{"id":5522,"date":"2025-05-29T10:34:03","date_gmt":"2025-05-29T10:34:03","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5522"},"modified":"2025-05-29T10:34:03","modified_gmt":"2025-05-29T10:34:03","slug":"creu-ystafelloedd-dianc-deniadol-a-difyr-gyda-xerte","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/creu-ystafelloedd-dianc-deniadol-a-difyr-gyda-xerte\/","title":{"rendered":"Creu ystafelloedd dianc deniadol a difyr gyda Xerte"},"content":{"rendered":"<h4>Ysgrifennwyd y blog hwn gan Punsisi Somaratne yn nh\u00eem Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu.<\/h4>\n<p>Mae dysgu drwy chwarae a dysgu sy\u2019n seiliedig ar gemau yn bynciau o bwys ym myd addysg gan fod ystafelloedd dianc digidol yn mynd yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr sy\u2019n cymryd rhan mewn heriau wrth iddyn nhw gaffael gwybodaeth [1]. Gall myfyrwyr gystadlu yn y gemau hyn i wella eu meddwl beirniadol tra\u2019n gweithio ar y cyd. Mae\u2019n rhoi profiad dysgu dilys i\u2019r myfyrwyr, gan ganiat\u00e1u iddyn nhw fod yn weithgar wrth ddysgu o\u2019i gymharu \u00e2 dysgu traddodiadol.<\/p>\n<p>O&#8217;u cymharu ag ystafelloedd dianc go iawn, mae angen llai o adnoddau ar ystafelloedd dianc digidol i&#8217;w dylunio a&#8217;u darparu. Os dewisir yr offeryn digidol cywir i ddylunio&#8217;r g\u00eam, bydd yn gost-effeithiol ac ar gael unrhyw bryd. O ran hygyrchedd a chynwysoldeb, bydd gan fyfyrwyr fwy o gyfleoedd i gymryd rhan na&#8217;r rheini yn y byd go iawn [2]. Offer digidol y gellir eu defnyddio i ddylunio ystafelloedd dianc digidol yw Google Forms, Microsoft OneNote, Microsoft Forms, Microsoft Sway a Xerte. Yn y blog hwn, rwy&#8217;n rhannu <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_22571\"><strong>enghraifft syml o ystafell ddianc ddigidol a ddyluniwyd yn Xerte<\/strong><\/a>.<\/p>\n<p>Mae gan <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_9345#page1\"><strong>Xerte<\/strong><\/a> gasgliad o gynnwys rhyngweithiol sy&#8217;n cefnogi creu ystafelloedd dianc. Mae&#8217;r enghraifft a ddefnyddir yn y blog hwn yn dangos sut y gellir defnyddio cynnwys rhyngweithiol i ddylunio&#8217;r g\u00eam. Cyn belled \u00e2 bod gennych chi stori a chwisiau\/posau, nid yw&#8217;n anodd.<\/p>\n<p>I ddylunio&#8217;r g\u00eam, defnyddiais y camau syml canlynol [3].<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Llunio stori ddiddorol<\/strong> &#8211; Ysgrifennwch thema\u2019r stori ddiddorol sy&#8217;n dal sylw&#8217;r sawl sy\u2019n cymryd rhan.<\/li>\n<li><strong>Dewch \u00e2&#8217;ch stori yn fyw gan ddefnyddio graffeg<\/strong> &#8211; Dyluniwch graffeg addas sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 thema&#8217;r stori. Fy arf cyfrinachol oedd &#8216;Microsoft Copilot&#8217; (sgwrsfot DA cynhyrchiol), gan nad oeddwn i eisiau poeni am yr hawlfraint neu am beidio \u00e2 bod yn artist.<\/li>\n<li><strong>Creu cwisiau a chliwiau<\/strong> &#8211; Defnyddiwch ystod o fathau o gwestiynau i lunio cwestiynau a fydd yn helpu&#8217;r myfyrwyr i gyflawni nodau&#8217;r gweithgaredd.<\/li>\n<li><strong>Profwch y dyfroedd<\/strong> &#8211; Mynnwch adborth gan ffrindiau beirniadol. Gadewch iddyn nhw chwarae&#8217;r g\u00eam a gweld a yw&#8217;n gweithio yn \u00f4l y disgwyl!<\/li>\n<li><strong>Ewch ati i fireinio<\/strong> &#8211; Adolygwch y cynnwys a\u2019r swyddogaethau yn seiliedig ar y sylwadau. Hefyd, rwy&#8217;n argymell defnyddio <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_18240#page1\">thema Offeryn Ar-lein Xerte<\/a> (XOT) i wella&#8217;r diwyg. Ar hyn o bryd, dim ond i staff Prifysgol Caerdydd mae XOT ar gael, ond cyn bo hir bydd ar gael i ddefnyddwyr allanol.