{"id":6074,"date":"2026-01-08T10:57:18","date_gmt":"2026-01-08T10:57:18","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6074"},"modified":"2026-01-08T10:57:23","modified_gmt":"2026-01-08T10:57:23","slug":"magu-hyder-drwy-gydweithio-creu-canllaw-i-fyfyrwyr-ar-gyfer-dysgu-canolog","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/magu-hyder-drwy-gydweithio-creu-canllaw-i-fyfyrwyr-ar-gyfer-dysgu-canolog\/","title":{"rendered":"Magu Hyder Drwy Gydweithio: Creu Canllaw i Fyfyrwyr ar gyfer Dysgu Canolog"},"content":{"rendered":"<p>Ysgrifennwyd gan Gemma Hackman, Technolegydd Dysgu yn y T\u00eem Addysg Ddigidol.<\/p>\n<p>Mae dechrau\u2019r brifysgol yn beth cyffrous, ond weithiau bydd yn gorlethu rhywun. I lawer o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf, mae dod i nabod amgylchedd dysgu rhithwir newydd ond yn her ychwanegol mewn rhestr hir. Eleni, gofynnodd t\u00eem Addysg Ddigidol gwestiwn syml: Sut gallwn ni wneud y profiad hwnnw\u2019n haws?<\/p>\n<p>Daeth yr ateb o le annisgwyl: Eesysoft, yr adnodd y mae ein cydweithwyr TG yn ei ddefnyddio i greu negeseuon naid penodol yn Dysgu Canolog (platfform Blackboard Ultra Prifysgol Caerdydd). Ar y dechrau, roedden ni eisiau deall sut roedd yn gweithio. Ond wrth inni ddysgu mwy am ei botensial, sylweddolon ni rywbeth mwy, sef cyfle i greu ganllaw ymarferol dan arweiniad a fyddai\u2019n helpu myfyrwyr i deimlo\u2019n hyderus o\u2019r cychwyn cyntaf un.<\/p>\n<h3>Cyd-greu wrth ei graidd<\/h3>\n<p>Yn hytrach na dylunio hyn ar ei ben ei hun, ychwanegon ni\u2019r lleisiau pwysicaf: y Myfyrwyr Hyrwyddo Roedd eu mewnbwn yn amhrisiadwy. Sonion nhw am y nodweddion y mae myfyrwyr yn eu defnyddio go iawn, beth sy\u2019n cael ei anwybyddu a\u2019r hyn sy\u2019n peri penbleth. Trafodon ni\u2019r manylion \u2013 er enghraifft, faint o gamau oedd yn ormod. Ddylen ni gynnwys nodweddion uwch neu gadw at y pethau hanfodol? Sut gallwn ni wneud hyn yn berthnasol i bawb, yn enwedig os yw ein cymuned mor amrywiol? Cafodd pob penderfyniad ei lunio gan eu safbwyntiau a chafodd pob cam ei ddylunio gan gadw cynhwysiant mewn cof. Roeddwn ni eisiau sicrhau bod y cymorth a roddwyd ar y sgrin yn mynd i&#8217;r afael ag anghenion go iawn myfyrwyr tra\u2019n parhau i fod yn ddefnyddiol. Un darganfyddiad annisgwyl yn yr arolwg diweddaraf o gipolygon digidol oedd y nodwedd chwilio, sef nodwedd syml a all arbed amser a rhwystredigaeth, ond yn aml byddai defnyddwyr newydd yn ei cholli. Daeth cynnwys awgrymiadau defnyddiol fel hyn yn flaenoriaeth.<\/p>\n<h3>Dylunio er Eglurder<\/h3>\n<p>Roedden ni\u2019n gwybod bod yn rhaid i\u2019r canllaw fod yn fyr, yn weledol ac yn hawdd i\u2019w ddilyn. Wedi\u2019r cyfan, nid oes ar neb eisiau darllen llawlyfr yn ystod yr wythnos gyntaf yn y brifysgol. Y canlyniad? Canllaw symlach sy&#8217;n cyfuno testun clir \u00e2 GIFs sy&#8217;n dangos pob cam ar waith, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae\u2019n ymarferol, yn hygyrch ac wedi\u2019i ddylunio i leihau\u2019r llwyth gwybyddol i fyfyrwyr sydd eisoes yn cydbwyso cynifer o bethau.<\/p>\n<h3>Pam mae hyn yn bwysig<\/h3>\n<p>Nid yw&#8217;r prosiect hwn yn ymwneud \u00e2 thechnoleg yn unig, mae&#8217;n ymwneud \u00e2 phontio. Mae symud i\u2019r brifysgol yn gam mawr ac mae hyder digidol yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran y gefnogaeth a gaiff myfyrwyr yn eu barn nhw. Drwy greu\u2019r canllaw hwn, rydyn ni\u2019n helpu myfyrwyr i dreulio llai o amser yn dod i arfer \u00e2 systemau a mwy o amser yn canolbwyntio ar y peth pwysicaf, sef dysgu.<\/p>\n<h3>Edrych tua\u2019r Dyfodol<\/h3>\n<p>I ni, roedd hyn yn fwy nag ymarfer technegol. Gwaith ar y cyd oedd a oedd yn cyfuno arbenigedd staff \u00e2 safbwyntiau myfyrwyr, gan ddangos bod yr atebion gorau yn dod pan fyddwn ni\u2019n dylunio ar y cyd \u00e2 myfyrwyr, nid ar eu cyfer nhw yn unig.<\/p>\n<p>Os oes gennych chi syniadau fyddai\u2019n gwneud profiad y myfyriwr yn well fyth, bydden ni wrth ein boddau yn eu clywed. Cysylltwch \u00e2 ni! ltacademy@caerdydd.ac.uk<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ysgrifennwyd gan Gemma Hackman, Technolegydd Dysgu yn y T\u00eem Addysg Ddigidol. Mae dechrau\u2019r brifysgol yn beth cyffrous, ond weithiau bydd yn gorlethu rhywun. I lawer o fyfyrwyr yn y flwyddyn [&hellip;]","protected":false},"author":7167,"featured_media":6071,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1059],"class_list":["post-6074","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-gemma-hackman"],"lang":"cy","translations":{"cy":6074,"en":6070},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1zY","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2026\/01\/Gemini_Generated_Image_iegfaviegfaviegf.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6074","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7167"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6074"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6074\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6075,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6074\/revisions\/6075"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6071"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6074"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6074"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6074"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6074"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}