{"id":6655,"date":"2026-10-05T11:52:39","date_gmt":"2026-10-05T10:52:39","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6655"},"modified":"2026-10-05T12:06:30","modified_gmt":"2026-10-05T11:06:30","slug":"mewnwelediadau-edubot-i-sut-mae-myfyrwyr-yn-ystyried-deallusrwydd-artiffisial","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/mewnwelediadau-edubot-i-sut-mae-myfyrwyr-yn-ystyried-deallusrwydd-artiffisial\/","title":{"rendered":"Mewnwelediadau Edubot i sut mae myfyrwyr yn ystyried deallusrwydd artiffisial"},"content":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r Arweinydd Academaidd, Ramalakshmi Vaidhiyanathan, yn rhannu ei fewnwelediadau AI.<\/p>\n<p>Dechreuodd fy nhaith gydag integreiddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn addysg gyda defnyddio <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/ai-based-coursework-chat-assistant\/\">Chatbot Poe fel system cefnogi asesiadau<\/a> i fyfyrwyr. Flwyddyn yn ddiweddarach, pan roddais asesiad a oedd yn cynnwys deallusrwydd artiffisial i fyfyrwyr, bu newid yn eu canfyddiad o ddeallusrwydd artiffisial. Nid oedd bron i 15 y cant ohonyn nhw eisiau defnyddio deallusrwydd artiffisial fel eu cleient i gasglu gofynion ar gyfer eu gwaith cwrs. Arweiniodd hyn at greu prosiect Partner Profiad Myfyrwyr (SEP) o&#8217;r enw Edubot ar y cyd \u00e2 Marianna Majzonova a Nan Zhang o&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu. Roedd Srijit Paul ac Ayesha Faheem, partneriaid profiad myfyrwyr a oedd hefyd yn fyfyrwyr Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yn rhan o&#8217;r astudiaeth hon a oedd yn ymchwilio i brofiadau asesu myfyrwyr a&#8217;u canfyddiadau o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn addysg uwch.<\/p>\n<p>Fel rhan o&#8217;r prosiect hwn, cynhaliwyd astudiaeth a gododd gwestiynau pwysig am ddysgu myfyrwyr, arferion asesu a sgiliau cyflogadwyedd. Fe wnaethon ni archwilio canfyddiadau myfyrwyr o ddeallusrwydd artiffisial a&#8217;i effaith ganfyddedig ar eu profiad academaidd trwy ymchwiliad dulliau cymysg.<\/p>\n<p>Archwiliodd arolwg trawsdoriadol o 176 o fyfyrwyr israddedig ac \u00f4l-raddedig ar draws 20 o ysgolion academaidd bryder asesu, ymwybyddiaeth o ddeallusrwydd artiffisial, defnyddiau derbyniol o ddeallusrwydd artiffisial ac agweddau tuag at gynorthwyydd deallusrwydd artiffisial damcaniaethol penodol i waith cwrs a hyfforddir yn gyfan gwbl ar ddeunyddiau a gymeradwywyd gan ddarlithwyr. Dilynwyd hyn gan gr\u0175p ffocws gyda myfyrwyr o&#8217;r Celfyddydau, y Dyniaethau a&#8217;r Gwyddorau Cymdeithasol, a archwiliodd ryngweithiadau amser real gyda phrototeip cynnar o gynorthwyydd o&#8217;r fath.<\/p>\n<p>Adroddodd mwyafrif am rywfaint o bryder wrth asesu, yn enwedig ofn o beidio \u00e2 bod \u201car y trywydd iawn\u201d, ac amharodrwydd cyson i geisio cymorth yn uniongyrchol gan ddarlithwyr. Nododd 14 y cant o&#8217;r ymatebwyr eu bod wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol pan oeddent yn sownd ar gysyniad. Cynyddodd yr hyder hwn yn sylweddol, gyda 63.7 y cant yn nodi y byddent yn ymddiried mwy mewn cynorthwyydd deallusrwydd artiffisial pe bai wedi&#8217;i hyfforddi&#8217;n gyfan gwbl ar ddeunyddiau penodol i&#8217;r cwrs. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon cryf ynghylch cywirdeb.<\/p>\n<p>Mae ystyriaethau allweddol yn cynnwys dibyniaeth, tryloywder, monitro, meddwl yn feirniadol ac effaith amgylcheddol. Daeth gwahaniaethau disgyblaethol i&#8217;r amlwg gyda myfyrwyr Cyfrifiadureg yn dangos derbyniad a defnydd uwch o ddeallusrwydd artiffisial na myfyrwyr mewn disgyblaethau sy&#8217;n seiliedig ar y dyniaethau. Atgyfnerthodd canfyddiadau&#8217;r grwpiau ffocws y pryderon hyn gan dynnu sylw at faterion o ran ymddiriedaeth, diffyg rhesymu gweladwy, ffiniau aneglur rhwng canllawiau a chreu atebion ac amheuaeth ynghylch gwerth addysgol offer deallusrwydd artiffisial.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r canfyddiadau hyn yn awgrymu, er bod myfyrwyr yn cydnabod potensial deallusrwydd artiffisial i gefnogi dysgu a hyder, fod mabwysiadu&#8217;r dechnoleg yn dibynnu ar <em>ddylunio tryloyw, ffiniau academaidd clir <\/em>a<em> pharch at ddewis myfyrwyr .<\/em> Datgelodd yr astudiaeth hefyd fod myfyrwyr yn ystyried deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol fel offeryn cymorth gwerthfawr a risg bosibl i ddysgu a datblygu sgiliau. . Felly, wrth integreiddio deallusrwydd artiffisial ym maes addysg uwch, rhaid blaenoriaethu <em>tryloywder, defnydd moesegol<\/em> a <em>chadw sgiliau meddwl yn feirniadol.<\/em> Mae dull cytbwys sy&#8217;n canolbwyntio ar y myfyriwr yn hanfodol i sicrhau bod <em>deallusrwydd artiffisial yn gwella<\/em> yn hytrach na lleihau <em>deilliannau dysgu<\/em> ac yn hyrwyddo <em>cynlluniau cyfrifol o arferion asesu a gefnogir gan ddeallusrwydd artiffisial <\/em>sy&#8217;n cefnogi dysgu heb danseilio uniondeb academaidd neu sgiliau parodrwydd gyrfaol.<\/p>\n<figure id=\"post-6657 media-6657\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/10\/Picture1-1.png\" alt=\"Poster\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r Arweinydd Academaidd, Ramalakshmi Vaidhiyanathan, yn rhannu ei fewnwelediadau AI.","protected":false},"author":6921,"featured_media":6658,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1012],"class_list":["post-6655","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-zhang-nan"],"lang":"cy","translations":{"cy":6655,"en":6652},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1Jl","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/10\/Media.jpeg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6655","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6655"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6655\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6662,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6655\/revisions\/6662"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6658"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6655"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6655"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6655"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6655"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}