{"id":4856,"date":"2024-03-12T14:20:05","date_gmt":"2024-03-12T14:20:05","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4856"},"modified":"2024-03-12T14:23:58","modified_gmt":"2024-03-12T14:23:58","slug":"mentrau-iechyd-meddwl-a-lles-ym-maes-addysg-uwch-y-du","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/mentrau-iechyd-meddwl-a-lles-ym-maes-addysg-uwch-y-du\/","title":{"rendered":"Mentrau iechyd meddwl a lles ym maes Addysg Uwch y DU"},"content":{"rendered":"<p>Mae<strong> Cristina Higuera Mart\u00edn, Datblygwr Addysg<\/strong> yn y <strong>Gwasanaeth Datblygu Addysg<\/strong> yn amlinellu\u2019r dulliau strategol cyfredol ac arferion sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth yn sector addysg uwch y DU. Eu bwriad yw atal neu fynd i&#8217;r afael \u00e2 materion lles meddwl, a hyrwyddo profiad dysgu ac addysgu iach a chadarnhaol i bawb.<\/p>\n<p>Yn ei <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/rhesymau-dros-ymchwil-i-iechyd-meddwl-a-lles-ym-maes-addysg-uwch-yn-y-du\/\">blog blaenorol,<\/a> amlinellodd Cristina y llu o ffactorau sy\u2019n llywio penderfyniadau ynghylch iechyd meddwl a lles ym mhrifysgolion y DU.<\/p>\n<h2>Beth sy&#8217;n cael ei ystyried yn arfer gorau?<\/h2>\n<p>Yng Nghynhadledd Iechyd Meddwl a Lles Advance HE (2023) amlygwyd dulliau prifysgol gyfan fel arferion gorau sy&#8217;n hyrwyddo lles trwy gyfrwng:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Mannau<\/strong> ffisegol<\/li>\n<li><strong>Presenoldeb<\/strong> ar-lein a<\/li>\n<li><strong>Profiadau<\/strong> dysgu ac addysgu<\/li>\n<\/ol>\n<p>Yn ddelfrydol, bydd yr hyn fydd ar gael yn y dyfodol yn adlewyrchu&#8217;r cydbwysedd gorau posibl rhwng ystyriaethau ymarferol ac addysgeg, a lles staff a myfyrwyr.<\/p>\n<h2>Mentrau cyfredol<\/h2>\n<p>Mae ystod eang o fentrau sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu defnyddio yn y sector ar hyn o bryd i gefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr a staff. Mae\u2019r rhain yn cynnwys:<\/p>\n<ol>\n<li><strong> Systemau hyfforddi, mentora a chyfeillio<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>sesiynau hyfforddiant (Bordogna a Lundgren-Resenterra, 2023) i oruchwylwyr doethurol a meistr<\/li>\n<li>rhaglenni mentora hybrid i staff a myfyrwyr<\/li>\n<li>systemau cymorth cyfeillio myfyrwyr sy&#8217;n rhoi\u2019r cyfle i fyfyrwyr gysylltu \u00e2 myfyrwyr profiadol sy&#8217;n gallu rhoi cyngor a chymorth cyfeillgar<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong> Gwasanaeth galw heibio, cwnsela a chynghorwyr lles<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>sesiynau galw heibio hybrid a arweinir gan fyfyrwyr yn seiliedig ar bynciau iechyd meddwl a lles<\/li>\n<li>gwasanaeth galw heibio a arweinir gan fyfyrwyr, gyda chymorth staff clinigol, sydd ar gael i unrhyw fyfyriwr sy&#8217;n teimlo&#8217;n unig, yn hiraethus, yn bryderus neu&#8217;n ofidus<\/li>\n<li>pedwar apwyntiad cwnsela rhad ac am ddim ar gyfer ymyriadau byr sy&#8217;n canolbwyntio ar atebion, a\u2019r posibilrwydd o gael apwyntiadau ychwanegol drwy atgyfeiriad gan feddyg teulu<\/li>\n<li>cymorth cynghorydd lles sy\u2019n hwyluso ffyrdd o feithrin sgiliau lles rhagweithiol. Maent hefyd yn cynnig cyngor a gwasanaeth cyfeirio at gynrychiolwyr staff a myfyrwyr, yn ogystal \u00e2 rhoi cymorth arbenigol i fyfyrwyr sydd \u00e2 hanes o drawma<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong> Datblygiad proffesiynol parhaus<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>hyfforddiant yn seiliedig ar r\u00f4l ym maes goruchwyliaeth adferol (Walker a Jennison, 2023) i diwtoriaid personol a staff ar lawr gwlad<\/li>\n<li>hyfforddiant gorfodol mewn cymorth bugeiliol i diwtoriaid personol a goruchwylwyr doethurol (Hayball, 2023)<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong> Proffilio iechyd meddwl<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Defnyddir hyn i atal yn ogystal \u00e2 thargedu a theilwra ymyriadau. Mae data disgrifiadol am fyfyrwyr yn cael ei gasglu, ei glystyru trwy broses fodelu ystadegol, cyn cael ei ddehongli i lywio penderfyniadau.