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau ystafell ddianc yn meithrin gwaith t\u00eem yn ogystal \u00e2\u2019r gallu i ddatrys problemau a meddwl yn feirniadol. Gellir cymhwyso&#8217;r g\u00eam i unrhyw bwnc neu gyd-destun. Os hoffech chi wybod rhagor am y pwnc hwn a gweld sut y gellir ei ddefnyddio yn eich maes chi, cysylltwch \u00e2 Punsisi Somaratne neu os ydych chi \u00e2 diddordeb mewn them\u00e2u XOT, cysylltwch \u00e2 Nan Zhang: <a href=\"mailto:ltacademy@cardiff.ac.uk\">ltacademy@caerdydd.ac.uk<\/a>. Rydyn ni\u2019n fodlon iawn helpu!<\/p>\n<h2>Cymorth ac adnoddau<\/h2>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_9345#page1\">Llunio adnoddau dysgu rhyngweithiol yn Xerte<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/cf-my.sharepoint.com\/:u:\/g\/personal\/somaratner_cardiff_ac_uk\/EXDu5h4NVZREsB6_6ViAOuEBBlAnNOA4sTEQVL9KuhbH6Q?e=T1sPnf\">Pecyn ystafell ddianc y gellir ei lawrlwytho<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/events-and-training\/learning-and-teaching-cpd-2024-2025\">Cynnig DPP yr Academi Dysgu ac Addysgu<\/a> i staff Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys gweithdai \u201cCyflwyniad i ddysgu ac addysgu drwy chwarae\u201d a \u201cCreu adnoddau rhyngweithiol yn Xerte\u201d.<\/li>\n<li>Ymunwch \u00e2\u2019r <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/get-involved\/groups-and-networks\/view\/fun-and-games-in-learning-and-teaching\">gymuned hwyl a gemau maes dysgu ac addysgu<\/a>, sy\u2019n rhoi cyfleoedd i staff Prifysgol Caerdydd rannu arferion, datblygu syniadau a thrafod y dadleuon dros ddulliau drwy chwarae.<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Cyfeirnodau:<\/h4>\n<h6>[1] Manzano-Le\u00f3n A, Rodr\u00edguez-Ferrer JM, Aguilar-Parra JM, Mart\u00ednez Mart\u00ednez AC, Luque de la Rosa A, Salguero Garc\u00eda D, Fern\u00e1ndez Campoy JM. Escape Rooms as a Learning Strategy for Special Education Master&#8217;s Degree Students. Int J Environ Res Public Health. 2021 Gorffennaf 8; 18(14):7304. doi: 10.3390\/ijerff18147304. PMID: 34299753; PMCID: PMC8305373.<\/h6>\n<h6>[2] Flynn, C. O. (2024) Escape to Learn: Digital Escape Rooms and Universal Design for Learning. All Ireland Journal of Teaching and Learning in Higher Education (AISHE-J), 16(2), 1-7<\/h6>\n<h6>[3] Tolen, M., &amp; Moura, K. (nd).\u00a0<em>30+ digital escape rooms (plus tips and tools for creating your own)<\/em>. Ditch That Textbook. Adalwyd 21 Chwefror, 2025, o<a href=\"https:\/\/ditchthattextbook.com\/30-digital-escape-rooms-plus-tips-and-tools-for-creating-your-own\/\">https:\/\/ditchthattextbook.com\/30-digital-escape-rooms-plus-tips-and-tools-for-creating-your-own\/<\/a><\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ysgrifennwyd y blog hwn gan Punsisi Somaratne yn nh\u00eem Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu. Mae dysgu drwy chwarae a dysgu sy\u2019n seiliedig ar gemau yn bynciau o bwys [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5560,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1041],"class_list":["post-5522","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-punsisi-somaratne"],"lang":"cy","translations":{"cy":5522,"en":5524},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1r4","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2025\/05\/Untitled-design-60.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5522","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5522"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5522\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5566,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5522\/revisions\/5566"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5560"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5522"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5522"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5522"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5522"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}