{"id":4490,"date":"2023-07-28T11:03:21","date_gmt":"2023-07-28T11:03:21","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4490"},"modified":"2023-07-28T11:03:21","modified_gmt":"2023-07-28T11:03:21","slug":"llais-y-myfyrwyr-mewn-addysg-uwch-byd-newydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/llais-y-myfyrwyr-mewn-addysg-uwch-byd-newydd\/","title":{"rendered":"Llais y Myfyrwyr mewn Addysg Uwch: Byd Newydd"},"content":{"rendered":"<p>Gan <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/karczmarm\">Maksymilian Karczmar<\/a>, Swyddog Ymgysylltu \u00e2 Myfyrwyr, <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/teach-and-assess-students\/learning-and-teaching-development\/about-the-cardiff-learning-and-teaching-academy\">Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd<\/a>.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, roedd yn bleser gen i a fy nghydweithiwr, Charis Francis, gynrychioli Prifysgol Caerdydd yng nghynhadledd <a href=\"https:\/\/explorance.com\/events\/event\/studentvoicesinhe\/\">Lleisiau Myfyrwyr mewn Addysg Uwch<\/a> yn Birmingham<strong>. <\/strong>Ar \u00f4l seibiant hir roedd yn wych cael y cyfle i ddod ynghyd \u00e2 chydweithwyr o sefydliadau addysg uwch eraill i drafod profiad myfyrwyr mewn byd sy&#8217;n newid yn gyson.<\/p>\n<p>Roedd y gynhadledd eleni yn cwmpasu tair thema eang yn ymwneud \u00e2 llais y myfyrwyr:<\/p>\n<ul>\n<li>disgwyliadau myfyrwyr<\/li>\n<li>lles myfyrwyr<\/li>\n<li>ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr<\/li>\n<\/ul>\n<p>Roedd ein cyflwyniad yn canolbwyntio ar:<\/p>\n<ul>\n<li>ein profiad ym Mhrifysgol Caerdydd dros y blynyddoedd diwethaf<\/li>\n<li>dulliau newydd o wella profiad myfyrwyr rydym yn eu treialu<\/li>\n<li>y gwersi rydym wedi&#8217;u dysgu hyd yn hyn<\/li>\n<\/ul>\n<p>Rydym wedi rhoi sylw i&#8217;r buddsoddiad diweddar i <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/about-us\/strategy-and-improvements\/university-projects\/education-and-student-experience-portfolio\">lwyddiant myfyrwyr<\/a>, addasu i\u2019r newid cyflym yn sgil y pandemig ac ailgynllunio dulliau o ymdrin \u00e2 llais y myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd gyda strwythur llywodraethu newydd.<\/p>\n<h2>Llwyddiant<\/h2>\n<p>Un o&#8217;r llwyddiannau a gafodd ei rannu gennym oedd datblygiad y <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/jobs\/what-we-can-offer\/teaching-innovation-and-support\/working-with-student-champions\">Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr<\/a> unigryw sydd wedi bod yn rhan annatod o <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/about-us\/strategy-and-improvements\/university-projects\/education-and-student-experience-portfolio\/student-voice\">Lais y Myfyrwyr<\/a> ym Mhrifysgol Caerdydd dros y blynyddoedd diwethaf.<\/p>\n<p>Gyda diolch i&#8217;n myfyrwyr a&#8217;n haelodau staff sydd wedi ymwneud \u00e2\u2019r cynllun, a\u2019n cydweithwyr ymroddedig sy&#8217;n ei gynnal, mae wedi tyfu\u2019n gyflymach ac yn gyflymach. Er bod cynlluniau tebyg yn bodoli yn y DU, mae gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd &#8211; yn Hyrwyddwyr Myfyrwyr a gaiff eu talu &#8211; gyfle unigryw a hyblyg i ennill a datblygu sgiliau technegol a phersonol ymhellach, megis dadansoddi data neu gynllunio digwyddiadau tra&#8217;n hybu eu cyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol a llunio Llais y Myfyrwyr wrth iddynt astudio yma.<\/p>\n<h2>Arolygon<\/h2>\n<p>Rydym wedi cynnwys newidiadau i&#8217;r ffordd rydym yn casglu adborth yn ffurfiol gan fyfyrwyr \u00f4l-raddedig a addysgir mewn arolwg newydd: <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/monitoring-our-progress\/getting-student-feedback\/student-surveys\/postgraduate-taught-experience-survey-ptes\">Arolwg \u00d4l-raddedigion a Addysgir Prifysgol Caerdydd (CUPTS)<\/a>. Rydym wedi gwrando ar adborth gan staff a myfyrwyr ac wedi ail-ddylunio&#8217;r prif arolwg sy\u2019n cael ei gynnal bob mis Mai, a hynny er mwyn galluogi gweithio ar y cyd, trafod a gwella.<\/p>\n<p>Rydym hefyd wedi cyflwyno holiadur byr ar wah\u00e2n sy&#8217;n cael ei gynnal bob mis Awst sy\u2019n canolbwyntio ar gam y traethawd hir. Cawsom lawer o ddiddordeb gan sefydliadau addysg uwch eraill ar sut y gwnaethom weithredu&#8217;r arolwg newydd hwn gyda chwestiynau byrrach, mwy penodol a sut y llwyddon ni i gyflawni cyfradd ymateb uwch na&#8217;r cyfartaledd ar gyfer arolwg profiad cyrsiau \u00f4l-raddedig a addysgir (PTES) cyfatebol a gynhaliwyd gan<\/p>\n<p>Rydym hefyd wedi trafod treialu dull newydd o gynnal arolygon drwy Cipolwg Caerdydd a gynhaliwyd rhwng 2020 a 2021. Arweiniodd hyn at gyflwyno&#8217;r system Gwella Modiwlau newydd yna rhan o newid mwy i Lais y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys disgwyliadau a chyfrifoldebau a nodir yn <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/about-us\/strategy-and-improvements\/university-projects\/education-and-student-experience-portfolio\/student-voice\/student-voice-framework\">Fframwaith Llais y Myfyrwyr.