg Feddygol Prifysgol Caerdydd ac mae’n gydymaith ymchwil anrhydeddus yn Ysgol Seicoleg Caerdydd. Ond, heb yn wybod i rai, mae hefyd yn bodlediwr llwyddiannus. Mae Brain Yapping yn bodlediad heb ei sgriptio sy’n edrych ar sut mae’r ymennydd yn gweithio mewn sefyllfaoedd bob dydd.

10 – Smart Welsh People

Podlediad arall gan Dr Dean Burnett ond mae hwn yn canolbwyntio ar y Cymry a diwylliant Cymreig. Mae Dr Burnett yn siarad â Chymry o bob cefndir er mwyn darganfod beth yw eu safbwynt ar hunaniaeth Gymreig a lleoliad Cymru yn y byd. Mae’n siarad â chomediwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, awduron ac actorion er mwyn deall beth mae’n olygu i fod yn Gymro yn 2020.

11 – Podlediad Prifysgol Caerdyd

Mae cyflwynwyr a gwesteion y podlediad hwn yn cynnwys ymgyrchwyr hawliau dynol, amgylcheddwyr, athrawon prifysgol, arbenigwyr a ffigurau gwleidyddol. Er nad oes rhaglenni newydd wedi cael eu recordio eto, mae’n cynnwys gwleidyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol, y gyfraith ac economeg. Yn ddadleuol ac yn ysgogi’r meddwl, mae’r cynnwys ym mhodlediad Prifysgol Caerdydd yn amrywio o gyfweliadau i ddarlithoedd ac maent yn darparu ysbrydoliaeth a rhywbeth i gnoi cil drosto.

Grandwech yma: https://player.fm/series/cardiff-university