{"id":4473,"date":"2023-07-21T10:43:49","date_gmt":"2023-07-21T10:43:49","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4473"},"modified":"2023-07-21T10:44:04","modified_gmt":"2023-07-21T10:44:04","slug":"dynar-cyfan-am-y-tro-neu-oes-rhagor-myfyrdodau-ar-ddiwedd-dysgu-addysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/dynar-cyfan-am-y-tro-neu-oes-rhagor-myfyrdodau-ar-ddiwedd-dysgu-addysgu\/","title":{"rendered":"\u201cDyna&#8217;r cyfan am y tro!\u201d Neu oes rhagor? Myfyrdodau ar ddiwedd &#8216;Dysgu Addysgu&#8217;"},"content":{"rendered":"<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/people\/view\/2627538-Michael-Willett\">Michael Willett<\/a>, Uwch Ddarlithydd ac arweinydd y Rhaglen Cymrodoriaeth Gysylltiol a achredwyd gan AdvanceHE a Chynllun Datblygu Cymrodyr yn myfyrio ar ddiwedd &#8216;Dysgu i Addysgu&#8217;, gan ganolbwyntio ar y Rhaglen Cymrodoriaeth Gysylltiol.<\/p>\n<p>Gyda&#8217;r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt ymhell i mewn i&#8217;w hail flwyddyn o fod ar waith yn llawn, a gweithdy &#8216;Launchpad&#8217; llwyddiannus ar fin dod yn hyfforddiant gorfodol i bob tiwtor graddedig newydd ac arddangoswr graddedig o fis Medi 2023, byddai&#8217;n hawdd anghofio pa mor bell y mae&#8217;r Brifysgol wedi dod o ran rhoi cymorth i \u00f4l-raddedigion sy&#8217;n ymwneud ag addysgu ac arddangos. Mae&#8217;n anodd credu, dair blynedd yn \u00f4l, nad oedd darpariaeth ledled y Brifysgol i roi cymorth i\u2019r rheiny a oedd ar gamau cynharaf eu gyrfaoedd academaiddi ddatblygu&#8217;r wybodaeth, y sgiliau a&#8217;r cymwyseddau i lwyddo i greu profiadau deniadol, effeithiol a chynhwysol ar gyfer eu dysgwyr.<\/p>\n<p>Hyd yn hyn, mae&#8217;r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt wedi cael ei chynnal 11 o weithiau, gan ddyfarnu statws Cymrodoriaeth Gyswllt yr Academi Addysg Uwch (AFHEA) i 116 o unigolion adeg ysgrifennu\u2019r blog hwn. I barhau \u00e2&#8217;r trosiad o ba mor bell rydym wedi dod, bellach mae ei thaith wedi hen ddechrau. Ond yn gynharach eleni, daeth ei bartner h\u0177n, &#8216;Dysgu Addysgu&#8217;, i ben ei thaith ei hun, pan gwblhaodd y garfan olaf o \u00f4l-raddedigion a gofrestrodd ar y cwrs eu portffolios a chael statws AFHEA. Roedd Dysgu Addysgu yn rhaglen arloesol mewn sawl ffordd. Wedi&#8217;i chreu yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn 2008, o dan arweiniad Dr Heather Worthington, Dr Elizabeth Staddon a&#8217;r Athro Martin Coyle, hon oedd y ddarpariaeth gyntaf yn y Brifysgol \u00e2\u2019r nod benodol o roi cymorth i \u00f4l-raddedigion i ddatblygu eu sgiliau addysgu a darparu llwybr a oedd yn eu helpu i gyrraedd statws Cymrodoriaeth Gyswllt, a oedd ar y pryd yn gymharol newydd. Roedd yn cynnig cydnabyddiaeth ym mhob rhan o\u2019r sector o ymrwymiad y rheiny a oedd yn cymryd rhan i gyflawni safonau proffesiynol a datblygu eu hymarfer addysgu. Er ei bod ychydig y tu \u00f4l i gynigion tebyg ym Mhrifysgolion Bryste a Chaerwysg, roedd Dysgu Addysgu ymhell ar y blaen i lawer o ddarpariaethau eraill yn y sector. Roedd y rhaglen hefyd yn arloesol o ran ei dull asesu. Yn hytrach na gofyn am un &#8216;adroddiad myfyriol o ymarfer&#8217; &#8211; sef yr hyn sy\u2019n ofynnol o ran ceisiadau uniongyrchol i&#8217;r Academi Addysg Uwch (Advance HE bellach), mabwysiadodd Dysgu Addysgu ddull portffolio. Roedd hyn wedi\u2019i ysbrydoli gan lawer o ddarpariaethau TAR, gan