<\/p>\n<ol start=\"5\">\n<li><strong> Offer hunangymorth<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>Arolwg ynghylch gwahanol bynciau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 lles (Meyer a Sidiropoulou, 2023). Mae&#8217;r rheiny sy&#8217;n llenwi&#8217;r arolwg yn cael adborth, gwybodaeth am strategaethau hunanofal ac argymhellion personol yn seiliedig ar eu hymatebion.<\/li>\n<li>Deunyddiau ar-lein sy&#8217;n ystyried ymwybyddiaeth emosiynol, annog ymddygiad sy\u2019n gofyn am help, cydnabod cyflawniadau a gwerthfawrogi cyfleoedd dysgu (Arferion Digidol Cadarnhaol, 2023).<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"6\">\n<li><strong> Mannau tawel ym myd natur<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae wedi dod i\u2019r amlwg bod mannau tawel ar gyfer ysgrifennu traethawd Meistr (Stevenson, 2020) yn gwrthsefyll straen a theimladau o unigedd ymhlith myfyrwyr wrth iddynt wneud eu traethodau hir.<\/p>\n<ol start=\"7\">\n<li><strong> Cylchlythyrau a thaflenni wedi&#8217;u targedu<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>Mae cylchlythyrau&#8217;n cael eu hanfon at fyfyrwyr ar adegau pwysig i&#8217;w cynorthwyo yn ystod cyfnodau o newid, fel mynd trwy asesiadau crynodol.<\/li>\n<li>Mae taflenni&#8217;n cael eu defnyddio i geisio lleihau niwed. Maent yn cynnwys canllawiau sy&#8217;n targedu defodau ymuno \u00e2 chymdeithasau myfyrwyr.<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"8\">\n<li><strong> Pecynnau cymorth<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>dulliau strategol o greu strategaeth iechyd meddwl yn y brifysgol yn unol \u00e2 Stepchange (Universities UK, 2020)<\/li>\n<li>arferion digidol cadarnhaol mewn cysylltiad \u00e2 hunaniaethau dysgwyr, cymunedau digidol ac addysgeg gadarnhaol (Arferion Digidol Cadarnhaol, 2023)<\/li>\n<\/ul>\n<ol start=\"9\">\n<li><strong> Modiwlau lles<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>modiwl ar-lein i fyfyrwyr, yn meithrin ffyrdd tosturiol o feddwl am eu hunain ac eraill (Meyer a Murgatroyd, 2023)<\/li>\n<li>modiwl ar-lein sy&#8217;n arwain myfyrwyr i gael gwybod am Arferion Digidol Cadarnhaol (2023) a\u2019u deall yn well<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Cymerwch ran<\/h2>\n<p>Rydym yn awyddus i <a href=\"https:\/\/www.menti.com\/als9weudd1wj\">glywed eich barn<\/a> am yr effaith a&#8217;r ymdrech sydd eu hangen i roi&#8217;r mentrau iechyd meddwl a lles hyn ar waith ar lefel prifysgol gyfan.<\/p>\n<h2>Rhagor o wybodaeth<\/h2>\n<p>Advance HE (2023)\u00a0<a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">Cynhadledd iechyd meddwl ym maes AU 2023: rhoi theori ar waith &#8211;\u00a0<\/a><a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">creu dull sy\u2019n gofalu am les myfyrwyr a staff ar lefel prifysgol gyfan | Advance HE\u00a0<\/a><a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">(advance-<\/a><a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">he.ac.uk<\/a><a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">)<\/a>.