{"id":6181,"date":"2026-03-20T11:04:46","date_gmt":"2026-03-20T11:04:46","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6181"},"modified":"2026-03-20T11:04:46","modified_gmt":"2026-03-20T11:04:46","slug":"nifer-uchaf-erioed-o-ymatebion-i-arolwg-cenedlaethol-y-myfyrwyr-yn-jomec-sut-wnaeth-cynllunio-partneriaeth-a-chwareusrwydd-wneud-i-hyn-ddigwydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/nifer-uchaf-erioed-o-ymatebion-i-arolwg-cenedlaethol-y-myfyrwyr-yn-jomec-sut-wnaeth-cynllunio-partneriaeth-a-chwareusrwydd-wneud-i-hyn-ddigwydd\/","title":{"rendered":"Nifer uchaf erioed o ymatebion i Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn JOMEC: Sut wnaeth cynllunio, partneriaeth a chwareusrwydd wneud i hyn ddigwydd."},"content":{"rendered":"<p><em>Phillip Harris, o\u2019r Academi Dysgu ac Addysgu, sydd wedi ysgrifennu\u2019r blog hwn.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae ysgolion yn gweithio\u2019n galed i annog myfyrwyr i ymgysylltu ag Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, ond gwnaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) sefyll allan am yr holl resymau cywir eleni, gan gyrraedd y trothwy ar \u00f4l yr wythnos gyntaf, a chyfradd ymateb anhygoel o 72.4% erbyn diwedd yr ail wythnos!<\/p>\n<p>Nid oedd eu dull yn gymhleth, ond roedd angen ymdrech ymroddedig gan d\u00eem bach o staff a oedd yn gweithio ochr yn ochr \u00e2 Phartneriaid Profiad y Myfyrwyr i gyflwyno ymgyrch \u00e2 ffocws. Wedi\u2019i seilio ar amseru da, cyfathrebu clir ac ymgysylltiad amlwg \u00e2 myfyrwyr, enillodd yr ymgyrch fomentwm yn gyflym.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h4>Cyfathrebu a wnaeth darodd deuddeg<\/h4>\n<p><strong>\u00a0<\/strong>Wrth i Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr agor, roedd yr ysgol yn cefnogi ei gweithgarwch stondin drwy ddefnyddio negeseuon wedi&#8217;u targedu at fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf. Roedd y rhain yn gyfathrebiadau amserol a helpodd i atgyfnerthu&#8217;r ymgyrch drwy egluro\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>beth yw Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr<\/li>\n<li>pam mae llais y myfyriwr yn bwysig<\/li>\n<li>sut i gymryd rhan<\/li>\n<li>ble a phryd byddai stondinau arolwg yn cael eu cynnal a sut i ennill gwobrau<\/li>\n<\/ul>\n<figure id=\"post-6182 media-6182\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 450px;height: 600px\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/03\/IMG_9610-1-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Stondinau gwahanol: Troelli\u2019r Olwyn er Lles<\/h4>\n<p>Cafodd llwyddiant JOMEC ei gefnogi\u2019n gryf gan ei gweithgarwch wyneb yn wyneb. Cynhaliodd yr Ysgol gyfres o stondinau hyrwyddo yng nghyntedd JOMEC, dan ofal staff Partneriaid Profiad y Myfyrwyr ochr yn ochr \u00e2 th\u00eem bach o\u2019r Gwasanaethau Proffesiynol ac un cydweithiwr academaidd cefnogol. Wrth wraidd y stondinau roedd thema o les a gweithgaredd \u201ctroelli\u2019r olwyn\u201d, gan greu presenoldeb gweladwy a diddorol yn ystod wythnos gyntaf yr arolwg.<\/p>\n<p>Daeth y cyfuniad hwn ag egni, brwdfrydedd ac wynebau staff adnabyddus at ei gilydd. Yn bwysig, adeiladodd y cydweithrediadau hyn ar berthnasau a ddatblygwyd drwy gydol y flwyddyn drwy fentrau Profiad y Myfyrwyr, digwyddiadau myfyrwyr cydweithredol a sgyrsiau parhaus am les a\u2019r pwysau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu. O ganlyniad, roedd llawer o fyfyrwyr yn teimlo\u2019n gyfforddus wrth fynd i\u2019r stondin, cael sgwrs, gofyn cwestiynau a chwblhau\u2019r arolwg.<\/p>\n<p>Nid oedd y staff yn sefyll y tu \u00f4l i\u2019r bwrdd yn unig. Cymeron nhw ran. Rhoddon nhw ymdeimlad personol i\u2019r digwyddiad. Nododd Partneriaid Profiad y Myfyrwyr pa mor wych oedd gweld staff yn ymgysylltu\u2019n uniongyrchol \u00e2 myfyrwyr ac roedd gweld staff yn newid yn hawdd rhwng y Gymraeg a&#8217;r Saesneg wrth i dorfeydd o fyfyrwyr heidio o gwmpas y stondin yn creu argraff arnyn nhw.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h4>Cymhellion y mae myfyrwyr yn eu caru (a gynau nos!)<\/h4>\n<p>I gadw pethau\u2019n hwyl ac yn ddifyr, cyflwynodd yr ysgol \u201cwobrau seren\u201d i\u2019r olwyn droelli. Er bod cwpl o dalebau sba ar gael, roedd rhan fwyaf y gwobrau yn eitemau cyllideb isel a ddewiswyd i gefnogi lles myfyrwyr, gan gynnwys bariau egni, peli straen, a thalebau coffi. Roedd y detholiad hwn yn adlewyrchu adborth gan fyfyrwyr a ffocws parhaus yr Ysgol ar les.