{"id":6476,"date":"2026-07-15T16:28:56","date_gmt":"2026-07-15T15:28:56","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6476"},"modified":"2026-07-16T09:18:27","modified_gmt":"2026-07-16T08:18:27","slug":"amlygu-astudiaeth-achos-arddangosfa-posters-in-parliament","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/amlygu-astudiaeth-achos-arddangosfa-posters-in-parliament\/","title":{"rendered":"Amlygu Astudiaeth Achos: Arddangosfa \u2018Posters in Parliament\u2019"},"content":{"rendered":"<p>Mae Diogo Godoi yn rhannu sut y cafodd ei brofiad Interniaeth ar y campws ei enwebu ymhellach, yn yr arddangosfa Posteri yn y Senedd.<\/p>\n<p>Cafodd myfyrwyr carfan haf 2025 y cyfle cyffrous i gael eu henwebu ar gyfer arddangosfa <em>Posters in Parliament<\/em>. Fe wnaeth hyn eu galluogi i arddangos eu gwaith i gynulleidfa genedlaethol ehangach a chael profiad gwerth chweil o gyflwyno mewn amgylchedd proffesiynol.<\/p>\n<p>Yn yr astudiaeth achos isod, mae&#8217;r intern Diogo Godoi yn myfyrio ar ei brofiad o&#8217;r cynllun, gan roi manylion am y cyfleoedd a gr\u00ebwyd ganddo a&#8217;r effaith barhaol a gafodd ar ei ddatblygiad.<\/p>\n<p>Mae taith Diogo yn amlygu sut y gall interniaeth sbarduno twf academaidd a phroffesiynol. Gall hefyd feithrin hyder, datblygu sgiliau allweddol, ehangu rhwydweithiau ac agor drysau i gyfleoedd y tu hwnt i&#8217;r lleoliad gwaith cychwynnol.<\/p>\n<h2><strong>Diogo Godoi<\/strong><\/h2>\n<p>Yr haf diwethaf, cefais y fraint o wneud interniaeth yn Hwb yr Ymennydd a Genomeg, gr\u0175p ymchwil sy&#8217;n ymchwilio i salwch meddwl difrifol ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Yn ystod yr interniaeth, cefais y cyfle i weithio wyneb yn wyneb \u00e2 chleifion yn ogystal \u00e2 helpu i gynnal astudiaeth ar raddfa fawr. Roedd yr astudiaeth yn cyfuno genomeg, niwro-ddelweddu, a data gwybyddol ac ymddygiadol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o natur a mecanweithiau anhwylderau seicotig. Rhoddodd y profiad y cyfle imi ddysgu cymaint am y cyflyrau hyn, yn ogystal \u00e2 sut y cynhelir ymchwil o safon fyd-eang yn ymarferol. Bu\u2019n rhaid imi hefyd ddatblygu fy sgiliau clinigol a meintiol, ac fe wnaeth yr amser a dreuliais ar y prosiect hwn ddyfnhau fy angerdd dros ymchwil ac fy annog i\u2019w dilyn ymhellach yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Ar ben hynny, cefais y cyfle i arwain prosiect ymchwil a edrychodd ar y ffactorau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 difrifoldeb uwch symptomau seicotig. Dangosodd ein canfyddiadau fod rhai o&#8217;r ffactorau risg seiciatrig cyffredin yn gysylltiedig \u00e2 difrifoldeb uwch o ran symptomau. Daeth i\u2019r amlwg fod cysylltiadau penodol rhwng rhai newidynnau penodol \u00e2 symptomau gwahanol, gan amlygu cymhlethdod y cyflyrau hyn.<\/p>\n<p>Ym mis Tachwedd, cefais y cyfle i gyflwyno&#8217;r canlyniadau hyn ar ffurf poster yn arddangosfa Interniaethau ar y Campws yng Nghaerdydd, yn ogystal \u00e2 rhoi cyflwyniad byr am y prosiect i gyd-fyfyrwyr ac academyddion. Yn dilyn hynny, dewiswyd y poster i&#8217;w gyflwyno yn arddangosfa &#8216;Posters in Parliament&#8217; yn Senedd y DU. Roedd yn brofiad gwefreiddiol, ac roedd yn wych gallu rhannu ein hymchwil ag Aelodau Seneddol a llunwyr polis\u00efau sy\u2019n gwneud penderfyniadau ar y lefelau uchaf.<\/p>\n<p>Yn fwy diweddar, cefais y fraint hefyd o gyflwyno&#8217;r prosiect hwn yng Nghyngres Seiciatreg Ewrop 2026 yn Prague, a rhannu ein hymchwil \u00e2 chlinigwyr ac ymchwilwyr o bob cwr o&#8217;r byd. Roedd dysgu o&#8217;r holl ddarlithoedd yn brofiad gwych yn ogystal \u00e2 gweld sut mae ymchwil ac arferion clinigol yn cydweithio i ddatblygu ein dealltwriaeth o salwch meddwl a\u2019r driniaeth ar ei chyfer. Roedd cyflwyno&#8217;r gwaith hwn mewn lleoliadau mor wahanol yn brofiad gwerth chweil, ac fe amlygodd pa mor bwysig yw cyfathrebu ymchwil wyddonol yn effeithiol ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd: O arbenigwyr i&#8217;r cyhoedd.<\/p>\n<p>Hoffwn ddiolch i d\u00eem cyfan Hwb yr Ymennydd a Genomeg: Lowri Evans, Blessing Omoregbee, Fevin Saji, Soumita Ramesh a Georgia Dash, am roi\u2019r fath groeso ac am ddysgu cymaint imi mewn cyfnod mor fyr. Diolch hefyd i Arweinwyr Ymchwil Hwb yr Ymennydd a Genomeg: James Walters a Neil Harrison am y cyfle hwn a&#8217;u harweiniad. Yn olaf, hoffwn ddiolch i fy ngoruchwylwyr anhygoel: Sophie Legge a Carolyn McNabb am eu gwaith mentora ac addysgu amhrisiadwy, ac am roi\u2019r profiad trawsnewidiol hwn imi.