{"id":5856,"date":"2025-10-03T14:58:35","date_gmt":"2025-10-03T13:58:35","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5856"},"modified":"2025-10-06T14:58:50","modified_gmt":"2025-10-06T13:58:50","slug":"myfyrio-ar-ein-digwyddiad-dysgu-trochi-dros-yr-haf-a-barn-cymuned-ymarfer","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/myfyrio-ar-ein-digwyddiad-dysgu-trochi-dros-yr-haf-a-barn-cymuned-ymarfer\/","title":{"rendered":"Myfyrio ar Ein Digwyddiad Dysgu Trochi dros yr Haf a Barn Cymuned Ymarfer"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>Wedi ei ysgrifennu gan Punsisi Somaratne, Alyson Lewis, Mike Hackman, Bex Ferriday a Michael Willett o&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu.\u00a0<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Mae Cymuned Ymarfer Hwyl a Gemau, a ffurfiwyd gan aelodau\u2019r Academi Dysgu ac Addysgu (LTA), wedi bod yn weithredol ers blwyddyn. Mae&#8217;r gymuned yn tyfu&#8217;n barhaus ac mae nifer cynyddol o aelodau yn lledaenu cyfoeth o wybodaeth a phrofiadau. Mae gennym 82 o aelodau ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Rydyn ni wedi cael tri chyfarfod, gan gynnwys y sesiwn gyntaf a gasglodd ddisgwyliadau staff o&#8217;r gymuned. Fe ymchwiliodd yr ail sesiwn yn ddyfnach i gysyniadau allweddol (gemeiddio, dysgu seiliedig ar gemau, a chwareusrwydd), a daeth y flwyddyn i ben drwy gynnal diwrnod chwarae yn labordy trochi&#8217;r Brifysgol ar gampws Parc y Mynydd Bychan. Rydyn ni wedi bod yn brysur!<\/p>\n<p><strong>Crynodeb o&#8217;n diwrnod chwarae trochi yn yr haf:<\/strong><\/p>\n<p>Gyda chymorth y t\u00eem dysgu trochi fe wnaethon ni drefnu diwrnod chwarae i archwilio Labordai Trochi\u2019r Brifysgol. Daeth \u00e2&#8217;r gymuned ynghyd i brofi arferion addysgeg arloesol ac ymarferol yng nghyd-destun trochi. Roedd y digwyddiad yn cynnwys arddangos pensetiau Realiti Rhithwir (VR), <em>Gather Town<\/em> (byd rhithwir 2D), a&#8217;r Labordy Trochi. Dywedodd un o&#8217;n haelodau,<\/p>\n<p>\u201c<em>Roedd yn sesiwn ddiddorol dros ben, a rhoddodd y cyfle imi roi cynnig ar rai adnoddau nad oeddwn yn gwybod eu bod ar gael ar ein cyfer. Roeddwn i&#8217;n hoffi\u2019r penset VR yn arbennig, ond roedd hefyd yn gyfle da i drafod syniadau gyda chydweithwyr o Ysgolion eraill.<\/em>\u201d<\/p>\n<p><strong>Pensetiau Realiti Rhithwir (VR)<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-5837 media-5837\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Bethan.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Mae&#8217;r llun uchod yn dangos Bethan yn defnyddio un o&#8217;r pensetiau realiti rhithwir i astudio senario Anne Frank (a oedd yn cadw dyddiadur). Roedd gennym ystod o senarios VR yr oedd modd eu dewis: e.e. ymweld \u00e2 thirnodau hanesyddol neu neuaddau preswyl Prifysgol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Cyfuniad o ffotograffau o&#8217;r labordy trochi: <\/strong><\/p>\n<p>Gosodwyd yr olygfa mewn coetir chwedlonol gan gynnwys cymeriadau <em>o blaid ac yn erbyn<\/em> dysgu ac addysgu chwareus. Fe wnaethon ni roi cynnig ar rai o\u2019r nodweddion yn yr ystafell a oedd yn cynnwys opsiynau sgr\u00een gyffwrdd amrywiol e.e. cwestiynau amlddewis. Mae un o\u2019r lluniau isod yn dangos Alyson yn rhwbio geiriau i ffwrdd ar \u00f4l trafod rhai o\u2019r rhwystrau ym maes Addysg Uwch (AU) mewn perthynas ag addysgeg chwareus.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r llun arall yn dangos sut y gellir ymgorffori offer ffisegol a rhithwir yn rhan o\u2019r profiad trochi! Er enghraifft, fe wnaethon ni ddefnyddio gwrthrychau ffisegol a oedd yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer dadansoddi\u2019r c\u00f4d ar gyfer y cam nesaf. Fe wnaethon ni gwrdd \u00e2 thri chymeriad blin a oedd yn gwrthwynebu defnyddio hwyl a gemau yn AU cyn mynd ati i ddefnyddio&#8217;r sgr\u00een fflat gyda Xerte i geisio newid eu persbectif i ddull mwy chwareus a gweithredol!