{"id":4430,"date":"2023-06-22T09:37:56","date_gmt":"2023-06-22T09:37:56","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4430"},"modified":"2023-06-22T09:38:07","modified_gmt":"2023-06-22T09:38:07","slug":"digifest-2023-trawsnewid-digidol-a-hyder-digidol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/digifest-2023-trawsnewid-digidol-a-hyder-digidol\/","title":{"rendered":"Digifest 2023, Trawsnewid Digidol a Hyder Digidol"},"content":{"rendered":"<p>Mae <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/crowtherd\">David Crowther<\/a>, Swyddog Cymorth Technoleg Dysgu, t\u00eem Addysg Ddigidol o fewn yr <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/about\/our-profile\/who-we-are\/education\/cardiff-learning-and-teaching-academy\">Academi Dysgu ac Addysgu<\/a>, yn dweud wrthym am gynhadledd Digifest JISC y bu ynddi yn ddiweddar.<\/p>\n<h2>Fy mhrofiad i o Digifest 2023<\/h2>\n<p>Yn \u00f4l ym mis Mawrth eleni, cymerais i ran yng nghynhadledd <a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/events\/digifest-2023\/programme\">Digifest JISC<\/a> yn Birmingham. Ers ymuno \u00e2&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/teaching-excellence\/our-experts#:~:text=cardiff.ac.uk-,Digital%20Education,-Maxine%20Ballam\">T\u00eem Addysg Ddigidol<\/a> yn 2020 yn ystod pandemig covid, mae pob un o\u2019r cynadleddau dw i wedi cymryd rhan ynddyn nhw wedi bod ar-lein. Er fy mod i\u2019n hoffi&#8217;r ffaith ei bod yn gyfleus gallu cymryd rhan mewn cynhadledd ar-lein o gysur fy nghartref, rwy&#8217;n ei chael hi&#8217;n anodd canolbwyntio. A minnau\u2019n eistedd o flaen fy nghyfrifiadur gan edrych ar nifer o fonitorau, bydd pethau eraill megis ebyst, negeseuon Teams, a gwaith arall yn tynnu fy sylw i ffwrdd o\u2019r gynhadledd. Digifest eleni oedd y cyfle cyntaf imi fynd i gynhadledd sy\u2019n un wyneb yn wyneb ac ro\u2019n i\u2019n edrych ymlaen yn fawr at y cyfan.\u00a0 Am ddau ddiwrnod llawn ro\u2019n i\u2019n gallu bod yn bresennol, canolbwyntio a chymryd sylw o bopeth oedd yn digwydd yn y gynhadledd.<\/p>\n<p>Hwn oedd y tro cyntaf imi fynd i gynhadledd o&#8217;r fath a gwnaeth argraff fawr arna i. Roedd y gynhadledd wedi&#8217;i threfnu&#8217;n anhygoel o dda, roedd yn mynd fel deiol ac roedd y lleoliad yn wych. Cefais fy synnu bod y gynhadledd mor fawr.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cyrraedd a chofrestru, es i ati i ymgyfarwyddo \u00e2 phopeth gan gerdded o amgylch y brif ystafell gynadledda. Roedd ystod o weithgareddau yno a oedd yn ddigon i\u2019ch drysu, gan gynnwys sgyrsiau sydyn, sgyrsiau o amgylch y t\u00e2n, sesiynau dangos cynnyrch a llawer mwy. Er gwaethaf y ffaith bod y cyfan yn llethu rhywun braidd, roedd y brif ystafell gynadledda wedi&#8217;i gosod allan yn dda a pheth digon hawdd oedd dod o hyd i bopeth. Roedd yr arlwyo yn y gynhadledd yn ardderchog, a chafwyd dewis eang o fwyd at ddant pawb.