{"id":6603,"date":"2026-09-24T09:32:47","date_gmt":"2026-09-24T08:32:47","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6603"},"modified":"2026-09-24T09:32:47","modified_gmt":"2026-09-24T08:32:47","slug":"mwy-nag-ymchwil-yr-hyn-a-ddysgais-i-yn-ystod-fy-interniaeth-mewn-canolfan-gydweithio-a-sefydliad-iechyd-y-byd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/mwy-nag-ymchwil-yr-hyn-a-ddysgais-i-yn-ystod-fy-interniaeth-mewn-canolfan-gydweithio-a-sefydliad-iechyd-y-byd\/","title":{"rendered":"Mwy nag ymchwil: yr hyn a ddysgais i yn ystod fy interniaeth mewn Canolfan Gydweithio \u00e2 Sefydliad Iechyd y Byd"},"content":{"rendered":"<p>Mae Layan Zaben, myfyrwraig ail flwyddyn yn yr Ysgol Feddygaeth, yn rhannu ei phrofiad o interniaeth ar y campws.<\/p>\n<p>Cyn dechrau fy interniaeth mewn Canolfan Gydweithio \u00e2 Sefydliad Iechyd y Byd er Dysgu a Gwella Diogelwch Cleifion, roeddwn i\u2019n gweld diogelwch cleifion mewn ffordd weddol syml. Roeddwn i\u2019n deall ei bwysigrwydd, ond yn cymryd yn ganiataol ei fod yn ymwneud ag atal camgymeriadau ym maes gofal iechyd. Yn yr un modd, roeddwn i\u2019n credu mai nod terfynol ymchwil oedd cyhoeddi \u2013 sef, papur yn nodi bod prosiect wedi\u2019i gwblhau.<\/p>\n<p>Dros gyfnod fy interniaeth, newidiodd y ddwy ragdybiaeth hyn.<\/p>\n<p>Nid yn unig y cefais i gyflwyniad i faes diogelwch cleifion, ond dysgais i hefyd am y systemau cymhleth sy\u2019n sail i ofal iechyd mwy diogel. Mae diogelwch cleifion yn llawer mwy na lleihau camgymeriadau unigol; mae\u2019n ymwneud \u00e2 deall pam mae digwyddiadau yn digwydd, dysgu ganddyn nhw, a chynllunio systemau sy\u2019n gwella gofal yn gyson. Drwy weld y gwaith sy\u2019n digwydd y tu \u00f4l i\u2019r llenni, cefais i werthfawrogiad newydd o raddfa\u2019r cydweithio a\u2019r dystiolaeth sydd eu hangen i wneud gwelliannau ystyrlon.<\/p>\n<p>Efallai mai\u2019r wers fwyaf a ddysgais i oedd nad yw ymchwil yn dod i ben pan fydd papur yn cael ei gyhoeddi. Mewn sawl ffordd, dim ond y dechrau yw cyhoeddi.<\/p>\n<p>Un o\u2019r agweddau mwyaf gwerth chweil ar yr interniaeth oedd cyfrannu at y gwaith o drosi ymchwil yn adnoddau ymarferol a allai greu traweffaith go iawn. Gwnes i weithio ar brosiectau a drawsnewidiodd dystiolaeth yn adnoddau addysgol, cefnogi datblygiad gwefannau i gyfathrebu ymchwil yn fwy effeithiol, ac ystyried y ffordd y gellid ymgorffori canfyddiadau ymchwil mewn addysgu prifysgol. Mae bod yn rhan o waith sy\u2019n pontio ymchwil, addysg ac ymarfer yn dangos y ffordd y gall tystiolaeth ddylanwadu nid yn unig ar ofal iechyd, ond hefyd ar y ffordd y bydd gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd yn cael eu hyfforddi.<\/p>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2\u2019r wybodaeth dechnegol a enillais i, rhai o\u2019r canlyniadau mwyaf gwerthfawr oedd y sgiliau proffesiynol a ddatblygais i. Roedd cyfweld ag ymchwilwyr yn gofyn i mi fagu hyder yn fy sgiliau cyfathrebu, gofyn cwestiynau meddylgar, a chyflwyno gwybodaeth yn glir i gynulleidfaoedd gwahanol. Drwy roi cyflwyniadau, gwnes i gryfhau fy ngallu i gyfleu syniadau\u2019n effeithiol, tra bod cydweithio \u00e2 chydweithwyr o gefndiroedd proffesiynol gwahanol wedi dysgu pwysigrwydd gwaith t\u00eem, gallu i addasu, a dysgu gan safbwyntiau eraill i mi.<\/p>\n<p>Gwnaeth y profiadau hyn fy helpu i ddod yn fwy hyderus wrth weithio mewn timau amlddisgyblaethol ac atgyfnerthu pa mor hanfodol yw cyfathrebu ym meysydd ymchwil ac gofal iechyd.<\/p>\n<p>Wrth i mi edrych yn \u00f4l, cynigiodd yr interniaeth hon llawer mwy na chyflwyniad i ddiogelwch cleifion. Gwnaeth newid y ffordd rwy\u2019n meddwl am ymchwil, gan ddangos bod ei heffaith fwyaf yn aml yn dod o\u2019r ffordd y mae\u2019n cael ei throsi\u2019n addysg, yn bolisi ac yn ymarfer, ac nid o\u2019r cyhoeddiad ei hun. Rwy\u2019n gadael gyda dealltwriaeth lawer dyfnach o ddiogelwch cleifion, mwy o hyder yn fy ngalluoedd fy hun, a gwerthfawrogiad go iawn o\u2019r gwaith cydweithredol sy\u2019n ysgogi gwelliant ym maes gofal iechyd.<\/p>\n<p>Am y rhesymau hyn, roedd hwn yn brofiad y baswn i\u2019n ei argymell yn fawr i unrhyw fyfyrwyr sy\u2019n ei ystyried. Mae\u2019n gyfle nid yn unig i ddysgu am faes pwysig, ond hefyd i gyfrannu at waith ystyrlon, datblygu sgiliau proffesiynol gwerthfawr, a gweld drosoch chi eich hun sut gall ymchwil greu traweffaith yn y byd go iawn.<\/p>\n<p>Diolch yn fawr iawn i Dr. Joy McFadzean, darlithydd clinigol diogelwch cleifion, a\u2019r Athro Andrew Carson Stevens, darlithydd clinigol diogelwch cleifion, yn ogystal \u00e2 Saptarshi am eu harweiniad a\u2019u cefnogaeth wych drwy gydol y profiad hwn.<\/p>\n<h2>Interniaethau ar y Campws<\/h2>\n<p>Dysgwch fwy am <a href=\"http:\/\/Mae Layan Zaben, myfyrwraig ail flwyddyn yn yr Ysgol Feddygaeth, yn rhannu ei phrofiad o interniaeth ar y campws.\">gynllun Interniaethau ar y Campws yr Academi Dysgu ac Addysgu<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Layan Zaben, myfyrwraig ail flwyddyn yn yr Ysgol Feddygaeth, yn rhannu ei phrofiad o interniaeth ar y campws.","protected":false},"author":6921,"featured_media":6602,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1006],"tags":[],"custom_author":[1031],"class_list":["post-6603","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-interniaethau-ar-y-campws","custom_author-learning-and-teaching-academy"],"lang":"cy","translations":{"cy":6603,"en":6599},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1Iv","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/09\/80c269f5-d001-4a00-aa23-dadbe38f8179.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6603","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6603"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6603\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6606,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6603\/revisions\/6606"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6602"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6603"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6603"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6603"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6603"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}