{"id":4759,"date":"2024-03-04T08:30:21","date_gmt":"2024-03-04T08:30:21","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4759"},"modified":"2024-03-04T15:11:49","modified_gmt":"2024-03-04T15:11:49","slug":"dysgu-gydol-oes-deall-rol-addysg-uwch-mewn-cynaliadwyedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/dysgu-gydol-oes-deall-rol-addysg-uwch-mewn-cynaliadwyedd\/","title":{"rendered":"Dysgu gydol oes \u2013 deall r\u00f4l addysg uwch mewn cynaliadwyedd"},"content":{"rendered":"<p><em>Mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu Wythnos Cynaliadwyedd rhwng y 4-8 Mawrth 2024. Rydym yn falch o rannu&#8217;r blog isod gan <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/barrittl\">Laura Barritt<\/a>, o&#8217;r T\u00eem Cymrodoriaethau Addysg, <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/\">Yr Academi Dysgu ac Addysgu<\/a>.<\/em><\/p>\n<p>Mae disgyrsiau cynaliadwyedd mewn Addysg Uwch wedi\u2019u cydnabod mewn llenyddiaeth ers tro. Er hynny, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae\u2019r galw wedi cynyddu i roi\u2019r syniadau hyn ar waith mewn ymarfer addysgu i gefnogi dysgwyr \u00e2 sgiliau cyflogadwyedd a dysgu gydol oes yn y dyfodol. Mae canfyddiadau <a href=\"%20A%20Scoping%20Study%20(sustainabilityexchange.ac.uk)\">Cook (2020)<\/a> yn tynnu sylw at yr angen i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau trawsbynciol ac i gofleidio ffyrdd rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol o weithio a dysgu.\u00a0 Nid yw gweithio mewn seilos yn ddigon i fynd i&#8217;r afael \u00e2 materion mor gymhleth a\u2019r problemau enbyd sy&#8217;n deillio o heriau cynaliadwyedd (QAA \/ Advance HE 2021; <a href=\"%20A%20Scoping%20Study%20(sustainabilityexchange.ac.uk)\">Cook 2020<\/a>). I gefnogi\u2019r datblygiad hwn, mae angen i ni ymgysylltu \u00e2 disgyrsiau cynaliadwyedd yn ein hymarfer addysgu, i gefnogi dysgwyr a\u2019n sefydliadau gyda datblygu cynaliadwy.<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Mae Datblygu Cynaliadwy yn broses uchelgeisiol barhaus o fynd i&#8217;r afael \u00e2 phryderon cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd i greu byd gwell&#8217; (<a href=\"Education%20for%20Sustainable%20Development%20Guidance%20|%20Advance%20HE%20(advance-he.ac.uk)\">QAA \/ Advance HE 2021 t8<\/a>).<\/p><\/blockquote>\n<h2>Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig<\/h2>\n<p>Gellir cefnogi&#8217;r cynnwys a addysgwn a&#8217;i berthynas \u00e2 datblygu cynaliadwy trwy ystyried 17 <a href=\"https:\/\/www.un.org\/sustainabledevelopment\/sustainable-development-goals\/\">Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) y Cenhedloedd Unedig <\/a>(uchod). Mae&#8217;r nodau hyn yn cynnig fframwaith; ffordd i ni feddwl a thrafod sut y gallwn gysylltu ein cynnwys \u00e2 chynaliadwyedd.<\/p>\n<p>Gallai hyn ddechrau&#8217;n eithaf cyffredinol wrth i ni ddechrau trafodaethau sy&#8217;n datblygu ein dealltwriaeth o beth y gallai hyn ei olygu i ni yn ein hymarfer. Yna gellir datblygu&#8217;r syniad hwn ymhellach trwy ddatblygu ymwybyddiaeth ac arferion cynaliadwyedd yn ofalus gyda myfyrwyr trwy ein sesiynau addysgu (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy).<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy &#8211; y broses o greu strwythurau cwricwlwm a chynnwys pwnc-berthnasol i gefnogi a gweithredu datblygu cynaliadwy&#8217; (<a href=\"Education%20for%20Sustainable%20Development%20Guidance%20|%20Advance%20HE%20(advance-he.ac.uk)\">QAA \/ Advance HE 2021 t8)<\/a>.