{"id":5788,"date":"2025-08-20T09:23:12","date_gmt":"2025-08-20T08:23:12","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5788"},"modified":"2025-08-20T09:23:12","modified_gmt":"2025-08-20T08:23:12","slug":"astudiaeth-achos-goruchwyliwr-sion-jones","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/astudiaeth-achos-goruchwyliwr-sion-jones\/","title":{"rendered":"Astudiaeth Achos Goruchwyliwr: Si\u00f4n Jones"},"content":{"rendered":"<h3>Mae Si\u00f4n Jones, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi goruchwylio myfyrwyr fel rhan o\u2019n prosiect Interniaethau ar y Campws, ac wedi cymryd rhan yn y prosiect fel myfyriwr ei hun. Yma mae hi\u2019n s\u00f4n am ei phrofiad.<\/h3>\n<h4>Beth oedd eich cymhelliant cychwynnol o ran\u00a0ymgymryd \u00e2 lleoliad, yn fyfyriwr ac yna\u2019n oruchwyliwr?<\/h4>\n<p>Roeddwn yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd pan wnes i ymgymryd \u00e2\u2019r interniaeth yn fyfyriwr, a doeddwn i ddim yn rhy si\u0175r beth roeddwn i eisiau ei wneud ar \u00f4l graddio. Roeddwn i\u2019n ystyried astudio ar gyfer PhD ar y pryd ac fe ddes i\u2019n ymwybodol o&#8217;r prosiect hwn oedd wedi\u2019i ariannu, trwy e-bost. Roeddwn i\u2019n teimlo fod y prosiect hwn yn cyd-fynd \u00e2 fy niddordebau a\u2019i fod yn rhywbeth gwahanol i&#8217;w wneud o&#8217;i gymharu \u00e2\u2019r ymchwil yr oeddwn wedi bod yn ei gwneud yn ystod fy ngradd. Doeddwn heb gwblhau unrhyw beth yn ymwneud \u00e2\u2019r maes meddygol o&#8217;r blaen.<\/p>\n<p>Fy nghymhelliant craidd pan oeddwn yn fyfyriwr oedd:<\/p>\n<p>1) Roeddwn i eisiau gyrfa ym maes ymchwil felly roeddwn i&#8217;n meddwl y byddai&#8217;n dda ar gyfer fy nghais PhD<\/p>\n<p>2) Roeddwn i&#8217;n meddwl y byddai&#8217;n brosiect diddorol<\/p>\n<p>3) Roedd gen i deulu a oedd yn byw yng Nghaerdydd; felly, roedd yn gyfle cyflogedig gwych ac roeddwn yn gallu aros gyda nhw.<\/p>\n<p>Yn oruchwyliwr, roeddwn i\u2019n meddwl ei fod yn brofiad da i&#8217;w gynnig i fyfyrwyr a\u2019i fod hefyd yn gyfle iddyn nhw ddatblygu eu profiadau ymhellach. Roedd hefyd yn ffordd dda o wneud cais am arian ychwanegol i gael rhywun i roi cymorth ychwanegol.<\/p>\n<h4>Yn eich barn chi, a wnaeth y prosiect Interniaeth ar y Campws eich helpu i deimlo&#8217;n fwy parod wrth nes\u00e1u at eich PhD?<\/h4>\n<p>Fe helpodd fi pan ddaeth at fy nghais, yn enwedig ar gyfer fy nghyfweliadau. Roedd yn rhywbeth y gallwn ei drafod. Fe fu fy ngoruchwylwyr hefyd yn help mawr gyda fy nghais PhD. Helpodd fi o ran cael dealltwriaeth o\u2019r math o waith y mae myfyrwyr PhD yn ei wneud, na fyddwn wedi ei gael yn fy nghwrs israddedig.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n credu ei fod wedi fy helpu i 1) Ennill y PhD a 2) O ran y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y PhD<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n meddwl bod gwneud y rhaglen wedi cadarnhau&#8217;r dyhead hwnnw o fod wir eisiau gwneud PhD. Ar \u00f4l ei gwblhau, daeth yn amlwg bod hyn yn rhywbeth y gallwn weld fy hun yn ei wneud.<\/p>\n<h4>Yn oruchwyliwr, ydych chi\u2019n meddwl bod y cynllun interniaeth wedi dylanwadu ar eich twf proffesiynol eich hun, yn ogystal \u00e2\u2019ch datblygiad yn eich gyrfa?<\/h4>\n<p>Fe helpodd yn ddi-os. Roeddwn i efallai braidd yn na\u00eff pan ddechreuais i gyntaf. Roeddwn i&#8217;n meddwl y gallwn i adael myfyrwyr i wneud pethau ar eu liwt eu hunain. Fe sylweddolais i fod angen cyswllt cyson a chyfarfodydd i sicrhau y gallent ddelio \u00e2&#8217;r gwaith, a bod angen i fy nghyfarwyddiadau fod yn glir. Rwy&#8217;n credu bod fy sgiliau rheoli a mentora wedi newid a newid er gwell.<\/p>\n<h4>A oes unrhyw sgiliau penodol y bu i chi eu caffael yn ystod yr interniaeth pan oeddech yn fyfyriwr ac yna\u2019n oruchwyliwr?<\/h4>\n<p>Fel myfyriwr wnaeth CUROP (Interniaeth ar y campws) ymestyn fy sgiliau ymchwil ansoddol a meintiol ymhellach; gan roi\u2019r cyfle i mi ddefnyddio gwahanol feddalwedd nad oedd gen i fynediad ato ar fy nghwrs, megis \u201cSPSS\u201d. Fe fu&#8217;r rhaglen hefyd yn gymorth o ran fy sgiliau rheoli amser; roedd angen i mi ymdrin \u00e2 gwahanol gyfrifoldebau ar yr un pryd.<\/p>\n<h4>Pa fath o effaith gafodd eich prosiect ar eich ymchwil?\u00a0Allech chi fod wedi gwneud hyn eich hun?<\/h4>\n<p>Byddwn wedi gallu ei wneud fy hun, ond byddai wedi cymryd rhagor o amser i mi ei gwblhau. Ar gyfer fy ail brosiect ymchwil, ble oedd modd i mi dderbyn nawdd gan Interniaeth ar y campws, roedd modd i mi gyflogi dau fyfyriwr. Roedd yn wych bod y myfyrwyr yn medru rhannu syniadau gyda\u2019i gilydd, a chynnig syniadau na fyddwn i wedi meddwl amdanyn nhw fu hunain. Daeth \u00e2 syniadau arloesol a ffres i&#8217;r prosiect.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Si\u00f4n Jones, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi goruchwylio myfyrwyr fel rhan o\u2019n prosiect Interniaethau ar y Campws, ac wedi cymryd rhan yn y prosiect fel myfyriwr [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5779,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1006],"tags":[],"custom_author":[1058],"class_list":["post-5788","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-interniaethau-ar-y-campws","custom_author-katherine-evans"],"lang":"cy","translations":{"cy":5788,"en":5778},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1vm","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/08\/Sized-58.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5788","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5788"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5788\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5792,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5788\/revisions\/5792"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5779"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5788"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5788"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5788"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5788"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}