<\/a><\/p>\n<h2>Ein profiad yn y gynhadledd<\/h2>\n<p>Er bod llawer o gyflwyniadau diddorol gan gydweithwyr o sefydliadau addysg uwch eraill, roeddem am dynnu sylw at un a oedd wedi gadael ei farc arnom. Cyflwynwyd y sesiwn dan y teitl &#8216;Humanising the Student Experience&#8217; gan Dr Joanna Thurston o Brifysgol Bournemouth, Arweinydd Ffrwd Gwaith Llais y Myfyrwyr yn Swyddfa&#8217;r Is-Ganghellor. Canolbwyntiodd Joanna ar sut y gallwn ni ddyneiddio&#8217;r ffordd rydyn ni&#8217;n siarad am brofiad myfyrwyr ac felly rheoli disgwyliadau myfyrwyr. Roedd hyn yn seiliedig ar ymchwil sydd wedi&#8217;i chynnal ar ddyneiddio gofal iechyd. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>dadansoddiad o&#8217;r sylwadau gan fyfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS)<\/li>\n<li>y mathau o ddyneiddio a dad-ddyneiddio sy&#8217;n deillio o&#8217;r rhain<\/li>\n<li>gwerthoedd neu egwyddorion y dylem eu hymgorffori i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r materion y mae myfyrwyr yn s\u00f4n amdanynt, ond hefyd sut rydym trafod hyn gyda myfyrwyr a pha fath o iaith y dylem ei defnyddio wrth wneud hynny<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ar \u00f4l y cyflwyniad, trafodon ni\u2019r cysyniad cymhleth o &#8216;berthyn&#8217; sy&#8217;n amlwg iawn mewn sgyrsiau cyfredol ynghylch profiad myfyrwyr. Gallai fod yn ddefnyddiol os nad yw sefydliadau o reidrwydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn &#8216;perthyn&#8217;, gan ei bod yn anodd iawn cyflawni hyn mewn amgylchedd prifysgol mewn cyfnod cymharol fyr, a gall gymryd blynyddoedd o safbwynt seicolegol i unigolion greu\u2019r ymdeimlad o berthyn i&#8217;r byd hwnnw o\u2019u cwmpas. Yn hytrach, yr hyn sydd wedi\u2019i gynnig yw canolbwyntio ar fyfyrwyr yn teimlo &#8216;cysylltiad&#8217; \u00e2&#8217;r brifysgol, yr ysgol, y pwnc, y cwrs neu eu carfan. Mae hyn yn ymddangos yn fersiwn sy\u2019n cario llai o bwysau na &#8216;pherthyn&#8217;, a gallai fod yn haws i&#8217;w gyflawni.<\/p>\n<p>Yn y drafodaeth am reoli disgwyliadau myfyrwyr, cytunwyd y dylid cyflwyno myfyrwyr i gynrychiolaeth fwy cywir o realiti profiad myfyrwyr drwy gydol eu hamser yn y brifysgol. Ar hyn o bryd, mewn sawl ffordd, mae myfyrwyr yn cael eu boddi gan y delweddau o unigolion sy\u2019n gwenu\u2019n hapus sydd i\u2019w gweld ar wefannau prifysgol, prosbectysau, ac ati. Maent yn cyflwyno&#8217;r byd delfrydol sydd ddim yn bodoli, ac wrth wynebu rhwystrau neu broblemau, efallai y bydd myfyrwyr yn teimlo pwysau tuag at &#8216;positifrwydd&#8217; perfformiadol a gwenwynig, gan ofyn cwestiynau megis &#8216;pam nad wyf yn teimlo\/edrych fel y myfyrwyr hyn ar y lluniau neu yn y fideos, beth sydd o&#8217;i le gyda mi?&#8217;. Wrth fynd i&#8217;r afael \u00e2 hyn, dylai sefydliadau gynnwys darlun mwy cywir o brofiad myfyrwyr, ac enghreifftiau gan fyfyrwyr presennol yn esbonio beth sydd wedi bod yn dda iddyn nhw yn ystod eu hamser yn y brifysgol, ond hefyd pa faterion y gallent ddod ar eu traws wrth astudio, pa gymorth sydd ar gael a sut i ddelio ag ef.<\/p>\n<h2>Crynodeb<\/h2>\n<p>Mae&#8217;n deg dweud bod y dull o weithredu Llais y Myfyrwyr ym maes addysg uwch yn fwy hyblyg o\u2019i gymharu ag ychydig flynyddoedd yn \u00f4l.\u00a0 Mewn byd sy&#8217;n newid yn gyflym, mae angen i sefydliadau addasu ac ymateb yn llawer cyflymach. Hefyd, mae\u2019n rhaid iddynt fod yn barod i dreialu ffyrdd newydd o ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr, ac weithiau gallu newid eu dulliau yn flynyddol, gan gynnal yr egwyddorion craidd a gaiff eu harwain gan fyfyrwyr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gan Maksymilian Karczmar, Swyddog Ymgysylltu \u00e2 Myfyrwyr, Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.","protected":false},"author":6921,"featured_media":4488,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[800],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4490","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ymgysylltu-a-myfyrwyr"],"lang":"cy","translations":{"cy":4490,"en":4487},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1aq","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2023\/07\/Student-Champs.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4490","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4490"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4490\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4491,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4490\/revisions\/4491"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4488"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4490"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4490"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4490"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4490"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}