{"id":6384,"date":"2026-06-02T13:14:35","date_gmt":"2026-06-02T12:14:35","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6384"},"modified":"2026-06-02T13:18:03","modified_gmt":"2026-06-02T12:18:03","slug":"o-brosesau-i-bobl-fy-mhrofiad-yn-y-tim-cyllid-myfyrwyr-gofal-iechyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/o-brosesau-i-bobl-fy-mhrofiad-yn-y-tim-cyllid-myfyrwyr-gofal-iechyd\/","title":{"rendered":"O Brosesau i Bobl: Fy mhrofiad yn y T\u00eem Cyllid Myfyrwyr Gofal Iechyd"},"content":{"rendered":"<p>Mae Mike Schofield, Student Features yn rhannu ei brofiad o ennill Gwobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr (ESLA).<\/p>\n<p>Pan ymunais i \u00e2 Th\u00eem Cyllid Myfyrwyr Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd ym mis Awst 2022, roedd cwmpas y r\u00f4l yn gyfyngedig iawn. Prif ddiben y t\u00eem yn bennaf oedd ad-dalu treuliau lleoliadau myfyrwyr. Ar y pryd, yr amser ymateb oedd tua chwe wythnos, ac roedd t\u00eem o dri o bobl yn ymdrin \u00e2\u2019r rhain. Roedd y rhan fwyaf o\u2019n gweithgarwch o ddydd i ddydd yn cynnwys prosesu hawliadau ac ymateb i e-byst.<\/p>\n<p>Erbyn diwedd fy nghyfnod yno, sef tair mlynedd a hanner yn ddiweddarach, roedd yr un r\u00f4l yn wahanol iawn.<\/p>\n<h2><strong>Dechrau drwy ddeall<\/strong><\/h2>\n<p>Pan oedd ond un person yn gweithio yn y t\u00eem, ro\u2019n i\u2019n gwybod nad oedd parhau \u00e2\u2019r sefyllfa\u2019n mynd i weithio. Cyn gwneud newidiadau, treuliais i amser yn dysgu\u2019r maes yn drwyadl. Es i i\u2019r afael \u00e2 bob agwedd ar y rheolau a\u2019r gofynion o bob safbwynt, gan gynnwys y myfyrwyr, yr academyddion a\u2019n corff llywodraethol AaGIC. Roedd y sylfaen honno\u2019n allweddol gan ei fod yn golygu bod unrhyw newidiadau\u2019n cydymffurfio o hyd ac yn ymarferol.<\/p>\n<p>Ro\u2019n i\u2019n ffodus bod gen i reolwyr oedd yn ymddiried ynddo i. Er fy mod i\u2019n gweithio mewn r\u00f4l Gradd 3, roedd gen i\u2019r rhyddid i addasu\u2019r prosesau cyn belled fy mod i\u2019n cadw at y canllawiau. Roedd yr ymddiriedaeth honno\u2019n gyfle imi feddwl yn wahanol.<\/p>\n<h2><strong>Sicrhau bod prosesau yn gweithio i fyfyrwyr<\/strong><\/h2>\n<p>Un o\u2019r prif newidiadau cyntaf oedd symud i ffwrdd o ddefnyddio llu o daenlenni Excel. Roedd ysgolion a systemau gwahanol yn prosesu hawliadau mewn llu fersiynau ac roedd hyn yn achosi dryswch, oedi a gwallau.<\/p>\n<p>Es i ati i greu Ffurflen Microsoft a gefnogir gan Power Automate i gymryd lle\u2019r rheini. Roedd hyn yn caniat\u00e1u i\u2019r myfyrwyr gyflwyno hawliadau unrhyw le, cael cadarnhad yn syth, ac yn bwysicaf oll, lleihau\u2019r cyfnod talu o chwe wythnos i 10 diwrnod.<\/p>\n<p>Nid effeithlonrwydd yn unig oedd y newid hwn. Roedd wedi lleihau straen yn uniongyrchol. Mae baich aruthrol ar fyfyrwyr sydd ar leoliad clinigol yn barod. Ni ddylai aros am wythnosau i gael ad-daliad fod yn rhan o\u2019r profiad hwnnw.<\/p>\n<h2><strong>Bod yn weladwy a meithrin ymddiriedaeth<\/strong><\/h2>\n<p>Nid yw newid prosesau ar ei ben ei hun yn ddigon. Mae\u2019n rhaid i fyfyrwyr deimlo eu bod yn cael eu cefnogi.<\/p>\n<p>Cyflwynais i sgyrsiau Cyllid Gofal iechyd, gan siarad \u00e2 grwpiau o hyd at 200 o fyfyrwyr ar y tro. Roedd y sesiynau hyn yn ymdrin \u00e2 sut i hawlio, beth i\u2019w ddisgwyl a\u2019r camgymeriadau cyffredin, ond yr un mor bwysig, rhoddon nhw wyneb i\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n<p>Dyna sut ddechreuodd yr enw \u201cFinance Mike\u2019.<\/p>\n<p>Roedd y myfyrwyr yn teimlo\u2019n fwy hyderus am gysylltu \u00e2 ni oherwydd y cysylltiad hwnnw. Trodd yr ymholiadau yn sgyrsiau a\u2019r problemau yn atebion cyflym.