{"id":6585,"date":"2026-09-15T09:00:18","date_gmt":"2026-09-15T08:00:18","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6585"},"modified":"2026-09-23T09:45:41","modified_gmt":"2026-09-23T08:45:41","slug":"aros-gydar-cwestiynau-myfyrio-cymrodoriaeth-a-dysgu-proffesiynol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/aros-gydar-cwestiynau-myfyrio-cymrodoriaeth-a-dysgu-proffesiynol\/","title":{"rendered":"Aros gyda&#8217;r cwestiynau: Myfyrio, Cymrodoriaeth a dysgu proffesiynol"},"content":{"rendered":"<p>Blog-bost wedi\u2019i ysgrifennu gan Heather Pennington, Alyson Lewis, Andy McCluskey o&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n<p>Wrth i ni ddathlu cydweithwyr sydd wedi ennill Cymrodoriaeth yn ddiweddar drwy Raglen Cymrodoriaeth Addysg Prifysgol Caerdydd, rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at groesawu carfannau newydd sy&#8217;n dechrau eu taith cydnabyddiaeth broffesiynol eu hunain.<\/p>\n<p>Er bod pob cyflwyniad Cymrodoriaeth yn adrodd stori wahanol, mae un edefyn yn rhedeg drwyddyn nhw i gyd: myfyrio meddylgar, beirniadol. Dyma&#8217;r broses sy&#8217;n helpu addysgwyr i wneud synnwyr o brofiad, cydnabod eu datblygiad a nodi ble maen nhw am dyfu nesaf. Mae myfyrio wrth wraidd Cymrodoriaeth, ond mae hefyd yn un o&#8217;r arferion mwyaf gwerthfawr y gallwn ei ddatblygu fel addysgwyr.<\/p>\n<h2><strong>Rydyn ni\u2019n aml yn annog cydweithwyr i \u201cfod yn fyfyriol\u201d, ond beth yw hynny yn ymarferol?<\/strong><\/h2>\n<p>Mae myfyrio yn cael ei gydnabod yn eang fel un o gonglfeini ymarfer addysgol a datblygiad proffesiynol.\u00a0Ac eto mae&#8217;n werth gofyn a ydyn ni weithiau&#8217;n cymryd yn ganiataol fod myfyrio\u2019n digwydd ar lefel fwy ystyrlon nag y mae mewn gwirionedd (Pennington a Lewis, 2025).\u00a0Mae myfyrio\u2019n golygu mwy na disgrifio&#8217;r hyn a ddigwyddodd neu&#8217;r hyn a aeth yn dda. Ar ei orau, mae&#8217;n arfer parhaus o chwilfrydedd sy&#8217;n gofyn nid yn unig beth rydyn ni&#8217;n ei wneud, ond pam rydyn ni&#8217;n gwneud hynny, safbwyntiau pwy sy\u2019n siapio ein penderfyniadau, a&#8217;r hyn y gallen ni ei wneud yn wahanol. Mae Morgan a Milton (2023) yn disgrifio hyn fel mabwysiadu <em>ymchwilio fel ffordd o fod<\/em>.<\/p>\n<p>Mae myfyrio ystyrlon yn cymryd amser &#8211; ac mae amser yn aml yn brin yng nghanol llwythi gwaith prysur a blaenoriaethau cystadleuol bywyd academaidd.\u00a0Gellir dadlau ei bod hi\u2019n hawdd stopio pan mae myfyrio\u2019n dod yn anghyfforddus, yn enwedig pan mae\u2019n ein sbarduno i gwestiynu arferion cyfarwydd neu ymddangosiadol lwyddiannus.\u00a0Ac eto, yng nghanol yr anghysur hwn mae myfyrio\u2019n fwyaf gwerthfawr. Fel y mae Sch\u00f6n (1983) yn awgrymu, mae dysgu proffesiynol yn datblygu trwy archwilio ymarfer yn feirniadol mewn cyd-destun. Mae hyn yn gofyn am fannau sy&#8217;n teimlo&#8217;n ddiogel ac yn ddewr, lle gall cydweithwyr archwilio ansicrwydd, herio rhagdybiaethau, a dysgu gydag eraill. Heb hyn, mae myfyrio mewn perygl o ddod yn ymarfer perfformiadol yn hytrach nag yn gatalydd ar gyfer newid.<\/p>\n<p>Felly mae myfyrio ystyrlon yn ymwneud yn llai \u00e2 chynhyrchu&#8217;r cyfrif perffaith a mwy am ddatblygu arfer parhaus o ymchwilio, un sy&#8217;n parhau i siapio ein hymarfer ymhell ar \u00f4l ennill Cymrodoriaeth.<\/p>\n<p>Nid yw myfyrio\u2019n golygu dod o hyd i&#8217;r ateb perffaith. Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 pharhau\u2019n agored i ddysgu a chydnabod bod addysgu effeithiol bob amser yn datblygu ochr yn ochr \u00e2&#8217;n myfyrwyr, ein disgyblaethau a&#8217;n cyd-destunau addysgol.<\/p>\n<h2><strong>Tri awgrym ymarferol ar gyfer myfyrio dyfnach<\/strong><\/h2>\n<ol>\n<li><strong>Dechreuwch gyda chwestiynau, nid atebion<\/strong>.<br \/>\nYn hytrach na gofyn \u201cA aeth y sesiwn yna&#8217;n dda?\u201d, ceisiwch ofyn \u201cBeth wnaeth fy synnu?\u201d, \u201cProfiad pwy allai fod wedi bod yn wahanol i\u2019m profiad i?\u201d neu \u201cPa ragdybiaethau a ddylanwadodd ar fy mhenderfyniadau?\u201d<\/li>\n<li><strong>Gwnewch fyfyrio\u2019n fater o drefn<\/strong>.