{"id":6248,"date":"2026-04-15T09:08:49","date_gmt":"2026-04-15T08:08:49","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6248"},"modified":"2026-04-15T09:08:49","modified_gmt":"2026-04-15T08:08:49","slug":"gwiriwch-cyn-i-chi-rannu-defnyddio-offer-integredig-i-wella-hygyrchedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/gwiriwch-cyn-i-chi-rannu-defnyddio-offer-integredig-i-wella-hygyrchedd\/","title":{"rendered":"Gwiriwch cyn i chi rannu: Defnyddio offer integredig i wella hygyrchedd"},"content":{"rendered":"<p>Ysgrifennwyd y blog hwn gan <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/staff\/penningtonh\">Heather Pennington<\/a> ac <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/staff\/stewarta\">Alex Stewart<\/a> o&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n<p>Mae gwirwyr hygyrchedd wedi&#8217;u hymgorffori yn llawer o&#8217;r offer digidol rydych chi eisoes yn eu defnyddio. Gallan nhw sganio&#8217;ch cynnwys ac amlygu problemau cyffredin mewn dogfennau, cyflwyniadau a deunyddiau dysgu. Mae&#8217;r problemau hyn yn aml yn gyflym ac yn hawdd i&#8217;w datrys unwaith y byddwch chi&#8217;n gwybod ble i edrych.<\/p>\n<h2>Beth mae gwirwyr hygyrchedd yn ei wneud?<\/h2>\n<p>Meddyliwch am wiriwr hygyrchedd fel gwiriwr sillafu. Mae&#8217;n debyg na fyddech chi&#8217;n rhannu dogfen heb wirio&#8217;r sillafu neu&#8217;r gramadeg, a dylai hygyrchedd fod yr un fath. Gall gwirwyr hygyrchedd helpu i:<\/p>\n<ul>\n<li>Nodi testun amgen sydd ar goll ar ddelweddau<\/li>\n<li>Nodi strwythurau penawdau aneglur<\/li>\n<li>Amlygu problemau trefn darllen mewn sleidiau cyflwyno<\/li>\n<li>Nodi problemau posibl gyda chyferbyniad lliw<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ni allan nhw sylwi ar bopeth, ond maen nhw\u2019n fan cychwyn gwych i nodi rhwystrau cyffredin yn gyflym a gwella hygyrchedd. Mae defnyddio gwiriwr hygyrchedd yn golygu y gallwn ni ddatrys problemau&#8217;n gynnar a rhannu deunyddiau yn hyderus i gefnogi ystod eang o fyfyrwyr a chydweithwyr.<\/p>\n<h2>Dyma sut i&#8217;w defnyddio<\/h2>\n<p>Yn Microsoft Word a PowerPoint, mae\u2019r Gwiriwr Hygyrchedd o dan y tab Adolygu. Unwaith y bydd wedi&#8217;i agor, bydd yn dangos unrhyw broblemau hygyrchedd a nodwyd ochr yn ochr \u00e2 chanllawiau clir ar sut i&#8217;w trwsio. Mae&#8217;n well defnyddio\u2019r gwiriwr hygyrchedd yn gam olaf cyn rhannu neu uwchlwytho eich dogfennau neu sleidiau.<\/p>\n<figure id=\"post-6250 media-6250\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/04\/Picture1-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<figure id=\"post-6249 media-6249\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/04\/Picture2-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Mae&#8217;n werth nodi na all y gwiriwr farnu ansawdd nodweddion fel Testun Amgen. Ar gyfer hyn gallwch gyfeirio at <a href=\"https:\/\/support.microsoft.com\/en-us\/topic\/add-alternative-text-to-a-shape-picture-chart-smartart-graphic-or-other-object-3d6fd3f9-1c76-4cd0-876f-d1bdc44f8d91\">Ganllaw Testun Amgen Microsoft<\/a> neu\u2019r <a href=\"https:\/\/poet.diagramcenter.org\/how.html\">POET Training Tool<\/a> am enghreifftiau o ddisgrifiadau testun Amgen effeithiol.<\/p>\n<p>Yn Dysgu Canolog, mae Ally yn cynnig ffordd integredig o wirio hygyrchedd wrth i chi greu neu uwchlwytho cynnwys. Mae&#8217;n defnyddio system goleuadau traffig syml i nodi lefelau hygyrchedd ac yn cynnig canllawiau cam wrth gam i&#8217;ch helpu i wneud gwelliannau. <a href=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/969731910?h=473d99a132&amp;amp;title=0&amp;amp;byline=0&amp;amp;portrait=0\">Mae&#8217;r fideo hwn yn dangos i chi sut i ddatrys problemau hygyrchedd yn Dysgu Canolog gan ddefnyddio Ally<\/a>.<\/p>\n<figure id=\"post-6251 media-6251\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/04\/Picture3-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Mae Ally hefyd yn cynnwys Adroddiad Cwrs sy&#8217;n rhoi trosolwg o hygyrchedd ar draws eich modiwl. Gall hyn eich helpu i nodi a blaenoriaethu meysydd i&#8217;w gwella. Mae&#8217;r adroddiad yn adran &#8216;Llyfrau ac Offer&#8217; eich modiwlau Dysgu Canolog. <a href=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/967721072?h=0e835cec8b&amp;amp;title=0&amp;amp;byline=0&amp;amp;portrait=0\">Mae&#8217;r fideo hwn yn dangos sut i nodi problemau hygyrchedd gan ddefnyddio Adroddiad Cwrs Ally<\/a>.<\/p>\n<figure id=\"post-6252 media-6252\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/04\/Picture4-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Syniadau i gloi<\/h2>\n<p>Gall cynnwys gwiriadau hygyrchedd yn eich trefn arferol wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae defnyddio\u2019r gwiriwr cyn uwchlwytho neu rannu deunyddiau, a gwneud addasiadau bach lle bo angen, yn dod yn rhan naturiol o ymarfer bob dydd.<\/p>\n<p>Mae gwirwyr hygyrchedd yn offer defnyddiol iawn, ond nid dyma\u2019r unig ateb ac nid yw cwblhau\u2019r gwiriad bob amser yn gwarantu bod y cynnwys yn gwbl hygyrch ac yn gynhwysol. Gall y <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_22925\">Canllaw Hygyrchedd Digidol<\/a> eich helpu i wella hygyrchedd a chynhwysiant ymhellach yn eich ymarfer.<\/p>\n<p>Os hoffech chi gael rhagor o gymorth neu os oes gennych chi syniadau ar gyfer blogiau yn y dyfodol, cysylltwch \u00e2 ni trwy e-bostio <a href=\"LTAcademy@cardiff.ac.uk\">LTAcademy@caerdydd.ac.uk<\/a>. Gyda&#8217;n gilydd, gallwn ni wneud cynnwys digidol yn fwy cynhwysol i bawb.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart o'r Academi Dysgu ac Addysgu. Mae gwirwyr hygyrchedd wedi'u hymgorffori yn llawer o'r offer digidol rydych chi eisoes yn eu [&hellip;]","protected":false},"author":7167,"featured_media":6244,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1064,1071],"class_list":["post-6248","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-alex-stewart","custom_author-heather-pennington"],"lang":"cy","translations":{"cy":6248,"en":6240},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1CM","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/04\/Picture4.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6248","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7167"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6248"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6248\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6255,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6248\/revisions\/6255"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6244"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6248"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6248"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6248"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6248"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}