{"id":5160,"date":"2024-12-19T16:38:43","date_gmt":"2024-12-19T16:38:43","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5160"},"modified":"2025-01-08T09:34:06","modified_gmt":"2025-01-08T09:34:06","slug":"cymhorthydd-sgwrsio-gwaith-cwrs-yn-seiliedig-ar-ddeallusrwydd-artiffisial","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/cymhorthydd-sgwrsio-gwaith-cwrs-yn-seiliedig-ar-ddeallusrwydd-artiffisial\/","title":{"rendered":"Cymhorthydd sgwrsio gwaith cwrs yn seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial"},"content":{"rendered":"<h3>Mae\u2019r blog yma gan Ramalakshmi Vaidhiyanathan yn archwilio\u2019r defnydd o AI i gynorthwyo gydag ymholiadau myfyrwyr yn ymwneud \u00e2 gwaith cwrs.<\/h3>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/vaidhiyanathanr\">Ramalakshmi Vaidhiyanathan<\/a> yn ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Mae ganddi 18 mlynedd o brofiad mewn peirianneg meddalwedd, ac mae\u2019n dysgu ers dros 7 mlynedd erbyn hyn.<\/p>\n<h3>Cyflwyniad i Poe<\/h3>\n<p><em>\u201cBelieve nothing you hear, and only one half that you see\u201d<\/em>. \u2013 Edgar Allen Poe<\/p>\n<p>Yn yn o sesiynau <a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/digifest\">Digi Fest<\/a>, gwelais gyflwyniad i declyn <a href=\"https:\/\/poe.com\/\">Poe<\/a>, platfform cydgasglu sgwrsfot Deallusrwydd Artiffisial (AI). Eglurodd y cyflwynydd eu bod wedi bod yn defnyddio\u2019r teclyn mewn awyrgylch ysgol uwchradd drwy roi\u2019r teclyn i fyfyrwyr i wneud ychydig o ddysgu ar eu liwt eu hunain am bwnc penodol, o ffynonellau gwybodaeth benodol. Roedd rhai o\u2019r ffynonellau yn llyfrau wedi eu lawr lwytho fel PDF. Cydiodd yn fy nychymyg yn syth, er ei fod yn swnio\u2019n rhy dda i fod yn wir! Gwnes nodyn o enw\u2019r teclyn a\u2019i adael ar hynny.<\/p>\n<p>Digwydd bod, roeddwn ar y pryd yn dechrau dysgu modiwl rhywun arall a cheisio personoli\u2019r cynnwys i gyd-fynd a fy steil innau o ddysgu. Roedd yr asesiadau yn barod wedi eu cymedroli a\u2019u rhyddhau i\u2019r myfyrwyr. Er hynny, doedd y myfyrwyr heb ddechrau gweithio arnynt eto, a chefais rybudd am y llif o gwestiynau oedd ar y ffordd. Wrth i mi dreulio amser yn paratoi wrth fynd drwy\u2019r gwaith cwrs a\u2019r canllaw atebion, penderfynais roi tro ar Poe.<\/p>\n<h3>Defnyddio Poe<\/h3>\n<p>\u201cIt is a happiness to wonder; &#8212; it is a happiness to dream.\u201d \u2013 Edgar Allen Poe<\/p>\n<p>Dechreuais \u00e2\u2019r fersiwn am ddim gan ddefnyddio cyfrif Gmail pwrpasol yr oeddwn i wedi ei greu, a dewis creu \u201cbot procio\u201d.<\/p>\n<figure id=\"post-5161 media-5161\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/12\/pic-1-1.png\" alt=\"\" width=\"547\" height=\"258\" \/><\/figure>\n<p>Dyma greu sgwrfot cyffredin, fel gwelwch ar sawl gwefan yn eich cyfarch \u00e2 \u201cHi there!\u201d Mae\u2019r bot procio yma yn defnyddio man cychwyn bot arferol \u201cGPT 3.5 Turbo\u201d. Darperais y canllaw gwaith cwrs a datrysiad fel ei ffynhonnell wybodaeth (ar \u00f4l gwaredu data sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r Brifysgol e.e ebyst), a darperais broc syml er mwyn i\u2019r bot fedru deall y gwaith cwrs (a fy helpu i fel canlyniad).<\/p>\n<figure id=\"post-5162 media-5162\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/12\/Picture2-1.png\" alt=\"\" width=\"390\" height=\"374\" \/><\/figure>\n<figure id=\"post-5163 media-5163\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/12\/Picture3-1.png\" alt=\"\" width=\"393\" height=\"284\" \/><\/figure>\n<p>Ar \u00f4l creu\u2019r sgwrfot, defnyddiais gwestiynau gwaith cwrs i\u2019w brofi, yn union fel byddai myfyrwyr yn gwneud. Ceisiais gyfuniadau o gwestiynau syml: beth yw\u2019r dasg, yr uchafswm geiriau, sut i gael y marc uchaf, a gofyn yn uniongyrchol \u00e2\u2019n anuniongyrchol sut i fynd ati i\u2019w ddatrys. Roedd angen i mi ddysgu ychydig mwy am beirianwaith procio er mwyn gwella fy mhroc cyntaf er mwyn sicrhau nad yw\u2019n datgelu\u2019r datrysiadau yn uniongyrchol, ac nad yw\u2019n rhoi gormod o fanylion, tra yn rhoi cymorth digonol i\u2019r myfyrwyr. Mewn rhai achosion, roedd yn darparu\u2019r ateb yn syml, yn enwedig i\u2019r cwestiynau \u00e2 marciau isel, ond doedd hynny ddim yn fy mhoeni. Mae Poe hefyd yn cynnig opsiwn i reoli creadigrwydd atebion y bot er mwyn atal rhithiau. \u00a0Roedd rhai i mi ei osod ar y gosodiad cyffredin o 0.5, ond os byswn yn ei leihau, byddai\u2019r atebion yn fwy cyson.