<\/p><\/blockquote>\n<p>O ran ymgorffori hyn yn ein hymarfer addysgu, mae rhai cymwyseddau wedi&#8217;u cydnabod fel rhai o bwysigrwydd arbennig ar gyfer cynaliadwyedd. Mae UNESCO wedi datblygu&#8217;r rhain yn <a href=\"https:\/\/s3.eu-west-2.amazonaws.com\/assets.creode.advancehe-document-manager\/documents\/advance-he\/education-for-sustainable-development-guidance_1616774629.pdf\"><em>Gymwyseddau Cynaliadwyedd<\/em><\/a> (<a href=\"Education%20for%20Sustainable%20Development%20Guidance%20|%20Advance%20HE%20(advance-he.ac.uk)\">Advance HE \/ QAA 2021<\/a>). Mae&#8217;r galluoedd hyn yn ffyrdd y gallwn ddechrau cefnogi dysgwyr i dyfu ac esblygu o fewn byd sy&#8217;n esblygu; lle mae marchnadoedd swyddi, amgylcheddau a chymdeithas sefydlog yn dod yn atgof, yn rhith o&#8217;r gorffennol. Mae\u2019r cymwyseddau cynaliadwyedd yn cefnogi gwahanol agweddau ar ddysgwr sy\u2019n datblygu \u2013 heb ganolbwyntio\u2019n llwyr ar y dimensiwn gwybyddol, maent yn ceisio ymgysylltu\u2019n fwy holistig \u00e2\u2019r dysgwr trwy gefnogi \u2018ffyrdd o fod\u2019 (gwerthoedd, myfyrio), \u2018ffyrdd o feddwl\u2019 (gwybodaeth wybyddol) a &#8216;ffyrdd o wneud&#8217; (sgiliau ymarferol).\u00a0 Mae hyn yn paratoi myfyrwyr i fod yn fwy addasadwy, adfyfyriol a hyblyg ar adegau o newid a chymhlethdod.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r dull hwn hefyd yn cefnogi datblygu ymrwymiad i ddysgu gydol oes yn hytrach na dysgu ar gyfer moment, ar gyfer prawf; felly, gall y dysgwr gymryd rhan mewn dysgu dyfnach ac addasu wrth i&#8217;w brofiad newid dros amser. Mae&#8217;r newid hwn i ganolbwyntio ar y dysgwr cyfan yn dra gwahanol i ddulliau addysgu a dysgu traddodiadol blaenorol mewn addysg uwch. Mae&#8217;n gofyn i ni ystyried sut y caiff sesiynau gwahanol eu llunio i gefnogi pob un o&#8217;r galluoedd angenrheidiol. I gefnogi addysg gyda\u2019r newid hwn, mae UNESCO (<a href=\"https:\/\/unesdoc.unesco.org\/ark:\/48223\/pf0000247444.locale=en\">UNESCO 2017<\/a>) wedi rhyddhau ystod o <a href=\"https:\/\/unesdoc.unesco.org\/ark:\/48223\/pf0000247444\">Ddeilliannau Dysgu<\/a> sy\u2019n cefnogi pob un o\u2019r cymwyseddau hyn yn ymarferol ar draws ystod o bynciau ac NDCau.<\/p>\n<p>Mae symud tuag at annog a chefnogi dysgu gydol oes holistig yn ddatblygiad sydd o fudd i bawb dan sylw \u2013 y dysgwr, yr athro, a\u2019r sefydliad. Mae\u2019n sefydlu diddordeb mewn &#8211; ac angen am &#8211; berthynas hirdymor ag addysg lefel uwch, ymhell y tu hwnt i ddiwedd gradd israddedig draddodiadol.\u00a0 Mae&#8217;n cefnogi myfyrwyr i ddod yn fwy ymwybodol o<em> sut<\/em> maen nhw\u2019n dysgu, yn ogystal \u00e2 <em>beth<\/em> maen nhw\u2019n ei ddysgu. Mae&#8217;n annog ymreolaeth a hunanreoleiddio, ac mae&#8217;n cefnogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau mwy gwybodus wrth feddwl am effeithiau hirdymor yn hytrach nag atebion byrdymor. Mae&#8217;n datblygu&#8217;r dysgwr i&#8217;w alluogi i gymryd rhan mewn disgyrsiau cynaliadwyedd a hyd yn oed eu llywio; gan roi asiantaeth iddynt, yn ogystal \u00e2 chefnogi sgiliau ac arferion meddwl mwy cymhleth, lefel uchel, a fydd o fudd i&#8217;w cyflogaeth yn y dyfodol.<\/p>\n<h2>Awgrymiadau Defnyddiol<\/h2>\n<p>Beth allwch chi ei wneud i ddechrau gweithio tuag at gynaliadwyedd yn eich r\u00f4l?<\/p>\n<ul>\n<li>Edrychwch yn ofalus ar eich cynnwys. Allwch chi weld cysylltiadau ag unrhyw <a href=\"https:\/\/sdgs.un.org\/goals\">NDCau<\/a>? Ydych chi\u2019n ymgysylltu \u00e2 heriau cymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd? Mae creu cysylltiadau clir yn fan cychwyn \u2013 mae hyn yn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr wneud cysylltiadau.<\/li>\n<li>Edrychwch ar y <em>Cymwyseddau Cynaliadwyedd<\/em>. A oes tasgau ydych chi&#8217;n eu defnyddio eisoes sy&#8217;n ategu\u2019r rhain? A oes unrhyw dasgau y gallech eu datblygu i wella&#8217;r cymwyseddau hyn yn ymarferol?