{"id":6536,"date":"2026-09-08T10:38:36","date_gmt":"2026-09-08T09:38:36","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6536"},"modified":"2026-09-08T10:38:43","modified_gmt":"2026-09-08T09:38:43","slug":"cyfryngau-cymdeithasol-i-bawb-camau-syml-i-wella-hygyrchedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/cyfryngau-cymdeithasol-i-bawb-camau-syml-i-wella-hygyrchedd\/","title":{"rendered":"Cyfryngau cymdeithasol i bawb: camau syml i wella hygyrchedd"},"content":{"rendered":"<p>Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd bwerus o gysylltu \u00e2 myfyrwyr, cydweithwyr a&#8217;r gymuned ehangach, ond os nad yw hygyrchedd yn cael ei ystyried, efallai y bydd rhai pobl yn colli gwybodaeth bwysig neu&#8217;n ei chael yn anodd i ddeall eich cynnwys. Y newyddion da yw bod ychydig o newidiadau syml yn gwneud cryn wahaniaeth ac yn helpu i sicrhau bod eich neges yn cyrraedd cynifer o bobl \u00e2 phosibl.<\/p>\n<p>Dyma rai ffyrdd ymarferol o wneud eich cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn fwy hygyrch:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ychwanegwch destun amgen at y delweddau<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae testun amgen yn disgrifio delwedd i bobl sy&#8217;n defnyddio darllenyddion sgrin. Mae&#8217;r rhan fwyaf o blatfformau\u2019r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys X, Facebook, LinkedIn, ac Instagram, yn caniat\u00e1u ichi ychwanegu testun amgen wrth uwchlwytho delweddau. Wrth ychwanegu testun amgen, canolbwyntiwch ar ddiben y ddelwedd a&#8217;r neges allweddol yn hytrach na disgrifio pob manylyn. Dyma ragor am <a href=\"https:\/\/www.w3.org\/WAI\/tutorials\/images\/\">ysgrifennu testun alt effeithiol gan yr WC3 Web Accessibility Initiative<\/a>.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Rhowch gapsiynau yn eich fideos bob amser<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae capsiynau yn helpu pobl ag amhariad ar y clyw i gyrchu cynnwys fideo, ac maen nhw hefyd o fudd i ddefnyddwyr sy&#8217;n gwylio mewn lleoedd swnllyd neu sydd wedi diffodd y sain. Mae llawer o blatfformau yn darparu capsiynau awtomatig, ond dylid adolygu&#8217;r rhain bob amser am gywirdeb cyn eu cyhoeddi a phan fo hynny&#8217;n bosibl dylid darparu trawsgrifiad.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Defnyddiwch emojis mewn ffordd ystyriol<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae emojis yn ychwanegu personoliaeth ac yn rhoi hwb i\u2019r ymgysylltu, ond yn aml mae eu defnyddio\u2019n ormodol yn creu anawsterau i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Mae darllenyddion sgrin yn cyhoeddi pob emoji yn unigol, ac felly bydd postiadau yn anodd i\u2019w dilyn weithiau. Defnyddiwch emojis yn gynnil gan osgoi eu rhoi yng nghanol brawddegau lle maen nhw\u2019n torri ar draws llif y cynnwys hwyrach.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ysgrifennwch hashnodau clir<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn achos hashnodau, defnyddiwch lythyren fras ar gyfer llythyren gyntaf pob gair (sef CamelCase) gan y bydd hyn yn ei gwneud hi&#8217;n haws i bawb ei ddarllen ac i ddarllenyddion sgrin ddehongli\u2019r neges yn gywir.<\/p>\n<p>Er enghraifft: #DiwrnodAgoredPrifysgolCaerdydd nid\u00a0#diwrnodagoredprifysgolcaerdydd<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Defnyddiwch Saesneg clir<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Gwnewch y postiadau yn gryno ac yn hawdd eu deall drwy osgoi jargon diangen, acronymau heb eu hesbonio ac iaith sy\u2019n rhy gymhleth. Mae cyfathrebu clir o fudd i bob defnyddiwr ac yn helpu i sicrhau bod eich neges yn cael ei deall yn gyflym.<\/p>\n<h2>Rhagor o wybodaeth<\/h2>\n<p>Am arweiniad ychwanegol ewch i:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/blog.hootsuite.com\/social-media-accessibility\/\">Hygyrchedd cyfryngau cymdeithasol Hootsuite ac awgrymiadau am ddylunio cynhwysol<\/a><\/li>\n<li>Canllawiau gan Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Deillion (RNIB) <a href=\"https:\/\/www.rnib.org.uk\/living-with-sight-loss\/assistive-aids-and-technology\/tv-audio-and-gaming\/guide-to-accessible-social-media\/\">How to make your social media accessible<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.communications.gov.uk\/guidance\/digital-communication\/planning-creating-and-publishing-accessible-social-media-campaigns\/\">Planning, creating and publishing accessible social media campaigns<\/a> gan Gov.uk<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Angen cymorth arnoch chi?<\/h2>\n<p>Am fwy o awgrymiadau ar wella hygyrchedd, darllenwch y <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_22925\">Canllaw Hygyrchedd Digidol<\/a> heddiw a rhowch hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd addysgu a dysgu eleni.<\/p>\n<h2>Cysylltwch \u00e2 ni<\/h2>\n<p>Os hoffech chi ragor o gymorth neu os oes gennych chi awgrymiadau ar gyfer pynciau blog at y dyfodol, cysylltwch \u00e2&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu gan e-bostio <a href=\"mailto:LTAcademy@cardiff.ac.uk\">LTAcademy@caerdydd.ac.uk<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.","protected":false},"author":6921,"featured_media":6539,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1064,1071],"class_list":["post-6536","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-alex-stewart","custom_author-heather-pennington"],"lang":"cy","translations":{"cy":6536,"en":6534},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1Hq","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/08\/5e968073-5761-44bb-a562-15c8b141c73d.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6536","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6536"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6536\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6537,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6536\/revisions\/6537"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6539"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6536"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6536"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6536"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6536"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}