{"id":5028,"date":"2024-10-04T12:09:33","date_gmt":"2024-10-04T12:09:33","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=5028"},"modified":"2024-10-04T12:09:33","modified_gmt":"2024-10-04T12:09:33","slug":"ystyried-pynciau-dysgu-ac-addysgu-pwysig-drwy-ddull-caffir-byd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/ystyried-pynciau-dysgu-ac-addysgu-pwysig-drwy-ddull-caffir-byd\/","title":{"rendered":"Ystyried pynciau dysgu ac addysgu pwysig drwy ddull Caffi\u2019r Byd"},"content":{"rendered":"<p>Dechreuodd Caffi\u2019r Byd ym 1995 yng Nghaliffornia. Mae\u2019n seiliedig ar saith egwyddor sy\u2019n cynnwys creu lle croesawgar, trafod cwestiynau o bwys, gwrando ar ein gilydd, chwarae, dwdlo a chael hwyl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar <a href=\"https:\/\/theworldcafe.com\/key-concepts-resources\/design-principles\/\">wefan Caffi\u2019r Byd<\/a>.<\/p>\n<p>Mae modd i unrhyw un sy\u2019n addysgu neu sy\u2019n cefnogi dysgu fynd i ddigwyddiadau Caffi\u2019r Byd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid graddedig, arddangoswyr graddedig a staff y Gwasanaethau Proffesiynol. Mae\u2019r digwyddiadau\u2019n dod ag aelodau o\u2019r staff ynghyd i wrando ar safbwyntiau gwahanol, gan arwain at oleuni newydd a chyd-ddoethineb (Brown ac Isaacs, 2005). Cafodd y digwyddiad cyntaf ei gynnal yn 2022, ac ers hynny, mae\u2019r T\u00eem Cymrodoriaethau wedi cynnal 14 o ddigwyddiadau, gyda phob un yn canolbwyntio ar bwnc dysgu ac addysgu penodol. Ceir trafodaethau bord gron sy\u2019n codi uwchlaw ffiniau ysgolion academaidd, rolau a chyfarwyddiaethau. Yn ogystal \u00e2 chael sgyrsiau, mae pawb yn cael eu hannog i dynnu neu fraslunio eu hatebion i gwestiynau, sy\u2019n helpu i ysgogi meddwl a datblygu syniadau, ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth (Alexander, 2019) a chryfhau ymarfer myfyriol (Simpson, 2016). Dewch i roi cynnig arni!<\/p>\n<p>Mae Dr Walter Colombo, darlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yn mynd i ddigwyddiadau Caffi\u2019r Byd yn rheolaidd. Dyma beth sydd ganddo i&#8217;w ddweud:<\/p>\n<p>\u201cY tro cyntaf i mi glywed s\u00f4n am ddigwyddiadau Caffi\u2019r Byd oedd ychydig dros flwyddyn yn \u00f4l, wrth ddilyn rhaglen Cymrodoriaethau Addysg. Roedden nhw i\u2019w gweld yn gyfle da i gymharu a chyfnewid gwybodaeth am ddulliau a phrofiadau addysgu gydag eraill. Fodd bynnag, roedd yn glir o\u2019r dechrau bod gan y digwyddiadau hyn lawer mwy i\u2019w gynnig, oherwydd natur tra amrywiol y gr\u0175p o unigolion sy\u2019n cymryd rhan ynddyn nhw. Ymhlith y rhain mae unigolion sy\u2019n ymgeisio am gymrodoriaethau, darlithwyr ac addysgwyr ar raddau gwahanol, siaradwyr gwadd a hwyluswyr. Mae\u2019r amrywiaeth enfawr hon yn gwneud y digwyddiadau hyn yn gyfle gwirioneddol unigryw i rannu, trafod a dysgu sut mae technegau a dulliau addysgol yn cael eu defnyddio mewn gwahanol ysgolion, yn ogystal \u00e2 chlywed yn uniongyrchol gan addysgwyr sydd \u00e2 rolau, profiadau ac arbenigedd gwahanol.<\/p>\n<p>Mae natur y digwyddiadau, sy\u2019n seiliedig ar thema benodol, nid yn unig yn ysgogi dadansoddiadau manwl a thrafodaethau bywiog ar bynciau addysgol amrywiol ond hefyd yn ein galluogi i ymchwilio i amrywiaeth eang o sianeli cyfathrebu. Gall y rhain gynnwys sioeau sleidiau mwy traddodiadol, celfyddydau gweledol a hyd yn oed gerddoriaeth a sesiynau amlgyfrwng weithiau. Mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r amser yn y digwyddiadau ar gyfer rhyngweithio \u00e2\u2019r rhai sy\u2019n bresennol. Rydyn ni\u2019n cyfnewid profiadau, yn cael trafodaethau, yn ymchwilio i ddulliau amgen ac yn chwilio am atebion newydd i broblemau cyffredin.