{"id":6153,"date":"2026-03-06T15:16:38","date_gmt":"2026-03-06T15:16:38","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6153"},"modified":"2026-03-06T15:21:51","modified_gmt":"2026-03-06T15:21:51","slug":"deall-addysg-gynhwysol-egwyddorion-allweddol-i-ymarfer","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/deall-addysg-gynhwysol-egwyddorion-allweddol-i-ymarfer\/","title":{"rendered":"Deall Addysg Gynhwysol: Egwyddorion Allweddol i Ymarfer"},"content":{"rendered":"<figure id=\"post-6119 media-6119\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 272px;height: 260px\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/02\/Screenshot-2024-01-30-195450.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Y Cyd-destun<\/h2>\n<p>Pan rydyn ni&#8217;n siarad am addysg gynhwysol, rydyn ni mewn gwirionedd yn s\u00f4n am gynllunio dysgu fel bod pob myfyriwr, waeth beth fo&#8217;i gefndir, ei hunaniaeth neu ei amgylchiadau, yn gallu cymryd rhan yn ystyrlon. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae&#8217;r syniad hwn yn tynnu ar ddisgrifiad Hockings (2010) o gynhwysiant fel gweithred fwriadol o ddylunio: llunio addysgu, cwricwlwm ac asesu mewn ffyrdd sy&#8217;n cefnogi pob myfyriwr i ymgysylltu, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a llwyddo.<\/p>\n<p>Pwynt allweddol yma yw nad yw amrywiaeth yn cael ei thrin fel problem i&#8217;w datrys, ond fel cryfder sy&#8217;n cyfoethogi ein hamgylcheddau dysgu. Mae addysg gynhwysol hefyd yn mynd y tu hwnt i weithredoedd darlithwyr unigol. Mae&#8217;n gofyn i bob un ohonon ni, fel sefydliad, ystyried sut y gall ein systemau, ein harferion a&#8217;n rhagdybiaethau greu rhwystrau i bresenoldeb, cyfranogiad, cyflawniad ac ymdeimlad o berthyn myfyrwyr \u2013 ac i weithio gyda\u2019n gilydd i&#8217;w dileu.<\/p>\n<h2>Gweithredu<\/h2>\n<p>Yng Nghaerdydd, mae ein Fframwaith Addysg Gynhwysol yn helpu cydweithwyr i gymryd camau ymarferol tuag at y nod hwn. Mae&#8217;n ein hannog i feddwl ymlaen llaw am yr anghenion gwahanol a allai fod gan fyfyrwyr, yn hytrach nag aros nes bod problemau&#8217;n codi.<\/p>\n<p>Yn ymarferol, gallai hyn olygu cynnig deunyddiau dysgu mewn gwahanol fformatau, creu cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd saib, myfyrio a gwneud cysylltiadau, neu gynnwys enghreifftiau sy&#8217;n adlewyrchu hunaniaethau a phrofiadau amrywiol. Mae&#8217;r Fframwaith hefyd yn tynnu ar Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL), sy&#8217;n pwysleisio ffyrdd hyblyg i fyfyrwyr ymgysylltu \u00e2 chynnwys, dangos eu dysgu a chymryd rhan yn y dosbarth. Caiff y syniadau hyn eu hystyried ymhellach yn y <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/theme-overview\/inclusivity\/introduction-to-inclusive-education\/\">Pecyn Cymorth Datblygu Addysg<\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r nod cyffredinol yn syml: creu amgylcheddau dysgu lle gall cynifer o fyfyrwyr \u00e2 phosibl ffynnu heb fod angen cymorth ychwanegol.<\/p>\n<h2>Effaith<\/h2>\n<p>Pan fydd yr egwyddorion dylunio cynhwysol hyn wedi&#8217;u hymgorffori&#8217;n gyson, mae&#8217;r manteision yn ymestyn ar draws y garfan gyfan. Rydyn ni\u2019n dechrau mynd i&#8217;r afael ag anghydraddoldebau parhaus ym mhrofiad myfyrwyr, ac rydyn ni\u2019n lleihau&#8217;r tensiwn y mae rhai myfyrwyr (yr un grwpiau yn aml, flwyddyn ar \u00f4l blwyddyn) yn ei wynebu wrth ymdopi ag addysg uwch. Mae\u2019n bwysig nodi, nid yw arfer cynhwysol yn gostwng disgwyliadau; mae&#8217;n ehangu&#8217;r llwybrau y gall myfyrwyr eu bodloni.