<\/p>\n<figure id=\"post-5164 media-5164\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/12\/Picture4-2.png\" alt=\"\" width=\"369\" height=\"325\" \/><\/figure>\n<p>Mae Poe yn rhan o Quora, ac mae agen cael cyfrif ar ei gyfer. Mae\u2019r gofynion preifatrwydd yn un peth ac unrhyw declyn Gen AI a thechnoleg arall sydd ar gael. Bydd y data yn cael ei arbed er mwyn gwella ei berfformiad a gan fod Poe yn gyfanredol ac yn defnyddio bot sylfaen, bydd yn priodoli gosodiadau preifatrwydd y bot Sylfaen.<\/p>\n<h3>Cymhorthydd Bot Gwaith Cwrs at eich gwasanaeth<\/h3>\n<p><em>\u201cLet my heart be still a moment and this mystery explore..\u201d.<\/em> \u2013 Edgar Allen Poe<\/p>\n<p>Unwaith oeddwn i\u2019n fodlon gyda pherfformiad y sgwrsfot ymhen 9 wythnos, rhannais y bot gyda\u2019r myfyrwyr gan ganiat\u00e1u mynediad cyhoeddus. Gofynnais iddynt ei ddefnyddio i holi am gymorth ag ymholiadau gwaith cwrs, yn enwedig tu allan i oriau\u2019r swyddfa neu pan na allwn i ateb. Gan nad oedd modd i mi weld y cwestiynau oeddent yn eu hanfon i\u2019r bot, roedd gofyn iddynt hefyd anfon yr un cwestiwn ata i er mwyn derbyn ateb swyddogol. Bob tro oeddwn i\u2019n derbyn cwestiwn gan fyfyriwr, roeddwn i\u2019n ei wirio gan ddefnyddio\u2019r bot a chadarnhau\u2019r ateb. Os oedd yr ateb yn annigonol byswn yn diweddaru\u2019r ffynhonnell wybodaeth \u00e2\u2019r wybodaeth berthnasol. Mae\u2019n bosib ychwanegu gwybodaeth ychwanegol i\u2019r ffynhonnell wybodaeth gan ddefnyddio ysgrifen blaen ar unrhyw adeg, oedd yn ddefnyddiol iawn i mi. Unwaith daeth y tymor i ben, anfonais ffurflen adborth i\u2019r myfyrwyr er mwyn clywed eu barn ar y Cymhorthydd Bot Gwaith Cwrs. Dim ond tri adborth a dderbyniais, oedd oll o blaid defnyddio botiau tebyg yn y dyfodol. Yn \u00f4l un o\u2019r sylwadau: \u201cRoeddwn yn cwestiynu weithiau os oedd y bot yn rhoi\u2019r dehongliad cywir o\u2019r gwaith cwrs, ac roedd yn well gen i ebostio\u2019r arweinydd modiwl fodd bynnag er mwyn dderbyn ateb pendant.\u201d Dangosodd hyn nad yw myfyrwyr yn ymddiried mewn teclynnau Gen AI, yn enwedig os yw\u2019n cael effaith uniongyrchol ar eu graddau. Mae\u2019r myfyrwyr yn defnyddio teclynnau Gen AI er mwyn ysgrifennu eu hasesiadau, fel ymarferion rhaglennu a chwestiynau adlewyrchol, ond nid ydynt eto yn ymddiried mewn teclyn Gen AI sydd yn ymddwyn fel efaill digidol i arweinydd eu modiwl.<\/p>\n<h3>Manteision ac anfanteision Poe<\/h3>\n<p><em>\u201cThere is no exquisite beauty\u2026 without some strangeness in the proportion.\u201d<\/em> &#8211; Edgar Allan Poe<\/p>\n<ul>\n<li>Mae\u2019n rhan o Quora ac felly mae ychydig o bryder yngl\u0177n \u00e2 phreifatrwydd. Gofynnais i\u2019r myfyrwyr ddefnyddio eu ebost prifysgol, neu ebost newydd wedi ei greu ar gyfer y pwrpas i\u2019r bot hwn. Roedd gwybodaeth bersonol breifat (PPI) wedi ei ddileu o\u2019r gwaith cwrs a\u2019r ffynonellau gwybodaeth a ddarperais, ac nid oedd yn cynnwys gwybodaeth gyda hawlfraint, ond os fyddai angen y rhain, mae\u2019n bosib nad Poe yw\u2019r teclyn gorau i\u2019w ddefnyddio.<\/li>\n<li>Mae\u2019n gyfanredol ac felly\u2019n defnyddio Gen AI penodol o\u2019n dewis. Mae ganddo ychydig o opsiynau am ddim ac roedd y mwyafrif yn addas i\u2019m mhwrpas i. Mae rhai terfynau ar y nifer o brociau\u2019r diwrnod (30). Er hynny, does dim mwyafrif i\u2019w weld ar y nifer o ffynonellau gwybodaeth.<\/li>\n<li>Unwaith mae\u2019n cael ei rannu\u2019n gyhoeddus, alla i ddim gwybod pa gwestiynau sydd wedi cael ei ofyn iddo, na\u2019r atebion a roddodd, heblaw bod y defnyddiwr eisiau eu rhannu. Rwy\u2019n sicr na fydd y myfyrwyr yn awyddus i rannu eu cwestiynau a\u2019u hatebion \u00e2 mi, ond rwy\u2019n bwriadu gofyn i rai myfyrwyr fy nghynorthwyo eleni drwy rannu eu hatebion er mwyn medru deall a gwerthuso\u2019r teclyn yn well.