{"id":6318,"date":"2026-05-06T11:30:24","date_gmt":"2026-05-06T10:30:24","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6318"},"modified":"2026-05-06T11:31:01","modified_gmt":"2026-05-06T10:31:01","slug":"ymwneud-a-ni-cofiwch-ni-gweithio-ar-y-cyd-an-myfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/ymwneud-a-ni-cofiwch-ni-gweithio-ar-y-cyd-an-myfyrwyr\/","title":{"rendered":"\u2018Ymwneud \u00e2 ni? Cofiwch ni\u2019 \u2013 gweithio ar y cyd \u00e2\u2019n myfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p>Mae Lisa Gallone, Swyddog Prosiectau Myfyrwyr, yn myfyrio ar arddangosfa\u2019r posteri eleni ac yn tynnu sylw at gynllun Partneriaid Profiad y Myfyrwyr.<\/p>\n<h2>Arddangosfa bosteri flynyddol<\/h2>\n<p>Ddydd Mercher, 29 Ebrill, mae t\u00eem Llais y Myfyrwyr a Phartneriaeth yn yr <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/about\/our-profile\/who-we-are\/education\/cardiff-learning-and-teaching-academy\">Academi Dysgu ac Addysgu<\/a> yn eich gwahodd i ddathlu a dysgu rhagor am y prosiectau ysbrydoledig ac arloesol y mae ein myfyrwyr wedi bod yn rhan ohonyn nhw eleni, a gweld sut mae partneriaethau\u2019n helpu i lunio\u2019r profiad dysgu i bawb.<\/p>\n<p>Mae partneriaethau a \u2011chreu ar y cyd wrth wraidd yr hyn rydyn ni\u2019n ei wneud. Mae Partneriaid Profiad y Myfyrwyr yn cael eu talu i weithio ar y cyd \u00e2\u2019r staff ar brosiectau sy\u2019n dyfnhau ein dealltwriaeth o brofiadau bywyd myfyrwyr a\u2019u hanghenion sy\u2019n newid gyda threigl amser.<\/p>\n<p>Roedd yr ymwelwyr i\u2019r arddangosfa yn gallu darllen 20+ o bosteri sy\u2019n cyfleu dim ond rhai o&#8217;r prosiectau y mae&#8217;r cynllun wedi&#8217;u cefnogi eleni. Roedd Partneriaid Profiad y Myfyrwyr wrth law i sgwrsio am eu gwaith a rhoddodd sawl un gyflwyniad am effaith ei brosiect.<\/p>\n<p>Roedd y prosiectau eleni yn trin a thrafod pynciau sy&#8217;n bwysig i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd \u2013 <a href=\"https:\/\/padlet.com\/gallonel1\/student-experience-partner-scheme-9yrj5e7wtxu6vg6p\">dyma\u2019r pynciau<\/a><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Creu canllawiau deallusrwydd artiffisial (DA) ar y cyd i fyfyrwyr: <\/strong>Mae offer DA yn newid bywydau myfyrwyr yn gyflym, ond mae canllawiau\u2019r Brifysgol wedi bod ar ei h\u00f4l hi ar adegau. Mae angen gwybodaeth glir, onest ac ymarferol ddefnyddiol ar fyfyrwyr: nid rheolau yn unig, ond enghreifftiau go iawn o sut i ddefnyddio DA yn foesegol ac yn effeithiol yn eu hastudiaethau a\u2019u gyrfaoedd.<\/li>\n<li><strong>Cwricwlwm y Dyfodol: <\/strong>Canolbwyntiodd y prosiect hwn ar gynllunio a gwerthuso modiwl Dyfodol arloesol, a fydd yn rhoi\u2019r hyn sydd ei angen ar fyfyrwyr israddedig i fynd i\u2019r afael \u00e2 heriau cymhleth, rhyngddisgyblaethol sy\u2019n canolbwyntio ar y dyfodol, a lles y dyfodol yn enwedig. Drwy ddysgu ar y cyd mewn gweithdai, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a chreadigol, gan feddwl am y dyfodol a gweithio mewn t\u00eem ac ymateb i heriau yn y byd go iawn.<\/li>\n<li><strong>Deall a gwella ymgysylltiad myfyrwyr \u00e2 gweithgareddau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn yr Ysgol Cemeg: <\/strong>Nid bodloni fframwaith sefydliadol yn unig yw ailymgeisio am wobr Athena Swan, ond myfyrio ar ba mor gynhwysol, hygyrch ac ymatebol yw&#8217;r Ysgol yn ymarferol hefyd. Mae mewnbwn y myfyrwyr felly yn hollbwysig, gan fod hyn yn helpu i sicrhau bod profiadau byw yn sail i gamau gweithredu a blaenoriaethau yn hytrach na rhagdybiaethau yn unig.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Elgan Hughes, Rheolwr Llais Myfyrwyr a Phartneriaeth, fod y cynllun wedi dod yn un o fecanweithiau mwyaf effeithiol a thrawsnewidiol y Brifysgol at ddibenion newid, nid dim ond yr hyn y mae&#8217;n ei ddarparu, ond yr hyn y mae&#8217;n ei <em>ddatblygu<\/em>, a pha mor ddwfn y mae&#8217;n newid y gwaith rydyn ni\u2019r staff yn ei wneud.<\/p>\n<figure id=\"post-6322 media-6322\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/05\/Elgan-2-1-1-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Y siaradwr gwadd oedd <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/tonksaj\">yr Athro Amanda Tonks<\/a>, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, a ddywedodd \u201cWrth galon y cyfan, dyma fodel partneriaeth sy&#8217;n mynd ymhell y tu hwnt i ymgynghori. Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 \u2011chreu ar y cyd, ymddiriedaeth a chydnabod myfyrwyr sy\u2019n cyfrannu\u2019n fedrus at waith sefydliadol. Yr hyn y mae&#8217;r dystiolaeth bellach yn ei ddangos yn glir iawn yw bod y model hwn yn rhoi <em>gwerth eithriadol mewn dau gyfeiriad ar unwaith<\/em>: mae&#8217;n datblygu myfyrwyr yn weithwyr proffesiynol hyderus a galluog, ac ar ben hynny mae&#8217;n cryfhau prosiectau\u2019r staff mewn ffyrdd a fyddai&#8217;n amhosibl heb brofiad bywyd myfyrwyr.\u201d<\/p>\n<p>Wrth gloi&#8217;r digwyddiad, cyflwynodd yr Athro Tonks Wobrau Cyfraniad Eithriadol i ddau fyfyriwr sydd wedi bod yn allweddol i&#8217;r cynllun am yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, gan fynd yr ail filltir yn y r\u00f4l ac yn gwbl haeddiannol o&#8217;r gydnabyddiaeth hon am eu heffaith a&#8217;u proffesiynoldeb.<\/p>\n<h2>Sut clywoch chi am Gynllun Partneriaid Profiad y Myfyrwyr<\/h2>\n<p>Bob blwyddyn, mae tua 35 o Bartneriaid hyfforddedig Profiad y Myfyrwyr yn gweithio ledled y Brifysgol ar brosiectau go iawn a chymhleth \u2013 boed yn addysg ddigidol a DA, hygyrchedd, datblygu polis\u00efau a newidiadau strategol. Nid ymarferion efelychu yw&#8217;r rhain. Dyma ddarnau byw o waith sy\u2019n golygu cryn dipyn yn y pen draw\u2011, ac mae\u2019r myfyrwyr yn gwybod bod eu mewnbwn yn bwysig.<\/p>\n<p>Mae canlyniadau&#8217;r myfyrwyr yn glir: sgiliau cryfach, hyder cryfach a chyflogadwyedd cryfach ond yr hyn sydd yr un mor bwysig &#8211; ac weithiau&#8217;n llai gweladwy yn gyhoeddus &#8211; yw&#8217;r effaith ar brosiectau\u2019r staff a\u2019r ymarfer sefydliadol.<\/p>\n<p>Aeth Mandy yn ei blaen, \u201cMae staff sy&#8217;n defnyddio&#8217;r cynllun yn dweud yn gyson bod gweithio gyda Phartneriaid Profiad y Myfyrwyr yn gwella <em>safon<\/em> eu gwaith. Nid yw partneriaid yn dilysu syniadau yn unig; maen nhw\u2019n herio rhagdybiaethau, yn datgelu materion na fydd y staff hwyrach yn eu gweld ac yn helpu prosiectau i fod ynghlwm wrth realiti profiad y myfyrwyr.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n cael deall nad gwella ar hyd yr ymylon yw cynllun Partneriaid Profiad y Myfyrwyr. Dyma ased strategol. Mae&#8217;n datblygu myfyrwyr yn raddedigion hyderus a medrus tra&#8217;n cryfhau safon, cynwysoldeb ac effeithiolrwydd prosiectau sefydliadol ar yr un pryd. Mae&#8217;n creu diwylliant lle bydd myfyrwyr a staff yn gweithio gyda&#8217;i gilydd ar sail partneriaid, nid yn gyfochrog, a lle bydd profiad bywyd yn llunio\u2019r gwaith o \u2011wneud penderfyniadau mewn ffordd ystyrlon.<\/p>\n<p>Ac efallai yn bwysicaf oll, mae&#8217;n dangos beth mae myfyrwyr yn gallu ei wneud pan rydyn ni&#8217;n rhoi cyfrifoldeb ystyrlon, cefnogaeth briodol a dylanwad go iawn iddyn nhw.\u201d<\/p>\n<figure id=\"post-6320 media-6320\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/05\/Hugo-trophy-1-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<figure id=\"post-6321 media-6321\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/05\/Raven-trophy-close-up-1-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Gwneud cais am y cynllun<\/h2>\n<p>Mae Partneriaid Profiad y Myfyrwyr yn cael eu talu am eu gwaith, a daw&#8217;r arian o&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/about\/our-profile\/who-we-are\/education\/cardiff-learning-and-teaching-academy\">Academi Dysgu ac Addysgu<\/a>.<\/p>\n<p>Mae ceisiadau i ddefnyddio&#8217;r cynllun ar gau am eleni ond bydd modd ymgeisio unwaith eto ym mis Gorffennaf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Lisa Gallone, Swyddog Prosiectau Myfyrwyr, yn myfyrio ar arddangosfa\u2019r posteri eleni ac yn tynnu sylw at gynllun Partneriaid Profiad y Myfyrwyr.","protected":false},"author":6921,"featured_media":6313,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[982],"tags":[],"custom_author":[1122],"class_list":["post-6318","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-partneriaid-profiad-myfyrwyr","custom_author-lisa-gallone"],"lang":"cy","translations":{"cy":6318,"en":6309},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1DU","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/05\/foyer-close-up-scaled.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6318","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6318"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6318\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6331,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6318\/revisions\/6331"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6313"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6318"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6318"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6318"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6318"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}