{"id":5073,"date":"2024-11-21T15:50:13","date_gmt":"2024-11-21T15:50:13","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5073"},"modified":"2024-11-21T15:50:13","modified_gmt":"2024-11-21T15:50:13","slug":"gwella-hygyrchedd-capsiynau-darlithoedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/gwella-hygyrchedd-capsiynau-darlithoedd\/","title":{"rendered":"Gwella hygyrchedd capsiynau darlithoedd"},"content":{"rendered":"<h2>Cyflwyniad<\/h2>\n<p>Yn yr amgylchedd dysgu amrywiol sydd ohoni, mae sicrhau bod pob recordiad\u00a0 yn hygyrch i bob myfyriwr yn bwysicach nag erioed. Mae llawer o fyfyrwyr yn dibynnu ar y recordiadau hyn, ac i\u2019r myfyrwyr hynny sydd ag anabledd neu\u2019r rhai nad ydyn nhw\u2019n siarad Saesneg yn iaith gyntaf, mae nodweddion hygyrchedd megis capsiynau cae\u00ebdig yn amhrisiadwy.<\/p>\n<p>Mae capsiynau cae\u00ebdig ac is-deitlau nid yn unig yn ddefnyddiol i fyfyrwyr \u00e2 nam ar eu clyw. Maen nhw hefyd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu, myfyrwyr sydd ag anawsterau prosesu clywedol a myfyrwyr rhyngwladol y gallai fod angen cymorth iaith ychwanegol arnyn nhw. Yn y canllaw hwn, byddwn ni\u2019n trin a thrafod yr offer sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd i\u2019ch helpu i wneud y recordiadau o\u2019ch darlithoedd yn fwy cynhwysol.<\/p>\n<h2>Offer ar gyfer galluogi capsiynau cae\u00ebdig<\/h2>\n<p>Mae\u2019r canllaw hwn yn esbonio sut i alluogi capsiynau cae\u00ebdig gan ddefnyddio tri phlatfform sy\u2019n cael eu defnyddio\u2019n aml ym Mhrifysgol Caerdydd:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Panopto<\/strong>: Mae Panopto yn defnyddio proses trawsgrifio gan beiriant i greu capsiynau\u2019n awtomatig. Mae\u2019r opsiwn ar gael i olygu\u2019r capsiynau er mwyn sicrhau eu bod yn gywir.<\/li>\n<li><strong>Microsoft Teams<\/strong>: Mae Microsoft Teams yn cynnig capsiynau byw yn ystod cyfarfodydd. Mae\u2019r capsiynau ar gael i\u2019w hadolygu a\u2019u lawrlwytho ar \u00f4l y sesiwn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae gan bob platfform offer integredig sy\u2019n ei gwneud hi\u2019n haws ychwanegu capsiynau. Mae hyn yn eich helpu i greu cynnwys hygyrch heb lawer o ymdrech.<\/p>\n<h2>Recordiadau\u00a0 Panopto<\/h2>\n<p>Panopto yw un o\u2019r prif blatfformau ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer recordio darlithoedd a gweithgareddau addysgu wyneb-yn-wyneb. Mae\u2019r nodwedd adnabod llais yn awtomatig yn creu capsiynau ar gyfer recordiadau, sy\u2019n ei gwneud hi\u2019n haws gwella hygyrchedd ar \u00f4l darlith.<\/p>\n<p>Sut i alluogi a golygu capsiynau yn Panopto:<\/p>\n<figure id=\"post-5074 media-5074\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/11\/Picture1-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li>Agorwch eich fideo yn Panopto.<\/li>\n<li>Cliciwch \u2018Golygu\u2019 i weld y sgr\u00een golygu.<\/li>\n<li>Dewiswch \u2018Capsiynau\u2019 yn y ddewislen ar y chwith.<\/li>\n<li>Dewiswch \u2018Mewnforio capsiynau\u2019 yn newislen \u2018Capsiynau\u2019.<\/li>\n<li>Ewch ati i adolygu a golygu\u2019r capsiynau i wella eu cywirdeb. Pan fyddwch chi&#8217;n fodlon ar y capsiynau, cliciwch \u2018Cyhoeddi\u2019.<\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>Awgrym<\/strong>: Mae capsiynau awtomatig Panopto tua 70-75% yn gywir. Felly, syniad da yw adolygu ac addasu\u2019r capsiynau, yn enwedig termau technegol neu enwau y gallai\u2019r system eu camddehongli.<\/p>\n<p>I gael arweiniad manylach, edrychwch ar yr adnoddau defnyddiol hyn:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/howtovideos.hosted.panopto.com\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=fb79840d-8022-4ee0-95fa-b1bf0167c9b6&amp;start=0\">Fideo \u2018Sut i\u2019 Panopto<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/support.panopto.com\/s\/article\/ASR-Generated-Captions\">Erthygl \u2018Sut i\u2019 Panopto<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<h2>Microsoft Teams<\/h2>\n<p>Mae Microsoft Teams yn cynnig capsiynau byw yn ystod cyfarfodydd, sy&#8217;n helpu myfyrwyr i ddilyn yr hyn sy\u2019n cael ei drafod mewn amser real. Ar \u00f4l cyfarfod wedi\u2019i recordio, mae\u2019r capsiynau\u2019n cael eu creu\u2019n awtomatig, a bydd modd eu hadolygu a\u2019u lawrlwytho.<\/p>\n<p>Galluogi capsiynau byw yn ystod cyfarfod Microsoft Teams:<\/p>\n<figure id=\"post-5075 media-5075\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/11\/Picture2-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li>Yn ystod eich cyfarfod, cliciwch ar y tri dot \u2018Mwy\u2019 ar frig y sgr\u00een.