<\/p>\n<p>Yna daeth rhywbeth gwirioneddol gofiadwy, sef moment o greadigrwydd.\u00a0 Daeth Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu a Rheolwr Addysg yr Ysgol i\u2019r stondinau yn gwisgo gynau nos a chapiau cawod i sbarduno chwilfrydedd a dechrau sgyrsiau. Fe weithiodd! Gwnaeth y dull trawiadol hwn danio chwilfrydedd, rhoi gwen ar wynebau pobl ac annog myfyrwyr i stopio a gofyn cwestiynau. Helpodd hyn i sicrhau cyfranogiad cynnar, y nifer uchaf erioed, ar gyfer Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr.<\/p>\n<p>Ar ben hynny, helpodd y dull hwyliog hwn i chwalu rhwystrau a gwneud i&#8217;r stondinau hoelio mwy o sylw o\u2019u cymharu \u00e2\u2019r mentrau arferol o hyrwyddo arolygon ledled y campws.<\/p>\n<figure id=\"post-6183 media-6183\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 450px;height: 600px\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/03\/ed68bb02-84b1-4e58-b932-dca16ceb12fd-1.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Cynllun cydlynol, wedi\u2019i weithredu\u2019n berffaith<\/h4>\n<p>Nid oedd llwyddiant JOMEC yn dibynnu ar un syniad mawr. Roedd yn ganlyniad i gynllun cydlynol ac amserol a oedd yn seiliedig ar greu perthnasau \u00e2 myfyrwyr drwy fentrau Profiad y Myfyrwyr, digwyddiadau ar y cyd, a thrafodaethau parhaus am les a phwysau academaidd. Cyfunodd yr ymgyrch hynod lwyddiannus weithgarwch wyneb yn wyneb gweladwy \u00e2 chyfathrebiadau strategol a chymhellion wedi\u2019u cynllunio yn feddylgar a chyda mewnbwn gan fyfyrwyr. Roedd gweithgaredd Troelli\u2019r Olwyn er Lles a gynhaliwyd gan JOMEC:<\/p>\n<ul>\n<li>yn amserol<\/li>\n<li>yn canolbwyntio ar fyfyrwyr<\/li>\n<li>wedi\u2019i gyfleu un glir<\/li>\n<li>wedi\u2019i gefnogi gan d\u00eem bach ond ymroddedig<\/li>\n<li>yn hwyl!<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Yn olaf\u2026<\/h4>\n<p><strong>\u00a0<\/strong>Mae dull JOMEC yn dangos yr effaith y gellir ei gyflawni pan mae ysgol yn buddsoddi amser, egni a gofal yn ei myfyrwyr. Drwy fagu ymddiriedaeth, creu gwelededd a chynnal momentwm, dangosodd JOMEC sut gall cynllunio meddylgar, creadigrwydd a phartneriaeth \u00e2 myfyrwyr drawsnewid ymgysylltiad ag Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr. Maen nhw wedi gosod esiampl wych o\u2019r hyn sy\u2019n bosibl drwy gyfathrebu clir a bodlonrwydd i roi cynnig ar rywbeth sydd ychydig yn wahanol.<\/p>\n<p>Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn datblygu model ymgysylltu tebyg neu edrych ar ddulliau sy\u2019n gweddu eich cyd-destun eich hun, gall yr Academi Dysgu ac Addysgu helpu. Cysylltwch \u00e2 ni drwy e-bostio <a href=\"mailto:LTAacademy@cardiff.ac.uk\"><strong>LTAacademy@caerdydd.ac.uk<\/strong><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Phillip Harris, o\u2019r Academi Dysgu ac Addysgu, sydd wedi ysgrifennu\u2019r blog hwn. &nbsp; Mae ysgolion yn gweithio\u2019n galed i annog myfyrwyr i ymgysylltu ag Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, ond gwnaeth [&hellip;]","protected":false},"author":7169,"featured_media":6174,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[813,982,800],"tags":[],"custom_author":[1109],"class_list":["post-6181","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","category-partneriaid-profiad-myfyrwyr","category-ymgysylltu-a-myfyrwyr","custom_author-phillip-harris"],"lang":"cy","translations":{"cy":6181,"en":6172},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1BH","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/03\/IMG_9609-scaled.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6181","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7169"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6181"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6181\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6184,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6181\/revisions\/6184"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6174"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6181"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6181"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6181"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6181"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}