{"id":6166,"date":"2026-03-16T10:06:54","date_gmt":"2026-03-16T10:06:54","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6166"},"modified":"2026-03-16T10:06:54","modified_gmt":"2026-03-16T10:06:54","slug":"defnyddio-meddalwedd-darllen-yn-uchel-testun-i-lais-i-gefnogi-cynnwys-hygyrch-a-chynhwysol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/defnyddio-meddalwedd-darllen-yn-uchel-testun-i-lais-i-gefnogi-cynnwys-hygyrch-a-chynhwysol\/","title":{"rendered":"Defnyddio meddalwedd darllen yn uchel \/ testun i lais i gefnogi cynnwys hygyrch a chynhwysol"},"content":{"rendered":"<p><em>Gan Heather Pennington ac Alex Stewart, yr Academi Dysgu ac Addysgu<\/em><\/p>\n<p>Mewn amgylchedd dysgu mwyfwy digidol, mae\u2019n hanfodol creu cynnwys sy\u2019n hygyrch i bob dysgwr. Mae meddalwedd darllen yn uchel a thestun i lais yn cefnogi dysgwyr sy\u2019n defnyddio technolegau cynorthwyol ac yn helpu aelodau o\u2019r staff i ystyried eglurder, strwythur a hygyrchedd cyffredinol y deunyddiau sy\u2019n cael eu creu ganddyn nhw. Mae meddalwedd o\u2019r fath (sy\u2019n rhan o Windows a llawer o raglenni Microsoft 365) yn troi testun yn eiriau llafar, gan gynnig ffordd ychwanegol o ryngweithio \u00e2 chynnwys.<\/p>\n<h2>Pam defnyddio meddalwedd darllen yn uchel \/ testun i lais?<\/h2>\n<p>Mae meddalwedd darllen yn uchel yn helpu i sicrhau bod eich deunyddiau\u2019n gweithio\u2019n effeithiol i ystod eang o ddysgwyr, a hynny drwy wneud y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Cynnig ffordd amgen o ryngweithio \u00e2 chynnwys ysgrifenedig i\u2019r rhai sydd \u00e2 dyslecsia, nam ar y golwg neu anawsterau dysgu eraill<br \/>\n\u2022 Cefnogi dealltwriaeth drwy alluogi dysgwyr i wrando wrth ddarllen<br \/>\n\u2022 Apelio at y rhai y mae\u2019n well ganddyn nhw wrando neu sy\u2019n cael budd o ddysgu amlfoddol<br \/>\n\u2022 Lleihau llwyth gwybyddol yn ystod tasgau sy\u2019n gofyn llawer o ddarllen<br \/>\n\u2022 Galluogi prawfddarllen drwy dynnu sylw at strwythur aneglur, penawdau anghyson neu frawddegau hir<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae defnyddio meddalwedd darllen yn uchel wrth ddrafftio neu adolygu cynnwys yn ffordd syml o weld a yw\u2019r ddogfen wedi\u2019i strwythuro a\u2019i threfnu\u2019n dda. Os yw\u2019r cynnwys yn gweithio wrth ei ddarllen yn uchel, mae\u2019n fwy tebygol o weithio\u2019n dda ar gyfer defnyddwyr rhaglenni darllen sgr\u00een, hefyd.<\/p>\n<p><strong>Darllen yn Uchel yn Microsoft 365 ar gyfer Windows<\/strong><\/p>\n<p><strong>Microsoft Word<\/strong><br \/>\n\u2022 Dewiswch <strong>Adolygu &gt; Darllen yn Uchel<\/strong>.<br \/>\n\u2022 Mae\u2019r <strong>Darllenydd Ymdrwythol<\/strong> (o dan \u2018Gweld\u2019) yn cynnig cymorth ychwanegol drwy ganolbwyntio ar linellau, addasu\u2019r bylchau yn y testun ac addasu\u2019r lliw, er enghraifft.<\/p>\n<p><strong>Microsoft Edge<\/strong><br \/>\n\u2022 Gallwch chi ddefnyddio\u2019r <strong>Darllenydd Ymdrwythol<\/strong> ar dudalennau gwe sy\u2019n cael eu cefnogi a dewis Darllen yn Uchel i wrando ar erthyglau, tudalennau gwe a dogfennau PDF.<\/p>\n<p><strong>PowerPoint<\/strong><br \/>\n\u2022 Gallwch chi ychwanegu nodiadau i\u2019r siaradwr a defnyddio Darllen yn Uchel wrth ymarfer rhoi\u2019r cyflwyniad i fireinio eglurder, cyflymder a llif.<\/p>\n<p><strong>Cyngor ar addasu\u2019r llais<\/strong><\/p>\n<p>Gall addasu gosodiadau Darllen yn Uchel wneud gwrando\u2019n fwy cyfforddus ac effeithiol:<br \/>\n\u2022 Gallwch chi addasu\u2019r cyflymder darllen a\u2019r llais yn y panel opsiynau llais.