{"id":5941,"date":"2025-11-07T10:38:38","date_gmt":"2025-11-07T10:38:38","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5941"},"modified":"2025-11-07T10:38:38","modified_gmt":"2025-11-07T10:38:38","slug":"astudiaeth-achos-cymrodoriaeth-diana-de","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/astudiaeth-achos-cymrodoriaeth-diana-de\/","title":{"rendered":"Astudiaeth Achos Cymrodoriaeth: Diana De"},"content":{"rendered":"<h4>Roedd cael cadarnhad bod <a href=\"https:\/\/advance-he.ac.uk\/\">Advance HE<\/a> wedi dyfarnu Prif Gymrodoriaeth i mi\u2019n gyflawniad personol a phroffesiynol enfawr. Mae\u2019n bendant yn garreg filltir yn fy ngyrfa academaidd ac yn tystio i\u2019m cyfraniad i\u2019r sector addysg uwch.<\/h4>\n<p>Mae angen i Brif Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch ddangos hanes parhaus o fod yn arweinydd strategol effeithiol wrth sicrhau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel a chefnogi eraill ym myd addysg uwch. Mae pwyslais cryf ar ddangos gweledigaeth, arwain a thrawsnewid ymarfer, polisi a chanllawiau cenedlaethol. Mae angen cyflwyno tystiolaeth o wneud gwahaniaeth go iawn a chael effaith gadarnhaol drwy gyfrwng tair astudiaeth achos ar wah\u00e2n. Roedd angen i\u2019r rhain rychwantu 5-7 blwyddyn o leiaf.<\/p>\n<p>Mae\u2019n rhaid i mi gyfaddef nad oedd hi\u2019n hawdd. Cymerodd gryn amser i mi lunio fy nghais terfynol. Roedd dewis fy nhair astudiaeth achos (allan o restr hir o opsiynau) a chynllunio sut i gyflwyno\u2019r rhain wedi cymryd amser ac ystyriaeth ofalus. Roedd angen cyfleu\u2019n glir fy rhan unigryw yn y gwaith o ddylanwadu ar newid strategol sylweddol, gan gynnwys ei chyfiawnhau drwy gyflwyno data a thystiolaeth bellach (7,000 o eiriau i gyd). Roedd y broses gyfan yn un hynod fyfyriol. Ar \u00f4l dechrau arni, daeth y gwaith ysgrifennu\u2019n fwy rhwydd. Yna, roedd angen i dri gweithiwr proffesiynol annibynnol o\u2019r sector addysg uwch ddilysu fy honiadau. Roedd angen i un ohonyn nhw o leiaf fod o\u2019r tu allan i\u2019m sefydliad fy hun.<\/p>\n<p>Peidiwch \u00e2 gwrando ar y rhai a allai ddweud \u2018fyddai hynny byth yn ddigon\u2019. Dyna\u2019r cyngor a roddais i gydweithiwr yn Ysgol y Gyfraith, a oedd yn credu mai hyn oedd y prif rwystr i wneud cais am Brif Gymrodoriaeth. Cofiwch \u2013 bydd pob cais yn unigryw. Ewch amdani. Ceisiwch gymorth gan rwydwaith Prifysgol Caerdydd o Gymrodyr a\u2019r Academi Dysgu ac Addysgu. Mae Advance HE hefyd yn cynnig arweiniad defnyddiol. Gall siarad \u00e2 Chymrodyr eraill Advance HE ar bob lefel eich ysgogi a\u2019ch ysbrydoli.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n meddwl bod y Prif Gymrawd yn cryfhau eich arweinyddiaeth, eich gwerth a&#8217;ch hygrededd proffesiynol. Mae&#8217;n rhoi cydnabyddiaeth i\u2019r cyfraniadau rydych chi wedi&#8217;u gwneud ac yn parhau i&#8217;w gwneud yn y byd academaidd a thu hwnt. Enghraifft o hyn yw bod yn addysgwr nyrsys arbenigol, gan gynrychioli tasglu byd-eang Cymdeithas Hematoleg Prydain i Sambia. Yno, ces i\u2019r dasg o gynnal adolygiad o hyfforddiant &#8216;trallwysiad gwaed diogel&#8217; y wlad a sut y gallai fod yn fwy effeithiol. Yn fy adroddiad roedd argymhellion ar wella effeithiolrwydd yr hyfforddiant presennol. Roedd fy mewnbwn wedi cryfhau gweithio mewn partneriaeth ryngwladol, ond ar ben hynny bwydodd i mewn i brosiect rhwng GIG Lloegr a Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Cenedlaethol Sambia er mwyn sicrhau\u2019r nod ehangach, sef gwella safon deilliannau morbidrwydd a marwolaeth cleifion ledled gwasanaethau mamolaeth. Ar lefel fwy lleol, bydda i\u2019n rhannu rhai argymhellion \u00e2&#8217;r t\u00eem Nyrsio Oedolion i&#8217;w hymgorffori yn rhan o addysgu hemo-wyliadwriaeth lleol i&#8217;n nyrsys sy\u2019n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen\u00a0<a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/awards-and-recognition\/cardiff-university-education-fellowship-programmes\">Rhaglenni Cymrodoriaeth Prifysgol Caerdydd<\/a>\u00a0neu cysylltwch \u00e2\u00a0<a href=\"http:\/\/ltacademy@caerdydd.ac.uk.\/\">ltacademy@caerdydd.ac.uk.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Roedd cael cadarnhad bod Advance HE wedi dyfarnu Prif Gymrodoriaeth i mi\u2019n gyflawniad personol a phroffesiynol enfawr. Mae\u2019n bendant yn garreg filltir yn fy ngyrfa academaidd ac yn tystio i\u2019m [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5946,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[921],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-5941","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymrodoriaethau-addysg"],"lang":"cy","translations":{"cy":5941,"en":5937},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1xP","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Sized-61.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5941","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5941"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5941\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5942,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5941\/revisions\/5942"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5946"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5941"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5941"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5941"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5941"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}