{"id":6520,"date":"2026-08-11T11:43:27","date_gmt":"2026-08-11T10:43:27","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6520"},"modified":"2026-08-12T08:39:31","modified_gmt":"2026-08-12T07:39:31","slug":"cyd-greu-a-phartneriaeth-ar-gyfer-dysgu-cynhwysol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/cyd-greu-a-phartneriaeth-ar-gyfer-dysgu-cynhwysol\/","title":{"rendered":"Cyd-greu a Phartneriaeth ar gyfer Dysgu Cynhwysol"},"content":{"rendered":"<h2>Cyd-destun<\/h2>\n<p>Mae cyd-greu a phartneriaeth yn chwarae rhan ganolog mewn addysg gynhwysol. Mae ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr fel partneriaid, yn hytrach na derbynwyr, yn helpu i feithrin perchnogaeth, cryfhau ymdeimlad o berthyn a chreu amgylcheddau dysgu lle mae safbwyntiau myfyrwyr wir yn llunio profiadau addysgol. Mae cyd-greu yn cyfoethogi profiadau dysgu drwy dynnu ar hunaniaethau, cefndiroedd a syniadau amrywiol myfyrwyr, gan helpu i feithrin addysgegau sy\u2019n fwy diwylliannol ymatebol a mannau academaidd cynhwysol.<\/p>\n<p>Ym Mhrifysgol Caerdydd, de\u00ebllir a gweithredir partneriaeth fel proses bwrpasol sy\u2019n canolbwyntio ar welliant lle mae\u2019r staff a myfyrwyr yn gweithio gyda\u2019i gilydd, gan roi gwerth cyfartal ar y syniadau penodol y mae pob un yn eu cynnig. Mae\u2019n pwysleisio tryloywder, gwneud penderfyniadau ar y cyd, a chynnwys myfyrwyr nid yn unig fel cyfranwyr ond hefyd fel cyd-ddylunwyr o arferion a phrofiadau dysgu.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/\">Am ragor o wybodaeth, gweler Pecyn Cymorth Datblygu Addysg Caerdydd.<\/a><\/p>\n<h2>Gweithredu<\/h2>\n<p>Mae cyd-greu yn weithredol ac yn fyfyriol, gan ddatblygu\u2019n naturiol drwy ddeialog ac ymchwil ar y cyd. Gallai strategaethau ymarferol ar gyfer ymgorffori cyd-greu gynnwys y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Dulliau addysgu cydweithredol sy\u2019n gwahodd myfyrwyr i gyfrannu eu safbwyntiau, gan gyfoethogi trafodaethau academaidd.<\/li>\n<li>Strategaethau diwylliannol ymatebol sy\u2019n cydnabod a gwerthfawrogi profiadau a hunaniaethau amrywiol myfyrwyr.<\/li>\n<li>Cyfathrebu\u2019n fwriadol, gan egluro bod myfyrwyr yn bartneriaid y mae eu cyfraniadau yn arwain at newid go iawn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Un ystyriaeth bwysig o ran cynhwysiant yw bod rhaid i gyd-greu beidio \u00e2 rhoi mantais anfwriadol i fyfyrwyr sydd eisoes \u00e2 hyder neu gysylltiadau da. Heb ddylunio meddylgar, mae risg y bydd gweithgarwch partneriaeth yn dod yn hygyrch i gr\u0175p bach o fyfyrwyr \u201csydd \u00e2 diddordeb mawr\u201d yn unig. Mae angen cynllunio bwriadol er mwyn ehangu cyfranogiad a sicrhau bod yr holl fyfyrwyr, yn enwedig y rhai sy\u2019n wynebu rhwystrau anweledig neu strwythuredig, yn cael cyfleoedd i gyfrannu.<\/p>\n<h2>Arddangos arferion<\/h2>\n<p>Ledled y Brifysgol, mae staff yn mabwysiadu ystod o ddulliau partneriaeth, o gyd-gynllunio gweithgareddau dysgu i gynnwys myfyrwyr yn y gwaith o fframio problemau, adolygu arferion asesu a llunio gwelliannau ar lefel rhaglen.<\/p>\n<p>Ddydd Mercher 17 Mehefin 2026, gwnaeth Heather Pennington a Dr Alyson Lewis, sy\u2019n gyd-arweinwyr y Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt, weithio gyda Dr Michael Willett a Dr Laura Barritt, sy\u2019n arweinwyr y Gymrodoriaeth, i hwyluso eu digwyddiad cyd-greu blynyddol. Dros y tair blynedd diwethaf, mae\u2019r digwyddiadau hyn wedi dwyn cyfranogwyr y Rhaglen Gymrodoriaeth, mentoriaid, carfannau blaenorol a chyn-fyfyrwyr ynghyd i nodi heriau addysgol a datblygu ymatebion ymarferol ar y cyd.