{"id":4549,"date":"2023-09-20T10:43:48","date_gmt":"2023-09-20T10:43:48","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4549"},"modified":"2023-09-26T13:48:15","modified_gmt":"2023-09-26T13:48:15","slug":"pontio-ir-brifysgol-heriau-ailbecynnu-gwybodaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/pontio-ir-brifysgol-heriau-ailbecynnu-gwybodaeth\/","title":{"rendered":"Pontio i&#8217;r brifysgol: heriau (ail)becynnu gwybodaeth"},"content":{"rendered":"<p>Croeso i them\u00e2u misol y Cymrodoriaethau Addysg.<\/p>\n<p>Drwy gydol y flwyddyn academaidd byddwn yn cydnabod ac yn ymgysylltu ag ystod o them\u00e2u addysgu a dysgu trwy gydol ein postiadau blog, fideos awgrymiadau da, DPP a World Caf\u00e9\u2019s. Byddwn yn myfyrio ar sut mae&#8217;r them\u00e2u yn effeithio ar ein harfer addysgu ac yn rhannu awgrymiadau sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth ar sut y gellir eu defnyddio i wella dysgu ac addysgu ymhellach.<\/p>\n<p>I ddechrau&#8217;r flwyddyn, rydym yn edrych ar y thema <strong>Sefydlu a Phontio<\/strong>.<\/p>\n<p><!--more--><\/p>\n<p>Mae&#8217;r post blog yma gan <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/jonesks1\">Dr Katy Jones<\/a>, Uwch Ddarlithydd yn y Ganolfan Ymchwil ar Iaith a Chyfathrebu, sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu Ysgrifennu yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Arweinydd Academaidd Rhaglen Uwch Gymrodoriaethau Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Gall y cyfnod pontio o addysg uwchradd i brifysgol fod yn heriol.<\/p>\n<ul>\n<li>[&#8230;] mae symud i&#8217;r brifysgol yn fuddsoddiad personol o ran yr hyn a gronnwyd yn ddiwylliannol felly trwy addysg ysgol a choleg. Mae hefyd yn ddadleoliad cymdeithasol sylweddol, a all fod yn fwy dwys fyth pan fo\u2019r myfyriwr yn aeddfed, y cyntaf yn eu teulu i fynd i\u2019r brifysgol, neu\u2019n perthyn i gr\u0175p ethnig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym mhoblogaeth y brifysgol (<a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/abs\/10.1080\/13538322.2011.614468\">Briggs et al. 2012, p3-4<\/a>)<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn fwy penodol:<\/p>\n<ul>\n<li>Yn gynyddol mae myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes AU yn draddodiadol felly, yn ei chael hi&#8217;n anodd newid o amgylchedd dysgu mwy rheoledig i astudio annibynnol (<a href=\"https:\/\/www.routledge.com\/Higher-Education-Transitions-Theory-and-research\/Kyndt-Donche-Trigwell-Lindblom-Ylanne\/p\/book\/9781138670891\">Kyndt et al. 2017; Thompson et al. 2021<\/a>)\u200b<\/li>\n<li>Mae myfyrwyr yn teimlo&#8217;n nad ydynt wedi\u2019u paratoi ar gyfer y disgwyliadau o ran cyfrifoldeb ac ymgysylltu rhagweithiol, ac arddulliau ysgrifennu anghyfarwydd, mathau o asesiadau, a safonau o ran marciau a graddau (<a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/0309877X.2021.1933400\">Thompson et al. 2021<\/a>)\u200b<\/li>\n<li>Mae myfyrwyr yn teimlo pwysau\u2019n gynyddol felly i &#8216;lwyddo&#8217; yn ystod eu hamser yn y brifysgol (ac wedi hynny); mae\u2019n debygol mai pryderon ynghylch ffioedd, yr argyfwng costau byw, a dyled hirdymor sydd wrth wraidd hyn (<a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/0309877X.2021.1933400\">Thompson et al. 2021<\/a>)\u200b<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn amlwg, mae llawer o&#8217;r uchod y tu hwnt i&#8217;n rheolaeth ni\u2019r addysgwyr, ond gadewch i ni ystyried y ddau bwynt cyntaf. Mae <a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/abs\/10.1177\/1474022217722433\">Baker (2018)<\/a> yn trafod y gwahaniaethau rhwng Safon Uwch a phrifysgol o ran y ffordd y caiff gwybodaeth ei phecynnu a&#8217;i gwerthfawrogi, a\u2019r effaith