{"id":6379,"date":"2026-06-09T09:01:20","date_gmt":"2026-06-09T08:01:20","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6379"},"modified":"2026-06-09T09:01:37","modified_gmt":"2026-06-09T08:01:37","slug":"gwneud-ffurflenni-yn-hygyrch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/gwneud-ffurflenni-yn-hygyrch\/","title":{"rendered":"Gwneud ffurflenni yn hygyrch"},"content":{"rendered":"<p>Ysgrifennwyd y blog hwn gan <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/staff\/penningtonh\">Heather Pennington<\/a> ac <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/staff\/stewarta\">Alex Stewart<\/a> o&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n<p>Mae ffurflenni ym mhobman ym mywyd prifysgol &#8211; arolygon adborth, cofrestru ar gyfer digwyddiadau, cyflwyniadau asesiadau, cofnodion mentora, a phopeth yn y canol. Ond gall ffurflenni sydd wedi&#8217;u cynllunio&#8217;n wael greu rhwystrau go iawn, yn enwedig i bobl sy&#8217;n defnyddio rhaglenni darllen sgr\u00een neu sy\u2019n llywio\u2019r bysellfwrdd.<\/p>\n<p>Mae creu ffurflenni hygyrch yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ond mae hefyd yn ffordd syml o wneud bywyd yn haws i gydweithwyr a myfyrwyr.<\/p>\n<p>Isod mae awgrymiadau cyflym, ymarferol y gallwch chi eu rhoi ar waith ar unwaith.<\/p>\n<h2><strong>Pam mae ffurflenni hygyrch yn bwysig\u00a0<\/strong><\/h2>\n<p>Mae ffurflenni hygyrch yn golygu y gall pawb eu llenwi&#8217;n annibynnol \u2013 dim atebion dros dro, dim angen gofyn am help, dim ymatebion ar goll. Er y gall rhai addasiadau ymddangos yn fach, gallan nhw wella&#8217;r profiad yn sylweddol i ddefnyddwyr sy&#8217;n dibynnu ar raglenni darllen sgr\u00een, llywio\u2019r bysellfwrdd, neu offer cynorthwyol eraill.<\/p>\n<h2><strong>Pum ffordd gyflym o wella hygyrchedd ffurflenni\u00a0\u00a0<\/strong><\/h2>\n<ol>\n<li><strong> Defnyddiwch labeli clir, disgrifiadol\u00a0<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae labeli yn helpu pawb, ond maen nhw&#8217;n hanfodol i\u2019r rhai sy\u2019n defnyddio rhaglenni darllen sgr\u00een.<\/p>\n<ul>\n<li>gwnewch yn si\u0175r bod gan bob maes label (nid testun dalfan yn unig)<\/li>\n<li>defnyddiwch nodweddion &#8220;label&#8221; mewnol mewn offer fel Microsoft Forms neu HTML (tagiau &lt;label&gt;)<\/li>\n<li>osgowch amwysedd \u2013 er enghraifft, dywedwch \u201cEnw cyntaf\u201d yn lle \u201cEnw\u201d<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Trwsio\u2019n gyflym:<\/strong> Gwiriwch eich bod chi&#8217;n gallu deall pwrpas pob maes heb glicio ynddo.<\/p>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong> Rhowch gyfarwyddiadau syml, defnyddiol\u00a0<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Cadwch gyfarwyddiadau yn agos at y maes perthnasol a defnyddiwch iaith glir.<\/p>\n<ul>\n<li>rhannwch esboniadau hirach yn gamau byr<\/li>\n<li>ar gyfer cwestiynau cymhleth, cofiwch gynnwys enghreifftiau byr<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Trwsio\u2019n gyflym:<\/strong> Os yw&#8217;n cymryd mwy nag ychydig eiliadau i ddeall beth i&#8217;w wneud, symleiddiwch ef.<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong> Gwnewch negeseuon gwall yn ystyrlon\u00a0<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Cefnogwch ddefnyddwyr i gywiro camgymeriadau yn hawdd.<\/p>\n<ul>\n<li>osgowch awgrymiadau amwys fel \u201c<em>Cofnod annilys<\/em>\u201d<\/li>\n<li>byddwch yn benodol: <em>\u201cRhowch eich cyfeiriad e-bost yn y fformat <\/em><a href=\"mailto:name@cardiff.ac.uk\"><em>enw@caerdydd.ac.uk<\/em><\/a><em>.\u201d\u00a0<\/em><\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Trwsio\u2019n gyflym:<\/strong> Gwiriwch y ffurflen eich hun, a yw&#8217;r negeseuon gwall yn gwneud synnwyr heb esboniad ychwanegol?<\/p>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong> Cadwch y strwythur yn rhesymegol ac yn hawdd i&#8217;w lywio\u00a0<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae cynllun rhagweladwy o fudd i bawb.<\/p>\n<ul>\n<li>grwpio cwestiynau cysylltiedig gyda&#8217;i gilydd<\/li>\n<li>defnyddio penawdau i rannu ffurflenni hirach<\/li>\n<li>gwneud yn si\u0175r bod defnyddwyr yn gallu symud trwy&#8217;r ffurflen gan ddefnyddio&#8217;r bysellfwrdd yn unig (Tab, Shift+Tab).<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Trwsio\u2019n gyflym:<\/strong> Rhowch gynnig ar ddefnyddio&#8217;r allwedd Tab ar y bysellfwrdd i symud drwy&#8217;r ffurflen, a yw&#8217;n dilyn y drefn rydych chi&#8217;n ei disgwyl?<\/p>\n<ol start=\"5\">\n<li><strong> Defnyddiwch liw yn ddoeth\u00a0<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Ni ddylai lliw yn unig gael ystyr.<\/p>\n<ul>\n<li>cyfunwch liw ag eiconau neu destun ar gyfer negeseuon gwall neu feysydd gofynnol<\/li>\n<li>gwnewch yn si\u0175r bod y cyferbyniad yn ddigon cryf i destun fod yn ddarllenadwy<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Trwsio\u2019n gyflym:<\/strong> Os byddwch chi&#8217;n tynnu&#8217;r holl liw i ffwrdd, a yw&#8217;r ystyr yn dal yn glir?<\/p>\n<p>Mae dylunio ffurflenni hygyrch yn helpu i wneud cynnwys yn fwy deniadol a defnyddiol i ystod ehangach o ddysgwyr a chydweithwyr.<\/p>\n<h2><strong>Angen help?\u00a0<\/strong><\/h2>\n<p>Am fwy o awgrymiadau ar wella hygyrchedd, darllenwch y <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_22925\">Canllaw Hygyrchedd Digidol<\/a> heddiw a rhowch hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd addysgu a dysgu eleni.<\/p>\n<h2><strong>Cysylltwch \u00e2 ni<\/strong><\/h2>\n<p>Os hoffech chi gael rhagor o gymorth neu os oes gennych awgrymiadau ar gyfer pynciau blog yn y dyfodol, cysylltwch \u00e2&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu trwy <a href=\"mailto:LTAcademy@cardiff.ac.uk\">LTAcademy@caerdydd.ac.uk<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart o'r Academi Dysgu ac Addysgu. ","protected":false},"author":6921,"featured_media":6394,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1064,1071],"class_list":["post-6379","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-alex-stewart","custom_author-heather-pennington"],"lang":"cy","translations":{"cy":6379,"en":6376},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1ET","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/06\/photo-1554224155-1696413565d3-scaled-e1780991895213.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6379","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6379"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6379\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6380,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6379\/revisions\/6380"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6394"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6379"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6379"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6379"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6379"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}