{"id":4480,"date":"2023-07-27T09:23:39","date_gmt":"2023-07-27T09:23:39","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4480"},"modified":"2023-07-27T09:24:06","modified_gmt":"2023-07-27T09:24:06","slug":"rhesymau-dros-ymchwil-i-iechyd-meddwl-a-lles-ym-maes-addysg-uwch-yn-y-du","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/rhesymau-dros-ymchwil-i-iechyd-meddwl-a-lles-ym-maes-addysg-uwch-yn-y-du\/","title":{"rendered":"Rhesymau dros ymchwil i iechyd meddwl a lles ym maes addysg uwch yn y DU"},"content":{"rendered":"<p>Mae <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/higueramartinc\">Cristina Higuera Mart\u00edn<\/a>, Datblygwr Addysg yn y Gwasanaeth Datblygu Addysg yn amlinellu\u2019r rhesymau sy&#8217;n llunio dulliau strategol ac arferion sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth ym maes addysg uwch y DU i atal neu fynd i&#8217;r afael \u00e2 materion lles meddwl, ac i hyrwyddo profiad dysgu ac addysgu iach a chadarnhaol i bawb.<\/p>\n<h2>Beth yw iechyd meddwl a lles?<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r Sefydliad Siartredig Person\u00e9l a Datblygu (CIPD) yn nodi &#8216;bod gan bob un ohonom iechyd meddwl, yn union fel y mae gan bob un ohonom iechyd corfforol. Mae&#8217;r ddau yn newid trwy gydol ein bywydau, ac fel ein cyrff, gall ein meddyliau fynd yn s\u00e2l&#8217; (CIPD, 2023).<\/p>\n<p>Dywed Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) \u2018yn unigolion neu gyda\u2019n gilydd, mae iechyd meddwl yn elfen annatod o iechyd a lles sy&#8217;n sail i&#8217;n gallu i wneud penderfyniadau, meithrin cyd-berthynas a chreu\u2019r byd rydym yn byw ynddo&#8217; (WHO, 2018).<\/p>\n<p>Er bod safbwyntiau a ffiniau gwahanol yn bodoli ym maes ymchwil lles y disgyblaethau gwahanol, gellir diffinio lles seicolegol yn rhywbeth sy&#8217;n cael ei nodweddu gan &#8216;deimladau hapus\/bodlon, ymdeimlad o fod \u00e2 chydbwysedd a chysylltiad \u00e2\u2019r byd o\u2019n cwmpas, ac ymdeimlad o fod mewn rheolaeth o\u2019n bywydau&#8217; (Phimister, 2022).<\/p>\n<p>Felly, mae sicrhau\u2019r cydbwysedd gorau posibl rhwng ystyriaethau ymarferol ac addysgeg, a lles staff a myfyrwyr yn sector addysg uwch y DU yn hanfodol bwysig.<\/p>\n<h2>Y rhesymau sy&#8217;n llunio dulliau strategol ac arferion sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth yn sector addysg uwch y DU<\/h2>\n<p>Mae nifer o amodau mewnol ac allanol sy&#8217;n llunio penderfyniadau iechyd meddwl a lles yn sector addysg uwch y DU:<\/p>\n<ol>\n<li>Mae<strong> costau byw <\/strong>ymhlith y rhesymau hyn, gan ychwanegu pwysau ariannol i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd &#8211; bwyd, llety, ffioedd, trafnidiaeth, ac ati.<\/li>\n<li>Mae<strong> galw cynyddol ac amseroedd aros am wasanaethau cwnsela<\/strong>, ar gyfer gwasanaethau&#8217;r GIG a gwasanaethau prifysgolion, hefyd yn rheswm dros ddatblygu mentrau i helpu \u00e2 iechyd meddwl a lles unigolion.<\/li>\n<li>Mae<strong> gwahaniaethau unigol<\/strong> hefyd yn llunio ymchwil iechyd meddwl a lles yn y sector, gyda&#8217;r bwriad o dargedu ymyriadau iechyd meddwl a lles yn fwy cywir.<\/li>\n<li>Mae <strong>arferion ymsefydlu i gymdeithasau myfyrwyr addysg uwch y DU <\/strong>yn parhau i esgor ar ganlyniadau iechyd a lles cymysg i fyfyrwyr, o hynod gadarnhaol i drawmatig a negyddol, gan arwain at fyfyrwyr yn marw ar sawl achlysur.<\/li>\n<li>Mae<strong> ein heconomi sy&#8217;n seiliedig ar wybodaeth<\/strong> yn cyflwyno heriau newydd i staff a myfyrwyr mewn amgylcheddau lle mae canlyniadau a deilliannau yn hollbwysig, lle caiff cyflawniad proffesiynol ac academaidd ei fesur a&#8217;i gysylltu \u00e2 chyflogadwyedd, cyflog a dilyniant.<\/li>\n<li>Mae <strong>profiadau byw a hunaniaethau sy&#8217;n croestorri*<\/strong> yn esgor ar senarios cymhleth sy&#8217;n gysylltiedig ag effeithiau gwahanol ar iechyd meddwl a lles unigolion. Ar hyn o bryd mae ymchwil yn canolbwyntio ar sut i oresgyn rhwystrau i ymgysylltu a cheisio cymorth tra yn y brifysgol. <em>* Gall profiadau byw a hunaniaethau sy\u2019n croestorri gynnwys: myfyriwr rhan-amser, cymudwr, dysgu o bell, myfyriwr aeddfed, bod ar gyfnod mamolaeth, bod yn ofalwr, statws priodasol, cenedligrwydd, statws o ran ffioedd, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, crefydd, rhywioldeb.<\/em><\/li>\n<li>Mae<strong> goruchwylio graddau meistr a doethuriaethau <\/strong>hefyd yn faes sy&#8217;n cael ei drafod, gyda goruchwylwyr yn gofyn am well hyfforddiant a chefnogaeth, a myfyrwyr sy\u2019n diwtoriaid ar gyrsiau \u00f4l-raddedig a addysgir yn wynebu heriau bod yn fyfyrwyr ac yn aelodau o staff ar yr un pryd.<\/li>\n<li>Mae <strong>tiwtora personol<\/strong> yn faes arall sy&#8217;n cael ei ymchwilio, gyda phwyslais arbennig ar yr effaith y gall y r\u00f4l hon ei chael ar iechyd meddwl a lles staff.