{"id":5609,"date":"2025-06-12T10:59:39","date_gmt":"2025-06-12T10:59:39","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5609"},"modified":"2025-08-19T13:37:04","modified_gmt":"2025-08-19T12:37:04","slug":"canfyddiadau-adroddiad-interniaethau-ar-y-campws","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/canfyddiadau-adroddiad-interniaethau-ar-y-campws\/","title":{"rendered":"Canfyddiadau Adroddiad Interniaethau ar y Campws"},"content":{"rendered":"<h3><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/effaith-hirdymor-interniaethau-ar-y-campws\/\">Yn ein blog diwethaf,<\/a> cyflwynon ni adroddiad gan y myfyriwr Adil Sawal yn ystod ei Interniaeth ar y Campws yn yr Academi Dysgu ac Addysgu. Dyma rai o&#8217;i ganfyddiadau.<\/h3>\n<h4><strong>Cefnogi Ymchwilwyr ar ddechrau eu Gyrfa\u00a0<\/strong><\/h4>\n<p>Mae cynllun yr Interniaethau ar y Campws yn croesawu ceisiadau gan Ymchwilwyr ar ddechrau eu Gyrfa, gan gefnogi eu datblygiad a\u2019u gallu i ennill sgiliau goruchwylio.<\/p>\n<p>Yn yr adroddiad tynnwyd sylw at y ffordd mae\u2019r interniaethau yn cefnogi llwybr gyrfaol cynnar ymchwilwyr. Dangosodd canfyddiadau\u2019r adroddiad fod goruchwylwyr prosiectau wedi cael cyfleoedd i ddatblygu\u2019n broffesiynol a gwella eu sgiliau.<\/p>\n<p>Siaradodd aelod o\u2019r staff \u00e2 ni am fanteision cynnal interniaeth: \u201cY prif fantais rwy wedi\u2019i chael yn sgil y rhaglen hyd yn hyn yw profiad goruchwylio\/rheolwr llinell yn hytrach na chyfraniad at ymchwil\u201d. Pwysleisiwyd hefyd i\u2019r profiad ddatblygu ystod o sgiliau, gan gynnwys cyfathrebu effeithiol, rheoli amser a chydlynu prosiectau, gan wella eu gallu i fentora ac addysgu yn y pen draw.<\/p>\n<h4><strong>\u00a0Cefnogi dyfodol myfyrwyr\u00a0<\/strong><\/h4>\n<p>Rhoddodd y myfyrwyr wybod am ystod o sgiliau a enillwyd yn ystod eu profiadau ar y campws a ystyriwyd yn werthfawr wrth fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;u gyrfa yn y dyfodol. Ymhlith y rhain roedd cydnabod hyfedredd a\u2019i r\u00f4l wrth wella hyder a moeseg gwaith myfyrwyr, a bod hyn yn deillio o&#8217;u profiadau o gyflwyno eu gwaith a gallu bodloni sawl terfyn amser. Roedd y profiadau hyn yn eu helpu i deimlo&#8217;n fwy parod a galluog yn academaidd ac yn broffesiynol.<\/p>\n<p>Yn ogystal, roedd y myfyrwyr yn cydnabod bod y cynllun wedi gwella eu CV ac wedi rhoi mantais gystadleuol iddyn nhw yn y farchnad swyddi. Soniodd llu o fyfyrwyr am sicrhau cyfleoedd swyddi a oedd yn gysylltiedig ag ymchwil neu&#8217;r byd academaidd, gan briodoli eu llwyddiant yn uniongyrchol i&#8217;w hinterniaeth ar y campws. Ystyriwyd yn eang fod interniaethau ar y campws yn gam allweddol yng nghynnydd gyrfaol y myfyrwyr hyn. Dyma a ddywedodd myfyriwr a gymerodd ran \u201cBellach, fi yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg un o Gwmn\u00efau Newydd y Flwyddyn\u201d.<\/p>\n<h4><strong>Cyfleoedd Rhwydweithio\u00a0<\/strong><\/h4>\n<p>Pwysleisiodd y myfyrwyr pa mor bwysig yw rhwydweithio yn ystod yr interniaeth. Pwysleision nhw fod y rhaglen wedi caniat\u00e1u iddyn nhw feithrin cysylltiadau proffesiynol yn eu grwpiau ymchwil ac yn rhyngwladol. Tynnodd myfyriwr sylw at yr agwedd hon gan ddweud ei fod wedi \u201ccreu cysylltiadau rhyngwladol sy\u2019n fy nghefnogi hyd heddiw\u201d gan ychwanegu \u201cRo\u2019n i\u2019n gallu mynd \u00e2 fy ymchwil i gynadleddau ac roedd hyn yn golygu bod modd imi ddechrau creu rhwydwaith proffesiynol\u201d. Ystyriwyd bod y cyfle i gyflwyno ymchwil mewn cynadleddau yn fantais sylweddol, gan alluogi myfyrwyr i ehangu eu rhwydweithiau proffesiynol a chael profiad o sawl maes ymchwil. Argymhellodd nifer sylweddol o fyfyrwyr raglen Interniaethau ar y Campws yn fawr i fyfyrwyr eraill.<\/p>\n<h4><strong>Rhagor o wybodaeth<\/strong><\/h4>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/category\/oncampusinternships\/\">Darllenwch ragor o\u2019n blogiau ar Gynllun ar y Campws<\/a>\u00a0y Brifysgol neu\u00a0<a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/support-students\/student-careers-and-development\/students-on-summer-placements\">ceir rhagor o fanylion ar fewnrwyd y staff.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ein blog diwethaf, cyflwynon ni adroddiad gan y myfyriwr Adil Sawal yn ystod ei Interniaeth ar y Campws yn yr Academi Dysgu ac Addysgu. Dyma rai o'i ganfyddiadau. Cefnogi [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5605,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1006],"tags":[],"custom_author":[1058],"class_list":["post-5609","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-interniaethau-ar-y-campws","custom_author-katherine-evans"],"lang":"cy","translations":{"cy":5609,"en":5603},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1st","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/06\/Sized-52.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5609","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5609"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5609\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5611,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5609\/revisions\/5611"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5605"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5609"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5609"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5609"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5609"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}