{"id":5962,"date":"2025-11-10T09:29:18","date_gmt":"2025-11-10T09:29:18","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5962"},"modified":"2025-11-10T09:36:27","modified_gmt":"2025-11-10T09:36:27","slug":"y-labordy-cemeg-ac-iaith-camp-myfyriwr-wrth-lunio-geirfa-cemeg-i-bawb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/y-labordy-cemeg-ac-iaith-camp-myfyriwr-wrth-lunio-geirfa-cemeg-i-bawb\/","title":{"rendered":"Y Labordy Cemeg ac Iaith: Camp myfyriwr wrth lunio geirfa Cemeg i bawb"},"content":{"rendered":"<h4><strong>Gemma Hackman, o\u2019r Academi Dysgu ac Addysgu, sydd wedi ysgrifennu\u2019r blog hwn.<\/strong><\/h4>\n<p>Dros yr haf, digwyddodd rhywbeth tawel ond cwbl wych yn yr Ysgol Cemeg.Daeth David Miller (Ysgol Cemeg, Cyfarwyddwr Astudiaethau \u00d4l-raddedig a Addysgir), Ria Koshi (myfyrwraig ar leoliad haf), David Harries (Rheolwr Rhaglen Sgiliau Saesneg Academaidd Myfyrwyr Rhyngwladol), a minnau ynghyd ar drywydd nod cyffredin: gwneud terminoleg cemeg yn haws i fyfyrwyr nad yw\u2019r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw. Y canlyniad? Geirfa amlieithog a chwiliadwy ar Padlet ynghyd \u00e2 chanllawiau ynganu ac enghreifftiau cyd-destunol.<\/p>\n<p>Ond nid rhyw hanner gwneud y gwaith neu ymarfer blwch ticio mohono. Gwaith meddylgar gan fyfyrwyr sydd yma ac mae \u00f4l empathi go iawn arno.<\/p>\n<p>Cymerodd Ria, myfyrwraig ar leoliad haf, yr awenau wrth hel cofnodion yr eirfa a gweithio&#8217;n agos gyda\u2019r academydd David Miller i ddod o hyd i\u2019r termau fydd yn aml yn peri anhawster i fyfyrwyr. Nid dim ond diffinio&#8217;r geiriau oedd byrdwn y gwaith, ychwanegwyd nhw ar ben hynny gymorth ynganu ac enghreifftiau sy&#8217;n dangos sut mae&#8217;r term yn cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun cywir. Mae\u2019r haen ychwanegol honno o gymorth yn gwneud gwahaniaeth go iawn pan fyddwch chi&#8217;n ceisio deall iaith wyddonol ddwys mewn ail (neu drydedd!) iaith.<\/p>\n<h4>Dyma beth oedd gan Ria i&#8217;w ddweud am y broses:<\/h4>\n<p>Mwynheuais i\u2019n fawr gweithio ar y prosiect hwn ac ro\u2019n i\u2019n hynod lwcus bod cynifer o bobl anhygoel wedi fy helpu! Wrth siarad \u00e2&#8217;r myfyrwyr eraill, dechreuais i ddeall safbwyntiau cwbl newydd ac roedd y cyfan yn ofnadwy o ddiddorol. Serch hynny, do\u2019n i erioed wedi gwneud y math yma o beth o&#8217;r blaen, felly ces i amser gwych yn dysgu mwy am y mathau gwahanol o feddalwedd ro\u2019n i\u2019n gallu eu defnyddio. Ar y cyfan, gobeithio y bydd yr eirfa o gymorth, ac rwy&#8217;n hynod o ddiolchgar o gael y cyfle i gyfrannu.<\/p>\n<p>Mae defnyddio\u2019r Padlet yn beth greddfol a chynhwysol. Mae&#8217;n cefnogi llu o ieithoedd a sgriptiau yn ogystal \u00e2 bod yn chwiliadwy i fyfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd ieithyddol. P&#8217;un a ydych chi&#8217;n chwilio am \u201cstoichiometreg\u201d yn yr Arabeg neu \u201centropi\u201d yn y Fandarineg, mae&#8217;r cyfan yno ichi yn yr eirfa.<\/p>\n<p><strong>Yn well fyth, mae\u2019n hyblyg o ran ei ddefnyddio.<\/strong> Mae modd rhannu&#8217;r Padlet yn rhwydd mewn sawl modiwl yn Dysgu Canolog (Blackboard Ultra) felly dyma adnodd y gellir ei ailddefnyddio yn achos unrhyw gwrs pan fydd terminoleg cemeg yn rhwystr hwyrach rhag deall y testun.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r prosiect hwn yn enghraifft wych o&#8217;r hyn all ddigwydd pan fyddwn ni\u2019n dod \u00e2 chanfyddiadau\u2019r myfyrwyr, arbenigedd yr academyddion ac offer digidol ynghyd. Nid cyfieithu geiriau yn unig mo hyn, ymwneud \u00e2 chyfleu dealltwriaeth y mae.<\/p>\n<p>Cewch bori drwy\u2019r eirfa yma: <a href=\"https:\/\/cardiff.padlet.org\/hackmang1\/chemy-glossary-y09lm1jpxdaw5kqb\">Geirfa Cemeg Padlet<\/a><\/p>\n<p>Ac os ydych chi&#8217;n meddwl am sut i gefnogi dysgwyr amlieithog yn eich disgyblaeth eich hun, hwyrach bod yr adnodd hwn yn lle gwych i ddechrau.<\/p>\n<h4>Eisiau gwybod rhagor am sut y gall Padlet gefnogi eich addysgu neu eich prosiectau ar y cyd?<\/h4>\n<p>Caiff staff Prifysgol Caerdydd gael gafael ar drwydded Padlet, dyma sut i ddechrau arni a manteisio arni i\u2019r eithaf drwy ddilyn y <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/teach-and-assess-students\/learning-and-teaching-development\/tools-and-platforms-for-teaching\/padlet\">ddolen hon<\/a>.<\/p>\n<h4>Oes gennych chi syniad difyr ym maes addysgu neu gefnogi myfyrwyr?<\/h4>\n<p>Mae&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu yma i helpu i wireddu prosiectau, cysylltwch \u00e2 ni! <a href=\"mailto:ltacademy@cardiff.ac.uk\">ltacademy@caerdydd.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gemma Hackman, o\u2019r Academi Dysgu ac Addysgu, sydd wedi ysgrifennu\u2019r blog hwn. Dros yr haf, digwyddodd rhywbeth tawel ond cwbl wych yn yr Ysgol Cemeg.Daeth David Miller (Ysgol Cemeg, Cyfarwyddwr [&hellip;]","protected":false},"author":7167,"featured_media":5951,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792,1006],"tags":[],"custom_author":[1059],"class_list":["post-5962","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","category-interniaethau-ar-y-campws","custom_author-gemma-hackman"],"lang":"cy","translations":{"cy":5962,"en":5950},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1ya","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/11\/Picture1.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5962","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7167"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5962"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5962\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5978,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5962\/revisions\/5978"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5951"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5962"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5962"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5962"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5962"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}