{"id":6210,"date":"2026-03-30T12:15:30","date_gmt":"2026-03-30T11:15:30","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6210"},"modified":"2026-03-30T12:20:30","modified_gmt":"2026-03-30T11:20:30","slug":"cwis-heb-gwestiynau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/cwis-heb-gwestiynau\/","title":{"rendered":"Cwis Heb Gwestiynau"},"content":{"rendered":"<p><em>Ysgrifennwyd gan Gemma Hackman, Technolegydd Dysgu yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.<\/em><\/p>\n<p>Mae&#8217;n fore Llun oer, llwyd pan mae cwrdd \u00e2 rhywun ar hap yn sbarduno syniad. Gyda choffi yn fy llaw a\u2019m cot yn dyn amdanaf, rwy&#8217;n dechrau sgwrsio \u00e2 rhywun yng nghanol y stryd \u2013 un o&#8217;r sgyrsiau hynny sy&#8217;n crwydro trwy bopeth a dim byd. Yn y pen draw, rydyn ni&#8217;n cyrraedd yr her oesol <em>honno<\/em>: sut ar wyneb y ddaear ydyn ni&#8217;n cael myfyrwyr i ymgysylltu yn yr ystafell ddosbarth?<\/p>\n<p>Fe wnaethon ni siarad am y realiti cyfarwydd y mae llawer o addysgwyr yn ei wynebu, sef y wal o ddistawrwydd. Efallai y cewch chi ddau neu dri llais hyderus, ond mae&#8217;r mwyafrif yn aros yn dawel, yn cuddio y tu \u00f4l i&#8217;r rhwystr anweledig hwnnw. Wrth gwrs, mae strategaethau amlwg i\u2019w defnyddio: cwestiynau wedi&#8217;u cynllunio, gweithgareddau strwythuredig, arolygon barn parod. Ond dyw\u2019r darlithydd o&#8217;m blaen ddim yn berson llym sy\u2019n cynllunio popeth ymlaen llaw. Maen llawn egni, yn wych, yn frwdfrydig ac yn gwneud pethau ar hap. Byddai pecyn cwestiynau parod yn ei gyfyngu.<\/p>\n<p>A dyna le cefais fflach o ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p><strong>Beth pe gallen ni greu cwisiau byw\u2026 heb unrhyw gwestiynau o gwbl?<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r syniad yn syml iawn, un sleid <a href=\"https:\/\/www.mentimeter.com\/app\/home\">Mentimeter<\/a> wag.<\/p>\n<p>Gan ddefnyddio un c\u00f4d QR parhaus ar eich sleidiau PowerPoint, un sy&#8217;n aros yr un fath drwy gydol sesiwn gyfan, gallwch chi ofyn <em>unrhyw<\/em> gwestiwn, ar unrhyw adeg, heb baratoi dim ymlaen llaw. Wrth i chi addysgu, rydych chi&#8217;n holi eich cwestiwn digymell, yn gwahodd myfyrwyr i sganio&#8217;r cod, ac yn gwylio eu hymatebion yn ymddangos yn ddienw mewn amser real. Dim dwylo i fyny, dim pwysau, dim wal o dawelwch.<\/p>\n<p>Gyda llwybr byr bysellfwrdd cyflym (Alt + Tab), gallwch chi neidio o&#8217;ch PowerPoint yn syth i Mentimeter, edrych ar atebion y myfyrwyr, trafod y rhesymeg y tu \u00f4l iddynt, ac yna clirio&#8217;r canlyniadau gydag un clic cyn neidio yn \u00f4l i&#8217;ch sleidiau. Di-dor, hylifol, ac yn gwbl gyson \u00e2 sut mae rhai darlithwyr yn addysgu&#8217;n naturiol.<\/p>\n<p>A dyma un o fy hoff rannau o fod yn Dechnegydd Dysgu, sef dod o hyd i&#8217;r offeryn cywir ar gyfer y sefyllfa gywir <em>a&#8217;r<\/em> person cywir. Paru technoleg nid yn unig \u00e2 thasg, ond ag arddull rhywun, eu cryfderau, a&#8217;r ffordd maen nhw&#8217;n addysgu&#8217;n naturiol \u2013 dyna pryd mae popeth yn gweithio gyda&#8217;i gilydd go iawn.<\/p>\n<p>Ond mae&#8217;r hud go iawn yn digwydd yn y diwedd.<\/p>\n<p>Gallwch chi ofyn i fyfyrwyr beth sy\u2019n peri trafferth iddyn nhw, pa dermau allweddol maen nhw eisiau i chi eu hegluro, neu ba gysyniadau sydd angen eu hailystyried. Yna gellir lawrlwytho eu cyfraniadau dienw fel taenlen, a chael cipolwg dilys a chyflym o anghenion dysgwyr.<\/p>\n<p>O&#8217;r fan honno mae&#8217;r broses hyd yn oed yn haws. Rhowch y rhestr yn <a href=\"https:\/\/copilot.microsoft.com\/\">Copilot<\/a> i gynhyrchu diffiniadau, ac yna fformatio&#8217;r allbwn ar gyfer offer fel<a href=\"https:\/\/quizlet.com\/latest\"> Quizlet<\/a> y gellir eu hymgorffori&#8217;n uniongyrchol yn ein hamgylchedd dysgu rhithwir (VLE). O fewn munudau, rydych chi wedi creu gemau adolygu a chymhorthion astudio yn gwbl seiliedig ar yr hyn y dywedodd <em>eich<\/em> <em>myfyrwyr chi<\/em> eu bod eu hangen.<\/p>\n<p>A hynny oll o gwis heb gwestiynau.<\/p>\n<p>Weithiau mae fy syniadau gorau yn dod o foreau Llun llwyd, coffi cynnes, a sgwrs ar ymyl y ffordd.<\/p>\n<h2>Eisiau rhoi cynnig arni neu ddysgu rhagor?<\/h2>\n<p>Os hoffech chi ddysgu rhagor am y syniad hwn, rhoi cynnig arni eich hun neu sgwrsio am sut i droi eich rhinweddau addysgu eich hun yn atebion digidol, cysylltwch ag Arbenigwr Addysg Ddigidol. Rydyn ni wrth ein boddau\u2019n helpu pobl i baru&#8217;r offer cywir \u00e2&#8217;r syniadau cywir a gwireddu&#8217;r syniadau hynny. Cysylltwch \u00e2 ni drwy e-bostio ltacademy@caerdydd.ac.uk<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ysgrifennwyd gan Gemma Hackman, Technolegydd Dysgu yn yr Academi Dysgu ac Addysgu. Mae'n fore Llun oer, llwyd pan mae cwrdd \u00e2 rhywun ar hap yn sbarduno syniad. Gyda choffi yn [&hellip;]","protected":false},"author":7167,"featured_media":5695,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1059],"class_list":["post-6210","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-gemma-hackman"],"lang":"cy","translations":{"cy":6210,"en":6208},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1Ca","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/08\/Sized-56.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6210","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7167"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6210"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6210\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6221,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6210\/revisions\/6221"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5695"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6210"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6210"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6210"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6210"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}