<br \/>\n\u2022 Yn Word, ewch i <strong>Adolygu &gt; Darllen yn Uchel<\/strong> i newid y llais a\u2019r cyflymder.<br \/>\n\u2022 Arbrofwch i ddod o hyd i lais sy\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019ch dewisiadau gwrando.<\/p>\n<p><strong>Defnyddio offer ynganu yn Word<\/strong><\/p>\n<p>Nid yw Word yn cynnig golygydd ynganu llawn, ond mae\u2019n eich galluogi i gadarnhau sut bydd termau\u2019n cael eu dweud:<br \/>\n\u2022 Ewch ati i uwcholeuo gair neu ddarn o destun a dewis <strong>Adolygu &gt; Darllen yn Uchel<\/strong>.<br \/>\nMae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer enwau, termau technegol neu eirfa sy\u2019n benodol i ddisgyblaeth.<\/p>\n<p><strong>Meddalwedd darllen yn uchel ar blatfformau eraill<\/strong><\/p>\n<p><strong>Adobe Acrobat Reader<\/strong><br \/>\n\u2022 Mae <strong>Read aloud<\/strong> yn galluogi defnyddwyr i wrando ar ddogfennau PDF.<\/p>\n<p><strong>Blackboard Ally<\/strong><br \/>\n\u2022 Mae Blackboard Ally yn cynnig<strong> fformatau amgen<\/strong>, gan gynnwys fersiynau sain o gynnwys testun.<\/p>\n<p><strong>Dyfeisiau symudol<br \/>\n<\/strong>\u2022 Meddalwedd testun i lais yw NaturalReader, VoiceOver (Mac) a TalkBack (Android) ar gyfer darllen apiau, e-byst a thudalennau gwe.<\/p>\n<h2>Gwneud y gorau o feddalwedd darllen yn uchel<\/h2>\n<p>I gael y budd mwyaf:<br \/>\n\u2022 Anogwch fyfyrwyr i wneud defnydd o feddalwedd o\u2019r fath wrth adolygu, darllen yn fanwl neu weithio gyda thestunau cymhleth<br \/>\n\u2022 Defnyddiwch feddalwedd darllen yn uchel i brawfddarllen er mwyn nodi unrhyw broblemau a allai gael eu colli\u2019n weledol<br \/>\n\u2022 Gwrandewch ar eich dogfen i sicrhau ei bod yn darllen yn dda i\u2019r rhai sy\u2019n defnyddio technolegau cynorthwyol<br \/>\nMae gwneud y pethau hyn yn rhan o\u2019ch ymarfer academaidd bob dydd yn helpu i greu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol.<\/p>\n<h2>Cysylltwch \u00e2 ni<\/h2>\n<p>I gael cymorth, e-bostiwch <strong>LTAcademy@caerdydd.ac.uk<\/strong>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gan Heather Pennington ac Alex Stewart, yr Academi Dysgu ac Addysgu Mewn amgylchedd dysgu mwyfwy digidol, mae\u2019n hanfodol creu cynnwys sy\u2019n hygyrch i bob dysgwr. Mae meddalwedd darllen yn uchel [&hellip;]","protected":false},"author":7167,"featured_media":6163,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1064,1071],"class_list":["post-6166","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-alex-stewart","custom_author-heather-pennington"],"lang":"cy","translations":{"cy":6166,"en":6162},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1Bs","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/03\/geralt-light-567757_1280-1.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6166","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7167"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6166"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6166\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6168,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6166\/revisions\/6168"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6163"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6166"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6166"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6166"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6166"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}