{"id":6457,"date":"2026-07-14T10:00:34","date_gmt":"2026-07-14T09:00:34","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6457"},"modified":"2026-07-07T14:52:27","modified_gmt":"2026-07-07T13:52:27","slug":"gwnewch-ich-data-gyfrif-llunio-siartiau-a-graffiau-hygyrch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/gwnewch-ich-data-gyfrif-llunio-siartiau-a-graffiau-hygyrch\/","title":{"rendered":"Gwnewch i&#8217;ch data gyfrif: llunio siartiau a graffiau hygyrch"},"content":{"rendered":"<p>Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart o&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/about\/our-profile\/who-we-are\/education\/cardiff-learning-and-teaching-academy\">Academi Dysgu ac Addysgu<\/a>.<\/p>\n<p>Mae siartiau a graffiau yn offer pwerus ar gyfer cyflwyno data mewn ffordd glir a diddorol ond heb eu llunio\u2019n feddylgar, gallan nhw greu rhwystrau i rai dysgwyr. I fyfyrwyr sy&#8217;n defnyddio rhaglenni darllen sgr\u00een neu&#8217;r rhai sydd \u00e2 nam ar eu golwg, gall delweddau sydd wedi&#8217;u llunio&#8217;n wael wneud gwybodaeth allweddol yn anodd, neu&#8217;n amhosibl, i&#8217;w chael.<\/p>\n<p>Nid arfer da yn unig yw creu siartiau hygyrch, mae&#8217;n cefnogi ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i addysg gynhwysol ac yn helpu i gyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus.<\/p>\n<p>Dyma rai ffyrdd syml o wneud eich delweddau&#8217;n fwy cynhwysol:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Defnyddiwch destun sy\u2019n disgrifio (nid testun amgen yn unig)<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Dylai testun amgen roi crynodeb byr o bwrpas y siart, ond dylid egluro&#8217;r brif neges yn y testun o&#8217;i gwmpas hefyd. Er enghraifft: \u201cSiart bar yn dangos cynnydd o 30% yn nifer y myfyrwyr a ymrestrodd rhwng 2020 a 2024.\u201d Mae hyn yn sicrhau y gall pob defnyddiwr ddeall yr wybodaeth allweddol.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Cynhwyswch dablau data a lawrlwythiadau<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae rhoi&#8217;r data sylfaenol mewn tabl yn gwneud siartiau&#8217;n hygyrch mewn fformat anweledol. Lle bo\u2019n bosibl, cynigiwch fersiwn y mae modd ei lawrlwytho hefyd (e.e. Excel) er mwyn i ddefnyddwyr ymdrin \u00e2&#8217;r data mewn ffordd sy&#8217;n gweithio iddyn nhw.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Defnyddiwch deitlau a labeli ystyrlon<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Gwnewch i deitl eich siart wneud mwy na disgrifio, defnyddiwch ef i amlygu&#8217;r brif wybodaeth. Lle bo\u2019n bosibl, labelwch ddata&#8217;n uniongyrchol yn hytrach na dibynnu ar allweddi, sydd weithiau yn anodd eu dehongli heb ddibynnu ar liw.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Peidiwch \u00e2 defnyddio lliw yn unig i gyfleu ystyr<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Ni ddylid defnyddio lliw yn unig i ddangos gwahaniaethau mewn data. Defnyddiwch labeli, patrymau, neu weadau (e.e. streipiau neu smotiau) i wneud categor\u00efau&#8217;n glir i ddefnyddwyr sydd \u00e2 gwahaniaethau golwg lliw.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Sicrhewch gyferbyniad a darllenadwyedd da<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Dewiswch liwiau \u00e2 chyferbyniad uchel a chadw\u2019r testun (labeli\u2019r echelinau, allweddi, anodiadau) yn fawr ac yn glir. Defnyddiwch ffont syml, sans serif ac osgoi cylchdroi testun lle bo modd, gan y gall hyn wneud darllen yn fwy anodd.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Cadwch bethau\u2019n syml<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Ceisiwch osgoi annibendod, megis llinellau grid diangen, effeithiau 3D, neu fathau o siartiau sy\u2019n rhy gymhleth. Mae delweddau clir yn haws i bawb eu deall ac yn fwy hygyrch.<\/p>\n<h2>Gwybodaeth bellach<\/h2>\n<p>I&#8217;r rhai sydd \u00e2 diddordeb mewn dysgu rhagor am y pwnc, edrychwch ar <a href=\"https:\/\/analysisfunction.civilservice.gov.uk\/policy-store\/charts-a-checklist\/\">Restr Wirio Siartiau Hygyrch GOV.UK<\/a> a chanllawiau Delweddau a Chynnwys Cymhleth W3C am ragor o awgrymiadau, enghreifftiau ymarferol, ac arferion gorau.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r adnodd newydd, <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_24638\">Ystyried Diffyg Golwg Lliw<\/a> gan yr Academi Dysgu ac Addysgu yn cynnig awgrymiadau, cyngor a strategaethau ymarferol er mwyn gwneud deunyddiau ac adnoddau dysgu yn fwy hygyrch i bobl sy&#8217;n byw gyda Diffyg Golwg Lliw (CVD).<\/p>\n<h2>Angen cymorth?<\/h2>\n<p>Am fwy o awgrymiadau ar wella hygyrchedd, darllenwch y <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_22925\">Canllaw Hygyrchedd Digidol<\/a> heddiw a rhowch hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd addysgu a dysgu eleni.<\/p>\n<h2><strong>Cysylltu \u00e2 ni\u00a0<\/strong><\/h2>\n<p>Os hoffech chi gael rhagor o gymorth neu os oes gennych awgrymiadau ar gyfer pynciau blog at y dyfodol, cysylltwch \u00e2&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu drwy <a href=\"mailto:LTAcademy@cardiff.ac.uk\">LTAcademy@caerdydd.ac.uk<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart o'r Academi Dysgu ac Addysgu.","protected":false},"author":6921,"featured_media":6453,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1064,1071],"class_list":["post-6457","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-alex-stewart","custom_author-heather-pennington"],"lang":"cy","translations":{"cy":6457,"en":6452},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1G9","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/07\/0230c26b-3a77-4d5f-9471-6b319e6b7650.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6457","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6457"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6457\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6459,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6457\/revisions\/6459"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6453"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6457"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6457"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6457"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6457"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}