<\/p>\n<p>Ymatebodd y digwyddiad eleni yn uniongyrchol i adborth gan fforymau cyfranogwyr y Rhaglen Gymrodoriaeth, lle nododd cydweithwyr alw am fwy o gymorth i reoli ymddygiadau heriol a sefyllfaoedd anodd mewn cyd-destunau addysgol. Yn hytrach na datblygu adnoddau\u2019n ganolog, gwahoddwyd cymuned y Gymrodoriaeth i weithio gyda\u2019i gilydd i fwrw golwg ar y mater, rhannu profiadau a chyd-greu adnoddau i\u2019w defnyddio yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Dangosodd y digwyddiad y ffordd y gall dysgu proffesiynol gael ei lunio gan anghenion dilys yr ymarferydd a\u2019r arbenigedd sy\u2019n bodoli ledled cymuned broffesiynol. Nid yn unig y gofynnwyd i gyfranogwyr roi eu barn ar ddeunyddiau sydd eisoes yn bodoli; drwy ddeialog, myfyrio ac ymholi ar y cyd, cyfrannon nhw\u2019n weithredol at lunio adnoddau a fydd yn sail i fersiynau o&#8217;r Rhaglen Gymrodoriaeth yn y dyfodol. Felly, ni chynhyrchodd y broses allbynnau ymarferol yn unig, ond hefyd cryfhaodd berthnasoedd a dysgu ar y cyd ledled y gymuned o Gymrodyr.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/\">Am ragor o wybodaeth, gweler Pecyn Cymorth Datblygu Addysg Caerdydd.<\/a><\/p>\n<h2>Effaith<\/h2>\n<p>Lle mae cyd-greu yn cael ei ymgorffori mewn ymarfer, mae cydweithwyr yn gweld amgylcheddau dysgu mwy ymatebol a chynhwysol gyda mwy o berchnogaeth gan fyfyrwyr a deialog gyfoethocach. Mae ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr wrth wneud penderfyniadau yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar brofiadau dysgwyr a\u2019r rhwystrau y maen nhw\u2019n eu hwynebu, gan alluogi newidiadau sy\u2019n decach ac sy\u2019n cyd-fynd yn well ag anghenion dysgwyr.<\/p>\n<h2><span data-ccp-props=\"{}\">Myfyrdodau \/ Beth sydd nesaf? <\/span><\/h2>\n<p>Fel addysgwyr, gallwn ni ddatblygu ein harferion partneriaeth drwy ofyn y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Lleisiau pwy sy\u2019n llunio fy modiwl, a phwy sydd ar goll o\u2019r sgwrs?<\/li>\n<li>Ble gallai myfyrwyr chwarae rhan fwy wrth ddylanwadu ar gynllunio dysgu, asesu neu brosesau adborth?<\/li>\n<li>Sut ydw i\u2019n dangos bod cyfraniadau myfyrwyr nid yn unig yn cael eu croesawu ond eu bod hefyd yn ddylanwadol?<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae cyd-greu effeithiol yn dryloyw, yn gynhwysol ac wedi\u2019i seilio mewn parch at ei gilydd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2 id=\"post-6131 media-6131\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/02\/Screenshot-2026-02-26-103001.png\" alt=\"\" width=\"218\" height=\"287\" \/>Man cychwyn<\/h2>\n<p class=\"image align-none\">I ysgogi syniadau, dyma ambell gwestiwn i\u2019ch helpu i feddwl am yr agwedd hon ar addysg gynhwysol yn eich cyd-destun eich hun:<\/p>\n<ul>\n<li>Sut gallech chi greu gweithgaredd cyd-ddylunio bach yn eich modiwl nesaf?<\/li>\n<li>Pa fyfyrwyr a allai gael eu heithrio\u2019n anfwriadol o gyfleoedd partneriaeth?<\/li>\n<li>Beth yw un penderfyniad y gallech chi ei wneud gyda myfyrwyr, yn hytrach nag ar eu cyfer?<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r cofnod blog hwn yn tynnu sylw at sut mae cyd-greu a phartneriaeth rhwng staff a myfyrwyr yn meithrin profiadau addysgol mwy cynhwysol, ymatebol a chyfartal trwy werthfawrogi lleisiau myfyrwyr, rhannu penderfyniadau, a sicrhau bod gan bob dysgwr gyfleoedd ystyrlon i lunio addysgu, dysgu a datblygu rhaglenni.","protected":false},"author":7173,"featured_media":6530,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1095],"tags":[],"custom_author":[1102],"class_list":["post-6520","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-gynhwysol","custom_author-inclusive-education-team"],"lang":"cy","translations":{"cy":6520,"en":6516},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1Ha","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/08\/e1eb0f38-3b02-45a9-b02d-76d44e18413a-e1786521513347.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6520","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7173"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6520"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6520\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6524,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6520\/revisions\/6524"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6530"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6520"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6520"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6520"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6520"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}