\u200b<\/p>\n<p>Bordogna, C. M., a Lundgren-Resenterra, M. (2023) Integreiddio a normaleiddio hyfforddiant fel arfer cyffredin mewn goruchwyliaeth ddoethurol. <em>International Journal of Doctoral Studies<\/em>, 18, 99-118. <a href=\"https:\/\/www.researchgate.net\/deref\/https%3A%2F%2Fdoi.org%2F10.28945%2F5096\">https:\/\/www.researchgate.net\/deref\/https%3A%2F%2Fdoi.org%2F10.28945%2F5096<\/a><\/p>\n<p>Prifysgol Caerdydd (2020)\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/thewayforward\/enabling-strategies\">Galluogi<\/a><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/thewayforward\/enabling-strategies\">\u00a0<\/a><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/thewayforward\/enabling-strategies\">Llwyddiant: Strategaeth i Greu Prifysgol sy\u2019n Iach yn Feddyliol\u200b<\/a><\/p>\n<p>Hayball, J. (2023) Hyfforddiant cymorth bugeiliol i diwtoriaid personol a goruchwylwyr doethurol <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23<\/a><\/p>\n<p>Meyer, D., a Murgatroyd, C. (2023) Y cwricwlwm arwain sy\u2019n gwneud gwahaniaeth: Ymgorffori cymuned dan arweiniad myfyrwyr er mwyn creu gwir deimlad o berthyn, lles a dysgu\u2019n llwyddiannus <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23<\/a><\/p>\n<p>Meyer, D., a Sidiropoulou, MD. (2023) Deall eich teclyn hunangymorth lles \u2013 astudiaeth achos o ddull prifysgol gyfan o ymdrin \u00e2 myfyrwyr a staff <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23<\/a><\/p>\n<p>Prosiect Arferion Digidol Cadarnhaol (2023)<a href=\"https:\/\/positivedigitalpractices.weebly.com\/project.html\"> &#8211; Arferion Digidol Cadarnhaol (weebly.com)<\/a><\/p>\n<p>Stevenson, N. (2021) Datblygu lles academaidd trwy fannau tawel ar gyfer ysgrifennu.<\/p>\n<p><em>Journal of Further and Higher Education<\/em>, 45 (6), 717-729. <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1080\/0309877X.2020.1812549\">https:\/\/doi.org\/10.1080\/0309877X.2020.1812549<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Universities UK (2020) Stepchange: Prifysgolion sy&#8217;n iach yn feddyliol <a href=\"https:\/\/www.universitiesuk.ac.uk\/what-we-do\/policy-and-research\/publications\/stepchange-mentally-healthy-universities\">Stepchange: prifysgolion sy&#8217;n iach yn feddyliol (universitiesuk.ac.uk)<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Walker, J., a Jenninson, L. (2023) A all goruchwyliaeth adferol gael effaith gadarnhaol ar les emosiynol darlithwyr sefydliadau addysg uwch ym maes gofal iechyd? <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Cristina Higuera Mart\u00edn, Datblygwr Addysg yn y Gwasanaeth Datblygu Addysg yn amlinellu\u2019r dulliau strategol cyfredol ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn sector addysg uwch y DU. Eu bwriad [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":4851,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[974],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4856","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cynaliadwyedd"],"lang":"cy","translations":{"cy":4856,"en":4849},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1gk","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/03\/Untitled-design-23.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4856","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4856"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4856\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4858,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4856\/revisions\/4858"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4851"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4856"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4856"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4856"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4856"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}