{"id":5795,"date":"2025-09-15T10:57:37","date_gmt":"2025-09-15T09:57:37","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5795"},"modified":"2025-09-15T11:01:03","modified_gmt":"2025-09-15T10:01:03","slug":"modiwl-taclus-meddwl-taclus-effaith-modiwl-wedii-strwythuron-dda","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/modiwl-taclus-meddwl-taclus-effaith-modiwl-wedii-strwythuron-dda\/","title":{"rendered":"Modiwl Taclus, Meddwl Taclus: Effaith Modiwl wedi\u2019i Strwythuro\u2019n Dda"},"content":{"rendered":"<h3>Mae pob un ohonon ni\u2019n deall y teimlad o fod yn rhywle trefnus \u2013 hynny yw, mae i bopeth ei le ac mae\u2019n hawdd dod o hyd i\u2019r hyn sydd ei angen arnoch chi, a gallwch chi ddechrau\u2019n syth ar y dasg dan sylw. Mae&#8217;r un peth yn wir am ddeunyddiau dysgu ar-lein. Gall modiwlau trefnus sydd wedi\u2019u strwythuro\u2019n glir ar Dysgu Canolog wneud gwahaniaeth mawr i brofiad dysgu ein myfyrwyr a hefyd ein llwyth gwaith ein hunain. Yn \u00f4l yr arolwg diwethaf a geisiodd adborth gan ein myfyrwyr, roedd modiwlau cyson a threfnus ar Dysgu Canolog ar frig y rhestr o ddymuniadau.<\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/vimeo.com\/user100894100\/review\/1094780064\/de6c9ecac4\">Gwyliwch y fideo sy\u2019n cynnwys Yaseen yn trafod trefnu deunyddiau dysgu.<\/a><\/p>\n<h2>Canllaw cam wrth gam i osod modiwl newydd<\/h2>\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_18321#module-setup\">Canllaw Gosod Modiwl Newydd<\/a> ar Dysgu Canolog yn eich helpu i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhyrchiol. Drwy ddilyn y cyngor cam wrth gam, mae modd i ni sicrhau bod gan fyfyrwyr bopeth sydd ei angen arnyn nhw i ganolbwyntio ar astudio. Mae cynllun cyson a rhagweladwy yn helpu myfyrwyr i ymgyfarwyddo\u2019n gyflym, gan leihau gorbryder a\u2019u galluogi i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf, sef eu dysgu.<\/p>\n<p>Pan fydd myfyrwyr yn gallu dod o hyd i nodiadau o ddarlith, aseiniadau, rhestrau darllen ac ati\u2019n hawdd, mae gorbryder yn lleihau, ac maen nhw\u2019n teimlo bod ganddyn nhw reolaeth ar eu haddysg. Drwy gymryd camau syml, megis cynnwys amserlenni clir neu ddefnyddio confensiynau enwi cyson a chwiliadwy, mae modd i ni leihau nifer yr ymholiadau sy\u2019n ein cyrraedd gan fyfyrwyr a rhyddhau amser i roi cymorth academaidd mwy ystyrlon.<\/p>\n<p>Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi\u2019n arbennig y gallu i weld deunyddiau dysgu cyn darlithoedd, sy\u2019n eu galluogi i baratoi, a\u2019r arfer o gyhoeddi recordiadau o ddarlithoedd yn brydlon wedi\u2019r digwyddiad, a hynny mewn lleoliad disgwyliadwy megis ffolder y modiwl ar Panopto.<\/p>\n<p>Os bydd sawl aelod o\u2019r staff yn cyflwyno modiwl, mae sicrhau eu bod yn cydweithio o gymorth mawr er mwyn sicrhau bod y deunyddiau wedi\u2019u trefnu\u2019n gyson.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/vimeo.com\/user100894100\/review\/1094780504\/36cd107c96\">Gwyliwch y fideo sy\u2019n cynnwys Agbo yn trafod sut mae modiwlau wedi\u2019u strwythuro a\u2019u trefnu.<\/a><\/p>\n<p>Gall gwario ychydig bach o amser ar drefnu\u2019r modiwl yn ystyriol cyn dechrau ei gyflwyno dalu ar ei ganfed o ran boddhad a llwyddiant myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.<\/p>\n<h2>Barod i ddechrau arni?<\/h2>\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_18321#module-setup\">Canllaw Gosod Modiwl Newydd<\/a> ar Dysgu Canolog yn ganllaw cam wrth gam i osod modiwl newydd ar Dysgu Canolog, er mwyn sicrhau bod eich modiwlau\u2019n glir, yn gyson ac yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae pob un ohonon ni\u2019n deall y teimlad o fod yn rhywle trefnus \u2013 hynny yw, mae i bopeth ei le ac mae\u2019n hawdd dod o hyd i\u2019r hyn sydd [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5283,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1034],"class_list":["post-5795","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-sonia-maurer"],"lang":"cy","translations":{"cy":5795,"en":5793},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1vt","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/02\/blog-stock-1.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5795","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5795"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5795\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5820,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5795\/revisions\/5820"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5283"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5795"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5795"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5795"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5795"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}