<\/p>\n<h2>Myfyrdodau \/ Beth sydd nesaf?<\/h2>\n<p>Mae addysg gynhwysol yn tyfu trwy newidiadau bach, meddylgar. Cyfarwyddiadau cliriach. Dewis o fformatau. Gwahoddiad i fyfyrwyr gynnig eu safbwyntiau. Munud i wirio a allai rhywbeth yn ein haddysgu fod yn eithrio rhywun yn anfwriadol. <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_23078\">Mae Model Gwella Caerdydd yn cefnogi cydweithwyr yn y gwaith hwn<\/a> \u2013 gan gynorthwyo i fyfyrio ar ymarfer a gosod targedau ystyrlon at ddatblygiad parhaus.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r addasiadau hyn yn creu mannau dysgu sy&#8217;n teimlo&#8217;n fwy agored, ystyriol a chefnogol.<\/p>\n<h2 id=\"post-6131 media-6131\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 187px;height: 248px\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/02\/Screenshot-2026-02-26-103001.png\" alt=\"\" width=\"159\" height=\"210\" \/>Man cychwyn<\/h2>\n<p class=\"image align-none\">I ysgogi syniadau, dyma ambell i gwestiwn i\u2019ch helpu i fyfyrio ar gynwysoldeb yn eich cyd-destun eich hun:<\/p>\n<ul>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" data-list-defn-props=\"{&quot;335552541&quot;:1,&quot;335559685&quot;:720,&quot;335559991&quot;:360,&quot;469769226&quot;:&quot;Symbol&quot;,&quot;469769242&quot;:[8226],&quot;469777803&quot;:&quot;left&quot;,&quot;469777804&quot;:&quot;\uf0b7&quot;,&quot;469777815&quot;:&quot;hybridMultilevel&quot;}\" data-aria-posinset=\"1\" data-aria-level=\"1\">Pa dybiaethau y gallai eich gweithgareddau addysgu eu gwneud am amser, adnoddau neu wybodaeth flaenorol myfyrwyr?<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li data-leveltext=\"\uf0b7\" data-font=\"Symbol\" data-listid=\"4\" data-list-defn-props=\"{&quot;335552541&quot;:1,&quot;335559685&quot;:720,&quot;335559991&quot;:360,&quot;469769226&quot;:&quot;Symbol&quot;,&quot;469769242&quot;:[8226],&quot;469777803&quot;:&quot;left&quot;,&quot;469777804&quot;:&quot;\uf0b7&quot;,&quot;469777815&quot;:&quot;hybridMultilevel&quot;}\" data-aria-posinset=\"2\" data-aria-level=\"1\">Ble allech chi gyflwyno ail, neu drydydd, ffordd o ymgysylltu \u00e2 thasg, darlleniad neu drafodaeth?<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Y Cyd-destun Pan rydyn ni'n siarad am addysg gynhwysol, rydyn ni mewn gwirionedd yn s\u00f4n am gynllunio dysgu fel bod pob myfyriwr, waeth beth fo'i gefndir, ei hunaniaeth neu ei [&hellip;]","protected":false},"author":7173,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1095],"tags":[1097],"custom_author":[1102],"class_list":["post-6153","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-addysg-gynhwysol","tag-inclusive-education","custom_author-inclusive-education-team"],"lang":"cy","translations":{"cy":6153,"en":6148},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1Bf","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6153","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7173"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6153"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6153\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6154,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6153\/revisions\/6154"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6153"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6153"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6153"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6153"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}