{"id":5118,"date":"2024-12-11T10:46:24","date_gmt":"2024-12-11T10:46:24","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5118"},"modified":"2024-12-12T14:39:15","modified_gmt":"2024-12-12T14:39:15","slug":"gwellar-cymorth-i-fyfyrwyr-drwy-greu-ar-y-cyd-partneriaeth-ac-arloesi-gydai-gilydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/gwellar-cymorth-i-fyfyrwyr-drwy-greu-ar-y-cyd-partneriaeth-ac-arloesi-gydai-gilydd\/","title":{"rendered":"Gwella\u2019r Cymorth i Fyfyrwyr drwy Greu ar y Cyd: Partneriaeth ac Arloesi gyda\u2019i gilydd"},"content":{"rendered":"<h3>Bellach, mae adborth myfyrwyr yn amhrisiadwy wrth greu cyd-destunau dysgu effeithiol ym myd addysg heddiw. Yn y blog yma mae Marianna a Punsisi o&#8217;n t\u00eem Addysg Ddigidol yn myfyrio ar bartneriaethau rhwng myfyrwyr a\u2019r Academi Dysgu ac Addysgu (Academi DA).<\/h3>\n<p>Yn sgil barn ein myfyrwyr yn ddiweddar, rydyn ni wedi dod o hyd i gyfle o gryn bwys, sef gwella\u2019r berthynas rhwng canllawiau ac adnoddau cymorth addysg ddigidol a\u2019r graddau y bydd myfyrwyr yn eu defnyddio. Nid galwad i weithredu yn unig yw&#8217;r adborth hwn; mae&#8217;n ein hatgoffa o bwysigrwydd cydweithio academaidd. Gan gydnabod yr angen am welliant, mae\u2019n bleser mawr gennym gyhoeddi cynllun sy&#8217;n gosod y myfyrwyr wrth galon yr ateb. Bydd y blogiad hwn yn trafod cysyniad grymus creu ar y cyd \u00e2 myfyrwyr, gan amlygu\u2019r bartneriaeth ddeinamig rhwng myfyrwyr ac Academi DA. Gyda\u2019n gilydd, rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu adnoddau arloesol, adnewyddu ein canllawiau cymorth offer digidol a chynnig awgrymiadau sgiliau astudio ymarferol wedi\u2019u teilwra i brofiadau myfyrwyr go iawn. Mae&#8217;r cydweithio hwn yn cyd-fynd yn ddi-dor \u00e2 nodau strategol y Brifysgol, gan bwysleisio r\u00f4l hollbwysig cydweithio, mynd ati i geisio adborth myfyrwyr a meithrin cyfleoedd i greu ar y cyd. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/jobs\/what-we-can-offer\/teaching-innovation-and-support\/working-with-student-champions\">Mae cynllun y Myfyrwyr Hyrwyddo<\/a> yn chwarae rhan sylweddol yn y broses hon.<\/p>\n<h3><strong>Pryd dechreuodd y cyfan a\u2019r cynnydd a wnaed hyd yn hyn<\/strong><\/h3>\n<p>Datblygodd yr Academi Gynllun Myfyrwyr Hyrwyddo i gefnogi rhagoriaeth dysgu ac addysgu a gwella profiad y myfyrwyr. Mae\u2019r Myfyrwyr Hyrwyddo yn gweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019r staff i ddatblygu a llunio cyd-destun dysgu ac addysgu yn ogystal \u00e2 phrofiad y myfyrwyr yn gyffredinol. Maen nhw\u2019n dod o ysgolion gwahanol ac felly yn meddu ar lawer o syniadau a phrofiadau gwahanol. \u00a0Mae t\u00eem Addysg Ddigidol yr Academi wedi gweithio gyda nhw ers 2018 ar bedwar prosiect. Nod y t\u00eem addysg ddigidol yw gwella profiad myfyrwyr drwy\u2019r cymorth y mae\u2019r Brifysgol yn ei roi i\u2019r offer a\u2019r platfformau digidol. Drwy ymuno \u00e2&#8217;r Myfyrwyr Hyrwyddo, rydyn ni\u2019n gwella&#8217;r adnoddau dysgu sydd ar gael ac yn grymuso\u2019r gymuned academaidd ac yn meithrin cyd-destun lle gall myfyrwyr a staff ffynnu. Hyd yma, rydym wedi cyflawni cyfanswm o 26 o brosiectau addysg ddigidol i gyflawni\u2019r nod hwn ers 2018, ac wedi gweithio gyda 38 o fyfyrwyr ar rhain. Mae&#8217;r prosiect Hyrwyddwyr Myfyrwyr wedi wedi cynnyddu yn sylweddol ers 2018, gyda 12 o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf, a dros 35 erbyn hyn.