<\/p>\n<h2><strong>Ehangu\u2019r gwasanaeth<\/strong><\/h2>\n<p>Dros amser, cymerais i gyfrifoldeb dros drefnu llety lleoliadau clinigol ledled Cymru i fyfyrwyr, sef tua 100 o fyfyrwyr bob mis o ogledd Cymru lawr i Sir Benfro.<\/p>\n<p>Cymerais i berchnogaeth dros fireinio\u2019r broses honno. Drwy gyflwyno llifoedd gwaith strwythuredig, gwella taenlenni a chronfeydd data a meithrin cysylltiadau cryf \u00e2 darparwyr llety, gwnaethon ni leihau\u2019r amseroedd ymateb o dair wythnos i ddau ddiwrnod yn unig.<\/p>\n<p>Yn bwysicaf fyth, gwnaethon ni greu rhwydwaith o bobl oedd wedi rhoi cartref oddi cartref go iawn i\u2019r myfyrwyr am hyd at dri mis yn ystod eu lleoliadau.<\/p>\n<p>Treuliwyd llawer o amser ar alwadau\u2019n rhoi tawelwch meddwl i fyfyrwyr am ble y bydden nhw\u2019n aros, gyda phwy a beth i\u2019w ddisgwyl. Roedd yr elfen ddynol honno yr un mor bwysig \u00e2\u2019r system y tu hwnt iddi.<\/p>\n<h2><strong>Gwella hygyrchedd a chyfleoedd<\/strong><\/h2>\n<p>Y gwaith \u00e2\u2019r boddhad mwyaf oedd adnabod bylchau a phwyso am newid.<\/p>\n<p>Sylwais i nad oedd rhai lleoliadau ysbyty penodol ym Mro Morgannwg yn cael eu defnyddio\u2019n ddigonol oherwydd cyfyngiadau cyllido. Ar \u00f4l gweithio gyda\u2019r AaGIC ac ystyried a oedd dewisiadau eraill, bues i\u2019n helpu i ddod o hyd i ateb a oedd yn lleihau costau yn ogystal \u00e2 chaniat\u00e1u i fwy o fyfyrwyr gyrraedd y lleoliadau hynny, yn aml yn agosach i\u2019w cartrefi.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, bues i\u2019n gweithio gyda\u2019r AaGIC i wella\u2019r gefnogaeth ar gyfer lleoliadau rhyngwladol. Er nad oedd yn bosibl inni dalu costau teithio neu lety, fe ddechreuon ni ffordd o dalu costau teithio dyddiol dramor. Roedd y newid bach hwnnw\u2019n gwneud profiadau myfyrwyr rhyngwladol yn fwy hygyrch a diogel.<\/p>\n<h2><strong>Gwneud mwy gyda\u2019r un adnodd<\/strong><\/h2>\n<p>Y tu \u00f4l i&#8217;r llenni, gwnaed llawer o hyn yn bosibl oherwydd technoleg.<\/p>\n<p>Treuliais i amser yn dysgu fy hun sut i ddefnyddio offer megis Power Automate, gwella fy sgiliau Excel a gwneud defnydd gwell o nodweddion Outlook er enghraifft Quick Steps. Daeth tasgau ailadroddus \u00e2 llaw yn rhai awtomataidd, roedd modd rheoli nifer yr e-byst a daeth prosesau\u2019n fwy cyson.<\/p>\n<p>Roedd hyn yn golygu bod modd i un person reoli baich gwaith yn effeithiol, sef baich y byddai tri o bobl yn ei wneud yn wreiddiol, gan ymdrin \u00e2 thua 1,000 o dreuliau bob mis yn ogystal \u00e2 chydlynu llety.<\/p>\n<p>Yn bwysicaf oll, nid oedd hyn erioed yn ymwneud \u00e2 lleihau nifer y rolau. Roedd yn ymwneud \u00e2 threulio mwy o amser yn gwneud gwaith mwy ystyrlon. Llai o waith gweinyddol, mwy o gymorth i fyfyrwyr.<\/p>\n<h2><strong>Canolbwyntio ar y lle mae ei angen fwyaf<\/strong><\/h2>\n<p>Wrth wraidd popeth, roedd y nod yn syml o hyd. Gwella profiad y myfyriwr.<\/p>\n<p>Er bod cyllid yn un rhan yn unig o brofiad y myfyriwr, mae\u2019n gallu cael effaith sylweddol. Os yw prosesau\u2019n araf neu\u2019n aneglur, mae\u2019n achosi straen ar adeg pan mae gofyn i\u2019r myfyrwyr ganolbwyntio ar ddysgu ac, mewn llawer o achosion, yn enwedig o ran gofal iechyd a gofal cleifion.<\/p>\n<p>Bwriad pob gwelliant oedd cael gwared ar rwystrau er mwyn i\u2019r myfyrwyr ganolbwyntio ar beth sydd wir yn bwysig.<\/p>\n<h2><strong>Pennod newydd<\/strong><\/h2>\n<p>Ar yr un pryd \u00e2 symud o\u2019r T\u00eem Cyllid Myfyrwyr Gofal Iechyd i\u2019r T\u00eem Dyfodol Myfyrwyr, yn ystod yr un wythnos ces i wybod fy mod i wedi cyrraedd rhestr fer Aelod Staff Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn. Roedd gorffen y bennod honno ar nodyn mor gadarnhaol yn golygu llawer i mi.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n arbennig o falch o\u2019r hyn a gyflawnwyd, ac rwy\u2019n edrych ymlaen yn fawr at ddod \u00e2\u2019r un meddylfryd i fy swydd newydd.