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l brecwast ysgafn a choffi, aeth fy nghydweithwyr a minnau i gyfeiriadau gwahanol i weld sgyrsiau cyntaf y dydd. Roedd amserlen y ddau ddiwrnod eisoes yn llawn, gan gynnwys mynd i sgyrsiau a thrafodaethau ar ystod o them\u00e2u sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thechnoleg ac addysg ddigidol, gan gwmpasu popeth, boed yn ddeallusrwydd artiffisial, asesu dilys, realiti rhithwir, arloesi a chynhwysiant, hyder digidol, dysgu dan arweiniad myfyrwyr, addysgu hybrid a llawer mwy. Peth amhosibl oedd cofio&#8217;r holl wybodaeth yn y gwahanol sgyrsiau es i iddyn nhw, ond yn dilyn y gynhadledd ro\u2019n i wedi dysgu nifer o bethau gwerthfawr sy\u2019n berthnasol i fy ngwaith fy hun, sef bod yn weithiwr proffesiynol addysg ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Roedd un sgwrs o&#8217;r enw \u201cMae pawb yn arloesi &#8211; hwyluso twf hyder digidol i wireddu dulliau newydd o ddysgu ac addysgu\u201d yn taro tant yn arbennig, yn enwedig gan fy mod i\u2019n dechnolegydd dysgu sy&#8217;n cefnogi addysgu a dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd drwy gyfrwng technolegau digidol. Mae hyn yn arbennig o wir bellach wrth inni fynd drwy gyfnod o newid sylweddol o ran ein haddysg ddigidol, sef symud o gyrsiau Blackboard Original i Blackboard Ultra, pan fyddwn ni\u2019n ceisio annog arweinwyr cyrsiau i wneud pethau&#8217;n wahanol, newid eu harferion o ran addysg ddigidol a chroesawu technolegau digidol ac arloesi.<\/p>\n<p>Efallai mai un o&#8217;r heriau mwyaf sydd gennym o ran annog newidiadau ac arloesi ym maes ymarfer addysg ddigidol yw diffyg hyder digidol. Rydyn ni\u2019n gweithio gydag academyddion a staff yn y gwasanaethau proffesiynol ar draws y Brifysgol, ac mae gan y rhain lefelau amrywiol o hyder a sgiliau o ran technoleg addysgol. Weithiau bydd yn anodd argyhoeddi rhywun i newid ei ymarferion a rhoi cynnig ar rywbeth newydd os bydd yn ofni y gallai rhywbeth fynd o&#8217;i le ac y gallai adlewyrchu&#8217;n wael arno o flaen ei fyfyrwyr. Mae angen strategaethau a dulliau arnon ni sy\u2019n gallu helpu i feithrin hyder digidol a chefnogi\u2019r gwaith o arloesi. Sut gallwn ni gyflawni hyn? Roedd sawl awgrym defnyddiol yn y sgwrs rwy wedi s\u00f4n amdani a bydda i\u2019n ceisio cyflwyno\u2019r rhain yn fy addysg ddigidol fy hun.<\/p>\n<ol>\n<li>Un ffordd o helpu i feithrin hyder digidol fyddai awgrymu i addysgwyr, os ydyn nhw eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd, eu bod nhw&#8217;n rhoi cynnig arni yn ystod sesiwn fwy anffurfiol pan fydd y risg o fethu yn llai o bryder. Er enghraifft, annog mathau gwahanol o asesu ffurfiannol sy\u2019n gallu cefnogi cyrhaeddiad dysgwyr. Os caiff disgwyliadau\u2019r myfyrwyr eu rheoli, hwyrach y bydd hyn yn ffordd ddefnyddiol o roi cynnig ar rywbeth. Hyd yn oed os bydd yn mynd o&#8217;i le, efallai y bydd yn brofiad defnyddiol i ddysgu yn ei sgil. Weithiau, bydd rhwyd ddiogelwch yn rhoi hyder i bobl arbrofi a theimlo\u2019n gymharol ddiogel, a gall gweithgareddau o&#8217;r fath gefnogi hyder digidol. Er mwyn ehangu dylanwad byd arloesi, rwy&#8217;n credu ei bod yn bwysig ein bod yn meithrin y meddylfryd, er bod pethau&#8217;n mynd o chwith weithiau, bod adfer pethau\u2019n bosibl a bod problemau cychwynnol yn beth normal, ond mae hefyd yn syniad da bod cynllun arall wrth gefn os bydd pethau&#8217;n mynd o chwith. Mae&#8217;n bwysig canolbwyntio ar y dysgu a&#8217;r addysgu y dylid ei wneud yn ystod yr adegau hynny pan fydd pethau&#8217;n mynd o chwith a meddwl a oes ffyrdd eraill o gyflawni hynny.