<\/li>\n<li>Mae\u2019n medru cael ei ffurfweddu dipyn ac mae\u2019n gadael i chi addasu mwyafrif o fanylion y bot.<\/li>\n<li>Mae\u2019n hawdd creu bot procio ac mae\u2019n gofyn am lai o ddealltwriaeth o dechnolegol deallusrwydd artiffisial. Os oes gan rywun sgiliau peirianyddol procio, mae\u2019n haws i greu bot procio. Curadu\u2019r ffynonellau gwybodaeth a sicrhau nad oes gwybodaeth bersonol breifat wedi ei gynnwys yw\u2019r unig gam sy\u2019n gofyn amser.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Camu ymlaen<\/h3>\n<p><em>\u201cIt is a happiness to wonder; &#8212; it is a happiness to dream.\u201d<\/em> &#8211; Edgar Allan Poe<\/p>\n<p>Er mai fel cymhorthydd dysgu y cafodd Poe ei gyflwyno i mi, dewisais fel ei siapio fel rhyw fath o efaill digidol. Roedd yr ymgais gyntaf yn un brysiog gan fy mod yn hynod newydd i\u2019r modiwl. Dim ond ychydig o amser oedd gen i er mwyn treialu\u2019r teclyn a chreu bot. Rwy\u2019n bwriadu ei ddefnyddio eto eleni ac rwyf eisoes wedi creu sgwrsfot mwy llym ar gyfer fy ngwaith cwrs. Rwyf hefyd wedi darparu\u2019r sgwrsfot ar gyfer eraill sydd ar fy modiwl i\u2019w dreialu. Pan ofynnais i fyfyrwyr am eu defnydd o declyn AI fel eu cymhorthydd, cefais ymatebion tebyg i\u2019r llynedd.<\/p>\n<table style=\"height: 422px\" width=\"402\">\n<tbody>\n<tr>\n<td width=\"274\"><strong>Cwestiwn<\/strong><\/td>\n<td width=\"268\"><strong>Defnydd o Gymhorthydd AI Gwaith Cwrs<\/strong><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"274\"><strong>Ymatebion<\/strong><\/td>\n<td width=\"268\">119<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"274\"><\/td>\n<td width=\"268\"><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"274\"><strong>Dewisiadau<\/strong><\/td>\n<td width=\"268\"><strong>Pleidleisiau<\/strong><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"274\">Byswn bendant yn ei ddefnyddio<\/td>\n<td width=\"268\">20<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"274\">Ddim yn ymddiried yn AI<\/td>\n<td width=\"268\">34<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"274\">Byswn yn ei ddefnyddio ond dal i holi\u2019r athro<\/td>\n<td width=\"268\">65<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<p>Rwy\u2019n bwriadu rhyddhau\u2019r teclyn i fyfyrwyr ar \u00f4l wythnos 7 a\u2019u profi yn ystod rhai tiwtorialau byw er mwyn asesu perfformiad y sgwrsfot. Rwy\u2019n breuddwydio am adeg pan fydd y sgwrsfot yn ymateb i\u2019r holl gwestiynau ailadroddus am waith cwrs, gan fy nghaniat\u00e1u I roi cymorth penodol unigol pan a ble mae angen. Croesi bysedd!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae\u2019r blog yma gan Ramalakshmi Vaidhiyanathan yn archwilio\u2019r defnydd o AI i gynorthwyo gydag ymholiadau myfyrwyr yn ymwneud \u00e2 gwaith cwrs. Mae Ramalakshmi Vaidhiyanathan yn ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5158,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[1015],"class_list":["post-5160","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","custom_author-ramalakshmi-vaidhiyanathan"],"lang":"cy","translations":{"cy":5160,"en":5149},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1le","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/12\/Sized-34.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5160","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5160"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5160\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5167,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5160\/revisions\/5167"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5158"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5160"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5160"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5160"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5160"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}