<\/p>\n<h2><strong>Dyma 5 awgrym ardderchog i helpu i wella eich maes<\/strong><\/h2>\n<ol>\n<li><strong>Defnyddiwch Copilot i gael syniadau<\/strong><br \/>\nRhowch gynnig ar ddefnyddio awgrymiadau megis: \u201cMae gen i broses X, rwy\u2019n ddefnyddiwr newydd, rhowch dair ffordd i\u2019w gwella.\u201d Mae\u2019n fan cychwyn gwych.<\/li>\n<li><strong>Dysgwch sut i ddefnyddio Power Automate<\/strong><br \/>\nOs ydych chi\u2019n defnyddio offer Microsoft megis Excel, Outlook, SharePoint neu Forms, mae modd eu cysylltu nhw \u00e2 Power Automate a chael gwared ar dasgau ailadroddus.<\/li>\n<li><strong>Gwneud i Outlook weithio i chi<\/strong><br \/>\nMae\u2019n bosibl y bydd nodweddion, megis rheolau, Quick Steps, categor\u00efau a chamau dilynol yn arbed oriau bob wythnos.<\/li>\n<li><strong>Siaradwch \u00e2 phobl<\/strong><br \/>\nBydd myfyrwyr a chydweithwyr yn aml yn tynnu sylw at welliannau na fyddech chi\u2019n sylwi arnyn nhw ar eich pen eich hun.<\/li>\n<li><strong>Peidiwch \u00e2 chael eich cyfyngu gan deitl eich swydd<\/strong><br \/>\nDoes dim angen caniat\u00e2d arnoch chi i ofalu am wella pethau. Rhannwch eich syniadau, profwch nhw a byddwch yn falch o wneud pethau\u2019n well.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Wel, dyna\u2019r cyfan gan Finance Mike&#8230; mae\u2019n bryd i Futures Mike orffen am y dydd!<\/p>\n<h2>Mwy am yr ESLAs<\/h2>\n<p class=\"lead\">Mae Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr (ESLAs) yn cydnabod gwaith caled staff a myfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at brofiad y myfyrwyr. Caiff y gwobrau eu cynnal mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Undeb Myfyrwyr.<\/p>\n<p>Mae Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr yn rhoi cyfle perffaith i gydnabod gwaith caled y staff a\u2019r myfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at brofiad y myfyrwyr, boed yn diwtoriaid personol ysbrydoledig, yn ddarlithwyr gwych neu\u2019n gynrychiolwyr academaidd sy\u2019n gwneud ymdrech arbennig i wneud yn si\u0175r bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau yn dathlu staff a myfyrwyr a caiff y broses enwebu ei agor yn y Gwanwyn, gyda&#8217;r seremoni wobrwyo yn cael ei gynnal yn yr haf.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/news\/article\/secret\/ESLA-2026-Winners-GCBM-2026-Enillwyr\/\">Darganfyddwch mwy am y wobrau ac am enillwyr 2026<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Mike Schofield, Student Features yn rhannu ei brofiad o ennill Gwobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr (ESLA).","protected":false},"author":6921,"featured_media":6387,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[847],"tags":[],"custom_author":[1031],"class_list":["post-6384","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-dathlu-rhagoriaeth-addysgu","custom_author-learning-and-teaching-academy"],"lang":"cy","translations":{"cy":6384,"en":6382},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1EY","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/06\/Mike-S.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6384","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6384"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6384\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6389,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6384\/revisions\/6389"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6387"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6384"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6384"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6384"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6384"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}