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<figure id=\"post-5840 media-5840\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Picture3.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p><strong>GatherTown (byd rhithwir 2D)<\/strong><\/p>\n<p>Fe wnaethon ni edrych ar GatherTown, byd rhithwir ar borwr, lle gall myfyrwyr weithio ar nifer o dasgau ar yr un pryd neu ar adegau gwahanol. Mae GatherTown wedi cael ei ddefnyddio ym maes gofal iechyd gyda thros 500 o fyfyrwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau gofal iechyd gan gynnwys therapi galwedigaethol, nyrsio, bydwreigiaeth, ffisiotherapi a radiograffeg. Cafodd y myfyrwyr y dasg o gydweithio mewn grwpiau bach i edrych ar wella bwrdd iechyd dychmygol a oedd yn methu. Gan nad oedd unrhyw fannau addysgu ffisegol a oedd yn ddigon mawr ar gyfer cynifer o fyfyrwyr, penderfynwyd defnyddio GatherTown.<\/p>\n<p>Cafodd fideos YouTube, byrddau Padlet a gweithgareddau a oedd yn seiliedig ar Xerte eu hymgorffori yn GatherTown, yn ogystal \u00e2 mannau gr\u0175p preifat (Ffig 1), mannau astudio preifat (Ffig 3), caffi a oedd yn cynnwys gemau fideo <em>retro<\/em> yr oedd modd eu chwarae (Ffig 4), a sinema awyr agored (Ffig 5). Ar ben hynny, fe wnaeth helfa drysor yn GatherTown helpu myfyrwyr i ddod o hyd i&#8217;w ffordd o gwmpas a dod o hyd i gliwiau hanfodol i&#8217;w helpu i wneud y dasg gyntaf \u2013 chwilio am dystiolaeth bod y bwrdd iechyd mewn trafferth.<\/p>\n<figure id=\"post-5842 media-5842\" class=\"image align-center\">\n<p><figure style=\"width: 538px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Picture4.png\" alt=\"\" width=\"538\" height=\"414\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\">Figure 1: Enghraifft o fan gr\u0175p preifat<\/figcaption><\/figure><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Fe wnaeth y staff a\u2019r myfyrwyr fwynhau defnyddio GatherTown yn fawr fel dewis amgen i fannau cwrdd ar-lein eraill fel Teams gan eu bod yn gallu mewngofnodi ar adegau a oedd yn addas iddyn nhw. Cafodd ei ddefnyddio gan rai fel &#8216;man cymdeithasu&#8217; i siarad am bynciau eraill yn ymwneud \u00e2&#8217;u cwrs gyda\u2019u cyd-fyfyrwyr. Ar y cyfan, fe wnaeth hyd yn oed y myfyrwyr mwyaf nerfus gael hwyl, ond yn bwysicach fyth, fe wnaethon nhw hefyd wella eu sgiliau gwaith t\u00eem a chyfathrebu a dysgu rhagor am Wella Ansawdd ac Addysg Ryngbroffesiynol yn y broses.<\/p>\n<figure id=\"post-5843 media-5843\" class=\"image align-center\">\n<p><figure style=\"width: 534px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" style=\"width: 507px;height: 388px\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Picture5.png\" alt=\"\" width=\"534\" height=\"409\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\">Fig 2: Enghraifft arall o fan ar gyfer gr\u0175p<\/figcaption><\/figure><\/figure>\n<figure id=\"post-5844 media-5844\" class=\"image align-center\">\n<p><figure style=\"width: 534px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Picture6.png\" alt=\"\" width=\"534\" height=\"509\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\">Fig 3: Mannau astudio preifat<\/figcaption><\/figure><\/figure>\n<figure id=\"post-5847 media-5847\" class=\"image align-center\">\n<p><figure style=\"width: 496px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" style=\"width: 520px;height: 389px\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Picture7.png\" alt=\"\" width=\"496\" height=\"370\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\">Fig 4: Caffi a oedd yn cynnwys gemau fideo retro y gellir eu chwarae<\/figcaption><\/figure><\/figure>\n<figure><\/figure>\n<figure id=\"post-5848 media-5848\" class=\"image align-center\">\n<figure style=\"width: 524px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Picture8.png\" alt=\"\" width=\"524\" height=\"338\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\">Fig 5: Man astudio sinema awyr agored<\/figcaption><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Dymuniadau