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwarwick.ac.uk%2Ffac%2Fcross_fac%2Fiatl%2Fresearch%2Fpresent%2Fpip%2Fphotogallery2026%2F&amp;data=05%7C02%7CLTAcademy%40cardiff.ac.uk%7Ca8d1e06082004f738add08de9899cc27%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C639115983578152922%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=m%2FygOwQu%2F5X0daP1rycCOghTm6in2osPi4dOobxfxdE%3D&amp;reserved=0\">Gwelwch lluniau o ddigwyddiad Posters in Parliament<\/a>.<\/p>\n<p class=\"jetpack-slideshow-noscript robots-nocontent\">This slideshow requires JavaScript.<\/p><div id=\"gallery-6476-1-slideshow\" class=\"jetpack-slideshow-window jetpack-slideshow jetpack-slideshow-black\" data-trans=\"fade\" data-autostart=\"1\" data-gallery=\"[{&quot;src&quot;:&quot;https:\\\/\\\/blogs.cardiff.ac.uk\\\/LTAcademy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/286\\\/2026\\\/07\\\/260226postersinparliament_096-1.jpg&quot;,&quot;id&quot;:&quot;6477&quot;,&quot;title&quot;:&quot;260226postersinparliament_096&quot;,&quot;alt&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;itemprop&quot;:&quot;image&quot;},{&quot;src&quot;:&quot;https:\\\/\\\/blogs.cardiff.ac.uk\\\/LTAcademy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/286\\\/2026\\\/07\\\/260226postersinparliament_205-1.jpg&quot;,&quot;id&quot;:&quot;6478&quot;,&quot;title&quot;:&quot;260226postersinparliament_205&quot;,&quot;alt&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;itemprop&quot;:&quot;image&quot;},{&quot;src&quot;:&quot;https:\\\/\\\/blogs.cardiff.ac.uk\\\/LTAcademy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/286\\\/2026\\\/07\\\/IMG-20260225-WA0035-1.jpg&quot;,&quot;id&quot;:&quot;6479&quot;,&quot;title&quot;:&quot;IMG-20260225-WA0035&quot;,&quot;alt&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;itemprop&quot;:&quot;image&quot;},{&quot;src&quot;:&quot;https:\\\/\\\/blogs.cardiff.ac.uk\\\/LTAcademy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/286\\\/2026\\\/07\\\/260226postersinparliament_020-1.jpg&quot;,&quot;id&quot;:&quot;6480&quot;,&quot;title&quot;:&quot;260226postersinparliament_020&quot;,&quot;alt&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;itemprop&quot;:&quot;image&quot;},{&quot;src&quot;:&quot;https:\\\/\\\/blogs.cardiff.ac.uk\\\/LTAcademy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/286\\\/2026\\\/07\\\/20250729_1617351-1-scaled.jpg&quot;,&quot;id&quot;:&quot;6481&quot;,&quot;title&quot;:&quot;20250729_161735(1)&quot;,&quot;alt&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;itemprop&quot;:&quot;image&quot;}]\" itemscope itemtype=\"https:\/\/schema.org\/ImageGallery\"><\/div>\n<h2>Cynllun Interniaeth ar y campws<\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/study\/student-life\/student-support\/careers-and-employability\/on-campus-internship-opportunities\">Dysgwch fwy am ein cynllun<\/a> &#8211; cyfle i israddedigion gymryd rhan mewn lleoliad haf \u00e2 th\u00e2l yn amgylchedd ymchwil, dysgu ac addysgu&#8217;r brifysgol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Diogo Godoi yn rhannu sut y cafodd ei brofiad Interniaeth ar y campws ei enwebu ymhellach, yn yr arddangosfa Posteri yn y Senedd.","protected":false},"author":7158,"featured_media":6473,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1006],"tags":[],"custom_author":[1058],"class_list":["post-6476","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-interniaethau-ar-y-campws","custom_author-katherine-evans"],"lang":"cy","translations":{"cy":6476,"en":6467},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1Gs","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/07\/260226postersinparliament_205.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6476","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7158"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6476"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6476\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6487,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6476\/revisions\/6487"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6473"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6476"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6476"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6476"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6476"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}