{"id":6306,"date":"2026-04-30T08:56:59","date_gmt":"2026-04-30T07:56:59","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6306"},"modified":"2026-04-30T09:07:41","modified_gmt":"2026-04-30T08:07:41","slug":"addysg-gynhwysol-yn-nhim-addysgu-bydwreigiaeth-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/addysg-gynhwysol-yn-nhim-addysgu-bydwreigiaeth-caerdydd\/","title":{"rendered":"Addysg gynhwysol yn nh\u00eem addysgu bydwreigiaeth Caerdydd"},"content":{"rendered":"<h2>Cyd-destun<\/h2>\n<p>Yn 2023, dechreuon ni ddefnyddio pecyn cymorth <a href=\"https:\/\/rcm.org.uk\/publications\/decolonising-midwifery-education-toolkit\/\">Dad-drefedigaethu Addysg Fydwreigiaeth Coleg Brenhinol<\/a> y Bydwragedd ym mhob rhan o\u2019n rhaglen. Dyma oedd dechrau taith sydd wedi ein hannog i barhau i ddysgu, myfyrio ac ailfeddwl am y profiad a gynigiwn i&#8217;n myfyrwyr.<\/p>\n<p>Mae dad-drefedigaethu a chynhwysiant wedi dod yn gynyddol bwysig ym maes bydwreigiaeth, yn enwedig wrth i ddata marwolaethau ymysg mamau&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.npeu.ox.ac.uk\/mbrrace-uk\">DU barhau i ddangos bod menywod Du a Brown yn fwy tebygol o farw wrth roi genedigaeth na menywod Gwyn<\/a>. Er bod y gwahaniaeth hwn wedi lleihau, mae&#8217;n parhau i fod yn bryder difrifol. Yn ogystal \u00e2 hyn, fe wnaethom gydnabod bod diffyg amrywiaeth yn bodoli o fewn ein carfannau o fyfyrwyr. Fe\u2019n hanogwyd gan y ffactorau hyn oll i wneud newidiadau gyda&#8217;r nod o ehangu cyfranogiad, gwella cynrychiolaeth yn y proffesiwn, a chefnogi canlyniadau gwell i fenywod o&#8217;r Mwyafrif Byd-eang.<\/p>\n<h2>Gweithredu<\/h2>\n<figure id=\"post-6298 media-6298\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 173px;height: 230px\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/04\/blog-for-nursing.jpg\" alt=\"\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left\">Mae llawer o&#8217;r newidiadau rydyn ni wedi&#8217;u gwneud yn rhai ymarferol ond yn rhai grymus. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan y manicinau a ddefnyddir mewn dysgu efelychol, ynghyd \u00e2&#8217;r delweddau a&#8217;r senarios clinigol a ddefnyddir mewn addysgu, ystod o liwiau croen a\u2019u bod yn cynrychioli cefndiroedd diwylliannol gwahanol. Rydyn ni\u2019n rhoi pwyslais arbennig ar roi cyfle i fyfyrwyr i adnabod dirywiad clinigol a newidiadau yn y croen mewn lliwiau croen gwahanol, fel bod modd iddyn nhw ymateb yn gyflym ac mewn modd sy\u2019n briodol yn ymarferol.<\/p>\n<p>Mae gweithio mewn partneriaeth \u00e2 myfyrwyr yn ganolog i&#8217;r dull hwn. A ninnau\u2019n d\u00eem o addysgwyr benywaidd Gwyn, rydym yn cydnabod ein bod yn dysgu oddi wrth ein myfyrwyr bob dydd. Dim ond nhw sy&#8217;n gwybod yn iawn sut mae eu profiad dysgu yn teimlo, a thrwy feithrin perthnasoedd agored rhwng oedolion, rydym yn gallu gwrando, dysgu a gweithio gyda&#8217;n gilydd i lunio profiad sy&#8217;n ystyrlon, yn gefnogol ac yn ymateb i&#8217;w hanghenion.<\/figure>\n<h2>Effaith<\/h2>\n<p>Mae ein ffordd o feddwl wedi ehangu o ganolbwyntio&#8217;n llwyr ar fyfyrwyr o\u2019r Mwyafrif Byd-eang, i feddwl yn ehangach ynghylch pa mor gynhwysol yw ein rhaglen i bob dysgwr, gan gynnwys y sawl sy&#8217;n niwroamrywiol neu sydd ag anghenion ychwanegol, p&#8217;un a ydyn nhw wedi cael diagnosis ffurfiol ai peidio.<\/p>\n<p>Un o&#8217;r canlyniadau mwyaf pendant fu\u2019r newid ym mha mor amrywiol yw\u2019r garfan. Er mai dim ond 3.3% o fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn bresennol sy&#8217;n nodi eu bod yn Ddu, yn Asiaidd neu o gefndir ethnig amrywiol, mae&#8217;r ffigur hwn wedi cynyddu i 15% yn ein carfan flwyddyn gyntaf bresennol \u2013 mae\u2019n gynnar, ond dyma dystiolaeth galonogol bod newid ystyrlon yn mynd rhagddo.<\/p>\n<h2>Myfyrdodau \/ Beth sydd nesaf?<\/h2>\n<figure id=\"post-6297 media-6297\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" class=\"alignleft\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/04\/diverse-cymru.png\" alt=\"\" \/>Mae cynhwysiant bellach yn rhan o bob sgwrs a gawn a phob penderfyniad a wnawn fel t\u00eem. Ym mis Ebrill eleni, cawsom ddyfarniad Aur yng nghynllun achredu Cymhwysedd Diwylliannol <a href=\"https:\/\/diversecymru.org.uk\/\">Diverse Cymru<\/a>\u2014yr unig sefydliad i dderbyn dyfarniad Aur allan o fwy nag 20 o ymgeiswyr. Mae&#8217;r gydnabyddiaeth hon wedi rhoi bri ein gwaith ac wedi cryfhau ein hymrwymiad i adeiladu cymuned gynhwysol sy&#8217;n cefnogi pawb, gyda&#8217;r nod yn y pen draw o wella deilliannau i fenywod a babanod ledled Cymru.<\/figure>\n<h2>Man cychwyn<\/h2>\n<p>Mae cynhwysiant a dad-drefedigaethu yn broses hir, a&#8217;r cam cyntaf yw penderfynu bod y gwaith hwn yn bwysig, a rhoi caniat\u00e2d i chi&#8217;ch hun ddechrau&#8217;r sgwrs \u2013 fel t\u00eem, fel cymuned ehangach, a chyda myfyrwyr. Un peth defnyddiol i&#8217;w gofio yw nad oes rhaid datrys hyn ar eich pen eich hun. Mae llawer o waith ystyrlon eisoes yn digwydd, a gall cysylltu ag eraill sy&#8217;n rhannu&#8217;r diddordeb hwn fod yn ffordd wych o\u2019ch annog i barhau \u00e2\u2019r gwaith.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cyd-destun Yn 2023, dechreuon ni ddefnyddio pecyn cymorth Dad-drefedigaethu Addysg Fydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd ym mhob rhan o\u2019n rhaglen. Dyma oedd dechrau taith sydd wedi ein hannog i barhau [&hellip;]","protected":false},"author":7173,"featured_media":6297,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1095],"tags":[],"custom_author":[1120],"class_list":["post-6306","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-gynhwysol","custom_author-sian-mclaughlin"],"lang":"cy","translations":{"cy":6306,"en":6302},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1DI","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/04\/diverse-cymru.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6306","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7173"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6306"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6306\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6308,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6306\/revisions\/6308"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6306"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6306"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6306"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6306"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}