{"id":4942,"date":"2024-06-11T07:47:20","date_gmt":"2024-06-11T07:47:20","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4942"},"modified":"2024-06-11T07:47:20","modified_gmt":"2024-06-11T07:47:20","slug":"arwain-ym-maes-dysgu-ac-addysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/arwain-ym-maes-dysgu-ac-addysgu\/","title":{"rendered":"Arwain ym maes dysgu ac addysgu"},"content":{"rendered":"<h3>Yn y blog hwn, mae Jennifer Pike, Uwch-gymrawd a Phennaeth Ysgol Gwyddorau&#8217;r Ddaear a&#8217;r Amgylchedd yn myfyrio ar Arwain ym maes Dysgu ac Addysgu.<\/h3>\n<p>Y llynedd cwblheuais i Raglen Cymrodoriaethau Uwch Addysg Prifysgol Caerdydd, a oedd wedi peri imi fyfyrio am fy ngyrfa.\u00a0 Roeddwn i\u2019n ei chael hi&#8217;n wirioneddol heriol gorfod ystyried fy nhaith addysgu fel hyn ar y dechrau, gan holi a stilio fy hun ynghylch yr hyn a oedd wedi symbylu fy addysgu.\u00a0 Fodd bynnag, unwaith fy mod i wedi caniat\u00e1u imi fy hun feddwl am hyn go iawn, agorwyd iaith ac offer hollol newydd.\u00a0 Roedd wedi fy helpu i ddeall yr addysgeg sy&#8217;n sail i fy athroniaeth a fy ffordd o weithio, a sut y galla i ddefnyddio hyn i gefnogi ac arwain pobl eraill wrth ddysgu ac addysgu.<\/p>\n<p>Nid ymdrech unigol yw arwain ym maes dysgu ac addysgu (Covey 1999).\u00a0 Rydyn ni\u2019n d\u00eem prysur iawn o arbenigwyr sy\u2019n cael ein tynnu i sawl cyfeiriad. I mi, y ffordd fwyaf effeithiol o arwain yw\u2019r un sy\u2019n cydnabod arbenigedd y t\u00eem ac yn sianelu eu sgiliau i gyflawni nodau cyffredin. Yn ystod pandemig 2020-2021, bu&#8217;n rhaid i bob un ohonon ni ymateb i newidiadau digynsail.\u00a0 A minnau\u2019n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ar y pryd, roedd gen i lawer o benderfyniadau i&#8217;w gwneud \u2013 sut gallwn i gefnogi fy nghydweithwyr i wneud ein gorau dros ein myfyrwyr?<\/p>\n<p>Tlodi amser oedd un o&#8217;n heriau mwyaf (Giurge et al. 2020) ac, a minnau\u2019n arweinydd, yn aml yr anrheg fwyaf gwerthfawr y gallwch chi ei rhoi i gydweithwyr yw amser.\u00a0 Dewisais i ddefnyddio dysgu cymdeithasol (Wood et al. 1976; Vygotsky 1978; Lyons a Berge 2012) i lywio ein ffordd o weithio, gan amserlennu cyfarfodydd ar-lein a gwahodd y rheini oedd eisoes yn brofiadol wrth ddefnyddio platfformau dysgu digidol a meddalwedd i rannu eu profiadau.\u00a0 Roedd dysgu oddi wrth ein gilydd yn ffordd effeithlon ac effeithiol o sicrhau&#8217;r newidiadau roedd eu hangen \u2013 ar y cyflymder yr oedd eu hangen \u2013 oherwydd bod dysgu gyda\u2019n gilydd ac oddi wrth ei gilydd yn dychwelyd yr amser i bobl.<\/p>\n<p>Ystyr arweinyddiaeth hefyd yw newid meddylfryd (Dweck 2017) a chefnogi datblygiad cymhelliant cynhenid, sef yr awydd i newid (Ryan a Deci 2000).\u00a0 Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried addysg gynhwysol (Thomas a May 2010) ac amlygwyd hyn gan yr Uwch-Gymrodyr. Yng ngwyddorau\u2019r ddaear a&#8217;r amgylchedd, mae gwaith maes yn ddirgelwch craidd ynghlwm wrth yr ecosystem ddysgu (Thomas 2010), gan drochi\u2019r dysgwyr mewn ffyrdd syfrdanol ac annisgwyl.\u00a0 Ond nid yw gwaith maes yn enwog am fod yn gynhwysol!\u00a0 Mae yna lawer o rwystrau &#8211; yn gorfforol, yn economaidd-gymdeithasol a diwylliannol i enwi rhai\u2019n unig.\u00a0 Peth cyfforddus oedd eithrio.\u00a0 Yn dilyn y pandemig, roedd datblygu gweithgareddau gwaith maes rhithwir o safon a fyddai\u2019n cefnogi deilliannau allweddol dysgu ac archwilio sy\u2019n seiliedig ar broblemau yn gam mawr ymlaen o ran cynhwysiant. Roedden ni\u2019n gallu cynnig dewis rhithwir gwahanol yn lle gwaith maes personol, gan roi\u2019r cyfleoedd i&#8217;r rheini nad oedden nhw\u2019n gallu gwneud gwaith maes.\u00a0 Fodd bynnag, ddwy flynedd yn \u00f4l croesawon ni fyfyriwr a oedd yn defnyddio cadair olwynion yn yr Ysgol ac a oedd eisiau gwneud gwaith maes a phrofi drosto ei hunan y dirgelwch ynghlwm wrth leoedd penodol.\u00a0 Roedd sicrhau&#8217;r cyfle hwnnw yn gofyn am newid arall o ran ein meddylfryd, cryn nifer o arweinwyr, dysgu cymdeithasol, ac amser.