<\/li>\n<li>Oes gennych chi gyfleoedd i hunanfyfyrio a hunanasesu? Sut gallech chi ddatblygu&#8217;r rhain i gefnogi hunanreoleiddio mewn dysgwyr?<\/li>\n<li>Meddyliwch am y darlun ehangach a gweithredwch \u2013 cysylltwch ag eraill yn eich ardal sydd \u00e2 diddordeb mewn creu cysylltiadau a datblygiadau mewn cynaliadwyedd. Pa DPP allech chi ei gynnig i\u2019n graddedigion a\u2019n cyn-fyfyrwyr i ymgysylltu ymhellach \u00e2\u2019r agenda gynaliadwyedd a\u2019i llywio?<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Cyfeiriadau<\/h4>\n<p>17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy&#8217;r Cenhedloedd Unedig Ar gael yn <a href=\"https:\/\/sdgs.un.org\/goals\">https:\/\/sdgs.un.org\/goals<\/a><\/p>\n<p>Advance HE &amp; The Quality Assurance Agency for Higher Education (2021) <em>Education for Sustainable Development Guidance. <\/em>Ar gael yn:\u00a0 <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/education-sustainable-development-guidance\">Education for Sustainable Development Guidance | Advance HE (advance-he.ac.uk)<\/a><\/p>\n<p>Cook, I (2020) \u2018Future Graduate Skills: A Scoping Study\u2019. <em>Change Agents UK<\/em>. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/www.sustainabilityexchange.ac.uk\/files\/future_graduate_skills_report_change_agents_uk_eauc_october_2020.pdf\">Future Graduate Skills: A Scoping Study (sustainabilityexchange.ac.uk)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/unesdoc.unesco.org\/in\/documentViewer.xhtml?v=2.1.196&amp;id=p::usmarcdef_0000247444&amp;file=\/in\/rest\/annotationSVC\/DownloadWatermarkedAttachment\/attach_import_82603519-4d73-431c-9324-8e0dcc1b6b1e%3F_%3D247444eng.pdf&amp;locale=en&amp;multi=true&amp;ark=\/ark:\/48223\/pf0000247444\/PDF\/247444eng.pdf\">Education for Sustainable Development Goals: learning objectives; 2017 &#8211; 247444eng.pdf (unesco.org<\/a><\/p>\n<p>UNESCO (2017) Education for Sustainable Development Goals: learning objectives. Llyfrgell Ddigidol UNESCO. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/unesdoc.unesco.org\/ark:\/48223\/pf0000247444.locale=en\">https:\/\/unesdoc.unesco.org\/ark:\/48223\/pf0000247444.locale=en<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu Wythnos Cynaliadwyedd rhwng y 4-8 Mawrth 2024. Rydym yn falch o rannu'r blog isod gan Laura Barritt, o'r T\u00eem Cymrodoriaethau Addysg, Yr Academi Dysgu ac [&hellip;]","protected":false},"author":7054,"featured_media":4757,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[921],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4759","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymrodoriaethau-addysg"],"lang":"cy","translations":{"cy":4759,"en":4748},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1eL","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2024\/02\/Untitled-design-6.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4759","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7054"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4759"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4759\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4787,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4759\/revisions\/4787"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4757"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4759"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4759"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4759"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4759"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}