{"id":6021,"date":"2025-12-03T09:23:39","date_gmt":"2025-12-03T09:23:39","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=6021"},"modified":"2025-12-03T11:38:23","modified_gmt":"2025-12-03T11:38:23","slug":"cadwr-dynol-yn-oes-da-myfyrdodau-o-gynhadledd-alt-2025","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/cadwr-dynol-yn-oes-da-myfyrdodau-o-gynhadledd-alt-2025\/","title":{"rendered":"Cadw\u2019r dynol yn oes DA: Myfyrdodau o Gynhadledd ALT 2025"},"content":{"rendered":"<h3>Ysgrifennwyd gan <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/staff\/obrienh3\">Hannah Salisbury<\/a>, dylunydd dysgu o\u2019r T\u00eem Addysg Ddigidol yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.<\/h3>\n<p>Yn gynharach y mis hwn, aeth <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/staff\/majzonovam\">Marianna<\/a> a fi i Glasgow heulog ar gyfer <a href=\"https:\/\/altc.alt.ac.uk\/altc\/\">Cynhadledd ALT<\/a> 2025.<\/p>\n<p>Nid oedd yn syndod bod deallusrwydd artiffisial (DA) yn thema gyson yn y trafodaethau. Y peth mwyaf syfrdanol a oedd wedi ein taro oedd nad oedd y ffocws ar fanylion technegol na\u2019r galluoedd diweddaraf ym maes DA, ond yn hytrach ar sut rydyn ni\u2019n \u2018cadw\u2019r elfen ddynol\u2019 wrth ganol addysg wrth i DA ddod yn rhan o fywyd bob dydd.<\/p>\n<figure id=\"post-6022 media-6022\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/12\/Media-1.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Roedd llinell o\u2019r brif araith daro tant \u00e2 fi: Byddwch yn arweinydd, nid yn algorithm.\u201d Er bod DA yn datblygu\u2019n gyflym, cawson ni ei hatgoffa gan Dr Charles Knight, Cyfarwyddwr Addysgeg, Llywodraethu a Rheoli yn Advance HE, fod arweinyddiaeth ym myd addysg uwch yn ddynol yn ei hanfod o hyd.\u00a0 Mae gan bobl rinweddau megis crebwyll, empathi a chyd-destun, sgiliau na all technoleg eu hatgynhyrchu.<\/p>\n<p>Bu Dr Knight yn trafod am y ffaith mai\u2019r teclyn diweddaraf inni yw DA ac y bydd pobl bob amser yn chwilio am adnoddau i\u2019n cefnogi: Wrth i DA yn dod yn fwyfwy dirwystr, mae\u2019n dod yn rhan fwy cyfannol o&#8217;r systemau rydyn ni&#8217;n eu defnyddio bob dydd, ac nid yw ein polis\u00efau wedi dal i fyny hyd yn hyn. Rydyn ni\u2019n dweud wrth fyfyrwyr \u2018peidiwch \u00e2 gorddefnyddio DA,\u2019 wrth roi Office 365 iddyn nhw sydd \u00e2 DA yn rhan ganolog iddo. Siaradodd Dr Knight am y gwrthddywediad hwn gan ddweud na fydd polis\u00efau ar eu pennau eu hunain yn rheoli newid technolegol. Yr hyn sy&#8217;n bwysig yw hyfedredd: deall y fframwaith y tu \u00f4l i DA a gwneud penderfyniadau gwybodus, moesegol ynghylch sut rydyn ni\u2019n ei ddefnyddio. Offeryn yw DA, ac nid y nod yw dod yn llai deallus. Y nod yw cyfuno deallusrwydd emosiynol \u00e2 llythrennedd data. Cafodd y them\u00e2u hyn eu hadleisio mewn adroddiad diweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI) a anogodd brifysgolion i ymgorffori llythrennedd DA ar gyfer staff a myfyrwyr. Tynnodd sylw at yr angen am foeseg a thryloywder a strategaethau technolegol clir, yn ogystal \u00e2\u2019r angen i ailfeddwl y broses o asesu wrth i DA cynhyrchiol herio arholiadau a thraethodau traddodiadol.<\/p>\n<p>Thema allweddol arall y gynhadledd oedd y syniad bod yn rhaid inni gofleidio newid mewn addysg. \u2018nid opsiwn mo dychwelyd i\u2019r gorffennol\u2019. Siaradodd llawer o gyfranwyr am sut mae gofyn i addysg uwch gofleidio newid ar y cyd, ac mae hynny\u2019n golygu dechrau sgyrsiau cyn i bobl eraill wneud hynny. Yn gysylltiedig \u00e2 hyn roedd un o\u2019n hoff bwyntiau myfyrio yn dilyn y gynhadledd, sef yr alwad i greu lle i arbrofi. Mae angen diwylliant chwilfrydedd arnon ni sydd a\u2019r caniat\u00e2d i arloesi heb fod ofn methu. Soniodd llawer o siaradwyr yn y gynhadledd am yr angen am dryloywder a sut mae \u2018cyfrinachedd yn erydu ymddiriedaeth\u2019, yn enwedig ymhlith arweinwyr. Siaradwn \u00e2\u2019n gilydd a pharhau i fod yn chwilfrydig!<\/p>\n<h4><strong><u>Ein Cyflwyniad<\/u><\/strong><\/h4>\n<p>Un o\u2019r uchafbwyntiau inni oedd rhoi\u2019r cyflwyniad ar y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda\u2019n Partneriaid Profiad y Myfyrwyr (Myfyrwyr Hyrwyddo gynt). Mae\u2019r fenter hon wedi bod yn ganolog i\u2019n dull yn yr Academi Dysgu ac Addysgu, gan sicrhau bod ymgynghori ar y myfyrwyr yn digwydd a\u2019u bod hefyd yn cymryd rhan amlwg yn y broses o lunio&#8217;r amgylchedd dysgu. Rhannon ni enghreifftiau o brosiectau ar y cyd, syniadau ein partneriaid a\u2019r effaith y mae\u2019r partneriaethau hyn wedi\u2019u cael ar ein staff a\u2019n myfyrwyr.