<\/li>\n<li>Mae hefyd yn syniad da ceisio cefnogi rhesymeg pobl dros roi cynnig ar bethau. A ninnau\u2019n weithwyr proffesiynol addysg ddigidol, os ydyn ni\u2019n annog addysgwyr i roi cynnig ar bethau newydd, dylen ni fynd ar drywydd y rhain a gofyn iddynt sut aeth popeth, beth oedd wedi gweithio\u2019n dda, beth nad oedd wedi gweithio cystal, ac annog y broses o ymarfer myfyriol. Hwyrach y bydd meithrin hunanfyfyrio, dangos arferion da a rhannu profiadau\u2019n offeryn pwerus sy\u2019n annog y gwaith o arloesi ac yn rhoi\u2019r hyder i bobl roi cynnig ar bethau drostyn nhw eu hunain. Yn aml bydd pobl yn meddwl \u201cWel os llwyddon nhwthau i wneud hynny, pam na alla i ei wneud hefyd?\u201d.<\/li>\n<\/ol>\n<h2>Hyder digidol o\u2019i gymharu \u00e2 sgiliau digidol<\/h2>\n<p>Rwy&#8217;n credu bod perthynas rhwng hyder digidol a sgiliau digidol. Mae angen hyder digidol arnon ni i allu trawsnewid yn ddigidol a chyflawni ein nodau. Pan fyddwn ni\u2019n meddwl am hyder digidol a sut mae&#8217;n berthnasol i sgiliau digidol, dyma ddau gwestiwn canlynol y gallwn ni eu gofyn er enghraifft:<\/p>\n<ol>\n<li>Ydych chi&#8217;n ddefnyddiwr <u>hyderus<\/u> o feddalwedd xyz?<\/li>\n<li>Ydych chi&#8217;n ddefnyddiwr <u>cymwys<\/u> o feddalwedd xyz?<\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae\u2019n rhaid inni ofyn i ni&#8217;n hunain a yw diffyg hyder digidol yn arwain at amharodrwydd i gaffael sgiliau digidol newydd, gan ennill y cymwyseddau digidol sydd eu hangen felly at ddibenion trawsnewid digidol.<\/p>\n<p>Yn ogystal, weithiau bydd ymddiried yn yr offer digidol a ddefnyddir i ddysgu ac addysgu a dibynnu arnyn nhw\u2019n rhwystr.\u00a0 Os nad ydyn ni\u2019n hyderus bod yr offer yn ddiogel neu y bydd y rhain yn gweithio&#8217;n dda, a fyddwn ni\u2019n barod i&#8217;w defnyddio?\u00a0 Weithiau bydd yn hawdd glynu wrth ffordd o feddwl gan feddwl \u201cOs yw\u2019n gweithio, pam y dylen ni ei newid?\u201d a \u201cPam y dylwn i ddefnyddio&#8217;r offeryn newydd hwn nawr? Do\u2019n i ddim yn ei ddefnyddio o&#8217;r blaen, ac roedd popeth yn iawn.\u201d\u00a0 A ninnau\u2019n dechnolegwyr dysgu, rhan o\u2019n gwaith yw helpu addysgwyr i ddeall gwerth mabwysiadu technolegau digidol at ddibenion addysgu a dysgu. Fodd bynnag, mae&#8217;n rhaid inni ystyried yn ofalus y rhesymeg y tu \u00f4l i annog pobl i fabwysiadu technoleg benodol at ddibenion dysgu ac addysgu.\u00a0 Mae angen rheswm da pam ein bod yn awgrymu i addysgwyr eu bod yn rhoi cynnig ar rywbeth, a dylen ni ofyn rhai cwestiynau pwysig:<\/p>\n<ul>\n<li>Sut mae&#8217;r dechnoleg yn effeithio ar brofiad y staff a&#8217;r myfyrwyr?<\/li>\n<li>Sut gall technolegau digidol wella pethau?<\/li>\n<li>Beth yw&#8217;r problemau y mae angen eu datrys? Oes problemau hyd yn oed y mae angen eu datrys yn y lle cyntaf, neu a ydyn ni\u2019n eu dyfeisio i gyfiawnhau defnyddio technoleg newydd?<\/li>\n<li>Sut gall digidol wella&#8217;r profiad ar y campws?<\/li>\n<li>A fydd yr offeryn drud, &#8216;newydd sbon danlli&#8217; hwnnw wir yn cael effaith sylweddol ar addysgu a dysgu?<\/li>\n<\/ul>\n<p>Nid yw peidio \u00e2 bod eisiau mabwysiadu technolegau digidol at ddibenion dysgu ac addysgu yn beth anghyffredin. Dylen ni ystyried pam felly y bydd rhai addysgwyr yn ei erbyn, ceisio deall pam maen nhw\u2019n meddwl hyn a pham eu bod hwyrach yn amharod i ddefnyddio\u2019r dechnoleg hon.