{"id":5902,"date":"2025-10-13T12:31:59","date_gmt":"2025-10-13T11:31:59","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5902"},"modified":"2025-10-13T12:32:41","modified_gmt":"2025-10-13T11:32:41","slug":"gwella-asesiadau-gwaith-tim-gyda-buddycheck-crynodeb-o-adolygiad-2024-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/gwella-asesiadau-gwaith-tim-gyda-buddycheck-crynodeb-o-adolygiad-2024-25\/","title":{"rendered":"Gwella Asesiadau Gwaith T\u00eem gyda BuddyCheck: Crynodeb o Adolygiad 2024\u201325"},"content":{"rendered":"<p>Wrth i waith gr\u0175p barhau i chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu sgiliau cydweithredu, cyfathrebu a datrys problemau, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn trin a thrafod ffyrdd o wneud asesiadau gwaith t\u00eem yn fwy teg ac effeithiol. Mae<strong> BuddyCheck <\/strong>yn adnodd sy\u2019n prysur ddod i&#8217;r amlwg. Mae\u2019n blatfform gwerthuso gan gyfoedion sydd wedi&#8217;i gynllunio i gefnogi asesiadau gr\u0175p teg a thryloyw. Ar \u00f4l ei ddefnydd ehangach ym mlwyddyn academaidd 2024\u201325, mae adolygiad cynhwysfawr wedi casglu adborth gan dros <strong>1,000 o fyfyrwyr<\/strong> a <strong>63 o staff academaidd<\/strong> ar draws <strong>17 ysgol<\/strong>, ac mae&#8217;r canlyniadau&#8217;n galonogol.<\/p>\n<h2><strong>Beth mae staff a myfyrwyr yn ei ddweud<\/strong><\/h2>\n<p>Cafodd BuddyCheck gymeradwyaeth gref drwyddi draw:<\/p>\n<ul>\n<li>Disgrifiodd <strong>74% o staff<\/strong> eu profiad yn un \u201cda\u201d neu \u201crhagorol.\u201d<\/li>\n<li>Dywedodd <strong>86% o fyfyrwyr<\/strong> fod y platfform yn hawdd ei ddefnyddio.<\/li>\n<li>Cytunodd <strong>73% o fyfyrwyr<\/strong> fod sgorau unigol yn gwneud asesiadau gr\u0175p yn fwy teg.<\/li>\n<li><strong>4.06 allan o 5 seren<\/strong> oedd sg\u00f4r gyffredinol boddhad myfyrwyr.<\/li>\n<li>Nododd<strong> 55%<\/strong> o fyfyrwyr symudiad tuag at <strong>ganfyddiad mwy cadarnhaol<\/strong> o asesiadau gwaith t\u00eem.<\/li>\n<\/ul>\n<h2><strong>Manteision Allweddol<\/strong><\/h2>\n<p><strong>1. Hyrwyddo Tegwch ac Atebolrwydd<\/strong><br \/>\nMae BuddyCheck yn helpu i sicrhau bod cyfraniadau unigol yn cael eu cydnabod, gan leihau\u2019r risg o bobl yn cymryd mantais ar waith eu cyd-fyfyrwyr, ac annog myfyrwyr i gymryd perchnogaeth o&#8217;u rolau. Nododd staff fod y platfform yn ei gwneud yn haws gweld tanberfformiad a chydnabod ymdrech wirioneddol, ac roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi\u2019r tegwch o ran derbyn sg\u00f4r unigol am brosiect gr\u0175p.<\/p>\n<p><strong>2. Hybu ymgysylltiad a chymhelliant<\/strong><br \/>\nGan wybod y byddai adborth gan gyfoedion yn dylanwadu ar eu gradd, nododd nifer o fyfyrwyr bod mwy o gymhelliant ac ymgysylltiad ganddynt. Gwelodd staff well cydweithio a deinameg t\u00eem mwy adeiladol, gyda BuddyCheck yn meithrin diwylliant o fyfyrio a chyfrifoldeb.<\/p>\n<p><strong>3. Cefnogi Arferion Addysgu<\/strong><br \/>\nDywedodd dros draean o&#8217;r staff fod BuddyCheck wedi dylanwadu&#8217;n gadarnhaol ar eu hagwedd at waith gr\u0175p. Roedd yn lleihau&#8217;r baich gweinyddol, yn symleiddio prosesau adolygu gan gyfoedion, ac yn rhoi mwy o hyder i addysgwyr wrth reoli asesiadau gwaith t\u00eem.<\/p>\n<p><strong>4. Gwella Canlyniadau Myfyrwyr<\/strong><br \/>\nSylwodd bron i hanner y staff ar welliannau ym mherfformiad neu foddhad myfyrwyr. Dywedodd myfyrwyr eu bod yn teimlo mwy o ymgysylltiad a chyfrifoldeb, gyda llawer yn dweud bod BuddyCheck wedi eu gwneud yn fwy agored i asesiadau gwaith t\u00eem yn y dyfodol yn gyffredinol.<\/p>\n<h2><strong>Edrych Tua\u2019r Dyfodol<\/strong><\/h2>\n<p>Mae BuddyCheck wedi profi i fod yn adnodd gwerthfawr wrth wella ansawdd a thegwch asesiadau gr\u0175p. Gyda mireinio pellach a chefnogaeth sefydliadol, gall barhau i rymuso myfyrwyr, cefnogi staff, a gwella deilliannau dysgu ledled Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Os ydych chi&#8217;n ystyried defnyddio BuddyCheck yn eich modiwl, dyma amser gwych i ystyried ei botensial. P&#8217;un a ydych chi&#8217;n edrych i wella ymgysylltiad, symleiddio asesiadau, neu sicrhau graddau teg, mae BuddyCheck yn cynnig ateb hyblyg ac effeithiol.<\/p>\n<p>Gallwch chi ddysgu rhagor a dechrau arni ar <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/teach-and-assess-students\/learning-and-teaching-development\/tools-and-platforms-for-teaching\/buddycheck\">Dudalen fewnrwyd BuddyCheck<\/a>, neu ewch yn syth i <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_19962#page1\">Ganllaw i Staff BuddyCheck<\/a> i ddechrau defnyddio BuddyCheck.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Wrth i waith gr\u0175p barhau i chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu sgiliau cydweithredu, cyfathrebu a datrys problemau, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn trin a thrafod ffyrdd o wneud asesiadau [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5906,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792,790],"tags":[],"custom_author":[1070],"class_list":["post-5902","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","category-datblygu-cwricwlwm","custom_author-michael-lang"],"lang":"cy","translations":{"cy":5902,"en":5900},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1xc","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Sized-67.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5902","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5902"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5902\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5904,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5902\/revisions\/5904"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5906"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5902"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5902"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5902"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5902"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}