ar gyfer y dyfodol<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-5850 media-5850\" class=\"image align-center\">\n<p><figure style=\"width: 138px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Picture9.png\" alt=\"\" width=\"138\" height=\"271\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\">Fig 6: Ffynnon gwireddu breuddwydion rithwir<\/figcaption><\/figure><\/figure>\n<p>Ar \u00f4l archwilio&#8217;r man trochi, daethom ynghyd a meddwl am ein cynlluniau, ein gobeithion a&#8217;n dyheadau ar gyfer y dyfodol o ran defnyddio&#8217;r dechnoleg cyn mynd ati i gyflwyno ein safbwyntiau mewn ffynnon ddymuniadau rithwir (Ffig 6) drwy ddefnyddio Menti.<\/p>\n<p>Yn ystod digwyddiad yr haf ac yn y ddau gyfarfod cymuned ymarfer arall, rhannodd aelodau eu profiadau a pharhau \u00e2 sgyrsiau. Fe wnaethon nhw hefyd godi cwestiynau a rhannu canfyddiadau ar ddefnyddio dysgu chwareus yn eu hymarfer. Dyma rai o&#8217;r cwestiynau a amlygwyd yn ystod ein digwyddiadau:<\/p>\n<ul>\n<li>Sut ydyn ni&#8217;n cymhwyso dysgu trochi i wahanol gyd-destunau?<\/li>\n<li>Pa heriau y mae staff yn eu hwynebu wrth integreiddio dysgu chwareus, yn enwedig os nad oes llawer o fyfyrwyr yn cymryd rhan?<\/li>\n<li>Sut allwn ni ddefnyddio gemeiddio a dysgu sy\u2019n seiliedig ar gemau yn effeithiol wrth addysgu os ydym yn anghyfarwydd \u00e2&#8217;r dulliau hyn?<\/li>\n<\/ul>\n<p>I gau pen y mwdwl ar ein gwaith ar gyfer y flwyddyn hon, hoffen ni rannu&#8217;r argymhellion canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Dechreuwch yn fach a chynyddwch eich gweithgarwch yn ddoeth Cofiwch beilota ar raddfa lai bob amser cyn symud ymlaen i dasgau mwy. Defnyddiwch gymuned ymarfer hwyl a gemau i dreialu a rhoi cynnig ar syniadau.<\/li>\n<li>Cymorth a rhannu ymhlith cyfoedion: Rhannwch eich ymarfer a&#8217;ch profiadau, gan adael i eraill ddysgu oddi wrthych chi.<\/li>\n<li>Cydraddoldeb a chynhwysiant: Cofiwch roi pwyslais ar ddylunio cynhwysol. Ystyriwch gefndiroedd eich myfyrwyr a gwnewch yn si\u0175r eu bod yn teimlo eu bod yn cael digon o gefnogaeth i gyflawni&#8217;r deilliannau dysgu drwy&#8217;r gweithgareddau hyn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;r cwestiynau a&#8217;r argymhellion uchod wedi sbarduno sgyrsiau i&#8217;n helpu i gynllunio ar gyfer 25\/26. Os hoffech chi gyfrannu rhywbeth mawr neu fach yn ein cyfarfod nesaf, sy\u2019n <em>Playathon<\/em> a gynhelir ar <strong>6 Tachwedd<\/strong>, <strong>10-11am (ar-lein)<\/strong>, cysylltwch ag Alyson (lewisa81@caerdydd.ac.uk) neu Punsisi (somaratner@caerdydd.ac.uk) i roi gwybod am eich diddordebau. Gadewch i ni fod yn chwareus gyda&#8217;n gilydd!<\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Wedi ei ysgrifennu gan Punsisi Somaratne, Alyson Lewis, Mike Hackman, Bex Ferriday a Michael Willett o'r Academi Dysgu ac Addysgu.\u00a0 Mae Cymuned Ymarfer Hwyl a Gemau, a ffurfiwyd gan aelodau\u2019r [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5861,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-5856","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol"],"lang":"cy","translations":{"cy":5856,"en":5822},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1ws","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/10\/Sized-64.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5856","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5856"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5856\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5858,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5856\/revisions\/5858"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5861"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5856"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5856"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5856"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5856"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}