<\/p>\n<p>Eleni, fodd bynnag, buon ni\u2019n canolbwyntio ar yr hyn y mae myfyrwyr ei eisiau, sef y cymorth y maen nhw\u2019n dymuno ei gael at y flwyddyn nesaf. Nododd y Myfyrwyr Hyrwyddo yr angen i gyfoethogi a gwella\u2019r adnoddau cymorth i fyfyrwyr. Roedd hyn yn ei gwneud yn amlwg nad oedd y flaenoriaeth i\u2019r myfyrwyr yn flaenoriaeth inni felly. Roedden ni eisiau canfod y bylchau yn yr adnoddau cymorth i fyfyrwyr gan ddefnyddio grwpiau ffocws. Daethon ni ar draws llawer o atebion fel &#8220;Dwi ddim yn gwybod,&#8221; &#8220;Dydw i ddim yn si\u0175r,&#8221; &#8220;Rwy&#8217;n gofyn i bobl eraill fel arfer,&#8221; neu &#8220;Ei mentro hi bydda i.&#8221; Roedd un peth, fodd bynnag, yn gyson yn yr adborth hwn: y diffyg adnoddau cymorth a ysgrifennwyd gan y myfyrwyr eu hunain.<\/p>\n<p>Y newidiadau a\u2019r gwelliannau penodol a wnaed i wella cymorth yr offer digidol yw:<\/p>\n<ul>\n<li>Ailysgrifennu <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/students\/study\/skills-for-success\/digital-skills\/tools-and-platforms-for-learning-and-teaching\">canllawiau cymorth yr offer digidol<\/a><\/li>\n<li>Rhoi awgrymiadau defnyddiol ar Ddysgu Canolog (Nodau tudalen a sgriniau sy\u2019n dangos awgrymiadau da\u2019r wythnos)<\/li>\n<li>Templed sleidiau ymsefydlu i\u2019r ysgolion<\/li>\n<\/ul>\n<h3><strong>Grym Cynnwys y Myfyrwyr <\/strong><\/h3>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Conference Video (BIST)\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/1008389422?h=b858ee051c&amp;dnt=1&amp;app_id=122963\" width=\"500\" height=\"281\" frameborder=\"0\" allow=\"autoplay; fullscreen; picture-in-picture; clipboard-write\"><\/iframe><\/p>\n<p>Mae&#8217;r tasgau mae myfyrwyr wedi bod yn rhan ohonynt wedi amrywio, ac yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Dylunio arolwg<\/li>\n<li>Ymchwil<\/li>\n<li>Grwpiau ffocws<\/li>\n<li>Rhedeg stondinau a ffeiriau casglu adborth<\/li>\n<li>Creu cynnwys<\/li>\n<li>Ymgysylltu \u00e2 staff<\/li>\n<li>Dadansoddi data<\/li>\n<li>Awgrymiadau a mewnwelediad<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;r budd y mae myfyrwyr yn ei gael o gymryd rhan yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Hwyl<\/li>\n<li>Cysylltiadau newydd<\/li>\n<li>Archwilio&#8217;r hyn mae ysgolion yn ei gynnig<\/li>\n<li>Gwella sgiliau cyfweld<\/li>\n<li>Dysgu egwyddorion rhedeg prosiect<\/li>\n<li>Bod yn rhan o d\u00eem<\/li>\n<\/ul>\n<h3><strong>Myfyrio a&#8217;r dyfodol<\/strong><\/h3>\n<p>Mae grymuso myfyrwyr a rhoi llais iddyn nhw wrth wraidd ein ffordd o weithio. Rydyn ni wedi meithrin ymdeimlad o berthyn a dilysu myfyrwyr drwy ganiat\u00e1u iddyn nhw roi eu barn a&#8217;u syniadau. Mae hyn wedi cyfoethogi eu profiad addysgol ac wedi cryfhau ein cymuned.<\/p>\n<p>Rydyn ni wedi rhoi &#8216;dolen adborth gaeedig&#8217; ar waith, sef mynd ati i geisio adborth myfyrwyr, gwneud yr addasiadau angenrheidiol a rhannu&#8217;r gwelliannau \u00e2\u2019r myfyrwyr. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad a&#8217;u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rydyn ni wedi mireinio ein cynnwys i adleisio rhythm ac arddull y myfyrwyr, gan sicrhau ei fod yn addysgiadol tra&#8217;n cyd-fynd \u00e2\u2019r ffordd y mae\u2019r myfyrwyr yn dysgu. Yn dilyn y broses gysoni hon, mae ein hadnoddau&#8217;n fwy effeithiol ac yn fwy deniadol.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, dysgon ni hefyd nad oedd llunio llu o ganllawiau bob amser yn ddefnyddiol. Daeth yn amlwg bod angen ar y myfyrwyr wybod sut i gyrchu a dod o hyd i&#8217;r adnoddau hyn. I fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, symleiddion ni ein pecyn ymsefydlu i gynnig adnodd cynhwysfawr ond un y gellid ei addasu i ysgolion.<\/p>\n<p>Yn y dyfodol, byddwn ni\u2019n canolbwyntio ar wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI). Ein nod yw creu Cynefin drwy gynnig addysg lle bydd pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a\u2019i gefnogi, waeth beth fo\u2019i gefndir.\u00a0 I gyflawni hyn, byddwn ni\u2019n cynnwys y myfyrwyr mewn sesiynau tasgu syniadau i ddod o hyd i broblemau a mynd i&#8217;r afael \u00e2 nhw.\u00a0 Mae eu hadborth a&#8217;u profiadau yn amhrisiadwy wrth lunio fframwaith addysgol mwy cynhwysol a theg.<\/p>\n<h3><strong>Casgliad<\/strong><\/h3>\n<p>Mae\u2019r broses o greu ar y cyd \u00e2 myfyrwyr wedi bod yn drawsnewidiol. Drwy gynnwys myfyrwyr hyrwyddo, datblygon ni <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_21502#page1\">ganllaw yr Academi ar arferion da<\/a> yn ogystal \u00e2 <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/students\/study\/skills-for-success\/digital-skills\/tools-and-platforms-for-learning-and-teaching\">deunyddiau <\/a>diddorol a pherthnasol eraill. Mae&#8217;r bartneriaeth hon wedi meithrin ymdeimlad o gymuned a pharch gan bawb at ei gilydd, gan wella&#8217;r profiad addysgol i bawb yn y pen draw. Edrychwn ymlaen at barhau \u00e2\u2019r ffordd hon o gydweithio, gan sicrhau bod ein hadnoddau\u2019n parhau i ddiwallu anghenion cyfnewidiol y myfyrwyr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Bellach, mae adborth myfyrwyr yn amhrisiadwy wrth greu cyd-destunau dysgu effeithiol ym myd addysg heddiw. Yn y blog yma mae Marianna a Punsisi o'n t\u00eem Addysg Ddigidol yn myfyrio ar [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5138,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792,800],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-5118","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","category-ymgysylltu-a-myfyrwyr"],"lang":"cy","translations":{"cy":5118,"en":5110},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1ky","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/12\/team.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5118","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5118"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5118\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5145,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5118\/revisions\/5145"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5138"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5118"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5118"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5118"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5118"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}