<br \/>\nNid yw myfyrio\u2019n gofyn am lawer o ysgrifennu bob wythnos. Gall nodiadau byr, sgyrsiau gyda chydweithwyr rydych chi\u2019n ymddiried ynddynt, recordiadau sain neu ddeunyddiau addysgu gyda sylwadau i gyd helpu i ddatblygu arfer myfyriol cynaliadwy.<\/li>\n<li><strong>Myfyriwch gydag eraill.\u00a0<\/strong><br \/>\nDaw rhai o&#8217;n mewnwelediadau cyfoethocaf trwy ddeialog. Mae sgyrsiau mentora, arsylwadau cymheiriaid a chymunedau proffesiynol yn rhoi cyfleoedd i brofi syniadau, herio rhagdybiaethau, a gweld ein hymarfer trwy wahanol safbwyntiau.<\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>Sylw ar ymarfer:\u00a0<\/strong>Mae Andy McCluskey o&#8217;r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn rhannu sut mae ymarfer myfyriol wedi siapio ei ddatblygiad addysgol a&#8217;i daith Cymrodoriaeth ei hun. Trwy ei brofiadau, mae Andy yn archwilio sut y gall myfyrio ddod yn rhan ddilys o ymarfer bob dydd yn hytrach na dim ond gofyniad proffesiynol arall.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/cardiff.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=be358d14-ca0a-4ad0-b545-b4a400b48b96\">Gwyliwch fideo byr Andy yma<\/a><\/p>\n<h2><strong>Cyfeiriadau<\/strong><\/h2>\n<p><a href=\"http:\/\/orca.cf.ac.uk\/view\/allcardiffauthors\/A6601175.html\">Milton, E.\u00a0<\/a>a\u00a0<a href=\"http:\/\/orca.cf.ac.uk\/view\/allcardiffauthors\/A500021I.html\">Morgan, A.\u00a0<\/a>2023.\u00a0<a href=\"http:\/\/orca.cf.ac.uk\/164573\/\">Enquiry as a way of being: a practical framework to support leaders in both embracing the complexity of and creating the conditions for meaningful professional learning.<\/a>\u00a0Professional Development in Education 49 (6), tt.1072-1086. (<a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fdx.doi.org%2F10.1080%2F19415257.2023.2251122&amp;data=05%7C02%7CTinnucheC%40cardiff.ac.uk%7Caeb51af4bd40444c08e708def922ded1%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C639222125334241043%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=3xMe%2Bwf8JwrMArazWPTZslbgFkuYZl44KLiUQzwwpa8%3D&amp;reserved=0\">10.1080\/19415257.2023.2251122<\/a>)<\/p>\n<p>Pennington,\u00a0H.\u00a0a Lewis, A. (2025) \u00a0<a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fthesedablog.wordpress.com%2F2025%2F11%2F06%2Fwalking-the-talk-making-space-for-reflective-practice-in-education-development%2F&amp;data=05%7C02%7CTinnucheC%40cardiff.ac.uk%7Caeb51af4bd40444c08e708def922ded1%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C639222125334286328%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=xml513L4N2kEB7Xyk9W7ms66wTsohFoXJ%2B711D5TBoM%3D&amp;reserved=0\">Walking the Talk: Making space for reflective practice in education development\u00a0 | The SEDA Blog<\/a><\/p>\n<p>Sch\u00f6n, D. (1983)\u00a0The\u00a0Reflective Practitioner. Efrog Newydd: Basic Books<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Blog-bost wedi\u2019i ysgrifennu gan Heather Pennington, Alyson Lewis, Andy McCluskey o'r Academi Dysgu ac Addysgu.","protected":false},"author":6921,"featured_media":6583,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[921],"tags":[],"custom_author":[1142,1143,1071],"class_list":["post-6585","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymrodoriaethau-addysg","custom_author-alyson-lewis","custom_author-andy-mccluskey","custom_author-heather-pennington"],"lang":"cy","translations":{"cy":6585,"en":6582},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1Id","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/09\/Picture1.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6585","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6585"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6585\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6586,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6585\/revisions\/6586"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6583"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6585"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6585"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6585"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6585"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}