mae&#8217;r newid hwn yn ei chael ar ddarllen ac ysgrifennu wrth i fyfyrwyr bontio i&#8217;r brifysgol. Wrth astudio Safon Uwch, caiff gwybodaeth ei phecynnu&#8217;n daclus mewn gwerslyfr, sy&#8217;n ffynhonnell llawn gwybodaeth, yn hygyrch, hawdd ei rheoli a chyfleus gydag atebion &#8216;cywir&#8217;. Gofynnir i fyfyrwyr arddangos eu gwybodaeth, fel arfer drwy gyflawni darnau ysgrifenedig sy\u2019n defnyddio strwythur a chynnwys y cafwyd cryn arweiniad yn eu cylch. O fewn cwta bedwar mis, mae myfyrwyr yn wynebu:<\/p>\n<ul>\n<li>cynnydd yn nghyfaint, cymhlethdod a dyfnder gwybodaeth\u00a0\u200b<\/li>\n<li>cynnydd yn yr ystod o fathau o destunau<\/li>\n<li>newidiadau o ran yr ysgrifennu ar yr &#8216;wyneb&#8217; fel petai (e.e. lefel ffurfioldeb)<\/li>\n<li>newidiadau mewn arferion ysgrifennu &#8216;arferol&#8217; (e.e. gwneud nodiadau manwl ynghylch ffynonellau)<\/li>\n<li>newidiadau wrth ymgysylltu \u00e2 gwybodaeth (e.e. disgwyliadau ynghylch gwneud gwaith darllen ehangach a datblygu eu dealltwriaeth eu hunain, gan weithio gyda gwybodaeth eraill)<\/li>\n<\/ul>\n<p>(<a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/abs\/10.1177\/1474022217722433\">Baker 2018<\/a>)<\/p>\n<p>Mae&#8217;r newid hwn, o wybodaeth sy\u2019n cael ei <em>chyflwyno<\/em> i wybodaeth fel rhywbeth sydd angen ei <em>chanfod<\/em> a&#8217;i <em>hadeiladu<\/em> (<a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/abs\/10.1177\/1474022217722433\">Baker 2018, t405<\/a>) yn rhywbeth y gallwn ni, addysgwyr prifysgol, fod yn ymwybodol ohono ac yn ei gefnogi&#8217;n weithredol o ran ein myfyrwyr.<\/p>\n<p>Rydym yn asesu gwybodaeth ein myfyrwyr, yn bennaf, trwy ddulliau ysgrifenedig. Felly, mae ysgrifennu&#8217;n &#8216;dda&#8217; yn dod yn ddangosydd ar gyfer &#8216;llwyddiant&#8217; \u2013 yr hyn y mae <a href=\"https:\/\/www.researchgate.net\/publication\/42798579_Defining_academic_literacies_research_Issues_of_epistemology_ideology_and_strategy\">Lillis a Scott (2007)<\/a> yn ei alw&#8217;n ysgrifennu &#8216;llawer yn y fantol&#8217;. Felly dylai datblygu pob math o lythrennedd ymhlith ein myfyrwyr fod yn flaenoriaeth i ni o&#8217;r diwrnod cyntaf.<\/p>\n<p>Sut? Dyma enghreifftiau:<\/p>\n<ul>\n<li>annog siarad: mae siarad yn helpu i ddirnad\/ail-becynnu gwybodaeth a threfnu\/deall syniadau\u2019n fwy trwyadl, felly cynigiwch gyfleoedd i fyfyrwyr siarad am ysgrifennu cyn iddynt ysgrifennu<\/li>\n<li>dangoswch beth yw &#8216;da&#8217;: gan weithio gydag enghreifftiau, da a drwg. Cofiwch annog myfyrwyr i &#8216;sylwi&#8217; ar arddull a chywair yr ysgrifennu yn eu maes pwnc\/disgyblaeth<\/li>\n<li>cael gwared ar yr ofn: gwnewch le yn y dosbarth ar gyfer ysgrifennu darnau &#8216;heb lawer yn y fantol&#8217; sy\u2019n fyr ac amrywiol<\/li>\n<li>ceisiwch annog gweithgareddau ysgrifennu cymorth\/adborth gan gymheiriaid<\/li>\n<li>cofiwch gynnig cyfleoedd yn gynnar ar gyfer adborth ffurfiannol<\/li>\n<li>cofiwch annog hunanfyfyrio ac ymateb myfyrwyr i adborth<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae angen i ni symud oddi wrth y disgwyliad y dylai addysg cyn prifysgol baratoi myfyrwyr ar gyfer y gwaith meddwl ac ysgrifennu llawer mwy manwl sydd ei angen yn y brifysgol. Mae gofyn i ni ddeall lle mae myfyrwyr arni nawr, nid lle y &#8216;dylent&#8217; fod, a thrwy hynny wneud y newid i fywyd prifysgol yn haws.<\/p>\n<h2><strong>Cyfeirnodau<\/strong><\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/abs\/10.1177\/1474022217722433\">Baker, S. 2018. Shifts in the treatment of knowledge in academic reading and writing: Adding complexity to students\u2019 transitions between A-levels and university in the UK.