rannu\u2019r asesiad yn ystod o weithgareddau. Roedd y rhain yn cynnwys adroddiadau myfyriol byr, adolygiadau gan gymheiriaid, cynlluniau sesiynau a dadansoddiadau o adborth myfyrwyr. Y syniad y tu \u00f4l i hyn oedd ysgogi dull &#8216;ychydig ac yn aml&#8217; o fyfyrio a fyddai\u2019n arwain at ddatblygiadau gweladwy o ran ymarfer, gan osgoi&#8217;r demtasiwn i unigolion ysgrifennu un adroddiad o\u2019u buddugoliaethau. Roedd hon yn rhaglen wedi\u2019i seilio\u2019n gadarn ar ymarfer, gan roi sylfaen i ddatblygu sgiliau a ffyrdd o weithio<em>ochr yn ochr \u00e2<\/em>datblygu gwybodaeth am gysyniadau damcaniaethol. Mae bob amser yn anodd cael y cydbwysedd hwn yn iawn mewn rhaglen fel hon (gweler y drafodaeth yn Allen, 2009; <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/02619768.2022.2058928\">Resch, Schrittesser a Knapp, ar ddod<\/a>).<\/p>\n<p>Wrth i mi gymryd yr awenau ddiwedd 2014 daeth momentwm newydd. A minnau\u2019n gynfyfyriwr y rhaglen, roeddwn yn awyddus i gynnwys dysgwyr yn fwy cyflawn yng ngwaith cynllunio a hwyluso&#8217;r cwrs, ac i ddatblygu&#8217;r gymuned ddysgu ymhellach trwy ddarparu cyfleoedd mwy sylweddol i \u00f4l-raddedigion rannu rhai o&#8217;r arferion a&#8217;r dulliau addysgu diddorol \u2014 ac arloesol yn aml \u2014 yr oeddent yn eu defnyddio. I&#8217;r perwyl hwn, gan dynnu ar addysgeg megis gwaith<a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/engagement-through-partnership-students-partners-learning-and-teaching-higher\">Healey, Flint a Harrington (2014)<\/a>ar &#8216;fyfyrwyr-yn-bartneriaid&#8217;, rhoddais ar waith gyfres o weithgareddau dysgu newydd ym mhob un o\u2019r gweithdai, megis sesiwn fer &#8216;dulliau addysgu arloesol&#8217;, lle byddai\u2019r rheiny a oedd wedi cwblhau&#8217;r cwrs ac ennill eu statws AFHEA yn dychwelyd i ennyn diddordeb dysgwyr mewn arddangosiadau rhyngweithiol 5 i 10 munud o hyd o ddulliau neu weithgareddau newydd yr oeddent wedi&#8217;u datblygu. Wrth i bob blwyddyn fynd heibio, enillodd y cwrs enw da iawn am ragoriaeth a boddhad dysgwyr, a daeth \u00e2 diddordeb cynyddol gan \u00f4l-raddedigion y tu hwnt i\u2019r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Ym mis Medi 2017, o dan gyfarwyddyd Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS) Damian Walford Davies, roedd Dysgu Addysgu ar gael i fyfyrwyr \u00f4l-raddedig ym mhob un o ddeg Ysgol yr AHSS. Roedd y seilwaith yn ei le ar gyfer darpariaeth ledled y Brifysgol, ac ym mlwyddyn academaidd 2019-20, dechreuwyd datblygu ein hystod newydd o raglenni Cymrodoriaethau.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n falch o fod wedi bod yn arweinydd rhaglen Dysgu Addysgu o 2014 tan iddi ddod i ben eleni, a bod y tasglu mawr y tu \u00f4l i ddatblygu\u2019r rhaglenni Cymrodoriaethau wedi cydnabod cryfderau&#8217;r cwrs. Mae\u2019r rhain yn cynnwys canolbwyntio\u2019n benodol ar ymarfer, asesu portffolio, a datblygu cymuned ddysgu ystyrlon sy&#8217;n meithrin rhyngweithio \u00e2 chyfoedion ac ymdeimlad gwirioneddol o berthyn. Mae&#8217;n galonogol bod y nodweddion hyn wedi cael eu trosglwyddo i ddatblygiad ei holynydd, a&#8217;u bod wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol a\u2019u dogfennu&#8217;n dda mewn adborth gan ddysgwyr. Rwy&#8217;n edrych yn \u00f4l gyda hoffter ar y datblygiadau arloesol mae\u2019r rheiny sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen wedi\u2019u rhannu, ac