<\/p>\n<p>Bydd rhai o\u2019r farn bod cyflymder y newidiadau yn digwydd yn rhy gyflym ac oherwydd hynny maen nhw\u2019n teimlo\u2019n ofnus. Roedd hyn yn arbennig o wir yn ystod pandemig covid 19 pan symudodd dysgu ac addysgu ar-lein yn gyflym. Yn sydyn, roedd pawb yn yr un cwch megis, yn gorfod gwneud pethau nad oedden nhw erioed wedi&#8217;u gwneud o&#8217;r blaen, gan orfod datrys pethau wrth i bethau fynd rhagddyn nhw.\u00a0 Nid yw&#8217;n syndod bod pobl o\u2019r farn bod y newid sydyn yn un ychydig yn frawychus, y cwbl roedden nhw\u2019n ei ddymuno oedd i\u2019r cyfan fod ar ben ac i bethau fod fel yr oedden nhw gynt. Ond y gwir amdani, serch hynny, oedd bod y pandemig ond wedi cyflymu newidiadau a oedd eisoes yn digwydd. Wrth i\u2019r pandemig ddod i ben, mae&#8217;r newidiadau hynny&#8217;n parhau, ac efallai y bydd ofn ac amharodrwydd o hyd ac mae\u2019n rhaid i dechnolegwyr dysgu feddwl yn ofalus am sut i reoli hyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n bwysig cofio mai pobl sy&#8217;n gwneud y gwaith a bod mae offer digidol ond yno i helpu i hwyluso hynny.\u00a0 Ond pa mor aml y byddwn ni&#8217;n ystyried pobl wrth ddatblygu strategaeth?\u00a0 Mae angen i strategaethau a pholis\u00efau ystyried pobl.\u00a0 Mae angen adnoddau priodol a gallu datblygu ein pobl er mwyn rhoi\u2019r strategaethau ar waith.\u00a0 Mae\u2019n rhaid inni ddatblygu a hyfforddi pobl. Nid yw pobl eisiau mwy o bwysau a llwyth gwaith ac mae angen i uwch-arweinwyr ystyried sut mae newidiadau\u2019n effeithio ar bobl go iawn.<\/p>\n<p>Dw i wedi s\u00f4n am y term &#8216;trawsnewid digidol&#8217; ychydig o weithiau yn yr erthygl hon. Dylen ni geisio deall beth mae trawsnewid digidol yn ei olygu i bobl gan y bydd gan bawb syniad gwahanol o&#8217;r hyn sydd dan sylw.\u00a0 Mae\u2019n rhaid inni feithrin ymddiriedaeth, hyder a mynd \u00e2 phobl gyda ni fel y gall y newidiadau hyn ddigwydd.\u00a0 Dylai pobl gael gwybod y rhesymau dros y newidiadau, pam rydyn ni&#8217;n eu gwneud, pam eu bod yn bwysig, a pha wahaniaethau fydd yn digwydd o\u2019u herwydd.\u00a0 Mae angen deall hyn ar y brig, ac ni ddylai newidiadau gael eu gorfodi oddi uchod yn hynny o beth.\u00a0 Mae\u2019n rhaid esbonio&#8217;n glir pam rydyn ni\u2019n gwneud rhywbeth.\u00a0 Dylen ni osod gweledigaeth a rhesymeg glir dros wneud rhywbeth pan fydd trawsnewid digidol ynghlwm. Mae eglurder, tryloywder a\u2019r gallu i gyfathrebu\u2019n bwysig.<\/p>\n<p>Sut rydyn ni&#8217;n annog pobl i arloesi a mabwysiadu technolegau digidol at ddibenion dysgu ac addysgu mewn ffyrdd sy&#8217;n cael effaith ar fyfyrwyr?\u00a0 Sut gallwn ni feithrin eu hyder digidol er mwyn iddyn nhw ddeall y gwerth digidol o ran addysgu a dysgu, gan annog trawsnewid digidol?