{"id":5935,"date":"2025-10-29T12:35:52","date_gmt":"2025-10-29T12:35:52","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5935"},"modified":"2025-10-29T12:35:52","modified_gmt":"2025-10-29T12:35:52","slug":"astudiaeth-achos-cymrodoriaeth-ellie-dorrans","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/astudiaeth-achos-cymrodoriaeth-ellie-dorrans\/","title":{"rendered":"Astudiaeth Achos Cymrodoriaeth: Ellie Dorrans"},"content":{"rendered":"<h4>Cwblheais i\u2019r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt tra oeddwn i\u2019n astudio ar gyfer fy PhD. Rwy bellach ran o\u2019r ffordd drwy\u2019r Rhaglen Cymrodoriaeth. Wrth edrych yn \u00f4l, y broses hon sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar fy natblygiad yn addysgwr. Mae wedi cynnig y strwythur a\u2019r anogaeth i oedi a gwir ystyried fy nulliau o addysgu, yr hyn sydd fwyaf pwysig wrth i mi fynd ati i ymarfer ac ym mha ffordd rwy\u2019n gallu parhau i ddatblygu\u2019n broffesiynol.<\/h4>\n<p>Oherwydd hyn, rwy wedi dod i werthfawrogi adborth myfyrwyr mewn ffordd hollol wahanol. Yn hytrach na\u2019i ystyried yn rhywbeth i\u2019w gasglu ar ddiwedd modiwl, rwy bellach yn ei ystyried yn sgwrs barhaus. Rwy\u2019n mynd ati i greu cyfleoedd i fyfyrwyr rannu eu meddyliau a\u2019u profiadau drwy gydol cwrs ac yn gwneud gwir ymdrech i weithredu ar yr hyn sy\u2019n cael ei ddweud wrtha i. Pan fydd myfyrwyr yn ein gweld yn gweithredu ar eu hadborth a bod eu hadborth yn llywio eu hamgylchedd dysgu, mae\u2019n meithrin ymddiriedaeth ac ymdeimlad o bartneriaeth, ac mae hynny wedi trawsnewid fy ymarfer addysgu a\u2019r amgylchedd yn yr ystafell ddosbarth.<\/p>\n<p>Mae t\u00eem y Rhaglen Cymrodoriaeth wedi chwarae r\u00f4l enfawr yn y gwaith hwnnw o drawsnewid fy ymarfer addysgu. Mae aelodau\u2019r t\u00eem yn rhoi cyngor gwych, ac maen nhw bob amser yno i gynnig gwybodaeth ac anogaeth. Mae datblygiad pob un sy\u2019n cymryd rhan yn y rhaglen yn wirioneddol bwysig iddyn nhw. Maen nhw\u2019n gwneud mwy na dim ond trafod arfer gorau \u2013 maen nhw\u2019n ei roi ar waith drwy eu gweithdai a\u2019r cymorth y maen nhw\u2019n ei roi, gan ddangos i bawb sy\u2019n cymryd rhan sut beth yw ymarfer effeithiol a chynhwysol sy\u2019n canolbwyntio ar y myfyriwr.<\/p>\n<p>Ymhlith yr uchafbwyntiau (hyd yma), mae seremoni raddio\u2019r Rhaglen Cymrodoriaeth yn sefyll allan. Roedd sefyll mewn ystafell yng nghwmni cydweithwyr a oedd yn amrywio o Gymrodyr Cyswllt i Brif Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol yn wirioneddol ysbrydoledig, gan wybod ein bod i gyd yn rhannu angerdd, sef addysgu i\u2019r safon orau bosibl. Mae cyfleoedd i ymgysylltu \u00e2 chydweithwyr yn y ffordd hon, sy\u2019n cyflawni gwahanol rolau mewn gwahanol feysydd pwnc, yn brin. Mae\u2019r gymuned o Gymrodyr yn cynnig amgylchedd unigryw sy\u2019n galluogi cydweithio i ffynnu.<\/p>\n<p>Ni alla i argymell y rhaglenni ddigon. Maen nhw\u2019n cydnabod yr ymrwymiad sydd ei angen i addysgu ond, yn bwysicach, y pleser a\u2019r ymdeimlad o bwrpas y mae\u2019n eu rhoi. Byddai pawb sy\u2019n addysgu, waeth ble maen nhw arni yn eu gyrfaoedd, yn elwa o ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned hon ac ystyried eu hymarfer mewn amgylchedd mor gefnogol.<\/p>\n<p>Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/awards-and-recognition\/cardiff-university-education-fellowship-programmes\">Rhaglenni Cymrodoriaeth Prifysgol Caerdydd<\/a> neu cysylltwch \u00e2 <a href=\"http:\/\/ltacademy@caerdydd.ac.uk.\">ltacademy@caerdydd.ac.uk.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cwblheais i\u2019r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt tra oeddwn i\u2019n astudio ar gyfer fy PhD. Rwy bellach ran o\u2019r ffordd drwy\u2019r Rhaglen Cymrodoriaeth. Wrth edrych yn \u00f4l, y broses hon sydd wedi [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5933,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[921],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-5935","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymrodoriaethau-addysg"],"lang":"cy","translations":{"cy":5935,"en":5931},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1xJ","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Sized-60.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5935","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5935"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5935\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5936,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5935\/revisions\/5936"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5933"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5935"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5935"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5935"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5935"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}