<\/li>\n<li>Mae<strong> trawma blaenorol<\/strong> yn rheswm arall dros ymchwil iechyd meddwl a lles yn sector addysg uwch y DU, er enghraifft mewn perthynas \u00e2 myfyrwyr yn parhau \u00e2\u2019u hastudiaethau academaidd a chyflawniad academaidd myfyrwyr.<\/li>\n<li>Mae<strong> gofynion disgyblaethau penodol<\/strong> ar ymarferwyr heddiw a rhai\u2019r dyfodol &#8211; er enghraifft, proffesiynau gofal iechyd a darlithio &#8211; hefyd yn llunio penderfyniadau am iechyd a lles mewn prifysgolion. Mae tystiolaeth yn dangos (Advance HE, 2023) bod mesurau lles yn y proffesiynau hyn yn is na safonau\u2019r boblogaeth gyffredinol.<\/li>\n<li>Mae <strong>pontio<\/strong> yn faes sydd hefyd wedi\u2019i flaenoriaethu ar gyfer ymchwil ar hyn o bryd, gyda thystiolaeth yn tynnu sylw at yr angen am well ymwybyddiaeth o sut i gefnogi myfyrwyr wrth symud i&#8217;r brifysgol, dechrau ar eu hastudiaethau, asesiadau, pontio rhwng camau astudio, rhwng astudio a bod mewn lleoliad gwaith, a gorffen astudio, a hynny drwy feithrin ymdeimlad o berthyn mewn cymdeithas a thrwy ddarparu seilwaith, sgaffaldwaith a gwasanaethau cyfeirio.<\/li>\n<\/ol>\n<h2>Cymryd rhan<\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/www.menti.com\/alhru8s7m44f\">Pa reswm o\u2019r rhestr sydd fwyaf pwysig?<\/a><\/p>\n<p>Teipiwch un flaenoriaeth ymchwil ym maes ymchwil iechyd meddwl a lles addysg uwch y DU (Saesneg yn unig).<\/p>\n<h2>Rhagor o wybodaeth<\/h2>\n<p>Advance HE (2023)\u00a0<a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">Mental wellbeing in HE conference 2023: putting theory into practice &#8211;\u00a0<\/a><a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">creating a whole university approach to student and staff wellbeing | Advance HE\u00a0<\/a><a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">(advance-<\/a><a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">he.ac.uk<\/a><a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/Mental-Wellbeing-23\">)<\/a>.\u200b<\/p>\n<p>Prifysgol Caerdydd (2020)\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/thewayforward\/enabling-strategies\">Galluogi<\/a><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/thewayforward\/enabling-strategies\">\u00a0<\/a><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/thewayforward\/enabling-strategies\">Llwyddiant: Strategaeth i Greu Prifysgol sy\u2019n Iach yn Feddyliol<\/a>\u200b<\/p>\n<p>CIPD (2023)\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cipd.org\/uk\/views-and-insights\/cipd-viewpoint\/employee-health-wellbeing\/\">https:\/\/www.cipd.org\/uk\/views-and-insights\/cipd-viewpoint\/employee-health-<\/a><a href=\"https:\/\/www.cipd.org\/uk\/views-and-insights\/cipd-viewpoint\/employee-health-wellbeing\/\">wellbeing\/<\/a>\u200b<\/p>\n<p>Phimister, D. (2022) <a href=\"https:\/\/www.managers.org.uk\/about-cmi\/\">What is wellbeing?<\/a><\/p>\n<p>Y Cenhedloedd Unedig (2023) The 17 Goals\u00a0<a href=\"https:\/\/sdgs.un.org\/goals\">https:\/\/sdgs.un.org\/goals<\/a>\u200b<\/p>\n<p>WHO (2023) Mental Health\u00a0<a href=\"https:\/\/www.who.int\/news-room\/fact-sheets\/detail\/mental-health-strengthening-our-response\">https:\/\/www.who.int\/news-room\/fact-sheets\/detail\/mental-health-strengthening-our-<\/a><a href=\"https:\/\/www.who.int\/news-room\/fact-sheets\/detail\/mental-health-strengthening-our-response\">response<\/a>\u200b<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Cristina Higuera Mart\u00edn, Datblygwr Addysg yn y Gwasanaeth Datblygu Addysg yn amlinellu\u2019r rhesymau sy'n llunio dulliau strategol ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes addysg uwch y DU i atal neu fynd i'r afael \u00e2 materion lles meddwl, ac i hyrwyddo profiad dysgu ac addysgu iach a chadarnhaol i bawb.","protected":false},"author":6921,"featured_media":4479,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4480","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry"],"lang":"cy","translations":{"cy":4480,"en":4477},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1ag","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2023\/07\/BLOG-1-seedling-5009286_1280.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4480","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4480"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4480\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4484,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4480\/revisions\/4484"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4479"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4480"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4480"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4480"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4480"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}