{"id":4776,"date":"2024-03-04T15:18:39","date_gmt":"2024-03-04T15:18:39","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4776"},"modified":"2024-03-04T15:22:21","modified_gmt":"2024-03-04T15:22:21","slug":"cwrdd-ag-elgan-hughes-ein-rheolwr-ymgysylltiad-myfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/cwrdd-ag-elgan-hughes-ein-rheolwr-ymgysylltiad-myfyrwyr\/","title":{"rendered":"Cwrdd ag Elgan Hughes, ein Rheolwr Ymgysylltiad Myfyrwyr"},"content":{"rendered":"<h4>Dyma <strong>Elgan Hughes,<\/strong> <strong>Rheolwr Ymgysylltiad Myfyrwyr<\/strong> yn<strong> Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd<\/strong> yn s\u00f4n am ei r\u00f4l yn y <strong>T\u00eem Ymgysylltiad Myfyrwyr<\/strong> a&#8217;r prosiectau mae&#8217;n gweithio arnynt.<\/h4>\n<p><strong>Dywedwch rywfaint wrthon ni am eich gyrfa:<\/strong><\/p>\n<p>Tyfodd fy niddordeb mewn llais y myfyrwyr a phrofiad y myfyrwyr fel cynrychiolydd ar fy nghwrs israddedig peirianneg. O ganlyniad i&#8217;r r\u00f4l wirfoddol hon, cefais fy ethol yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Dinas Birmingham (BCU), lle cefais y fraint o gael fy nghydnabod mewn gwobrau cenedlaethol am fy ngwaith partneriaeth.<\/p>\n<p>Fel aelod o staff yn BCU creais gwrs allgyrsiol ar Wybodaeth Myfyrwyr mewn Dysgu ac Arweinyddiaeth (SKILL) a gafodd ei achredu gan y Gymdeithas Staff a Datblygu Addysgol (SEDA) ac a oedd yn cyd-fynd \u00e2 Disgrifydd 0 Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UKPFS). Creodd y cwrs statws Cymrawd Myfyrwyr i gydnabod gwaith myfyrwyr yn y gofod hwn.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l 8 mlynedd yn BCU, yn 2015 ymunais ag Undeb Myfyrwyr De Montfort (DSU) fel Rheolwr Llais y Myfyrwyr, cyn gweithio fel eu Pennaeth Gwasanaethau Aelodaeth lle roeddwn yn gyfrifol am wasanaethau Cynrychiolaeth a Llywodraethu, Cyfleoedd Myfyrwyr, a Chyngor a Lles.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n angerddol am ymgysylltu \u00e2 Myfyrwyr, ac rydw i wedi derbyn cefnogaeth anhygoel gan staff yn y sector Addysg Uwch sydd wedi trawsnewid fy mywyd a&#8217;m cyfleoedd. Rwy&#8217;n gobeithio bod fy ngwaith yn chwarae rhan fach wrth wella profiad a chyfleoedd i fyfyrwyr, a dyna sy&#8217;n fy nghadw i\u2019n llawn cymhelliant.<\/p>\n<p><strong>Ers faint ydych chi wedi bod yn y r\u00f4l, a beth yw eich cyfrifoldebau?<\/strong><\/p>\n<p>Ymunais \u00e2 Chaerdydd yn 2023 fel Rheolwr Ymgysylltu Addysgol. Prif ffocws fy r\u00f4l yw cefnogi newid mewn arferion addysg a sicrhau bod nawdd, cefnogaeth a hyrwyddwyr yn hyrwyddo&#8217;r portffolio Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr yn weithredol o fewn y gymuned academaidd.<\/p>\n<p>Ym mis Rhagfyr 2023 dechreuais fy r\u00f4l fel Rheolwr Ymgysylltiad Myfyrwyr, ac rwy&#8217;n arwain cyfeiriad strategol y T\u00eem Ymgysylltiad Myfyrwyr. Rwy&#8217;n rhoi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr i ddatblygu a gweithredu gwelliannau ar draws y sefydliad o ran profiad y myfyrwyr. Mae llais y myfyrwyr yn ffocws allweddol o&#8217;r r\u00f4l ac rwy\u2019n gyfrifol am y dull gweithredu sefydliadol o ran adborth myfyrwyr, o ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (ACF) i welliannau canol modiwl.<\/p>\n<p><strong>Pa brosiectau ydych chi&#8217;n gweithio arnynt ar hyn o bryd yn eich r\u00f4l?<\/strong><\/p>\n<p>Rydw i a&#8217;r t\u00eem yn lansio ac yn gweithredu sawl menter allweddol ar gyfer ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr. Rydym wedi datblygu Model Gwella Llais y Myfyrwyr a fydd yn cefnogi Ysgolion i ddatblygu eu mecanweithiau o ran llais y myfyrwyr, ac rydw i am barhau i ymgorffori llwyddiant y Model Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr ym mhob un o&#8217;r 24 ysgol. Ar hyn o bryd rwy&#8217;n arwain adolygiad o Baneli Myfyrwyr-Staff (SSP) ac yn datblygu gwelliannau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024\/25. Rydw i hefyd am arallgyfeirio a chynyddu cyfleoedd cyflogaeth myfyrwyr o fewn y sefydliad.<\/p>\n<p><strong>Beth ydych chi&#8217;n ei wneud yn eich amser hamdden?<\/strong><\/p>\n<p>Mae gen i deulu ifanc ac rydw i wrth fy modd yn treulio amser yn yr awyr agored ar y penwythnos, yn enwedig mynd ar deithiau cerdded hir yng nghefn gwlad neu chwarae gyda fy mab. Rwy&#8217;n angerddol am Rygbi&#8217;r Undeb. Mae rygbi wastad wedi bod yn rhan fawr o\u2019m bywyd i &#8211; rydw i wedi chwarae ers \u2019mod i\u2019n 9 oed ac yn parhau i chwarae i d\u00eem lleol. Cefais fy magu ar fferm yn Sir Gaerfyrddin, ac rwy&#8217;n helpu&#8217;n rheolaidd gydag \u0175yna, cneifio a chynaeafu.<\/p>\n<figure id=\"post-4790 media-4790\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/03\/MicrosoftTeams-image-5.jpg\" alt=\"\" width=\"262\" height=\"252\" \/><\/figure>\n<h3><strong>Cwrdd a rhagor o aelodau staff<\/strong><\/h3>\n<p>Mae modd canfod mwy am ragor o aelodau staff yr\u00a0<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/category\/tim-academi-da\/\">Academi Dysgu ac Addysgu.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dyma Elgan Hughes, Rheolwr Ymgysylltiad Myfyrwyr yn Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd yn s\u00f4n am ei r\u00f4l yn y T\u00eem Ymgysylltiad Myfyrwyr a'r prosiectau mae'n gweithio arnynt. Dywedwch rywfaint [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":4783,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[817,800],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4776","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-tim-academi-da","category-ymgysylltu-a-myfyrwyr"],"lang":"cy","translations":{"cy":4776},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1f2","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/03\/Untitled-design-11.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4776","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4776"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4776\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4792,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4776\/revisions\/4792"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4783"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4776"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4776"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4776"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4776"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}