<\/p>\n<figure id=\"post-6023 media-6023\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/12\/Media-2-1.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Roedd yr ymateb gan y cynrychiolwyr yn hynod o gadarnhaol. Soniodd llawer am ba mor braf oedd gweld dull mor strwythuredig ac ystyrlon o weithio ar y cyd \u00e2 myfyrwyr, a gofynnodd sawl un am adnoddau a chyngor ar roi modelau tebyg ar waith yn eu sefydliadau eu hunain. Peth calonogol oedd gweld bod yr egwyddorion rydyn ni bod yn eu hyrwyddo (creu ar y cyd, cynhwysiant ac ymgysylltu\u2019n ddilys) yn cyd-daro \u00e2 phobl eraill. Ar ben hyn, adleisiodd cyflwyniadau eraill ein teimladau: \u2018mae myfyrwyr eisiau bod yn bwysig\u2019 (Austen et al., 2021).<\/p>\n<figure id=\"post-6024 media-6024\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/12\/Media-3-1.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Yn ein cyflwyniad, siaradon ni lawer am sut mae&#8217;r holl waith rydyn ni&#8217;n ei wneud gyda Phartneriaid Profiad y Myfyrwyr wedi&#8217;i seilio ar y nod o greu ymdeimlad o &#8216;gynefin&#8217; rydyn ni&#8217;n ymdrechu i&#8217;w gyflawni yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae\u2019r gair \u2018cynefin\u2019 yn cyfleu ymdeimlad o berthyn neu gysylltiad \u00e2 lle. Rydyn ni eisiau i&#8217;n partneriaid sy\u2019n fyfyrwyr deimlo&#8217;n rhan wirioneddol o&#8217;r t\u00eem. Felly, rydyn ni\u2019n ceisio mwynhau eiliadau anffurfiol gyda nhw, boed hynny&#8217;n goffi achlysurol neu&#8217;n sgwrs braf yn y swyddfa. Ar \u00f4l diwrnod cyntaf y gynhadledd, aethon ni i ginio mawreddog a ceilidh (digwyddiad cymdeithasol traddodiadol o\u2019r Alban lle bydd dawnsio). Roedd y ceilidh wir yn un o uchafbwyntiau\u2019r digwyddiad! Mae rhywbeth am gerddoriaeth fyw a dawnsio sy\u2019n dwyn pobl ynghyd yn y ffordd orau. Peth braf yw cysylltu \u00e2 phobl y tu allan i\u2019r lleoliad arferol ar gyfer cynhadledd lle bydd sgyrsiau weithiau ychydig yn ffurfiol.<\/p>\n<figure id=\"post-6025 media-6025\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/12\/Media-4-2.jpg\" alt=\"\" width=\"700\" height=\"525\" \/><figcaption class=\"caption\">Ni gyda chydweithwyr o Anthology yn y Cinio Mawreddog<\/figcaption><\/figure>\n<p>Peth hyfryd oedd gweld faint roedd hynny ar gael hefyd yn y diwrnod canlynol, a sylweddolodd Marianna a fi fod y teimlad a gawson ni yn union fel yr un rydyn ni eisiau i&#8217;n Partneriaid Profiad y Myfyrwyr ei gael. Gan ein bod eisoes wedi rhannu\u2019r eiliadau ysgafn a hwyliog hynny, roedd yn llawer haws mynd at bobl a dechrau sgwrsio yn ystod y sesiynau a rhwng y cyflwyniadau. Gwnaeth y ceilidh dorri&#8217;r i\u00e2 mewn ffordd na all e-byst na chyflwyniadau \u2013 ac ni allai DA byth ddawnsio mewn ceilidh!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ysgrifennwyd gan Hannah Salisbury, dylunydd dysgu o\u2019r T\u00eem Addysg Ddigidol yn yr Academi Dysgu ac Addysgu. Yn gynharach y mis hwn, aeth Marianna a fi i Glasgow heulog ar gyfer [&hellip;]","protected":false},"author":7167,"featured_media":6009,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1080],"class_list":["post-6021","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-hannah-salisbury"],"lang":"cy","translations":{"cy":6021,"en":5999},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1z7","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/12\/Media.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6021","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7167"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6021"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6021\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6026,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6021\/revisions\/6026"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6009"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6021"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6021"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6021"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=6021"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}