{"id":5652,"date":"2025-07-28T08:02:40","date_gmt":"2025-07-28T08:02:40","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5652"},"modified":"2025-07-28T08:02:40","modified_gmt":"2025-07-28T08:02:40","slug":"dysgu-heb-rwystrau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/dysgu-heb-rwystrau\/","title":{"rendered":"Dysgu heb rwystrau"},"content":{"rendered":"<h2>Chwe ffordd o wneud eich amgylchedd dysgu digidol yn hygyrch ac yn gynhwysol<\/h2>\n<p>Yn y blog hwn, mae <strong>Marianna Majzonova<\/strong> o&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu yn crynhoi&#8217;r hyn y mae myfyrwyr eisiau i chi ei wybod am ddatblygu ystafelloedd dosbarth ar-lein cynhwysol.<\/p>\n<p>Wrth i ni agos\u00e1u at drosglwyddo modiwlau ar Dysgu Canolog yn 2025, rydyn ni\u2019n gwybod pa mor llafurus ac ailadroddus y mae\u2019r broses o osod modiwlau yn gallu bod, yn enwedig os ydych chi&#8217;n rheoli nifer o fodiwlau. Dyna pam mae&#8217;r Academi Dysgu ac Addysgu wedi creu&#8217;r <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_18321#module-setup\"><strong>Canllaw Gosod Modiwlau<\/strong><\/a>. Mae\u2019n adnodd ymarferol, cam wrth gam, i&#8217;ch helpu i baratoi eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn effeithlon ac yn hyderus.<\/p>\n<p>Dwi wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr hyrwyddo dros y flwyddyn ddiwethaf i wella ein hamgylchedd dysgu digidol. Un maes dwi&#8217;n arbennig o angerddol amdano yw hygyrchedd a chynhwysiant, a sut y gall yr egwyddorion hyn drawsnewid profiad myfyrwyr.<\/p>\n<blockquote>\n<h4><a href=\"https:\/\/vimeo.com\/user100894100\/review\/1094780639\/418d4d7943\">Gwrandewch ar farn Muskaan, myfyriwr BA Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, ar Dysgu Canolog hygyrch a chynhwysol.<\/a><\/h4>\n<\/blockquote>\n<h2><strong>Prif bwyntiau<\/strong><\/h2>\n<ol>\n<li><strong>1<\/strong>. <strong>Hygyrchedd yw&#8217;r sylfaen<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>Darparu recordiadau darlithoedd gyda chapsiynau<\/li>\n<li>Sicrhau bod deunyddiau&#8217;n gydnaws \u00e2 rhaglenni darllen sgr\u00een<\/li>\n<li>Gwneud cynnwys sy\u2019n addas ar gyfer dyfeisiadau symudol ac sy\u2019n hawdd ei gyrchu ar bob dyfais<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong> Mae hyblygrwydd yn cefnogi dysgu<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>Caniat\u00e1u i fyfyrwyr ddysgu ar eu cyflymder eu hunain<\/li>\n<li>Galluogi ailymweld \u00e2 deunyddiau unrhyw bryd<\/li>\n<li>Cynnig cymorth heb rwystrau diangen<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong> Cyfathrebu clir a chynhwysol<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>Gosod disgwyliadau clir o&#8217;r dechrau<\/li>\n<li>Defnyddio iaith gynhwysol ac enghreifftiau amrywiol<\/li>\n<li>Cynnig sawl ffordd o ymgysylltu. Er enghraifft, sefydlu fforymau trafod, polau, sesiynau holi ac ateb byw, a chymorth un-i-un.<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong> Mae cynrychiolaeth o bwys<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>Curadu cynnwys cwrs sy&#8217;n adlewyrchu lleisiau, hanesion a diwylliannau amrywiol<\/li>\n<li>Dangos ymrwymiad i gynhwysiant y tu hwnt i hygyrchedd<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"5\">\n<li><strong> Strwythur trefnus a chyson i\u2019r cwrs<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>Labelu darlleniadau a deunyddiau wythnosol yn glir.<\/li>\n<li>Sicrhau bod dolenni&#8217;n gweithio a bod cynnwys yn hawdd i&#8217;w ddefnyddio.<\/li>\n<li>Cynnal strwythur cyson ar draws modiwlau ar Dysgu Canolog<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"6\">\n<li><strong> Mae dylunio ymarferol yn gwneud gwahaniaeth<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>Dylunio gydag ystod eang o fyfyrwyr mewn golwg.<\/li>\n<li>Gwneud i fyfyrwyr deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a&#8217;u gwerthfawrogi.<\/li>\n<li>Anelu at brofiad dysgu sydd nid yn unig yn hygyrch ond hefyd yn werth chweil.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae amgylchedd dysgu ar-lein hygyrch a chynhwysol yn fwy na rhestr wirio; mae&#8217;n feddylfryd. Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 dylunio mannau digidol lle mae pob myfyriwr yn teimlo eu bod yn bwysig, waeth beth fo&#8217;u cefndir, eu hunaniaeth neu eu hanghenion dysgu. Pan fydd cynhwysiant a hygyrchedd yn cael eu hymgorffori o&#8217;r cychwyn, mae&#8217;n anfon neges bwerus i&#8217;n myfyrwyr. Mae bron fel dweud <em>Rydych chi&#8217;n perthyn yma<\/em>. Gydag amser, mae myfyrwyr yn cael y rhyddid i ddysgu mewn ffyrdd sy&#8217;n gweithio orau iddyn nhw.<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n dehongli cynhwysiant nid fel cael gwared ar rwystrau yn unig, mae&#8217;n ymwneud ag agor drysau. Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 dylunio gydag empathi, cyfathrebu gydag eglurder, a gwrando ar ein myfyrwyr sy&#8217;n defnyddio&#8217;r amgylcheddau hyn bob dydd.<\/p>\n<h2>Dechrau arni<\/h2>\n<p>Darllenwch y <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_18321#module-setup\"><strong>Canllaw Gosod Modiwlau<\/strong><\/a> a dechrau paratoi eich modiwlau 2025 heddiw.<\/p>\n<p>Dyma&#8217;r ffordd hawsaf o wneud yn si\u0175r bod eich modiwlau yn glir, yn gyson ac yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Chwe ffordd o wneud eich amgylchedd dysgu digidol yn hygyrch ac yn gynhwysol Yn y blog hwn, mae Marianna Majzonova o'r Academi Dysgu ac Addysgu yn crynhoi'r hyn y mae [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5654,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1035],"class_list":["post-5652","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-marianna-majzonova"],"lang":"cy","translations":{"cy":5652,"en":5645},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1ta","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/07\/Sized-53.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5652","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5652"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5652\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5653,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5652\/revisions\/5653"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5654"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5652"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5652"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5652"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5652"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}