<\/p>\n<p>Un ffordd fyddai llunio polis\u00efau a strategaethau yn y fath fodd sy&#8217;n peri i&#8217;r hyn rydyn ni\u2019n gofyn i bobl ei wneud ymddangos yn werthfawr i&#8217;r bobl rydyn ni\u2019n gofyn iddyn nhw ei roi ar waith. Er mwyn rhoi&#8217;r hyder i bobl roi newidiadau ar waith serch hynny, dylai seilwaith ac adnoddau sylfaenol a chadarn fod ar gael. Un o&#8217;r egwyddorion allweddol sy&#8217;n sail i&#8217;r gwaith a wnawn yw cadw pethau&#8217;n syml a gwneud y pethau sylfaenol yn iawn. Mae&#8217;n bwysig bod systemau craidd a data yn gadarn ac o safon. Mae\u2019n rhaid i&#8217;r seilwaith sylfaenol fod yno a dylai fod yn ddibynadwy. Mae angen sylfaen gref i ehangu ac arloesi yn ei sgil. Bydd cael y pethau sylfaenol yn iawn, sicrhau bod sylfaen gadarn yn ei lle a darparu\u2019r adnoddau angenrheidiol yn helpu i drawsnewid digidol ddigwydd.<\/p>\n<p>Pan fydd sylfaen gref yn ei lle, dylen ni gefnogi pobl i arloesi ac arbrofi, gan gydnabod na fydd rhai pethau&#8217;n llwyddo, a dylen ni annog risgiau a reolir. Gallwn ni wneud defnydd da o ddata megis dadansoddeg at ddibenion dysgu, ymgysylltu a lles myfyrwyr yn achos ymyraethau a all ein helpu i wneud penderfyniadau gwell, gwella bywydau staff a myfyrwyr yn ogystal \u00e2 sicrhau llwyddiant. Dylen ni gynnwys myfyrwyr yn y broses, gan ehangu diwylliant o arloesi ac arbrofi pan fydd pobl yn gallu rhoi cynnig ar bethau a methu mewn cyd-destun diogel. Bydd hyn yn helpu i bobl feithrin hyder digidol a meithrin creadigrwydd, arloesi ac ymddiriedaeth.<\/p>\n<p>Y tu hwnt i wneud y pethau sylfaenol yn iawn, dylen ni ystyried sut y gallwn ni gefnogi\u2019r broses o arloesi er mwyn i bobl i fynd y tu hwnt i&#8217;w harferion unigol a bod yn &#8216;aflonyddgar&#8217; o ran y sefydliad ehangach a chael effaith ehangach. Gallwn ni ddefnyddio trawsnewidiadau digidol i greu lleoedd mwy cyfoethog a mwy deniadol lle mae llai o ffiniau rhwng y byd digidol a\u2019r byd go iawn. Yn ddelfrydol, dylen ni anelu at sefyllfa pan fydd y newid o\u2019r naill i&#8217;r llall yn digwydd yn ddi-dor bron \u00e2 bod, nid y naill beth neu\u2019r llall.<\/p>\n<h2>Cymryd rhan<\/h2>\n<p>Os hoffech chi ysgrifennu blog ar gynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad yr aethoch chi iddo\u2019n ddiweddar ac a fydd o fudd hwyrach i bobl eraill, rhowch wybod inni drwy ebostio <a href=\"mailto:ltacademy@cardiff.ac.uk\">ltacademy@caerdydd.ac.uk<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae David Crowther, Swyddog Cymorth Technoleg Dysgu, t\u00eem Addysg Ddigidol o fewn yr Academi Dysgu ac Addysgu, yn dweud wrthym am gynhadledd Digifest JISC y bu ynddi yn ddiweddar.","protected":false},"author":6921,"featured_media":4427,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4430","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol"],"lang":"cy","translations":{"cy":4430,"en":4426},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-19s","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2023\/06\/digifest23_logo.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4430","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4430"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4430\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4432,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4430\/revisions\/4432"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4427"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4430"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4430"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4430"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4430"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}