\u00a0 A chithau\u2019n arweinydd mae&#8217;n rhaid ichi herio pobl i feddwl mewn ffordd wahanol, cynllunio&#8217;n wahanol, a newid y cynllun, os bydd angen, i fod yn gynhwysol \u2013 ac yna roi&#8217;r amser iddyn nhw gyflawni hyn.\u00a0 Mae\u2019n rhaid ichi gydnabod eich dilynwyr cyntaf a defnyddio pob un o\u2019ch arweinwyr!<\/p>\n<p>Mwynheuais i raglen datblygu&#8217;r Uwch-Gymrodyr yn fawr iawn.\u00a0 Dw i ddim yn meddwl fod y rhaglen o reidrwydd wedi newid fy ffordd o feddwl a gweithio, ond roedd yn rhoi cipolwg imi ar yr hyn y bydda i\u2019n ei wneud, pam ei fod yn effeithiol, ac yn cynnig imi ffyrdd eraill o feddwl wrth arwain ym myd addysg.<\/p>\n<p>Ewch <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/training-and-development\/awards-and-recognition\/cardiff-university-education-fellowship-programmes\">i dudalen y Cymrodoriaethau ar y fewnrwyd<\/a> neu cysylltwch \u00e2&#8217;r t\u00eem ar <a href=\"mailto:educationfellowships@cardiff.ac.uk\">educationfellowships@caerdydd.ac.uk<\/a> i wybod rhagor am raglenni\u2019r Cymrodoriaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Cyfeiriadau<\/strong><\/p>\n<p>Covey, S.\u00a0 1999.\u00a0 <em>The 7 Habits of Highly Effective Leaders.<\/em>\u00a0 Simon a Schuster, y DU<\/p>\n<p>Dweck, C.S.\u00a0 2017.\u00a0 <em>Mindset<\/em> (6<sup>ed<\/sup> Argraffiad).\u00a0 Llundain, Robinson.<\/p>\n<p>Giurge, L.M., Whillans, A.V. a West, C.\u00a0 2020.\u00a0 Why time poverty matters for individuals, organisations and nations.\u00a0 <em>Nature Human Behaviour<\/em> 4, 993\u20131003.<\/p>\n<p>Lyons, S. D. a Berge, Z. L.\u00a0 2012.\u00a0 Social Learning Theory.\u00a0 Yn:\u00a0 Seel, N.M. (golygydd) Encyclopedia of the Sciences of Learning.\u00a0 Boston, MA, Springer, 3116\u20133118.<\/p>\n<p>Ryan, R. M. a Deci, E. L.\u00a0 2000.\u00a0 Self-determination theory and the facilitation of intrinsic motivation, social development, and well-being.\u00a0 The American Psychologist 55, 68\u201378.<\/p>\n<p>Thomas, H.\u00a0 2010.\u00a0 Learning spaces, learning environments and the dis\u2018placement\u2019 of learning.\u00a0 <em>British Journal of Educational Technology<\/em> 41, 502-511.<\/p>\n<p>Thomas, L. a May, H.\u00a0 2010.\u00a0 <em>Inclusive Learning and Teaching in Higher Education.<\/em>\u00a0 Efrog, Higher Education Academy.<\/p>\n<p>Vygotsky, L. S.\u00a0 1978.\u00a0 <em>Mind in Society: The Development of Higher Psychological Processes.<\/em> Massachusetts, Harvard University Press.<\/p>\n<p>Wood, D. J., Bruner, J. S., &amp; Ross, G.\u00a0 1976.\u00a0 The role of tutoring in problem solving. Journal of Child Psychiatry and Psychology 17, 89-100.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y blog hwn, mae Jennifer Pike, Uwch-gymrawd a Phennaeth Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yn myfyrio ar Arwain ym maes Dysgu ac Addysgu. Y llynedd cwblheuais i Raglen Cymrodoriaethau [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":4940,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4942","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry"],"lang":"cy","translations":{"cy":4942,"en":4939},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1hI","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/06\/Sized-8.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4942","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4942"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4942\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4944,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4942\/revisions\/4944"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4940"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4942"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4942"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4942"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4942"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}