{"id":6567,"date":"2026-09-10T16:00:25","date_gmt":"2026-09-10T15:00:25","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6567"},"modified":"2026-09-08T10:48:57","modified_gmt":"2026-09-08T09:48:57","slug":"y-tu-hwnt-ir-allbwn-beth-all-ymarferwyr-addysg-uwch-ei-ddysgu-o-greu-ar-y-cyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/y-tu-hwnt-ir-allbwn-beth-all-ymarferwyr-addysg-uwch-ei-ddysgu-o-greu-ar-y-cyd\/","title":{"rendered":"Y tu hwnt i&#8217;r allbwn: Beth all ymarferwyr addysg uwch ei ddysgu o greu ar y cyd?"},"content":{"rendered":"<p>Erthygl blog gan y dim Cymrodoriaeth Addysg yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n<p>Sut gall prifysgolion greu cyfleoedd dysgu proffesiynol sydd wir yn ymateb i anghenion cydweithwyr? A sut gellir defnyddio\u2019r arbenigedd sy&#8217;n bodoli yn y sefydliad i gefnogi\u2019r broses o wella dysgu ac addysgu?<\/p>\n<p>Ers 2023, mae Rhaglenni Cymrodoriaeth Prifysgol Caerdydd wedi ystyried y cwestiynau hyn drwy gyfres o ddigwyddiadau creu ar y cyd sy&#8217;n dod \u00e2 chyfranogwyr y Rhaglenni Cymrodoriaeth ynghyd i fynd i&#8217;r afael \u00e2 heriau addysgol ar y cyd a datblygu adnoddau ymarferol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r digwyddiad diweddaraf yn cynnig enghraifft o sut y gall llais y cyfranogwyr fod yn sail i ddysgu proffesiynol ystyrlon. Amlygodd adborth gan gydweithwyr awydd i ystyried heriau sy&#8217;n gysylltiedig ag ymddygiad yn fanylach. Mewn ymateb, yn hytrach na datblygu adnoddau&#8217;n ganolog, gwahoddodd t\u00eem y Rhaglenni Cymrodoriaeth gymuned ehangach y Gymrodoriaeth i gydweithio i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r angen hwn a nodwyd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r syniad bod dysgu yn gymdeithasol yn ei hanfod yn sail i\u2019r dull hwn. Mae Mercer (2000) yn disgrifio <em>rhyng-feddwl<\/em> fel y broses lle mae pobl yn defnyddio deialog i feithrin dealltwriaeth gyffredin. Yn hytrach na gweld arbenigedd fel rhywbeth sy&#8217;n perthyn i gr\u0175p bach o arbenigwyr, mae dulliau cydweithredol yn cydnabod bod gwybodaeth werthfawr yn bodoli ym mhob rhan o gymuned broffesiynol.<\/p>\n<h2><strong>Beth all ymarferwyr addysg uwch ei ddysgu o&#8217;r dull hwn?<\/strong><\/h2>\n<ul>\n<li><strong>Dechreuwch gydag anghenion dilys ymarferwyr.<\/strong> Yn aml, mae dysgu proffesiynol fwyaf ystyrlon pan gaiff ei lunio gan heriau sy&#8217;n codi&#8217;n uniongyrchol o ymarfer yn hytrach nag agend\u00e2u datblygu sydd wedi&#8217;u pennu ymlaen llaw.<\/li>\n<li><strong>Creu cyfleoedd i feithrin gwybodaeth ar y cyd.<\/strong> Mae cynllunio mannau strwythuredig ar gyfer deialog, myfyrio ac ymholi yn galluogi cydweithwyr i rannu arbenigedd, herio rhagdybiaethau a datblygu dealltwriaeth ar y cyd o faterion addysgol cymhleth.<\/li>\n<li><strong>Cydnabod cydweithwyr fel cyd-grewyr gwybodaeth broffesiynol.<\/strong> Yn hytrach na gweld arbenigedd fel rhywbeth sy&#8217;n perthyn i gr\u0175p bach o arbenigwyr, mae dulliau cydweithredol yn defnyddio profiadau a dealltwriaeth sy&#8217;n bodoli ym mhob rhan o\u2019r gymuned broffesiynol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Fel gyda&#8217;r allbynnau o ddigwyddiadau creu ar y cyd tebyg yn 2024 a 2025, bydd yr adnoddau a gynhyrchir drwy&#8217;r digwyddiad hwn yn dod yn rhan o ddarpariaeth barhaus Rhaglenni\u2019r Gymrodoriaeth, gan sicrhau bod y ddealltwriaeth a&#8217;r arbenigedd a geir gan gyfranogwyr yn parhau i gefnogi carfanau yn y dyfodol. Ar yr un pryd, mae&#8217;r broses wedi cryfhau cysylltiadau ym mhob rhan o gymuned y Gymrodoriaeth, gan ddangos sut y gall creu ar y cyd fod yn fecanwaith pwerus ar gyfer dysgu ar y cyd, meithrin capasiti a gwella addysgol.