rwyf wedi mwynhau defnyddio ac addasu llawer o&#8217;r rhain yn rhan o fy \u00a0ymarfer fy hun. Dyma rai enghreifftiau arbennig o gofiadwy:<\/p>\n<ul>\n<li>&#8216;Yr olygfa o fy ffenestr&#8217;, math newydd o ymarfer \u2018dod i adnabod pobl\u2019 ar gyfer addysgu ar-lein a ddatblygwyd yn ystod pandemig COVID-19 &#8211; diolch i Anya Richards yn JOMEC<\/li>\n<li>Annog myfyrwyr i ddefnyddio hoff lun i fyfyrio ar brofiad penodol &#8211; diolch i Stephen Jennings yn SOCSI<\/li>\n<li>Defnyddio Skittles (mae losin eraill ar gael) i ddysgu myfyrwyr am fodelu ariannol &#8211; diolch i Evelina Kazakeviciute yn CARBS<\/li>\n<li>Cynnal dadl yn y ddosbarth yn arddull cynhadledd ffug COP i ddysgu sgiliau trafod a&#8217;r broses o ddod i benderfyniad mewn ffordd ddiplomyddol &#8211; diolch i Rosa Maryon yn LAWPL<\/li>\n<li>Defnyddio caneuon Beyonc\u00e9 i helpu myfyrwyr i ddeall barddoniaeth &#8211; diolch Anna-Marie Young yn ENCAP<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn anad dim efallai, fy mhwynt dysgu allweddol yw ei bod yn hanfodol ysbrydoli, annog a chefnogi arloesedd. Mae arloesedd yn bodoli ar sawl ffurf, a does dim angen iddo olygu arferion sy&#8217;n arwain neu\u2019n newid y sector sydd heb eu gweld erioed o&#8217;r blaen. Yn hytrach, gall arloesedd olygu rhywbeth newydd i&#8217;n hymarfer ein hunain; rhywbeth nad ydym eto wedi&#8217;i roi ar waith yn ein cyd-destunau ein hunain. Ar yr amod bod rhesymeg glir a phrofiad dysgu&#8217;r myfyrwyr yn ganolog iddo, mae arloesi ein hymarfer yn hanfodol i&#8217;n llwyddiant yn addysgwyr.<\/p>\n<p>Yn olaf, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i&#8217;r nifer fawr o bobl a roddodd o&#8217;u hamser i helpu \u00e2 Dysgu Addysgu dros y blynyddoedd, yn benodol:<\/p>\n<table>\n<tbody>\n<tr>\n<td width=\"200\">Anna Field<\/td>\n<td width=\"200\">Angela Parry<\/td>\n<td width=\"200\">Catherine Camps<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"200\">Clare Kell<\/td>\n<td width=\"200\">Damian Walford Davies<\/td>\n<td width=\"200\">Elizabeth Staddon<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"200\">Elizabeth (Bettie) Heatley<\/td>\n<td width=\"200\">Emily Blewitt<\/td>\n<td width=\"200\">Emmajane Milton<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"200\">Heather Worthington<\/td>\n<td width=\"200\">Iain Mossman<\/td>\n<td width=\"200\">Kara Johnson<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"200\">Martin Coyle<\/td>\n<td width=\"200\">Martin Jephcote<\/td>\n<td width=\"200\">Martin Kayman<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"200\">Nathan Roberts<\/td>\n<td width=\"200\">Neil Harris<\/td>\n<td width=\"200\">Robert Gossedge<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"200\">Sarah Robertson<\/td>\n<td width=\"200\">Sarah Williamson<\/td>\n<td width=\"200\">Stephen Rutherford<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<p>Hoffwn hefyd ddiolch i&#8217;r 200 o \u00f4l-raddedigion AHSS a gwblhaodd y rhaglen gyda mi ac a enillodd eu statws AFHEA rhwng 2014 a 2022. Rwy&#8217;n mawr obeithio eich bod wedi mwynhau&#8217;r cwrs a&#8217;i fod wedi bod yn ddefnyddiol. Mae eich adborth yn sicr yn awgrymu hyn.<\/p>\n<p>Dyma edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf o fyfyrio, arloesi a rhannu ymarfer da!