<\/li>\n<li>Dewiswch \u2018<strong>Dangos capsiynau byw<\/strong>\u2019 yn y gwymplen.<\/li>\n<li>Bydd capsiynau byw yn ymddangos ar waelod y sgr\u00een ac yn dangos beth sy\u2019n cael ei ddweud mewn amser real.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae capsiynau byw yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sy\u2019n cael trafferth dilyn cynnwys llafar. Er bod y capsiynau hyn yn cael eu cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, gall eu cywirdeb amrywio gan ddibynnu ar ffactorau megis acen a s\u0175n cefndir.<\/p>\n<p>Galluogi capsiynau ar gyfer cyfarfodydd wedi\u2019u recordio yn Microsoft Teams:<\/p>\n<figure id=\"post-5076 media-5076\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/11\/Picture3-1.png\" alt=\"\" width=\"636\" height=\"403\" \/><\/figure>\n<ol>\n<li>Ewch i <strong>Microsoft Stream<\/strong> (lle mae recordiadau o gyfarfodydd Microsoft Teams yn cael eu storio).<\/li>\n<li>Dewiswch y cyfarfod rydych chi am ei gapsiynu.<\/li>\n<li>Wrth ymyl y fideo, dewiswch \u2018<strong>Gosodiadau fideo<\/strong>\u2019 ac yna \u2018<strong>Trawsgrifiad a chapsiynau<\/strong>\u2019.<\/li>\n<li>Cliciwch \u2018<strong>Cynhyrchu<\/strong>\u2019.<\/li>\n<li>Gallwch chi lawrlwytho\u2019r trawsgrifiad a\u2019i adolygu er mwyn sicrhau ei fod yn gywir. Mae capsiynau wedi\u2019u cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial mewn cyfarfodydd Microsoft Teams fel arfer tua 80-85% yn gywir, ond gallwch chi gywiro unrhyw gamgymeriadau \u00e2 llaw yn Microsoft Stream.<\/li>\n<\/ol>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr <a href=\"https:\/\/support.microsoft.com\/en-gb\/office\/use-live-captions-in-microsoft-teams-meetings-4be2d304-f675-4b57-8347-cbd000a21260\">erthygl ar ddefnyddio capsiynau yn Microsoft Teams<\/a>.<\/p>\n<h2>Casgliad<\/h2>\n<p>Nid dim ond mater o gydymffurfio yw sicrhau bod recordiadau o ddarlithoedd a gweithgareddau addysgol eraill yn hygyrch; mae\u2019n ymwneud \u00e2 meithrin amgylchedd dysgu cynhwysol lle gall pob myfyriwr lwyddo. Drwy ddefnyddio offer megis Panopto a Microsoft Teams, a defnyddio capsiynau cae\u00ebdig yn eich recordiadau\u00a0, rydych chi\u2019n gwella\u2019r profiad dysgu i bawb.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n annog pob aelod o\u2019r staff i flaenoriaethu hygyrchedd wrth baratoi deunyddiau dysgu. Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch chi, mae ein t\u00eem <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/teach-and-assess-students\/learning-and-teaching-development\/digital-education-strategy\">Addysg Ddigidol<\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/people-and-teams\/view\/58180-disability-and-dyslexia-service\">Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr<\/a> yma i ateb unrhyw gwestiynau neu gynorthwyo ag anghenion hyfforddiant. \u00a0Hefyd, sicrhewch eich bod yn darllen ein <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/applications\/help\/panopto-help\/policy-for-recording-educational-activities\">Polisi Recordio Gweithgareddau Addysgol<\/a> i gael rhagor o wybodaeth am arfer gorau a chydymffurfio.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cyflwyniad Yn yr amgylchedd dysgu amrywiol sydd ohoni, mae sicrhau bod pob recordiad\u00a0 yn hygyrch i bob myfyriwr yn bwysicach nag erioed. Mae llawer o fyfyrwyr yn dibynnu ar y [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5083,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-5073","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol"],"lang":"cy","translations":{"cy":5073,"en":5065},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1jP","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/11\/Sized-30.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5073","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5073"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5073\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5084,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5073\/revisions\/5084"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5083"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5073"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5073"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5073"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5073"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}