{"id":5088,"date":"2024-11-27T16:00:01","date_gmt":"2024-11-27T16:00:01","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5088"},"modified":"2024-11-28T08:43:39","modified_gmt":"2024-11-28T08:43:39","slug":"dathlur-cynllun-interniaethau-ar-y-campws","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/dathlur-cynllun-interniaethau-ar-y-campws\/","title":{"rendered":"Dathlu&#8217;r cynllun Interniaethau ar y Campws"},"content":{"rendered":"<h3>Elgan Hughes, Rheolwr Ymgysylltu Myfyrwyr yr Academi Dysgu ac Addysgu sydd yn adlewyrchu ar ei brofiad o fynychu Arddangosfa Posteri&#8217;r cynllun Interniaethau ar y Campws.<\/h3>\n<p>Yn yr Academi Dysgu ac Addysgu, rydyn ni\u2019n ymrwymo i feithrin partneriaethau gyda&#8217;r myfyrwyr, gan eu grymuso i gyfrannu at ein hymchwil o safon a gofalu bod llais y myfyrwyr yn gallu dylanwadu&#8217;n uniongyrchol ar ein harferion dysgu ac addysgu.<\/p>\n<p>Ar 13 Tachwedd, roedd mwy na 100 o bosteri ymchwil, a gafodd eu llunio gan y myfyrwyr talentog eleni sydd wedi dilyn cynllun Interniaethau ar y Campws 2024, yn addurno Canolfan Bywyd y Myfyrwyr. Yno hefyd roedd eu goruchwylwyr, yn ogystal \u00e2 myfyrwyr ac aelodau eraill o staff, pan aethon nhw ati i gyflwyno eu hymchwil, myfyrio ar yr hyn roedden nhw wedi\u2019i gyflawni a dathlu eu llwyddiannau yn ystod haf 2024. Cyfle oedd y digwyddiad dathlu i staff a myfyrwyr fyfyrio ychydig yn fwy am brofiadau ei gilydd a chael gwybod am y gwahanol brosiectau.<\/p>\n<p>Yn yr arddangosfa eleni ro\u2019n i\u2019n falch iawn o gael cyflwyno&#8217;r sgyrsiau sionc yn y digwyddiad dathlu interniaethau ar y campws. Yn y digwyddiad, cawson ni wybod am y pethau gwych y gellir eu cyflawni os bydd staff a myfyrwyr yn cydweithio \u00e2\u2019i gilydd a thrwy bartneriaethau rhwng prifysgolion a busnesau. Agorodd y sgyrsiau sionc ddeialog \u00e2\u2019r myfyrwyr, ac mae\u2019r rhain wedi dangos sut y gall yr interniaethau gefnogi myfyrwyr i bontio i fyd addysg uwch, meithrin perthynas dda rhwng staff a myfyrwyr, rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar astudiaethau \u00f4l-raddedig a dylanwadu ar eu dyheadau gyrfaol yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Clywais i am sut mae\u2019r prosiectau yn grymuso eu hastudiaethau, yn ysgogi trafodaethau ar draws disgyblaethau ac yn rhoi sgiliau newydd i fyfyrwyr, gan eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol yn eu hastudiaethau.\u00a0Bydd hyn ond cryfhau eu profiad wrth chwilio am gyfleoedd ar \u00f4l cwblhau eu hastudiaethau gyda ni.<\/p>\n<p><strong>Adborth<\/strong><\/p>\n<p>Roedd yn braf clywed staff a myfyrwyr yn rhannu adborth gadarnhaol am y cynllun.<\/p>\n<p>Dyweddodd myfyrwyr:<\/p>\n<p><em>&#8220;Mae cael y cyfle hwn i ennill profiad anhygoel yn y byd go iawn wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar fy hyder.&#8221;<\/em><\/p>\n<p><em>&#8220;Rwy&#8217;n credu ei bod yn ddiddorol iawn gweld sut gall y dau d\u00eem gwahanol, ysgolion gwahanol, a meysydd gwahanol ddod at ei gilydd i weithio ar un darn unigol o ymchwil a all helpu i lywio newid i bawb.<\/em>&#8216;<\/p>\n<p>Ac yn \u00f4l aelodau staff:<\/p>\n<p><em>&#8216;Mae&#8217;r Interniaethau ar y campws yn hynod bwysig i ymchwil. Fel Ymchwilydd Gyrfa Gynnar sy&#8217;n sefydlu agenda a phroffil ymchwil, mae&#8217;r gwaith y mae myfyrwyr yn ei wneud yn helpu i gefnogi arloesedd mewn ymchwil a fyddai&#8217;n anoddach i ddigwydd fel arall.&#8217;<\/em><\/p>\n<p><em>&#8216;Cynllun ardderchog, sy\u2019n destun cenfigen cyfoedion mewn prifysgolion eraill.\u2019<\/em><\/p>\n<p><strong>Diolch yn fawr<\/strong><\/p>\n<p>Rwy eisiau achub ar y cyfle hwn i ddiolch i&#8217;r holl oruchwylwyr a\u2019r ysgolion am yr amser y maen nhw\u2019n ei roi i gynnal lleoliad dros yr haf. Mae&#8217;n wirioneddol wych bod ein staff yn angerddol am brofiad myfyrwyr ac yn ceisio cyfleoedd i gynnal lleoliadau.<\/p>\n<p>Rwy hefyd eisiau diolch i&#8217;n myfyrwyr am fanteisio ar y cyfleoedd hyn ac am ymdrechu cymaint i sicrhau bod y prosiectau yn llwyddiant \u2013 roedd y digwyddiad dathlu yn gyfle i ddathlu&#8217;r hyn rydych chi wedi&#8217;i gyflawni. Rwy&#8217;n dymuno pob lwc ichi eleni ac yn gobeithio y bydd eich profiadau yr haf hwn o gymorth ichi yn eich astudiaethau a thu hwnt.<\/p>\n<p>Os nad oeddech chi\u2019n gallu dod i\u2019r digwyddiad, caiff staff a myfyrwyr weld rhai o&#8217;r posteri a&#8217;r sgyrsiau sionc yn fan hyn. I gael gwybod rhagor am y cynllun, mynnwch gip ar<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/category\/interniaethau-ar-y-campws\/\"> ein blogiau <\/a>a&#8217;n <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/support-students\/student-careers-and-development\/students-on-summer-placements\">tudalennau ar y fewnrwyd.<\/a><\/p>\n<p>Rydym yn hynod falch o gyhoeddi hefyd fod y <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/support-students\/student-careers-and-development\/students-on-summer-placements\">cynllun ar gyfer 2025 nawr ar agor i staff wneud cais i gyd-weithio \u00e2 myfyrwyr.<\/a><\/p>\n<p>Diolch yn fawr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Elgan Hughes, Rheolwr Ymgysylltu Myfyrwyr yr Academi Dysgu ac Addysgu sydd yn adlewyrchu ar ei brofiad o fynychu Arddangosfa Posteri'r cynllun Interniaethau ar y Campws. Yn yr Academi Dysgu ac [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5087,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1006],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-5088","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-interniaethau-ar-y-campws"],"lang":"cy","translations":{"cy":5088,"en":5085},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1k4","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/11\/Blog-OCI.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5088","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5088"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5088\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5098,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5088\/revisions\/5098"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5087"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5088"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5088"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5088"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5088"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}