<\/p>\n<p>Dyma ddywedodd un o&#8217;n crewyr ar y cyd am gymryd rhan yn nigwyddiad creu ar y cyd 2026:<\/p>\n<p><em>\u201cRhoddodd y gweithdy gyfle i staff edrych ar broblemau a brofwyd ac ymgysylltu ag eraill mewn adrannau a phynciau eraill wrth weithio tuag atyn nhw. Gall deall senarios o wahanol safbwyntiau arwain at liniaru, adnabod atebion realistig a ffyrdd amgen o wneud pethau. Roedd yn brofiad cadarnhaol iawn &#8230; Fel rhywun sy\u2019n gweithio yn y gwasanaethau proffesiynol, dydw i ddim yn defnyddio fy sgiliau addysgu blaenorol i&#8217;r un graddau bellach. Felly, roedd hi\u2019n wych gwybod bod fy mhrofiad a\u2019m gwybodaeth yn dal i fod o werth a bod modd eu defnyddio mewn cyd-destun ychydig yn wahanol\u201d.<\/em><\/p>\n<p>Edrychwn ymlaen at wahodd cydweithwyr i&#8217;n digwyddiad creu ar y cyd yn yr haf 2027! I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, gweler y <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/students\/study\/postgraduate-research-support\/postgraduate-research-students-teaching-support\/learning-and-teaching-development\/events-and-training\/learning-and-teaching-cpd-programme-202627\">cynnig DPP ar gyfer 26\/27<\/a><\/p>\n<p><strong>Cyfeirnod: <\/strong>Mercer, N. (2000) <em>Words and Minds: How We Use Language to Think Together<\/em>. (Llundain: Routledge<\/p>\n<p><strong>Rhagor o ddeunydd darllen:<\/strong> Bovill, C. (2019). <a href=\"https:\/\/mulpress.mcmaster.ca\/ijsap\/article\/view\/3953\">A co-creation of learning and teaching typology: What kind of co-creation are you planning or doing?<\/a>. <em>International Journal for Students as Partners<\/em>, <em>3<\/em>(2), 91\u201398. <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.15173\/ijsap.v3i2.3953\">https:\/\/doi.org\/10.15173\/ijsap.v3i2.3953<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Erthygl blog gan y dim Cymrodoriaeth Addysg yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.","protected":false},"author":6921,"featured_media":6565,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[921],"tags":[],"custom_author":[1139],"class_list":["post-6567","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymrodoriaethau-addysg","custom_author-fellowships-team"],"lang":"cy","translations":{"cy":6567,"en":6563},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1HV","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/09\/Image-for-co-creation-blog_HP-AL-MW-LB.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6567","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6567"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6567\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6568,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6567\/revisions\/6568"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6565"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6567"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6567"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6567"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6567"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}