\u00a0 <em>Arts &amp; Humanities in Higher Education<\/em>, 17(4), 388\u2013409<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/abs\/10.1080\/13538322.2011.614468\">Briggs, A.R.J., Clark, J. a Hall, I. 2012. Building bridges: understanding student transition to university. <em>Quality in Higher Education,\u00a0<\/em>18(1), 3\u20132<\/a>1.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.routledge.com\/Higher-Education-Transitions-Theory-and-research\/Kyndt-Donche-Trigwell-Lindblom-Ylanne\/p\/book\/9781138670891\">Kyndt, E., Donche, V., Trigwell, K. a Lindblom-Ylanne, S. 2017. <em>Higher Education Transitions: Theory and Research. <\/em>Llundain: Routledge.<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.researchgate.net\/publication\/42798579_Defining_academic_literacies_research_Issues_of_epistemology_ideology_and_strategy\">Lillis, T. a Scott, M. 2007. Defining academic literacies research: Issues of epistemology, ideology and strategy. <em>Journal of Applied Linguistics,\u00a0<\/em>4(1), 5\u201332<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/0309877X.2021.1933400\">Thompson, M., Pawson, C. ac Evans, B. 2021. Navigating entry into higher education: the transition to independent learning and living. <em>Journal of Further and Higher Education<\/em>, 45(10), 1398-1410.<\/a><\/p>\n<h2 id=\"page-title\" class=\"page-title\">Continuing Professional Development<\/h2>\n<div id=\"content_container_2740399\">\n<p>Mae Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd (Academi DA), yn cynnal <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/teaching-excellence\/continuing-professional-development-cpd\">cyfleoedd Datblygiad Professiynol Parhaus (DPP)<\/a> sy&#8217;n agored i&#8217;r holl staff, gan gynnwys y rhai sy&#8217;n cefnogi dysgu ar-lein a chyfunol.<\/p>\n<p>Mae ein rhaglen DPP yn ategu ein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/jobs\/what-we-can-offer\/teaching-innovation-and-support\">Rhaglen Cymrodoriaethau Addysg<\/a>\u00a0Advance HE achrededig\u00a0a\u2019n hadnoddau ar-lein ac anghydamserol ac mae\u2019r holl weithdai wedi\u2019u mapio i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU\u00a0(<a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/guidance\/teaching-and-learning\/ukpsf\">UK PSF<\/a>).<\/p>\n<\/div>\n<p><!--more--><\/p>\n<p>Thema&#8217;r mis nesaf fydd: <strong>Ymgysylltiad myfyrwyr<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gan Dr Katy Jones, Uwch Ddarlithydd yn y Ganolfan Ymchwil ar Iaith a Chyfathrebu, sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu Ysgrifennu yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Arweinydd Academaidd Rhaglen Uwch Gymrodoriaethau Prifysgol Caerdydd.","protected":false},"author":6921,"featured_media":4548,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[921],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4549","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymrodoriaethau-addysg"],"lang":"cy","translations":{"cy":4549,"en":4546},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1bn","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2023\/09\/mh-Centre-for-Student-Life-27-Cropped-scaled.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4549","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4549"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4549\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4572,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4549\/revisions\/4572"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4548"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4549"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4549"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4549"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4549"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}