<\/p>\n<p>Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o\u2019r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt, mae dwy ffordd i gofrestru. Os ydych yn gallu cyrchu CoreHR, cewch ddod o hyd i&#8217;r rhaglen a chofrestru ar ei chyfer gan ddefnyddio&#8217;r cod TEAC9600. Os nad ydych yn gallu cyrchu CoreHR, anfonwch ebost at y T\u00eem Cymrodoriaethau yn uniongyrchol i gofrestru: <a href=\"mailto:educationfellowships@cardiff.ac.uk\">educationfellowships@caerdydd.ac.uk<\/a><\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae\u2019r rhaglen yn derbyn unigolion newydd mis Medi, mis Tachwedd a mis Ionawr bob blwyddyn academaidd. Nid oes ffi ymuno ar gyfer y Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt, ac mae&#8217;n agored i bob tiwtor graddedig, arddangoswr graddedig a staff a gyflogir gan Brifysgol Caerdydd (gan gynnwys y rheiny ar gontractau anrhydeddus a chontractau cysylltiol, megis staff y GIG sy&#8217;n ymwneud ag addysgu&#8217;r Brifysgol).<\/p>\n<h2><strong>Cyfeirnodau<\/strong><\/h2>\n<p>Allen, J. (2009) \u201cValuing practice over theory: How beginning teachers re-orient their practice in the transition from the university to the workplace\u201d. <em>Teaching and Teacher Education<\/em>, 25 (5): 647-654.<\/p>\n<p>Healey, M, Flint, A, a Harrington, K. (2014) \u2018Engagement through partnership: students as partners in learning and teaching in higher education\u2019. York: Higher Education Academy. Ar gael ar-lein yma <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/engagement-through-partnership-students-partners-learning-and-teaching-higher\">https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/engagement-through-partnership-students-partners-learning-and-teaching-higher<\/a>, cyrchwyd 01.06.2023.<\/p>\n<p>Resch, K., Schrittesser. I, a Knapp, M (ar ddod) \u201cOvercoming the theory-practice divide in teacher education with the \u2018Partner School Programme\u2019. A conceptual mapping\u201d. <em>European Journal of Teacher Education<\/em>. <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1080\/02619768.2022.2058928\">https:\/\/doi.org\/10.1080\/02619768.2022.2058928<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Michael Willett, Uwch Ddarlithydd ac arweinydd y Rhaglen Cymrodoriaeth Gysylltiol a achredwyd gan AdvanceHE a Chynllun Datblygu Cymrodyr yn myfyrio ar ddiwedd 'Dysgu i Addysgu', gan ganolbwyntio ar y Rhaglen Cymrodoriaeth Gysylltiol.","protected":false},"author":6921,"featured_media":4475,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[921],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4473","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymrodoriaethau-addysg"],"lang":"cy","translations":{"cy":4473,"en":4470},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-1a9","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2023\/07\/Michael.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4473","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4473"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4473\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4476,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4473\/revisions\/4476"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4475"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4473"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4473"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4473"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4473"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}