<\/p>\n<p>Mae digwyddiadau Caffi\u2019r Byd yn chwa o awyr iach yn y byd academaidd \u2013 amgylchedd lle rydyn ni\u2019n rhy aml yn glynu wrth ein harferion dyddiol a\u2019n hymrwymiadau. Maen nhw\u2019n ein hatgoffa ni ein bod ni i gyd yn addysgwyr a ddylai geisio gwella ein methodolegau a strategaethau addysgu\u2019n barhaus. Dim ond drwy broses o gymharu a rhyngweithio \u00e2 chydweithwyr eraill a\u2019r rhai y tu allan i\u2019n meysydd penodol, waeth beth yw ein rolau a ble rydyn ni arni yn ein gyrfaoedd, y gallwn ni gyflawni hyn.\u201d<\/p>\n<p><strong>Ymunwch \u00e2 ni<\/strong><\/p>\n<p>Edrychwch ar y pynciau, y dyddiadau a\u2019r amseroedd ar y <a href=\"https:\/\/cf-my.sharepoint.com\/:p:\/g\/personal\/lewisa81_cardiff_ac_uk\/EQLPC-eudfBBsju1CJ21BWgBDR2xwRK1AQkzNwiP5orklQ?e=ovxUAY&amp;wdLOR=cD211E3BA-830B-4087-B712-ABD6BA42C210\">daflen sy\u2019n rhestru digwyddiadau Caffi\u2019r Byd yn 2024-25<\/a>, sy\u2019n cynnwys y ddolen i gadw eich lle. Bydden ni\u2019n falch iawn o\u2019ch gweld yn y digwyddiadau!<\/p>\n<p>Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi gyd-hwyluso digwyddiad Caffi\u2019r Byd, cysylltwch ag Alyson Lewis: <a href=\"mailto:Lewisa81@cardiff.ac.uk\">LewisA81@caerdydd.ac.uk<\/a><\/p>\n<p><strong>Cyfeirnodau <\/strong><\/p>\n<p>Alexander, R. (2019). <em>Dialogic Teaching.<\/em> Ar gael yn <a href=\"https:\/\/robinalexander.org.uk\/dialogic-teaching\/\">https:\/\/robinalexander.org.uk\/dialogic-teaching\/<\/a> [Cyrchwyd: 23 Chwefror 2023]<\/p>\n<p>Brown, J. ac Isaacs, D. (2005). <em>The World Caf\u00e9: Shaping Our Futures Through Conversations That Matter.<\/em> UDA: Berrett-Koehler Publishers<\/p>\n<p>Simpson, A. (2016). \u2018Designing pedagogic strategies for dialogic learning in higher education\u2019 yn <em>Technology, Pedagogy and Education<\/em> 25(2), tud. 135-151<\/p>\n<p><strong>Deunydd darllen pellach<\/strong><\/p>\n<p>Estacio, E. a Karic, T. (2016). \u2018The World Caf\u00e9: An innovative method to facilitate reflections on internationalisation in higher education\u2019 yn <em>Journal of Further and Higher Education <\/em>40(6), tud. 731-745<\/p>\n<p>Lorenzetti, L., Azulai, A. a Walsh, C. (2016). \u2018Addressing Power in Conversation: Enhancing the Transformative Learning Capacities of the World Caf\u00e9\u2019 yn <em>Journal of Transformative Education <\/em>14(3), tud. 200-219<\/p>\n<p>Pinto-Pinho, P., Ferreira, A., Matos, B., Santiago, J., Henriques, M., Corda, P., Lima, T., Rodrigues, M., Pereira, M.L. a Fardilha, M. (2003). \u2018The World Caf\u00e9 method and spaces dedicated to active teaching &amp; learning: A dynamic combo that motivates students for biosciences learning\u2019 yn <em>Innovations in Education and Teaching International<\/em>, tud. 1-15<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dechreuodd Caffi\u2019r Byd ym 1995 yng Nghaliffornia. Mae\u2019n seiliedig ar saith egwyddor sy\u2019n cynnwys creu lle croesawgar, trafod cwestiynau o bwys, gwrando ar ein gilydd, chwarae, dwdlo a chael hwyl. [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":5023,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[921,1017],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-5028","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymrodoriaethau-addysg","category-datblygiad-proffesiynol-parhaus-cpd"],"lang":"cy","translations":{"cy":5028,"en":5021},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1j6","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/10\/Sized-26.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5028","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5028"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5028\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5029,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5028\/revisions\/5029"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5023"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5028"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5028"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5028"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=5028"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}